Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae rhai o'r rheolau ynghylch budd-daliadau yn dibynnu ar eich oed. Mewn llawer o achosion, mae'r rheolau'n newid pan fyddwch chi'n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Er enghraifft, wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, efallai na fydd yn amod ar eich budd-daliadau mwyach eich bod yn gorfod chwilio am waith. Efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm heb i chi orfod chwilio am waith.
Oed pensiwn y wladwriaeth yw’r oed pan fydd pobl yn medru dewis dechrau cael eu Pensiwn gan y Wladwriaeth. Roedd oed pensiwn y wladwriaeth yn arfer bod yn 60 i fenywod ac yn 65 i ddynion. Ond, mae oed pensiwn y wladwriaeth yn newid i’r rhan fwyaf o bobl.
Os ydych yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1950, neu ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch bellach yn medru hawlio pensiwn gan y wladwriaeth pan yn 60 oed ac, os ydych yn ddyn a anwyd ar 6 Rhagfyr 1953, neu ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch bellach yn medru hawlio pensiwn gan y wladwriaeth yn 65. Os ydych yn un o’r grwpiau hyn o ddynion neu fenywod, fe fydd yr oed yr ydych yn medru hawlio eich pensiwn gan y wladwriaeth yn dibynnu ar eich dyddiad geni.
Law yn llaw gyda’r newidiadau i oed pensiwn y wladwriaeth, fe fydd newidiadau graddol i’r oed y byddwch yn medru cael rhai budd-daliadau eraill.
Mae’r budd-daliadau y mae newidiadau i oed pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler yr adran ar Oed pensiwn y wladwriaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl sydd ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau ac yn nesáu at chwedeg, efallai y bydd angen i chi siarad â chynghorydd profiadol ynghylch y ffordd y mae'r gwahanol fudd-daliadau yn gweithio gyda'i gilydd. Os oes dewis gennych rhwng gwahanol fudd-daliadau, fe fydd cynghorydd profiadol yn medru eich helpu i ddewis pa un sydd orau i chi. Fe fyddwch yn medru siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Oed pensiwn y wladwriaeth yw’r oed y mae pobl yn medru dewis cael Pensiwn y Wladwriaeth. Roedd oed pensiwn y wladwriaeth yn arfer bod yn 60 i fenywod ac yn 65 i ddynion. Ond, mae oed pensiwn y wladwriaeth yn newid i’r rhan fwyaf o bobl.
Os ydych yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1950, neu ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch bellach yn medru hawlio oed pensiwn y wladwriaeth yn 60 oed ac os ydych yn ddyn a anwyd ar 6 Rhagfyr 1953, neu ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch bellach yn medru hawlio pensiwn y wladwriaeth yn 65 oed.
Os ydych yn un o'r grwpiau hyn o ddynion neu fenywod, fe fydd yr oed yr ydych yn medru hawlio pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu'n raddol, gan ddibynnu ar eich dyddiad geni.
Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950, mae eich oed pensiwn y wladwriaeth yn 60.
Os cawsoch eich geni ar 6 Ebrill 1950, neu ar ôl y dyddiad hwn, ond cyn 6 Rhagfyr 1953, fe fydd eich oed pensiwn y wladwriaeth rhywle rhwng 60 a 65, gan ddibynnu ar eich dyddiad geni.
Os cawsoch eich geni ar 6 Rhagfyr 1953, neu ar ôl y dyddiad hwn, ond cyn 6 Ebrill 1978, fe fydd eich oed pensiwn y wladwriaeth rhywle rhwng 65 a 68 gan ddibynnu ar eich dyddiad geni.
Os cawsoch eich geni ar 6 Ebrill 1978, neu ar ôl y dyddiad yma, fe fydd eich oed pensiwn y wladwriaeth yn 68.
Rydych yn medru cyfrifo union ddyddiad eich oed pensiwn y wladwriaeth trwy ddefnyddio’r cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth calculator ar wefan Directgov.
Os cawsoch eich geni cyn 6 Rhagfyr 1953, mae eich oed pensiwn y wladwriaeth yn 65.
Os cawsoch eich geni ar 6 Rhagfyr 1953, neu ar ôl y dyddiad hwn, ond cyn 6 Ebrill 1978, fe fydd eich oed pensiwn y wladwriaeth rhywle rhwng 65 a 68 gan ddibynnu ar eich dyddiad geni.
