Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn sâl neu’n anabl, mae yna nifer o fudd-daliadau a chredydau treth gwahanol y mae’n bosib y medrwch eu hawlio.
Cofiwch, mae’n bosib y byddwch yn medru cael budd-daliadau eraill hefyd, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Efallai y byddwch yn medru cael budd-daliadau am eich bod ar incwm isel, fel Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor, neu fudd-daliadau am fod plant gennych.
Hyd yn oed os nad ydych yn medru hawlio unrhyw fudd-daliadau, efallai y byddwch yn medru cael credydau yswiriant gwladol os nad ydych yn medru gweithio neu os ydych yn gynhaliwr.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credydau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Os ydych yn anabl, rhaid bod gwybodaeth ynghylch budd-daliadau a chredydau treth ar gael mewn ffordd sy'n hygyrch i chi. Er enghraifft, rhaid bod gwybodaeth ar gael mewn print bras neu mewn Braille.
Hefyd, os ydych yn anabl, efallai bod hawl gennych i help o fath arall heblaw am fudd-daliadau a chredydau treth. Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru cael cludiant cyhoeddus rhatach, consesiynau parcio a help ymarferol gyda gofal gan eich cyngor lleol. Mae gennych yr hawl hefyd i beidio â dioddef gwahaniaethu yn y gwaith neu wrth dderbyn nwyddau neu wasanaethau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr help sydd ar gael i chi gan y cyngor os ydych yn anabl, gweler Gofal cymunedol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cludiant a chonsesiynau parcio, gweler Dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau os ydych yn anabl, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn rhedeg llinell gymorth dros y ffôn sy’n rhoi gwybodaeth ar fudd-daliadau ar gyfer pobl sy’n sâl ac yn anabl, eu cynrychiolwyr a chynhalwyr. Gelwir y llinell hon yn Linell Ymholiadau Budd-daliadau (BEL). Yng Ngogledd Iwerddon, caiff y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ei rhedeg gan yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency)). Mae’r llinell gymorth hefyd yn cynnig help trwy lenwi ffurflenni cais dros y ffôn pan fyddwch chi’n ceisio am Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini.
Yng Nghymru, Lloegr yr Alban, mae’n bosib i chi gysylltu â’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar:
Ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn Testun: 0800 24 33 55
Rydych hefyd yn medru defnyddio gwasanaeth Typetalk yr RNID.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor o 8.30yb hyd 6.30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Yng Ngogledd Iwerddon,fe allwch chi ffonio’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar:
Ffôn: 0800 220674
Ffôn Testun: 0800 243787
Efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Gwaith os ydych yn anabl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Telir Credyd Treth Gwaith gan Gyllid a Thollau EM, ac mae’n dibynnu ar eich incwm. Caiff ei dalu yn ychwanegol at fudd-daliadau ar gyfer costau ychwanegol anabledd fel Lwfans Byw i’r Anabl. Ond, mae’n bosib y bydd credyd Treth Gwaith yn effeithio ar fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael sy’n gysylltiedig ag incwm, er enghraifft, Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor.
Am wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Os nad ydych yn medru gweithio am eich bod yn sâl neu’n anabl, waeth os ydyw hyn dros dro neu’n barhaol, efallai y byddwch yn medru hawlio Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Fel arfer, caiff Tâl Salwch Statudol ei dalu am 28 wythnos gyntaf salwch os ydych yn gweithio i gyflogwr. Fel arall, dylech hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae rhai pobl yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol, ond, fel arfer, ni fyddwch yn medru gwneud cais newydd am y budd-daliadau hyn. Mae hyn am eu bod nhw wedi dod i ben ac mae budd-daliadau newydd wedi cymryd eu lle, ac eithrio ble mae modd cysylltu'r hawliad at gyfnod hawl cynharach.
Mewn rhai achosion, fe fyddwch yn medru cael Cymhorthdal Incwm ar ben eich Tâl Salwch Statudol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau a’ch incwm.
Bwriad Tâl Salwch Statudol a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yw darparu incwm yn lle eich enillion pan na fyddwch yn medru gweithio. Os ydych yn medru gwneud peth gwaith, fel arfer ni fyddwch yn medru hawlio’r budd-daliadau hyn. Ond, efallai y byddwch yn medru gwneud peth gwaith os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn cytuno ac nid yw eich enillion yn fwy na lefel penodol. Fe fyddwch hefyd yn medru gwneud gwaith gwirfoddol neu waith a gymeradwywyd fel cyfnod prawf di-dâl. Rhaid i’r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno i unrhyw waith a wnewch pan fyddwch chi’n cael y budd-daliadau hyn.
Os ydych am wneud unrhyw waith tra’n hawlio budd-dâl am fod eich gallu i weithio yn gyfyngedig, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae eich cyflogwr yn talu Tâl Salwch Statudol (TSS) am y 28 wythnos gyntaf yr ydych i ffwrdd yn sâl. Caiff ei drin fel enillion at ddiben treth incwm ac mae’n rhan o’ch incwm trethadwy.
Er mwyn cael Tâl Salwch Statudol (TSS) rhaid eich bod yn methu â gweithio am eich bod yn sâl neu’n anabl. Rhaid eich bod yn ennill o leiaf £102 yr wythnos. Os nad ydych yn ennill gymaint â hyn, neu rydych yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn medru cael TSS.
Dylech hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) yn lle.
Mae gweithwyr rhan-amser, gweithwyr ar gytundeb sefydlog a gweithwyr asiantaeth hefyd yn gymwys i gael TSS.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau gweithwyr asiantaeth, gweler Hawliau gweithwyr asiantaeth.
Os oeddech yn cael LCCG o fewn y deuddeg wythnos ddiwethaf, nid fyddwch yn medru cael TSS. Dylai eich cyflogwr ddweud wrthych os nad oes hawl gennych i Dâl Salwch Statudol trwy roi ffurflen SSP1, neu eu fersiwn nhw eu hunain ohoni, i chi. Yna, fe fyddwch yn medru ail-hawlio LCCh yn lle.
Os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ac nid ydych yn siwr a fedrwch chi gael Tâl Salwch Statudol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Telir TSS ar gyfradd sefydlog o £81.60 yr wythnos. Os ydych yn cael tâl salwch o dan eich cytundeb, efallai y cewch fwy o dâl salwch na hyn ond fe fydd yn dibynnu ar yr hyn y mae eich cytundeb cyflogaeth yn ei ddweud.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl salwch cytundebol, gweler I ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch.
Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) i bobl sydd:
Mae yna ddau fath o LCCh:
Efallai y byddwch yn medru cael LCCh cyfrannol ac LCCh sy'n gysylltiedig ag incwm, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Ar gyfer y ddau fath o LCCh, fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi gael profion amrywiol i gadarnhau bod eich gallu i weithio yn gyfyngedig.
Nid ydych yn medru cael LCCh os ydych chi’n neu’ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn. Rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer. Ar gyfer LCCh syn gysylltiedig ag incwm, ni ddylai fod gennych unrhyw fesurau rheoli mewnfudo ynghlwm â’ch cyfnod yma a fyddai’n eich atal rhag cael y budd-dal.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rheoli mewnfudo, gweler Help gyda phroblemau yn ymwneud â mewnfudo.
Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau newydd, mae LCCh yn cymryd lle Budd-dal Analluogrwydd a hefyd Cymhorthdal Incwm i bobl sy’n ei gael am nad ydynt yn medru gweithio oherwydd salwch neu anabledd. Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm oherwydd salwch neu anabledd, fe fyddwch yn medru parhau i’w gael ac nid oes rhaid i chi hawlio LCCh.