Os cawsoch eich geni ar 6 Ebrill 1978 neu ar ôl y dyddiad yma, fe fydd eich oed pensiwn y wladwriaeth yn 68.
Rydych yn medru cyfrifo union ddyddiad eich oed pensiwn y wladwriaeth trwy ddefnyddio’r cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov. Rhowch glic ar: www.directgov.uk. Cofiwch, fe allai’r amserlen hon newid oherwydd mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynigion newydd i godi oed pensiwn i ddynion i 66 erbyn Ebrill 2020.
Os nad ydych yn siwr pryd fyddwch chi’n medru cael eich Pensiwn gan y Wladwriaeth, fe allwch holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, rhowch glic ar CAB agosaf.
Os ydych yn chwedeg neu’n hŷn, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion fel Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor, gan ddibynnu ar eich incwm.
Os ydych yn fenyw, fe fyddwch yn medru hawlio Credyd Pensiwn wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Fe fydd Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor yn cael eu cyfrifo’n wahanol unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd oed pensiwn, felly efallai y bydd hawl gennych i’r budd-daliadau hyn er nad oedd hawl gennych i’w cael cyn hyn.
Os ydych yn ddyn, fe fyddwch yn medru hawlio un o’r budd-daliadau hyn unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw gyda’r un dyddiad geni â chi.
Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor erbyn i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, efallai y byddwch yn medru cael mwy o arian. Os ydych yn ddyn, fe fydd hyn yn berthnasol unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi.
Fe fyddwch yn medru cyfrifo union ddyddiad eich oed pensiwn y wladwriaeth trwy ddefnyddio’r cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov. Fe fydd y cyfrifydd hefyd yn eich helpu i gyfrifo os oes hawl gennych i Gredyd Pensiwn. Rhowch glic ar: www.directgov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent - Budd-dâl Tai, ac am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor neu Help gyda’ch trethi yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn ac nid ydych yn byw mewn cartref gofal, fe fyddwch yn medru cael help gyda chostau tanwydd yn ystod tywydd oer iawn. Gelwir y rhain yn Daliadau Tywydd Oer.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tywydd Oer, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Yn Lloegr, efallai y bydd hawl gennych i deithio’n rhad ac am ddim ar y bws os ydych dros chwedeg.
Os ydych yn fenyw sy’n byw yn Lloegr, rydych yn medru teithio’n rhad ac am ddim ar y bws unwaith fyddwch chi wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Os ydych yn ddyn sy’n byw yn Lloegr, rydych yn medru teithio’n rhad ac am ddim ar y bws wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi.
Efallai y byddwch hefyd yn medru teithio’n rhatach ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.
Os ydych yn ddyn neu’n fenyw sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban, fe fyddwch yn medru teithio’n rhad ac am ddim ar y bws os ydych dros chwedeg, ac efallai y byddwch yn medru teithio’n rhatach ar fathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus.
Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru teithio’n rhad am ddim ar y bws os ydych dros chwedeg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau teithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Trafnidiaeth gyhoeddus.
Os ydych dros chwedeg, efallai y bydd hawl gennych i Daliad Tanwydd y Gaeaf.
Os ydych yn fenyw, fe fyddwch yn medru cael Taliad Tanwydd y Gaeaf wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Os ydych yn ddyn, rydych yn medru cael Taliad Tanwydd y Gaeaf wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw â’r un dyddiad geni â chi.
Fe fyddwch hefyd yn cael Bonws y Nadolig.
Unwaith yr ydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth efallai y byddwch yn medru cael Pensiwn gan y Wladwriaeth.
Os ydych yn anabl, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-dâl ar gyfer costau ychwanegol eich anabledd. Fe fydd hyn yn dibynnu ar eich oed ac amgylchiadau eraill. Os ydych yn gofalu am berson anabl yn eu cartref eu hun, efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Cynhaliwr.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau am fod anabledd gennych neu am eich bod yn gofalu am berson anabl, fe fydd cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth yn effeithio ar rai o’r budd-daliadau hyn. Er enghraifft, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Analluogrwydd unwaith yr ydych bum mlynedd dros oed pensiwn y wladwriaeth ac nid ydych yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) pan fyddwch wedi cyrraedd oed pensiwn. Os ydych yn cael Lwfans Cynhaliwr neu Lwfans Anabledd Difrifol, fe fydd unrhyw Bensiwn a gewch gan y Wladwriaeth yn effeithio ar hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau i bobl sy’n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Os ydych yn cael budd-daliadau oherwydd anabledd ac rydych yn agos at oed pensiwn, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw’ch gwr, gwraig neu bartner sifil wedi marw, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Profedigaeth unwaith yr ydych yn cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Ond, efallai y byddwch yn medru cael Pensiwn gan y Wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich diweddar gymar neu bartner sifil.
Mewn rhaid amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru hawlio Taliad Profedigaeth sy’n swm un taliad a geir unwaith yn unig. Fe fydd y penderfyniad i roi Taliad Profedigaeth i chi yn dibynnu ar eich oed pan fu farw eich gwr neu wraig neu bartner sifil ac a oeddent â hawl i Bensiwn y Wladwriaeth ar y pryd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.
Os oes cyfrifoldeb gennych dros blant, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dâl Plant i’r plant a, gan ddibynnu ar eich incwm, Credyd Treth Plant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Plant a Chredyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Os ydych yn gweithio fwy nag 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Gwaith, gan ddibynnu ar eich incwm, arall. Nid oes terfyn oed uchaf ar gyfer Credyd Treth Gwaith. Cofiwch y bydd unrhyw enillion yn effeithio ar fudd-daliadau a chredydau treth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i’ch gwaith pan fyddwch yn hawlio Pensiwn gan y Wladwriaeth, ac nid yw eich enillion yn effeithio arno. Gellir talu Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini hefyd os ydych yn gweithio.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn fudd-dâl i bobl sydd wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth ac mae’n seiliedig ar eu cyfraniadau yswiriant gwladol. Nid oes rhaid eich bod wedi stopio gweithio er mwyn i chi gael Pensiwn y Wladawriaeth. Er eich bod yn medru ei hawlio wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth nid oes rhaid i chi ei hawlio bryd hynny. Os oes well gennych, mae’n bosib i chi aros a’i gael yn nes ymlaen, naill ai fel un tal mawr gyda’ch pensiwn wythnosol arferol neu fel mwy o gyfradd pensiwn wythnosol. Fe fydd hyn yn golygu eich bod yn cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth Ymddeol. Rhaid i chi gyflwyno cais i gael Pensiwn y Wladwriaeth.
Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol eich hun, ond rydych yn briod neu wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y byddwch yn medru cael peth Pensiwn y Wladwriaeth ar sail cyfraniadau yswiriant gwladol eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.
Os ydych yn 80 neu’n hŷn efallai y byddwch yn medru cael peth Pensiwn gan y Wladwriaeth hyd yn oed os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol (gweler y pennawd Pensiwn Ymddeol i bobl dros 80).
Caiff Pensiwn y Wladwriaeth ei weinyddu gan y Gwasanaeth Pensiwn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a gan yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys pensiwn sylfaenol a hefyd unrhyw bensiwn ychwanegol, pensiwn graddedig, neu bensiwn ychwanegol yr ydych yn medru ei hawlio.
Mae yna swm sefydlog o bensiwn sylfaenol. Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol i gael pensiwn llawn, efallai y cewch ganran o’r swm sefydlog.
Erbyn hyn, gelwir pensiwn ychwanegol gan y wladwriaeth yn ail bensiwn y wladwriaeth ond yr hen enw arno oedd ‘SERPS’ (state earnings related pension). Telir SERPS ar ben y pensiwn sylfaenol ac mae’n seiliedig ar eich enillion o 1978 i 2002. O Ebrill 6 2002, os ydych yn gweithio a heb hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, rydych wedi casglu pensiwn ychwanegol o dan gynllun a elwir yn ail bensiwn y wladwriaeth (S2P) ac nid o dan SERPS. Ni fyddwch yn colli unrhyw bensiwn ychwanegol a gasglwyd o dab SERPS.
Ond, os ydych wedi cael eich contractio allan o gynllun pensiwn ychwanegol y wladwriaeth, neu os oeddech wedi eich contractio allan, ac yn cyfrannu at bensiwn galwedigaethol, pensiwn budd-ddaliwr neu gynllun pensiwn personol, ni fyddwch yn casglu unrhyw bensiwn ychwanegol ar gyfer y cyfnod y cewch/cawsoch eich contractio allan.