Ond, fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn ailasesu eich cais ar ryw adeg i weld a ydyn nhw’n mynd i newid eich Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm i LCCh. Fe fydd yn rhaid i chi gwrdd â’r amodau ar gyfer LCCh.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Caiff LCCh ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) ac, yng Ngogledd Iwerddon, gan yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gweler Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Nid ydych yn medru cyflwyno cais am Fudd-dal Analluogrwydd yn arferol ar ôl 27 Hydref 2008. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle. Ond, mewn rhai amgylchiadau anarferol, efallai y byddwch yn dal i fedru cyflwyno cais newydd am Fudd-dâl Analluogrwydd ar ôl 27 Hydref 2008. Fe fyddai’r amodau newydd ar gyfer hawlio Budd-dal Analluogrwydd yn dal i fod yn berthnasol. Un enghraifft ble efallai y byddwch chi’n medru hawlio Budd-dal Analluogrwydd ar ôl 27 Hydref 2008 yw ble mae modd cysylltu eich cais newydd at gyfnod cynharach pan fuasech wedi bod yn gymwys i gael Budd-dal Analluogrwydd Dyma enghraifft arall:
Os oes gallu cyfyngedig gennych i weithio ac fe fyddech wedi hawlio Budd-dal Analluogrwydd yn flaenorol, efallai y byddwch nawr yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.
Telir Budd-dal Analluogrwydd ar gyfraddau gwahanol, gan ddibynnu am faint mae person wedi bod yn ei gael. Telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr cyfradd is am 196 diwrnod cyntaf o salwch ac nid yw’n drethadwy. Telir Budd-dal Analluogrwydd tymor byr cyfradd uwch am y chwe mis nesaf a thelir Budd-dal Analluogrwydd tymor hir ar ôl blwyddyn. Rydych yn medru cael arian ychwanegol os oes pobl yn dibynnu arnoch.
Efallai y cewch lai na chyfradd lawn Budd-dal Analluogrwydd os ydych yn cael pensiwn galwedigaethol neu bersonol neu arian o bolisi yswiriant am salwch corfforol neu feddyliol. Os ydych yn parhau i gael Budd-dal Analluogrwydd wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, efallai y byddwch hefyd yn cael cyfradd is.
Mae Budd-dal Analluogrwydd tymor byr cyfradd uwch a Budd-dal Analluogrwydd tymor hir yn drethadwy.
Am y cyfraddau Budd-dâl Analluogrwydd presennol, ewch at adran A-Y budd-daliadau gwefan Adran Gwaith a Phensiynau www.dwp.gov.uk.
Os ydych yn cael trafferth gyda Budd-dâl Analluogrwydd y dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oeddech â hawl i Fudd-dal Analluogrwydd cyn i chi gyflwyno eich cais, efallai y byddwch yn medru cael budd-dâl am gyfnod cynharach. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. Gellir ôl-ddyddio Budd-dâl Analluogrwydd am hyd at dri mis cyn dyddiad eich cais, ac nid oes rhaid i chi roi rheswm. Dylech esbonio ar y ffurflen gais eich bod am hawlio budd-dâl wedi ei ôl-ddyddio a rhoi’r dyddiad y dechreuodd eich hawl i Fudd-dâl Analluogrwydd. Rydych yn medru cyflwyno cais am Fudd-dal Analluogrwydd wedi ei ôl-ddyddio ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r amodau eraill.
Fel arfer, telir Budd-dâl Analluogrwydd yn syth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os ydych yn cael trafferth gyda’r dull yma o dalu, dylech ddweud wrth y swyddfa. Mae’n bosib talu’r budd-dâl drwy siec mewn rhai amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll credyd treth os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Budd-dâl Analluogrwydd. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad a fydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd a gellir eich erlyn neu wneud i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am dwyll budd-dâl, fe fydd eich budd-dâl yn cael ei atal. Os ydych yn eich cael yn euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir gostwng neu stopio eich budd-dâl yn y dyfodol.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd pan fydd y Ganolfan Waith neu'r swyddfa budd-daliadau yn penderfynu ynghylch eich cais am Fudd-dâl Analluogrwydd. Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP), sy'n talu Budd-dâl Analluogrwydd, bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ar herio penderfyniad am fudd-dâl neu gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Ni fyddwch yn medru cael Lwfans Anabledd Difrifol (LAD) os ydych yn cyflwyno cais newydd, oherwydd fe ddaeth y budd-dâl hwn i ben yn Ebrill 2001. Os ydych eisoes yn cael Lwfans Anabledd Difrifol, fe fyddwch yn medru parhau i’w gael.
Ond, fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn ailasesu eich cais ar ryw adeg i weld a ydyn nhw’n mynd i newid eich Lwfans Anabledd Difrifol i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh). Fe fydd yn rhaid i chi gwrdd â’r amodau ar gyfer LCCh.
Os nad ydych yn medru gweithio a byddech wedi hawlio LAD yn flaenorol, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCH).
Nid yw LAD yn drethadwy. Fe fyddwch yn medru ei gael tra’ch bod chi ddim yn medru gweithio ac os ydych yn mynd i mewn i'r ysbyty.
Os ydych yn cael LAD neu os oeddech yn arfer ei gael ac rydych angen gwybodaeth neu help, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) a Lwfans Gweini (LG) yn fudd-daliadau i’ch helpu i dalu am ofal personol a chostau mynd o le i le. Ond, nid oes gwahaniaeth sut yr ydych yn defnyddio’r arian. Mae LBA ar gyfer pobl sy’n ei hawlio cyn cyrraedd 65 oed a LG ar gyfer pobl sy’n ei hawlio yn 65 neu’n hyn.
Fe fyddwch yn medru cael LBA a LG waeth a ydych yn gweithio ai peidio, ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan unrhyw waith yr ydych yn ei wneud. Nid yw’r budd-daliadau yn gostwng unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm a gewch ac efallai y byddant hyd yn oed yn cynyddu’r swm a gewch.
Cofiwch fod posibilrwydd eich bod hefyd yn medru hawlio budd-daliadau am nad ydych yn medru gweithio - gweler y pennawd Budd-daliadau i bobl sydd ddim yn medru gweithio, ac ar gyfer budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion os ydych ar incwm isel - gweler Help i bobl ar incwm isel. Os ydych yn gweithio, efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, rhowch glic ar 9.10.5.0. Budd-daliadau a chredydau treth.
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) yn fudd-dâl i bobl sy’n iau na 65. Er mwyn cael LBA rhaid bod gennych anghenion gofal personol neu broblemau cerdded (symudedd) oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol. Mae yna ddwy ran i LBA, yr elfen gofal a’r elfen symudedd. Telir yr elfen gofal ar dair cyfradd, gan ddibynnu ba mor aml yr ydych angen gofal a faint o ofal sydd angen arnoch. Telir yr elfen symudedd ar ddau gyfradd, gan ddibynnu faint o drafferth yr ydych yn ei gael wrth gerdded. Gan ddibynnu ar eich anghenion, efallai y cewch un elfen o’r LBA, neu’r ddwy gyda’i gilydd.
Fe fyddwch yn medru cael Lwfans Byw i’r Anabl os ydych:
Os ydych eisoes yn cael LBA pan gyrhaeddwch 65 oed, fe fyddwch yn medru parhau i’w gael tra bod gennych anghenion gofal neu symudedd.
Os oes afiechyd marwol arnoch ac nid oes disgwyl i chi fyw am fwy na chwe mis arall, mae yna reolau arbennig ar gyfer hawlio LBA.