Os cawsoch eich contractio allan o SERPS/ S2P, efallai y byddwch am sicrhau eich bod wedi gwneud y penderfyniad iawn. Mae rhai pobl hŷn yn debygol o fod ar eu colled yn ariannol trwy gontractio allan.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau gynllunydd contractio-allan defnyddiol ar-lein i’ch helpu i benderfynu ar yr hyn sydd orau i chi. Am wybodaeth bellach, rhowch glic ar www.thepensionsadvisoryservice.org.uk.
Fe fydd y rheolau ynghylch contractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn newid yn Ebrill 2012. O ganlyniad i’r newidaidau, ni fyddwch yn medru contracio allan trwy bensiwn galwedigaethol pwrcais arian, pensiwn personol na phensiwn cyfranddeiliaid.
Os ydych yn cael eich contracio allan trwy un o’r cynlluniau hyn ar 6 Ebrill 2012, fe fyddwch yn dod yn ôl yn awtomatig i Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych yn perthyn i gynllun pensiwn buddion diffinedig, fel cynllun cyflog terfynol, fe allwch barhau i gael eich contracio allan.
Dylai darparwr eich pensiwn gysylltu â chi cyn i’r newidiadau ddigwydd i ddweud wrthych beth sy’n digwydd i’ch cynllun.
Am wybodaeth bellach ar y newidiadau i gontractio allan, rhowch glic ar www.direct.gov.uk.
Mae nifer fach iawn o bobl sy'n hŷn nag oed penodol, wedi cael cyngor anghywir i optio allan o SERPS rhwng Gorffennaf 1988 ac Ebrill 1997. Os ydych yn y grŵp yma o bobl, efallai bod hawl gennych i iawndal.
Yn gyntaf, dylech ysgrifennu at ddarparwr eich pensiwn, gan ofyn iddo esbonio pam y cawsoch eich cynghori i gontractio allan o SERPS ac i adolygu’r sefyllfa i weld os mai dyma oedd y penderfyniad gorau i chi.
Os nad ydych yn hapus â’r ymateb, neu os ydych yn teimlo eich bod wedi cael y cyngor anghywir, fe allwch gwyno trwy ddefnyddio’u proses gwyno fewnol. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, fe allwch fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsman Ariannol.
Os ydych chi angen mwy o help cyn i chi gysylltu â darparwr eich pensiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn www.pensionsadvisoryservice.org.uk.
Os ydych wedi cyfrannu at y pensiwn yn ystod y blynyddoedd hyn ac heb gadw llygad ar yr hyn sydd wedi digwydd iddo, fe allwch gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau (Pensions Tracing Service) yn www.direct.gov.uk.
Os ydych wedi talu cyfraniadau graddedig arbennig ar enillion rhwng 1961 a 1975, efallai y bydd hawl gennych i bensiwn graddedig (a elwir hefyd yn fudd-dâl ymddeol graddedig). Fe fyddwch yn medru cael hwn hyd yn oed os nad oes hawl gennych i unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Ond, mae symiau pensiwn graddedig yn fach, ac felly mae’n bosib y cewch un taliad yn unig yn lle taliadau wythnosol.
Os nad ydych yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, fe fyddwch yn ennill mwy o bensiwn. Os ydych eisoes wedi hawlio eich pensiwn, rydych yn medru canslo’r cais er mwyn ennill mwy o bensiwn yn nes ymlaen, ond dim ond unwaith fyddwch chi’n medru gwneud hyn.
Telir llog ar y pensiwn nad ydych yn ei hawlio fel eich bod yn cael mwy o arian pan fyddwch chi’n hawlio yn nes ymlaen. Telir hwn naill ai fel mwy o swm wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth, neu mae’n bosib i chi gael swm un taliad ar ben eich pensiwn wythnosol arferol. Gelwir y broses o aros cyn hawlio eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn ‘gohirio eich pensiwn’.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch gohirio eich pensiwn ar gael ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk neu dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae mwy o wybodaeth ynghylch gohirio eich pensiwn ar gael ar wefan indirect yn: www.nidirect.gov.uk.
Roeddech chi’n arfer bod yn medru hawlio cynnydd ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth ar gyfer rhywun arall sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.
O 6 Ebrill 2010, ni fydd yn bosib hawlio cynnydd ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn sy’n dibynnu arnoch, fel gŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os oedd hawl gennych i’r cynnydd hwn ar 5 Ebrill 2010, fe fyddwch yn medru ei gadw hyd nes eich bod ddim yn cwrdd â’r amodau cymhwysedd mwyach neu hyd nes 5 Ebrill 2020, pa un bynnag sydd gyntaf.