Mae yna reolau arbennig i blant dan 16 hefyd.
Fel arfer, ni fyddwch yn medru cael LBA os ydych wedi bod yn yr ysbyty ers dros bedair wythnos, neu dros 12 wythnos i blentyn dan 16. Os ydych yn symud i fyw mewn cartref gofal ac mae’ch cyngor lleol yn eich helpu gyda’ch ffioedd, daw elfen gofal LBA i ben ar ôl pedair wythnos, ond fel arfer fe fyddwch yn medru parhau i gael yr elfen symudedd.
I gael LBA, rhaid eich bod chi wedi byw yn y Deyrnas Gyfunol am chwe mis yn y flwyddyn ddiwethaf. Ond, nid yw’r rheol hon yn berthnasol i bobl sydd ag afiechyd marwol. Rhaid eich bod chi’n byw yn y DG pan fyddwch chi’n hawlio LBA a rhaid mai’r DG yw’r man lle rydych yn byw fel arfer. Ni ddylai fod unrhyw reoliadau mewnfudo arnoch tra’ch bod yma a fyddai’n eich atal chi rhag cael y budd-dâl.
Efallai y byddwch yn medru parhau i gael cydran gofal LBA os ydych yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir. Efallai hefyd y byddwch yn medru hawlio am y tro cyntaf os ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn.
Rydych yn cael LBA waeth a ydych yn gweithio ai peidio. Nid yw’r cynilion neu’r incwm sydd gennych yn effeithio arno fel arfer.
Os nad ydych yn siŵr os fedrwch chi gael LBA dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes afiechyd cynyddol arnoch ac ni ellir disgwyl yn rhesymol i chi fyw am fwy na chwe mis arall, mae yna reolau arbennig ynghylch hawlio LBA.
Os ydych yn ceisio am y cydran gofal neu’r cydran symudedd nid oes rhaid i chi aros hyd nes y byddwch chi wedi bod angen gofal am dri mis. Fe fydd hawl awtomatig gennych i gyfradd uchaf y gydran gofal heb orfod dangos eich bod chi angen gofal. Fodd bynnag, fe fydd yn rhaid i chi ddangos bod anghenion symudedd gennych er mwyn cael y gydran symudedd.
Nid oes rhaid i chi aros nes eich bod wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers chwe mis cyn i chi fedru hawlio.
Rydych yn medru cael y gydran gofal ar gyfer plentyn o unrhyw oed sydd ag afiechyd marwol – nid oes rhaid i chi aros tan eu bod yn dri mis oed.
Mae anghenion gofal gennych os oes:
Nid oes rhaid eich bod chi’n cael help ar gyfer eich anghenion gofal er mwyn bod yn gymwys i LBA. Tra bod yr anghenion hyn arnoch, nid oes gwahaniaeth a ydych chi’n cael gofal.
Telir cydran gofal Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) ar dair gyfradd wahanol. Rydych yn cael y gyfradd is os ydych chi angen help gyda choginio prif bryd o fwyd neu ofal ar gyfer rhan sylweddol o’r diwrnod. Rydych yn cael y gyfradd ganol os ydych chi angen gofal rheolaidd trwy gydol y dydd neu’r nos, neu oruchwyliaeth barhaus trwy gydol y dydd neu’r nos. Rydych hefyd yn medru cael y gyfradd ganol os fyddwch chi angen rhywun gyda chi tra’ch bod chi ar ddialysis. Rydych yn cael y gyfradd uwch os ydych chi angen gofal rheolaidd neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, neu os oes afiechyd marwol arnoch.
Mae’r rheolau ychydig yn wahanol os ydych yn hawlio cydran gofal ar gyfer plentyn dan 16.
| Cydran gofal | Cyfradd wythnosol o 11 Ebrill 2011 |
| Cyfradd uwch | £73.60 |
| Cyfradd canol | £49.30 |
| Cyfradd is | £19.55 |
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut i fod yn gymwys ar gyfer cydran gofal LBA, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Telir cyfradd symudedd LBA ar ddwy gyfradd wahanol.
Rydych yn cael y gyfradd is os nad ydych yn medru cerdded tu allan neu ddilyn llwybr anghyfarwydd heb arweiniad neu oruchwyliaeth gan berson arall y rhan fwyaf o’r amser. Mae hyn yn medru bod oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol.
Dyma enghreifftiau o pryd fyddwch, efallai, â hawl i gyfradd is y gydran symudedd:
Rydych yn medru cael cyfradd uwch y gydran symudedd os nad ydych yn medru cerdded, neu nid ydych yn medru cerdded braidd o gwbl, oherwydd poen, yr effaith ar eich iechyd neu gyfyngiadau ar eich cerdded. Rydych ond yn medru cael y gyfradd uwch os:
Os ydych yn ddall ac yn fyddar ac rydych yn defnyddio ci arwain, fe fyddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer cydradd symudedd y LBA os ydych yn medru dangos y byddech angen help gan berson arall pe na bai’r ci gennych, neu petaech yn defnyddio llwybr nad yw’r ci’n gyfarwydd ag ef
O 11 Ebrill 2011, fe fyddwch yn gymwys i gyfradd uwch cydran symudedd LBA os oes nam difrifol ar eich golwg. Fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad ynghylch eich hawl iddo cyn y dyddiad hwn
Nid oes rhaid eich bod yn cael help gyda’ch anghenion symudedd cyn i chi fedru cael cydradd symudedd LBA, tra’ch bod yn medru dangos eich bod ei angen.
Mae yna reolau arbennig os ydych yn hawlio’r gydran symudedd i blentyn dan 16.
| Cydran symudedd | Cyfradd wythnosol o 11 Ebrill 2011 |
| Cyfradd uwch | £51.40 |
| Cyfradd is | £19.55 |
Os ydych chi am wybod mwy am sut i fod yn gymwys ar gyfer cydran gofal LBA, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gellir talu Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) i blant o dan 16, ond mae yna amodau ychwanegol ynghylch eu hanghenion gofal a symudedd.
Er mwyn cael cydradd gofal LBA, rhaid bod plentyn yn cwrdd â’r un amodau ag oedolyn, ond rhaid eu bod hefyd yn dangos eu bod angen llawer mwy o ofal neu oruchwyliaeth na phlant eraill o’r un oedran. Er enghraifft, nid yw plentyn dan 16 yn medru cael cydran gofal LBA dim ond am nad ydynt yn medru coginio prif bryd o fwyd dros eu hunain.
Rydych yn medru hawlio cydran gofal LBA cyn gynted ag y caiff y plentyn ei eni, ond ni fyddwch yn cael unrhyw fudd-dal hyd nes bod y plentyn yn dri mis. Nid yw’r amodau ychwanegol yn berthnasol mwyach pan fydd y plentyn yn cyrraedd 16 oed.
Os oes gan y plentyn afiechyd marwol,mae yna reolau arbennig.
Nid yw plant dan 16 yn medru cael cydran symudedd. LBA hyd nes eu bod yn dair, ar gyfer y gyfradd uwch, neu’n bump ar gyfer y gyfradd is. I gael y gyfradd is, mae’n rhaid hefyd eu bod angen mwy o help neu oruchwyliaeth na phlant eraill o’r un oed. Nid yw’r amod ychwanegol hwn yn berthnasol bellach, unwaith fydd y plentyn yn 16.
Nid yw plant dan 16 yn medru hawlio LBA drostynt eu hunain – rhaid i berson arall, wedi’i awdurdodi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, hawlio ar eu rhan. Gelwir y person yma yn berson penodedig ac fel arfer rhiant neu warcheidwad y plentyn fydd y person penodedig.
Os ydych yn berson ifanc anabl o dan 16 neu os ydych yn gyfrifol am blentyn anabl ac angen hawlio LBA ar eu rhan, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna ddwy ffurflen ar gyfer hawlio LBA – un os ydych yn hawlio i rywun sy’n 16 neu’n hŷn ac un arall os ydych yn hawlio i rywun dan 16.
Mae yna sawl ffordd o hawlio LBA.
Fe fyddwch yn medru hawlio LBA drwy ffonio’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau a gofyn iddynt anfon ffurflen hawlio atoch. Maen nhw’n medru anfon pecyn hawlio i chi ar fformat arall os oes angen – er enghraifft, Braille. Maen nhw hefyd yn medru trefnu rhywun i’ch helpu i lenwi’r ffurflen os oes angen.
Os ydych yn gofyn am ffurflen gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, fe fydd y dyddiad y gofynnoch am y ffurflen yn cael ei drin fel eich dyddiad hawlio, a thelir LBA o’r dyddiad yma, tra bod y ffurflen a gawsoch yn cael ei dychwelyd o fewn chwe wythnos i’r dyddiad yna. Os ydych yn oedi cyn gwneud cais, efallai y byddwch yn colli allan ar fudd-dal.
Rydych yn medru gofyn am LBA ar-lein. Ewch at wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan nidirect yn: www.nidirect.gov.uk.
Rydych yn medru lawrlwytho ffurflen hawlio oddi ar wefan Directgov er mwyn ei hargraffu a’i llenwi gan ddefnyddio beiro. Neu rydych yn medru llenwi ffurflen hawlio ar eich cyfrifiadur, ei hargraffu a’i llofnodi. Rhowch glic ar: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch lawrlwytho ffurflen oddi ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk. Nid ydych yn medru llenwi’r ffurflen ar-lein ac yna’i hargraffu, yng Ngogledd Iwerddon.
Os nad yw’r cyfeiriad ar y ffurflen yn barod, anfonwch hi at y Ganolfan Budd-daliadau Anabledd ar gyfer eich cyfeiriad chi. Fe allwch ddarganfod pa Ganolfan yw eich un chi trwy fwydo’ch cod post i mewn i’r ffurflen neu ffonio’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau.
Nid ydych yn medru cael LBA am unrhyw gyfnod cyn i chi hawlio
Fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth i ddangos mai eich un chi ydyw. Os ydych yn credu bod rhif yswiriant gwladol gennych ond nid ydych yn gwybod beth yw’r rhif, dylech roi gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Os ydych chi angen mwy o amser i ddychwelyd yr holl wybodaeth sydd ei angen, dylech ddweud wrth y swyddfa sy’n delio gyda’ch cais.
Mae’r ffurflen gais ar gyfer LBA yn hir ac mae’n bosib i chi gael help i’w llenwi. Fe fyddwch yn medru defnyddio’r gwasanaeth llenwi ffurflenni a gynigir gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau. Neu, cysylltwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Wedi i’ch Canolfan Budd-daliadau Anabledd leol dderbyn eich ffurflen, efallai y bydd angen i chi gael archwiliad meddygol. Am fwy o wybodaeth ynghylch archwiliadau meddygol wrth hawlio LBA, rhowch glic ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Efallai y byddwch chi angen help i hawlio neu gasglu budd-daliadau.
Unwaith y byddwch chi wedi hawlio, fe fyddwch yn medru cael cyngor ar Lwfans Byw i’r Anabl gan linell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl, a ddylai fod yn medru gweld eich cofnodion. Dyma’r manylion cyswllt:
Ffôn: 08457 123 456
Ffôn Testun: 08457 22 44 33
E-bost: DCPU.Customer-Services@dwp.gsi.gov.uk
Rydych hefyd yn medru defnyddio gwasanaeth Typetalk yr RNID.
Mae’r llinell gymorth ar agor o 7.30yb hyd 6.30yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch chi gysylltu â gwasanaeth o’r enw Disability and Carers Service. Dyma’r manylion cyswllt:
Ffôn: 028 9090 6182
Ffôn Testun: 0800 243 787
E-bost: DCS.IncomingPostTeamDHC2@nissa.gsi.gov.uk
Fel arfer, fe fydd yn cymryd tua 39 diwrnod gwaith i ddelio gyda cheisiadau newydd, onid yw’r cais yn cael ei gyflwyno o dan y rheolau arbennig, sy’n cymryd llawer llai o amser.
Fel arfer, telir Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) yn syth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd yma o dalu, dylech ddweud wrth y swyddfa sy’n delio a’ch cais. Mae’n bosib talu LBA gyda siec mewn rhai amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Telir LBA tra bod anghenion gofal neu symudedd gennych. Mae’n bosib y caiff ei roi am gyfnod diderfyn neu am gyfnod sefydlog. Ond, caiff y budd-dâl ei effeithio os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, ac ar gyfer yr elfen gofal os ydych yn mynd i mewn i gartref gofal neu lety preswyl arall a ariennir gan y wladwriaeth.
Efallai eich bod yn cyflawni twyll credyd treth os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn llwyddo i hysbysu ynghylch newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Lwfans Byw i’r Anabl (LBA). Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad a fydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd a gellir eich erlyn neu wneud i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am dwyll budd-dâl, gellir atal eich budd-dâl.
Os yw eich amgylchiadau’n newid fel eich bod chi’n credu eich bod â hawl i elfen uwch neu is LBA, neu os ydych yn credu eich bod â hawl i fwy nag un elfen ond yn derbyn un elfen yn unig, dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosib.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os gwrthodir rhoi Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) i chi, neu os ydych yn cael llai nag a ddylech yn eich barn chi, mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad. Rydych yn medru gofyn iddynt i ailystyried y penderfyniad, neu mae’n bosib i chi apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.
Os ydych yn ystyried gofyn am gael ailystyried penderfyniad neu apelio yn erbyn penderfyniad, dylech gael cyngor arbenigol, oherwydd efallai y bydd yna berygl i'ch Lwfans Byw i'r Anabl ostwng neu ddod i ben. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rwy'n defnyddio cadair olwyn ac yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl. Roedden nhw'n ymchwilio i dwyll yn fy erbyn ac fe ddaethant i fy nghartref i fy nghyfweld. Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau wyneb-yn-wyneb i mi a chyfeiriwyd yr holl gwestiynau at fy ngweithiwr cymorth. Roedd popeth yn iawn yn y pendraw – ni aethpwyd ymlaen gyda'r ymchwiliad i dwyll, ond roeddwn i'n dal i deimlo wedi fy mychanu. Ydw i'n medru cwyno?
Ydych, rydych yn medru cwyno os na chewch eich trin yn gwrtais oherwydd eich anabledd. Fe fydd cynghorydd profiadol,er ernghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth, yn medru eich helpu gyda'ch cwyn.