Os oeddech wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth cyn 5 Ebrill 2003, efallai y bydd hawl gennych i gynnydd ar gyfer eich plant. Rydych yn medru parhau i gael y cynnydd hwn tra’ch bod yn cael Budd-dal Plant
Os oeddech wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am y tro cyntaf ar ol 5 Ebrill 2003, ni fydd hawl gennych i gynnydd ar gyfer eich plant. Dylech hawlio Credyd Treth Plant yn lle.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau i deuluoedd a phlant.
Os ydych yn 80 neu’n hyn, mae hawl gennych i Bensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Gelwir hwn yn bensiwn Categori D. Rydych yn medru ei hawlio os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn gan y Wladwriaeth o gwbl, neu os ydych yn cael Pensiwn gan y Wladwriaeth ond caiff ei dalu ar gyfradd ostyngol sy’n llai na’r pensiwn Categori D. Yn yr achos hwn, fe fyddwch yn cael peth pensiwn Categori D ar ben y Pensiwn yr ydych yn ei gael gan y Wladwriaeth ar y pryd er, mwyn cyrraedd swm y pensiwn Categori D. Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Gyfunol wrth hawlio, a rhaid eich bod wedi byw yma am o leiaf deng mlynedd ers i chi gyrraedd 60.
Os ydych eisoes yn cael peth Pensiwn gan y Wladwriaeth nid oes angen i chi gyflwyno cais am yr arian ychwanegol hwn. Dylai gael ei dalu’n awtomatig. Os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn gan y Wladwriaeth, fe fyddwch yn medru hawlio hyd at bythefnos cyn eich pen-blwydd yn 80 oed, neu pan yr ydych eisoes yn 80. Dylech ddefnyddio’r ffurflen yn nhaflen NI184 sydd ar gael o’r Gwasanaeth Pensiwn neu swyddfa budd-daliadau. Fe fydd yn rhaid i chi roi eich tystysgrif geni ac, os ydych yn fenyw briod, eich tystysgrif priodas, ond os nad yw’r rhain gennych, dylech hawlio a cheisio profi eich dyddiad geni mewn rhyw ffordd arall.
Os ydych yn 80 neu’n hŷn, fe fyddwch hefyd yn cael ychwanegiad oedran o 25 ceiniog yr wythnos gyda pha Bensiwn Ymddeol bynnag yr ydych yn ei gael gan y Wladwriaeth, ac fe fyddwch yn cael Bonws y Nadolig.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am bensiwn Categori D, efallai hefyd y bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn medru helpu. Dylech hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
| Pensiwn y Wladwriaeth | Cyfradd wythnosol o 11 Ebrill 2011 |
| Pensiwn sylafaenol | £102.15 |
| Cynnydd ar gyfer cymar neu berson sy’n gofalu am blant (mae ond yn cael ei dalu os ydych wedi hawlio cyn 6 Ebrill 2010) | £58.50 |
| Cynnydd i blant (mae ond yn cael ei dalu os ydych wedi hawlio cyn 5 Ebrill 2003) | |
| Ar gyfer y plentyn cyntaf | £8.10 |
| Ar gyfer pob plentyn ychwanegol | £11.35 |
| Ychwanegiad oed i'r rheiny syded dros 80 | £0.25 |
| Pensiwn y Wladwriaeth i bobl dros 80 sydd heb dalu digon o yswiriant gwladol | £61.20 |
Dylai’r Gwasanaeth Pensiwn gysylltu â chi cyn i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth gan esbonio sut y medrwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydynt yn cysylltu â chi, dylech gysylltu â’r swyddfa budd-daliadau lleol, y Gwasanaeth Pensiwn (gweler www.direct.gov.uk am fanylion cysylltiadau yn eich ardal chi) neu linell hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar 0800 731 7898 neu ffôn testun: 0800 731 7339.
Rydych hefyd yn medru hawlio ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: www.dwp.gov.uk.
Mae yna linell iaith Gymraeg hefyd, sef: 0800 731 7936 neu ffôn testun: 0800 731 7013.
Yng Ngogledd Iwerddon dylech gysylltu â’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol mewn swyddfa nawdd cymdeithasol leol neu trwy’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0808 100 2658 (ffôn testun 0808 100 2198). Neu rydych yn medru hawlio ar-lein ar wefan yr Adran Datblygu Cymdeithasol (Department for Social Development) ar: www.dsdni.gov.uk.