Os nad ydych yn hapus â safon y gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) yng Ngogledd Iwerddon neu Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, mae’n bosib i chi gwyno. Efallai bod hyn oherwydd oedi, camgymeriadau, ymddygiad anfoesgar neu anawsterau wrth geisio cysylltu. Mae’n bosib i chi gwyno waeth a ydych chi hefyd am herio’r penderfyniad ai peidio.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu anabledd wrth ddelio gyda’ch cais am Lwfans Byw i'r Anabl (LBA). Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n talu'r LBA, bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill, er enghraifft, os oes cyfrifoldebau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth am herio penderfyniad ynghylch budd-dâl neu am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Mae Lwfans Gweini (LG) yn fudd-dâl i bobl gydag anghenion gofal sy’n
Nid yw LG yn cynnwys cydran symudedd. Ond, os ydych eisoes yn cael cydran symudedd LBA, yna wedi i chi gyrraedd 65 rydych yn medru parhau i’w dderbyn. Nid ydych yn medru cyflwyno cais newydd am gydran symudedd LBA ar ôl cyrraedd 65.
Rydych yn medru cael Lwfans Gweini (LG) os ydych yn anabl, mae gennych anghenion gofal ac rydych yn 65 neu’n hyn. Ni ddylech fod yn byw’n barhaol yn yr ysbyty neu mewn llety a ariennir gan yr awdurdod lleol, er enghraifft, cartref gofal yr awdurdod lleol. Rhaid eich bod chi wedi byw yn y Deyrnas Gyfunol am chwe mis yn y flwyddyn ddiwethaf, onid oes salwch marwol arnoch ac nid oes gwahaniaeth am faint yr ydych wedi byw yma. Rhaid eich bod chi’n byw yn y DG pan rydych yn hawlio LG a rhaid mai’r DG yw eich man preswylio arferol. Ni ddylai fod unrhyw reoliadau mewnfudo ar eich cyfnod yma a fyddai’n eich atal rhag cael y budd-dâl.
Efallai y byddwch yn medru cael LG os ydych yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu os ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn.
Er mwyn cael Lwfans Gweini (LG) mae’n rhaid eich bod ag anghenion gofal ers o leiaf chwe mis (os nad oes salwch marwol arnoch).
Mae anghenion gofal gennych os ydych angen help gyda’ch ‘swyddogaethau corfforol’, er enghraifft, ymolchi, gwisgo a mynd i’r tŷ bach. Mae’r help hwn yn medru cynnwys help sy’n eich galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Mae gennych anghenion gofal hefyd os oes angen goruchwyliaeth arnoch i’ch atal rhag bod yn berygl i chi’ch hun neu i eraill. Os ydych â salwch marwol, rydych yn cael eich trin yn awtomatig fel bod anghenion gofal arnoch.
Nid oes yn rhaid eich bod chi’n cael help ar gyfer eich anghenion gofal. Tra bod yr anghenion gennych, nid oes gwahaniaeth a ydych yn cael gofal neu’n bwriadu cael gofal.
Os nad ydych yn siwr a fydd eich anghenion gofal yn gymwys ar gyfer Lwfans Gweini, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Telir Lwfans Gweini (LG) ar ddau gyfradd, cyfradd uwch a chyfradd is. Rydych yn cael cyfradd is LG os ydych angen gofal aml trwy gydol y dydd neu’r nos. Rydych yn cael y gyfradd uwch os ydych angen gofal aml trwy gydol y dydd a’r nos neu os oes salwch marwol arnoch.
Am y cyfraddau LG presennol, ewch at wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Os ydych am wybod mwy ynghylch y gyfradd Lwfans Gweini y byddwch yn ei chael, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rydych yn medru hawlio Lwfans Gweini (LG) trwy ffonio’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau. Mae’r llinell gymorth hon hefyd yn medru eich helpu i lenwi ffurflen dros y ffôn.
Rydych hefyd yn medru cael copi o’r ffurflen oddi ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk, neu, yng Ngogledd Iwerddon, oddi ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Rydych hefyd yn medru hawlio ar-lein, ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.dwp.gov.uk neu, yng Ngogledd Iwerddon, oddi ar wefan nidirect yn: www.nidirect.gov.uk.
Nid ydych yn medru cael LG am unrhyw gyfnod cyn i chi gyflwyno eich cais. Dyddiad eich cais yw’r dyddiad yr ydych yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) gyntaf ac yn dweud wrthynt eich bod am hawlio LG. Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gais a’r holl wybodaeth sydd ei angen o fewn yr amser gofynnol. Os oes angen mwy o amser arnoch i ddychwelyd popeth, dylech gysylltu â’r swyddfa.
Os oes angen help arnoch i hawlio neu gasglu budd-daliadau.
Fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a phrawf mai eich rhif chi ydyw. Os ydych yn credu bod rhif yswiriant gwladol gennych ond nid ydych yn gwybod beth ydyw, dylech roi gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau dderbyn y ffurflen, efallai y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol.
Mae’r ffurflen gais ar gyfer LG yn hir ac mae help ar gael i’w llenwi. Mae’n bosib i chi ddefnyddio gwasanaeth llenwi ffurflenni a gynigir gan y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau. Neu, rydych yn medru cysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, telir LG yn syth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd yma o dalu, dylech ddweud wrth y swyddfa. Mae’n bosib talu LG gyda siec mewn rhai amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Telir LGi tra bod anghenion gofal gennych. Mae’n bosib y byddwch yn ei gael am gyfnod digyfyng neu am gyfnod sefydlog. Ond, fe fydd y budd-dâl yn dod i ben ar ôl 28 diwrnod os ydych yn mynd i mewn i ysbyty neu gartref gofal neu lety preswyl arall a ariennir gan y wladwriaeth.
Efallai eich bod yn cyflawni twyll credyd treth os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Budd-dâl Analluogrwydd. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad y fydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd a gellir eich erlyn neu wneud i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am dwyll budd-dâl, fe fydd eich budd-dâl yn cael ei atal. Os ydych yn eich cael yn euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir stopio eich budd-dâl.
Os yw’ch amgylchiadau yn newid a chithau’n meddwl bod posibilrwydd bod hawl gennych i elfen uwch neu is Lwfans Gweini, neu rydych yn credu eich bod â hawl i fwy nag un elfen ond wedi bod yn derbyn un elfen yn unig, dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosib.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os gwrthodir rhoi Lwfans Gweini (LG) i chi, neu os ydych yn cael llai nag y dylech yn eich barn chi, mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad. Rydych yn medru gofyn iddynt i ailystyried y penderfyniad, neu mae’n bosib i chi apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.
Os ydych yn ystyried gofyn am gael ailystyried penderfyniad neu apelio yn erbyn penderfyniad, dylech gael cyngor arbenigol, oherwydd efallai y bydd yna berygl i'ch Lwfans Gweini ostwng neu ddod i ben. Dylai eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol fod yn medru helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad ydych yn hapus â safon y gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) yng Ngogledd Iwerddon neu’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau, mae’n bosib i chi gwyno. Mae’n bosib fod hyn oherwydd oedi, camgymeriadau, agwedd anfoesgar neu drafferth cysylltu. Mae’n bosib i chi gwyno waeth a ydych hefyd am herio penderfyniad.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu anabledd wrth ddelio gyda’ch cais am Lwfans Gweini (LG). Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy'n talu LG, bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill fel eich cyfrifoldebau gofal, eich crefydd, eich statws HIV neu eich cyfrifoldebau gofal. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad ynghylch budd-dâl neu am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Efallai y byddwch yn medru cael budd-daliadau am anaf diwydiannol os ydych wedi bod mewn damwain yn y gwaith neu os oes clefydau penodol arnoch sy’n ganlyniad i’ch gwaith. Fe fyddwch ond yn medru cael y budd-daliadau hyn os yw’ch anabledd neu glefyd yn ganlyniad i waith i gyflogwr - nid oes oeddech yn hunangyflogedig. Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol yw’r prif fudd-dâl ar gyfer anafiadau diwydiannol. Mae yna lwfansau eraill hefyd y mae’n bosib i chi eu cael ar yr un pryd â Budd-dâl Anabledd, neu yn ei le, er enghraifft, Lwfans Enillion Gostyngol, Lwfans Ymddeol neu Lwfans Gweini Cyson.