Y ffurflen hawlio ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth yw BR19. Os ydych yn cysylltu dros y ffôn, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn medru eich helpu chi i hawlio dros y ffôn. Ni fyddwch yn cael ffurflen hawlio. Ar ddiwedd yr alwad ffôn, dylech gael gwybod faint o Pensiwn y Wladwriaeth sy'n ddyledus i chi.
Nid oes rhaid i chi hawlio eich pensiwn wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, ac os ydych yn penderfynu ei ohirio, nid oes rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn. Pan fyddwch chi’n hawlio, dylech ddefnyddio ffurflen BR19 sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol, y Gwasanaeth Pensiwn neu’r gwasanaeth hawlio dros y ffôn cenedlaethol.
Pan fyddwch chi’n llunio’ch cais am Bensiwn y Wladwriaeth, rhaid i chi gynnwys eich rhif yswiriant gwladol.
Fe fydd yn rhaid i chi ddangos hefyd mai eich rhif chi ydyw trwy brofi pwy ydych chi, er enghraifft, trwy roi eich tystysgrif geni neu eich pasport. Os ydych yn credu bod rhif yswiriant gwladol gennych ond nid ydych yn gwybod beth ydyw, dylech gynnwys gwybodaeth i helpu’r swyddfa i ddod o hyd iddo. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un cyn y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Fe fydd y rhaid i chi brofi eich bod wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, er enghraifft, trwy ddarparu eich tystysgrif geni, pasport neu gofnodion iechyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Os ydych yn cael trafferth wrth geisio darparu eich rhif yswiriant gwladol neu wrth brofi pwy ydych chi, neu os ydych yn cael trafferth profi eich dyddiad geni, dylech ddweud wrth cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn briod, wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ac nid ydych yn medru cael cyfradd lawn Pensiwn y Wladwriaeth oherwydd nad oes digon o gyfraniadau gennych, efallai y byddwch yn medru hawlio peth pensiwn ar sail cyfraniadau eich gwr, gwraig neu bartner sifil.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a lefel eich cofnod cyfraniadau a chofnod cyfraniadau eich gwr, gwraig neu bartner sifil. Efallai y cewch lai na’r swm sylfaenol. Mae’r rheolau yn gymhleth iawn ac maen nhw’n gweithio’n wahanol gan ddibynnu a ydych yn dal i fod yn briod ac a yw’ch cymar yn fyw, os ydych wedi ysgaru neu os ydych yn wr neu’n wraig gweddw. Os ydych yn bartner sifil, mae'r rheolau'n dibynnu a yw'ch partner sifil yn fyw ac a yw'ch partneriaeth sifil wedi cael ei dileu.
Os ydych am wybod mwy am ddefnyddio cyfraniadau yswiriant gwladol eich cymar neu'ch partner sifil, fe allwch holi’r Gwasanaeth Pensiwn.
Fe fyddwch hefyd yn medru holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fyddwch yn medru parhau i gael Pensiwn y Wladwriaeth tra’ch bod chi yn yr ysbyty. Ni fydd eich cyfnod yn yr ysbyty yn effeithio ar unrhyw bensiwn ychwanegol (SERPS neu ail bensiwn y wladwriaeth) a gewch chwaith.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’ch budd-daliadau pan fyddwch chi’n mynd i’r ysbyty, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn mynd dramor i fyw, fe fyddwch yn dal i fedru cael eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Mewn rhai gwledydd (gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a rhai gwledydd sydd â chytundebau gyda’r Deyrnas Gyfunol), fe fyddwch yn medru cael y cynnydd blynyddol yn eich pensiwn a fyddai’n cael ei dalu pe byddech yn dal i fyw yn y DG. Ym mhob gwlad arall, fe fydd eich pensiwn yn aros ar yr un gyfradd ac ni fyddwch yn cael cynnydd blynyddol. Dylech ddweud wrth Ganolfan Pensiwn Rhyngwladol y Gwasanaeth Pensiwn eich bod yn mynd i fyw tramor trwy ffonio 0191 218 7777 (ffacs 0191 218 7293), neu ysgrifennu atynt i International Pension Centre, Tyneview Park, Newcastle upon Tyne NE98 1RA.
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ac rydych yn mynd i fyw dramor, fe allwch holi cynghorydd profiadol hefyd, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae taliad tanwydd y gaeaf yn daliad di-dreth ar gyfer pobl sy’n 60 neu’n hyn.
Caiff Taliad Tanwydd y Gaeaf ei dalu bob blwyddyn dros fisoedd y gaeaf i helpu gyda’ch costau tanwydd. Ond, fe allwch ddewis sut fyddwch chi’n defnyddio’r arian. Nid yw Taliadau Tanwydd y Gaeaf yn dibynnu ar ba mor oer yw’r tywydd. Mae yna daliadau eraill a delir dim ond pan fydd y tywydd yn cyrraedd tymheredd penodol, a elwir yn Daliadau Tywydd Oer. Rhoddir y rhain i bobl sydd ar rai budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ystod cyfnodau o dywydd oer.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Taliadau Tywydd Oer, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Os ydych yn fenyw, fe fyddwch yn medru hawlio Taliad Tanwydd y Gaeaf wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth. Rhaid i chi fod wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth erbyn yr wythnos gymhwyso ar gyfer y gaeaf dan sylw. Mae’r wythnos gymwys bob amser yn dechrau ar y trydydd Dydd Llun ym mis Medi.
Os ydych yn ddyn, fe fyddwch yn medru hawlio Taliad Tanwydd y Gaeaf wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw gyda’r un dyddiad geni â chi. Rhaid eich bod wedi cyrraedd yr oed hwn erbyn yr wythnos gymhwyso ar gyfer y gaeaf dan sylw. I fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd y Gaeaf ar gyfer gaeaf 2011/2012 rhaid eich bod wedi cael eich geni ar 5 Ionawr 1951 neu cyn y dyddiad yma.
Mae yna rai pobl sydd ddim yn medru cael taliad, hyd yn oed os ydynt wedi cyrraedd yr oed cymwys. Ni fyddwch yn cael Taliad Tanwydd y Gaeaf os ydych:
Fel arfer, rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf ac ni ddylai fod amodau mewnfudo ar eich cyfnod yma. Ond, os ydych eisoes yn gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf, fe fyddwch yn medru ei gael o hyd os ydych yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Os nad ydych yn siŵr a fedrwch chi gael taliad tanwydd y gaeaf, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ar gyfer gaeaf 2011/12 mae Taliad Tanwydd y Gaeaf rhwng £100 a £300, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae manylion y cyfraddau ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Os nad ydych yn siŵr pa gyfradd Taliad tanwydd y gaeaf y medrwch ei hawlio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o bobl sydd â hawl i Daliad tanwydd y gaeaf gyflwyno cais. Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl, Budd-dâl Analluogrwydd, Budd-dâl Anabledd Anafiadau Diwydiannol, Lwfans Cynhaliwr, Lwfans Anabledd Difrifol neu Fudd-dâl Profedigaeth, ac rydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn yn ystod yr wythnos gymwys ni fydd angen i chi ofyn amdano. Rhoddir Taliad tanwydd y gaeaf yn awtomatig.
Os ydych wedi hawlio Taliad tanwydd y gaeaf yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn flaenorol ac nid yw eich amgylchiadau wedi newid, ni fydd angen i chi gyflwyno cais cyn i chi ei gael.
Os nad ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn yn ystod yr wythnos gymwys, ac nid ydych wedi llwyddo i hawlio Taliad tanwydd y gaeaf o’r blaen, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais. Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi beth bynnag ac yn anfon ffurflen gais atoch. Os na fydd hyn yn digwydd, fe fyddwch yn medru cael ffurflen gais gan Linell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf neu ar wefan Directgov yn www.directgov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru cael ffurflen gais gan Linell Gymorth Taliadau Tanwydd y gaeaf neu oddi ar wefan nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Ar gyfer gaeaf 2011/2012, dylech gyflwyno eich cais rhwng Awst 2011 a 30 Mawrth 2012.
Nid ydych yn medru hawlio Taliad tanwydd y gaeaf ar gyfer y rhan fwyaf o aeafau blaenorol. Ond, os oeddech yn 60 neu'n hyn mewn wythnosau cymwys o 1997/1998 i 1999/2000, ac ni chawsoch Daliad tanwydd y gaeaf am nad oeddech yn cael budd-dâl cymwys, rydych yn medru hawlio un nawr. Nid oes terfyn amser ar gyfer hawlio. Fe fyddwch yn medru cael ffurflen gais oddi ar wefan Directgov yn www.directgov.uk neu o linell gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf- gweler y pennawd Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf, isod.