Rydych hefyd yn medru cael budd-dâl ar gyfer costau ychwanegol anabledd ar yr un pryd â budd-daliadau anafiadau diwydiannol. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosib eich bod yn medru cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini. Efallai hefyd y byddwch yn medru hawlio budd-dâl oherwydd nad ydych yn medru gweithio. Mae help ar gael hefyd os ydych ar incwm isel.
Mae Budd-dâl Anabledd ar gyfer pobl sy’n anabl oherwydd damwain yn y gwaith, neu sydd â chlefydau penodol oherwydd eu gwaith. Dim ond clefydau diwydiannol sy’n gymwys, er enghraifft, clefydau a achoswyd gan gemegau yr ydych wedi gweithio â nhw neu golli clyw oherwydd eich gwaith. Rydych yn medru cael rhestr o’r clefydau gan eich swyddfa budd-daliadau lleol.
Am y cyfraddau Budd-dâl Anabledd presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.dwp.gov.uk.
Fe fydd meddyg archwilio neu weithiwr meddygol proffesiynol arall, yn eich asesu ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gan ddibynnu ar yr asesiad, gellir talu Budd-dâl Anabledd i chi am gyfnod sefydlog neu am oes. Mae’r swm yn dibynnu ar eich canran anabledd a’ch oed.
Nid oes yn rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau yswiriant gwladol i gael Budd-dâl Anabledd. Rydych yn medru ei gael waeth a ydych yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith. Os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, ni fydd hyn yn effeithio ar eich budd-dâl Anabledd.
Am y cyfraddau Budd-dâl Anabledd presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk a chwiliwch o dan Anafiadau Diwydiannol.
Os ydych am wybod mwy am y gyfradd Budd-dâl Anabledd y byddwch yn ei chael, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yna ffurflenni cais gwahanol ar gyfer Budd-dâl Anabledd, gan ddibynnu a achoswyd yr anabledd gan ddamwain neu a ydych yn hawlio am fod gennych glefyd diwydiannol penodol. Dylech holi yn y swyddfa budd-daliadau lleol am y ffurflen iawn.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, rydych yn medru hawlio Budd-dâl Anabledd drwy ffonio'ch Canolfan Budd-dal Anafiadau Diwydiannol agosaf. Mae rhifau ffôn y canolfannau ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk. Mae yna linell iaith Gymraeg hefyd, sef: 0845 600 3018.
Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Industrial Injuries Branch am ffurflen hawlio. Ffoniwch: 028 9033 6000. Rydych hefyd yn medru lawrlwytho ffurflen oddi ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Efallai hefyd y byddwch am hawlio lwfansau ychwanegol neu daliadau eraill pan fyddwch yn llenwi eich cais. Hyd yn oed os nad ydych yn medru cael budd-dâl (er enghraifft, oherwydd na fyddai eich Asesiad Anabledd yn ddigon uchel), dylech ofyn am ddatganiad eich bod wedi cael damwain ddiwydiannol, rhag ofn y byddwch am hawlio eto yn nes ymlaen.
Mae ceisiadau am Fudd-dâl Anabledd diwydiannol a lwfansau ychwanegol yn medru bod yn gymhleth a dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni fyddwch yn medru cael unrhyw fudd-dâl hyd nes 90 diwrnod ar ôl y ddamwain neu 90 diwrnod ar ôl i’r clefyd ddechrau, onid ydyw’r clefyd diwydiannol mesothelioma arnoch. Nid yw’r 90 diwrnod yn cynnwys Dydd Sul.
Nid oes terfyn amser ar gyfer hawlio Budd-dâl Anabledd. Rydych yn dal i fedru hawlio os digwyddodd eich damwain neu os dechreuodd eich clefyd rhai blynyddoedd yn ôl. Rydych hefyd yn medru hawlio eto ar ôl gwrthod cais cynharach, am fod eich clefyd neu effeithiau eich damwain wedi gwaethygu ac rydych yn fwy anabl. Os oedd hawl gennych cyn i chi gyflwyno eich cais, mae’n bosib i chi ofyn am i’r budd-dâl gael ei dalu am gyfnod cynharach o hyd at dri mis. Dylech ofyn am hyn ar eich ffurflen gais. Ni allwch ofyn am ôl-ddyddio Budd-dâl Anabledd yn y ffordd yma os ydych yn cyflwyno cais am golli clyw.
Pan fyddwch chi’n hawlio Budd-dâl Anabledd, rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth i ddangos mai eich rhif chi ydyw. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol ond rydych yn meddwl bod un gennych, dylech roi digon o wybodaeth er mwyn i’r swyddfa ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Efallai y bydd yn rhaid i’ch partner gael cyfweliad gyda chynghorydd personol fel amod o’ch Lwfans Cynhaliwr.
Os yw’ch amgylchiadau’n newid fel eich bod yn fwy anabl a chithau’n credu y medrech gael mwy o fudd-dâl, dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosib. Dylech hefyd ddweud wrthynt os yw’ch cyflwr yn gwella. Os nad ydych yn dweud wrthynt am newid i amgylchiadau a fedrai effeithio ar eich budd-dâl, neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, mae’n bosib y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl. Hyd yn oed os nad ydych yn cyflawni twyll, mae’n bosib y byddwch yn achosi gordaliad y bydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra eich bod chi’n hawlio Budd-dâl Anabledd. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am dwyll budd-dâl, gellir atal eich budd-dâl. Os ydynt yn eich cael yn euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir gostwng neu stopio eich budd-dâl yn y dyfodol.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, telir Lwfans Anabledd yn syth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd yma o dalu, dylech ddweud wrth y swyddfa. Mae’n bosib talu Budd-dâl Anabledd gyda siec mewn rhai amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Mae yna fudd-daliadau anafiadau eraill y gellir eu talu gyda Budd-dâl Anabledd neu yn ei le.
Mae Lwfans Enillion Gostyngol yn fudd-dâl sydd ar gael i chi os gostyngir eich enillion oherwydd eich damwain neu glefyd, neu os nad ydych yn medru gweithio o gwbl. Ond, rydych ond yn medru cael Lwfans Enillion Gostyngol ar gyfer damweiniau a ddigwyddodd, neu glefydau a ddechreuodd, cyn Hydref 1, 1990. Efallai y bydd hawl gennych i Lwfans Enillion Gostyngol ond nid Budd-dâl Anabledd, neu efallai y bydd hawl gennych i gael y ddau gyda’i gilydd.
Mae’r swm yn dibynnu faint mae eich enillion wedi gostwng, ond mae yna uchafswm y gellir ei dalu bob wythnos. Am y cyfraddau Lwfans Enillion Gostyngol presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk.
Am y cyfraddau Lwfans Enillion Gostyngol presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk.
Nid oes rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau yswiriant gwladol er mwyn cael Lwfans Enillion Gostyngol. Os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, nid yw hyn yn effeithio ar eich Lwfans Enillion Gostyngol.
Dylech holi’r swyddfa budd-daliadau lleol ynghylch Lwfans Enillion Gostyngol wrth i chi lunio eich cais.
Mae Lwfans ymddeol ar gyfer pobl sydd wedi bod yn cael Lwfans Enillion Gostyngol ac sy’n stopio gweithio ar ôl cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth (60 i fenywod a 65 i ddynion). Rydych yn cael lwfans ymddeol ar 25% o gyfradd eich lwfans enillion gostyngol a oedd yn berthnasol wrth i chi orffen gweithio. Mae yna uchafswm y gellir ei dalu bob wythnos. Nid yw cyfnod yn yr ysbyty yn effeithio ar Lwfans ymddeol.
Nid ydych yn cyflwyno cais am Lwfans ymddeol oherwydd rydych ond yn ei gael os ydych wedi bod yn cael Lwfans Enillion Gostyngol.
Am y cyfraddau Lwfans Cynhaliwr presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.dwp.gov.uk.
Telir Lwfans Gweini Cyson gyda Budd-dâl Anabledd os ydych angen gofal a sylw oherwydd eich anabledd ac mae gennych asesiad anabledd o 100%. Mae yn a bedair cyfradd ar gyfer y budd-dâl hwn. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar y gofal sydd angen arnoch a pha mor aml y mae ei angen. Nid oes rhaid eich bod yn cael gofal er mwyn cael Lwfans Gweini Cyson, ond mae’n rhaid i chi ddangos bod anghenion gofal gennych. Rhaid eich bod yn debygol o gael yr anghenion hyn am o leiaf chwe mis.
Fe fydd y swyddfa budd-daliadau yn eich asesu’n awtomatig ar gyfer Lwfans Gweini Cyson os ydyw’r asesiad yn nodi bod gennych sgôr anabledd 100% adeg hawlio Budd-dâl Anabledd. Os yw’ch anabledd yn gwaethygu ar ôl i chi hawlio Budd-dâl Anabledd, mae’n bosib i chi holi ynghylch hawlio Lwfans Gweini Cyson bryd hynny.
Os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, fe fydd Lwfans Gweini Cyson yn dod i ben ar ôl pedair wythnos.
Am y cyfraddau Lwfans Gweini Cyson presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.dwp.gov.uk
Telir Lwfans Anabledd Difrifol Iawn gyda Lwfans Gweini Cyson. Fe fyddwch ond yn cael hwn os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson ar un o’r ddau gyfradd uwch, ac mae eich anghenion gofal yn debygol o fod yn barhaus.
Os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, ni fydd hyn yn effeithio ar eich Lwfans Anabledd Difrifol Iawn.
Am y cyfraddau Budd-dâl Anabledd presennol, ewch at adran A – Y Budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn: [www.dwp.gov.uk.
Os cewch anaf wrth wasanaethu yn y lluoedd arfog, efallai y bydd hawl gennych i help ariannol gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog. Mae hwn yn rhoi help ar gyfer afiechydon neu farwolaethau o ganlyniad i wasanaeth yn y Lluoedd Arfog ar neu ar ôl Ebrill 6, 2005. Os oedd y cyfnod gwasanaeth a achosodd eich salwch neu anabledd cyn y dyddiad hwn, mae’n bosib i chi gael help o’r cynllun Pensiwn Rhyfel. Caiff y ddau gynllun eu rhedeg gan yr Asiantaeth Personel a Chyn-filwyr Gwasanaeth (yr SPVA), sy’n rhan o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Nid oes rhaid eich bod wedi ymladd mewn rhyfel neu wasanaethu’n weithgar cyn cael help ariannol gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, tra’ch bod wedi cael anaf neu wedi eich gwneud yn anabl o ganlyniad i wasanaeth yn y lluoedd arfog.
Efallai y cewch daliadau wythnosol neu un taliad gan ddibynnu pa gynllun sy’n berthnasol i chi ac a yw’ch enillion yn debygol o ostwng oherwydd eich cyflwr. Fe fydd y swm a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y cawsoch eich anafu neu ddifrifoldeb eich anabledd a sut mae hyn yn effeithio ar eich anabledd. O dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel, rydych yn medru cael lwfansau ychwanegol, er enghraifft, os oes gennych anghenion gofal neu broblemau symudedd. Ni fyddwch yn medru cael y rhain o dan y cynllun iawndal, ond efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini yn lle.
Os ydych yn ŵr neu’n wraig weddw, neu'n bartner sifil sydd wedi goroesi, ac mae eich partner wedi marw o ganlyniad i wasanaeth yn y lluoedd arfog, neu os oedd yn cael pensiwn rhyfel neu help gan y cynllun iawndal cyn marw, efallai hefyd y byddwch yn medru cael help ariannol gan y cynllun.
Am fwy o wybodaeth ar y cynllun pensiwn rhyfel a Chynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, Gofal iechyd i bobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Am fwy o wybodaeth ar fudd-daliadau a chymorth ariannol arall sydd ar gael i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Os ydych am geisio am Bensiwn Rhyfel neu help gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. Dyma fanylion cyswllt yr Asiantaeth:
Llinell gymorth: 0800 169 22 77
Ffôn testun 0800 169 34 58.
Mae mwy o wybodaeth ar gynlluniau Iawndal y Lluoedd Arfog a Phensiwn Rhyfel ar wefan Veterans Uk yn www.veterans-uk.info, neu e-bostiwch veterans.help@spva.gsi.gov.uk.
Mae’n bosib i chi gael cyngor gan fudiadau i gyn-filwyr hefyd. Er enghraifft y Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae cyngor ar gael trwy gysylltu â nhw:
Llinell Legionline: 08457 725 725
E-bost: trwy’r wefan www.britishlegion.org.uk.
Gwefan: www.britishlegion.org.uk.
Fe fyddwch hefyd yn medru cael cyngor ynghylch Pensiwn Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog trwy holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr help sydd ar gael i chi os ydych yn ŵr gweddw, yn wraig weddw neu'n bartner sifil sydd wedi goroesi, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.
Mae Lwfans Cynhaliwr yn fudd-dâl i bobl sy’n rhoi gofal rheolaidd a sylweddol i bobl anabl yn eu cartrefi eu hunain. Mae Lwfans Cynhaliwr yn fudd-dâl trethadwy ac mae’n rhan o’ch incwm trethadwy.
Rydych yn medru cael Lwfans Cynhaliwr os ydych yn 16 oed neu’n hyn. Nid oes terfyn oed uchaf. Rhaid i chi dreulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am berson anabl sy’n cael budd-dâl ar gyfer costau ychwanegol yr anabledd. Y budd-daliadau ar gyfer costau ychwanegol anabledd yw Lwfans Gweini, Lwfans Gweini Cyson, neu gyfradd canol neu uwch gofal personol Lwfans Byw i’r Anabl. Ni ddylech fod yn ennill mwy na £100 yr wythnos.
Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn bodloni’r amodau ar gyfer Lwfans Cynhaliwr a budd-dal arall fel Pensiwn Ymddeol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol.
Os yw eich Lwfans Cynhaliwr yr un faint a’r budd-dal arall, neu’n llai, fe fyddwch yn cael y budd-dal arall yn lle’r Lwfans Cynhaliwr.
Ond, os yw’r budd-dal arall yn llai na’ch Lwfans Cynhaliwr, fe fyddwch yn cael y budd-dal arall a’r gwahaniaeth rhwng y budd-dal a’ch Lwfans Cynhaliwr ar ben hyn.
Mae’r rheolau ynglyn â hyn yn gymhleth ac efallai y byddwch chi angen cyngor.
Os oes unrhyw amheuaeth, dylech gyflwyno cais am Lwfans Cynhaliwr, oherwydd efallai y bydd hefyd yn eich galluogi chi i gael symiau ychwanegol mewn budd-daliadau eraill fel elfen credyd gwarant Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.
Holwch y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani cyn i chi gyflwyno cais am Lwfans Cynhaliwr oherwydd efallai y bydd yn colli peth o’r budd-dal y mae’n ei gael, fel ychwanegiad anabledd difrifol, os ydych yn hawlio.
Nid oes rhaid eich bod wedi talu unrhyw gyfraniadau yswiriant gwladol er mwyn cael Lwfans Cynhaliwr.
Efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Cynhalwyr os ydych chi a’r person yr ydych yn gofalu amdano/amdani yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu os ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn yn barod.
Telir Lwfans Cynhaliwr ar gyfradd sefydlog ar gyfer y person sy’n hawlio.
Os ydych wedi cyflwyno eich cais cyn 6 Ebrill 2010, efallai y byddwch hefyd yn medru cael budd-dâl ychwanegol ar gyfer eich partner neu rywun sy'n gofalu am eich plant. Mae hyn yn cynnwys partneriaid sy'n cydfyw yn ogystal â'r rheiny sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae'n cynnwys partneriaid lesbiaidd, hoyw neu wahanrywiol.
Rydych ond yn medru cael y budd-dâl ychwanegol os oes gan y person yr ydych yn hawlio ar ei gyfer enillion o dan swm penodol ac nid yw’n cael budd-daliadau penodol ar ei ben ei hun sy’n werth mwy na’r Lwfans Cynhaliwr ychwanegol.
Os ydych wedi cyflwyno eich cais ar ôl 6 Ebrill 2010, nid ydych yn medru cael y budd-dal ychwanegol mwyach.
Am y cyfraddau Lwfans Cynhaliwr presennol, ewch at wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Rydych yn medru hawlio Lwfans Cynhaliwr mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio Lwfans Cynhaliwr ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk, neu, yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Os oedd hawl gennych cyn i chi lunio eich cais, mae’n bosib i chi ofyn am dalu eich budd-dâl am gyfnod cynharach hyd at dri mis. Dylech ofyn am hyn ar eich ffurflen gais. Nid oes rhaid i chi roi rheswm pam yr ydych yn hwyr yn hawlio.
Fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a thystiolaeth i ddangos mai eich rhif chi ydyw. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, dylech roi tystiolaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un.
Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad i sicrhau eich bod yn cwrdd â’r amodau ar gyfer cael Lwfans Cynhaliwr.
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau sy’n medru effeithio ar eich Lwfans Cynhaliwr, er enghraifft, nid ydych yn gofalu am y person anabl am gymaint o oriau’r wythnos. Hyd yn oed os nad ydych yn cyflawni twyll budd-dâl, mae’n bosib i chi achosi gordaliad y bydd yn rhaid ei ad-dalu.
Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod yn hawlio ac mae swyddogion twyll hefyd yn medru cael gwybodaeth amdanoch gan asiantaethau eraill y llywodraeth a gan eich cyflogwr, banc neu gwmnïau iwtiliti. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am fudd-dâl twyll, fe fydd eich budd-dâl yn cael ei atal. Os ydynt yn eich cael yn euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir gostwng neu stopio eich budd-dâl yn y dyfodol.
Os ydych yn poeni ynghylch y posibilrwydd eich bod dan amheuaeth o dwyll, eich bod yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosach, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, telir Lwfans Cynhaliwr yn syth i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif neu os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd yma o dalu, dylech ddweud wrth y swyddfa. Mae’n bosib talu Lwfans Cynhaliwr gyda siec mewn rhai amgylchiadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Telir Lwfans Cynhaliwr cyhyd a’ch bod yn parhau i ofalu am berson anabl am o leiaf 35 awr yr wythnos ac nid ydych yn ennill mwy na’r terfyn enillion. Mae’n medru parhau waeth beth yw eich oed, er, os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol eraill, er enghraifft, Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, fe allai hyn effeithio ar eich gallu i gael Lwfans Cynhaliwr hefyd.
Os yw’r person sy’n cael gofal yn mynd i mewn i’r ysbyty, fe allai hyn hefyd effeithio ar eich Lwfans Cynhaliwr.
Os gwrthodir rhoi Lwfans Cynhaliwr i chi neu os ydych yn credu eich bod yn cael y swm anghywir, mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad. Mae’n bosib i chi ofyn iddynt am ailystyried y penderfyniad, neu mae’n bosib i chi apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y swyddfa budd-daliadau lleol neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (Yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) yng Ngogledd Iwerddon), mae’n bosib i chi gwyno. Mae’n bosib fod hyn oherwydd camgymeriadau, oedi, agwedd anfoesgar neu anhawster cysylltu. Mae’n bosib i chi wneud hyn waeth a ydych hefyd am herio penderfyniad.
Mae yna help, gwybodaeth a chymorth i gynhalwyr ar wefan a llinell gymorth Carers Direct. Rhowch glic ar: www.nhs.uk/carersdirect, neu ffoniwch 0808 802 0202. Mae’r llinell ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac mae’n rhad ac am ddim o linellau daearol y Deyrnas Unedig.
Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb wrth ddelio gyda'ch cais am Lwfans Cynhaliwr. Hefyd, mae gan yr Adran Gwaith a Phesiynau, sy'n gyfrifol am Lwfans Cynhaliwr, bolisi sy'n nodi na fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill. Er enghraifft, maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n gwahaniaethu yn eich erbyn os oes dyletswyddau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau ynghylch budd-daliadau a chwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych am herio penderfyniad neu gwyno, mae’n bosib hefyd i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes angen help arnoch i gasglu neu hawlio eich budd-daliadau, mae’n bosib i chi ofyn i rywun arall fod yn berson penodedig neu’n asiant i chi. Mae person penodedig yn medru cymryd y cyfrifoldeb o hawlio a chasglu eich budd-dâl os nad ydych yn medru gwneud hyn eich hun. Ni fydd asiant yn medru llunio cais i chi, ond mae’n bosib i chi drefnu i asiant gasglu eich budd-dâl o fanc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost os nad ydych yn medru mynd yno eich hun.
Mae yna wybodaeth bellach ynglŷn â dod yn berson penodedig ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk. Mae yna wybodaeth bellach hefyd ynghylch enwebu helpwr i gasglu budd-daliadau ar eich rhan yn www.direct.gov.uk.
Os ydych yn cael budd-dâl ar gyfer salwch neu anabledd a chithau am wybod beth fydd yn digwydd i’ch budd-dâl os ewch dramor, mae’n bosib i chi ffonio’r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau.
Os ydych yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, efallai y bydd yn bosib i chi barhau i gael cydran gofal Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini neu Lwfans Cynhalwyr. Hefyd, os ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn, efallai y byddwch yn medru hawlio un o’r budd-daliadau hyn am y tro cyntaf. Gelwir hyn yn allfudo'r budd-dal. Os oes diddordeb gennych mewn gwneud hyn, dylech gysylltu ag aelod o'r tîm allfudo yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae mwy o wybodaeth ar hawlio'r budd-daliadau hyn ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Fe fydd y wefan hon yn dweud wrthych sut i gysylltu â'r tîm allfudo.
Os ydych chi wedi symud o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i gael Lwfans Gweini, Lwfans Cynhaliwr neu elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl o’r Deyrnas Unedig, yn yr amgylchiadau canlynol:
Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Liechtenstein, Gwlad yr Ia a Norwy. I ddarganfod pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd cliciwch ar Yr Undeb Ewropeaidd.
Os ydych yn ystyried mynd dramor mae’n bosib hefyd i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.