Mae Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf ar 0845 915 1515 (ffôn testun 0845 601 5613). Rydych yn medru defnyddio’r llinell gymorth hon ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch Taliadau Tanwydd y Gaeaf, neu i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd os ydych yn disgwyl taliad ac mae’n hwyr.
Os ydych wedi cyflwyno cais am Daliad tanwydd y gaeaf ac nid ydych yn cael y taliad, neu mae’n llai nag y dylech ei gael yn eich barn chi, mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad a wnaed ynghylch eich cais. Os nad ydych wedi cyflwyno cais, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf a gofyn am benderfyniad ffurfiol. Unwaith y cewch benderfyniad, fe fyddwch yn medru gofyn i’r swyddfa i ailystyried y penderfyniad neu apelio. Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd y Gaeaf neu’r Gwasanaeth Pensiwn, er enghraifft, oherwydd camgymeriadau neu oedi, fe fyddwch yn medru cwyno. Mae’n bosib i chi wneud hyn waeth a ydych hefyd am herio penderfyniad ai peidio.
Am fwy o wybodaeth am herio penderfyniad ynghylch budd-dâl ac am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad ynghylch taliad tanwydd y gaeaf neu os ydych am gwyno, fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn, fe fydd hawl gennych i Fonws y Nadolig. Fel arfer, mae’n £10 y flwyddyn. Mewn rhai achosion, rydych hefyd yn medru cael bonws ar gyfer eich partner.
Ni thelir Bonws y Nadolig i bobl sy’n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn yn unig - mae’n medru cael ei dalu hefyd i rai pobl sy’n cael budd-daliadau anabledd neu fudd-daliadau profedigaeth.
I ddarganfod mwy am Fonws y Nadolig, ewch at wefan Directgov yn www.direct.gov.uk neu ffoniwch y llinell ymholiadau arbennig ar 0800 141 2591.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan Nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Bonws y Nadolig, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dâl i bobl dros chwedeg. Mae’n seiliedig ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn.
Mae Credyd Pensiwn yn cynnwys credyd gwarant a chredyd cynilion. Mae credyd gwarant Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm wythnosol hyd at lefel sydd wedi’i warantu. Mae’r credyd cynilion ar gyfer pobl sydd â swm bach o’u hincwm eu hun neu gynilion. Efallai y bydd hawl gennych i gredyd gwarant gyda’r credyd cynilion, neu’r ddau. Rydych yn medru hawlio Credyd Pensiwn waeth a ydych yn dal i fod yn gweithio ai peidio. Nid oes angen i chi fod wedi talu unrhyw gyfraniadau yswiriant gwladol.
Caiff Credyd Pensiwn ei weinyddu gan y Gwasanaeth Pensiwn.
Os ydych yn fenyw, i hawlio Credyd Pensiwn rhaid eich bod chi wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Os ydych yn ddyn, rydych yn medru hawlio Credyd Pensiwn wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi.
Rydych yn hawlio Credyd Pensiwn i chi’ch hun a'ch partner sy’n byw gyda chi. Os ydych chi, eich partner, neu’r ddau ohonoch yn byw'n barhaol mewn cartref gofal fe fydd yn rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Pensiwn fel person sengl fel arfer.
Mae yna reolau gwahanol ar gyfer cael y credyd gwarant a’r credyd cynilion. Cofiwch, efallai y bydd hawl gennych i’r ddau, ac felly mae’n werth i chi roi’r holl fanylion ar y ffurflen gais.
Os ydych yn fenyw, rydych yn medru hawlio credyd gwarant wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth.
Os ydych yn ddyn, rydych yn medru hawlio credyd gwarant wedi i chi gyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi. Nid oes gwahaniaeth beth yw oed eich partner.
Rhaid eich bod yn byw yn y Deyrnas Unedig ac ni ddylai fod unrhyw reoliadau mewnfudo arnoch tra’ch bod chi yma a fyddai’n eich atal rhag hawlio budd-daliadau. Rhaid bod eich incwm yn is na swm penodol hefyd. Mae’r swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Nid oes terfyn ar faint o gyfalaf – cynilion ac eiddo - sydd gennych, ond fe fyddwch yn cael eich trin fel petai gennych incwm o unrhyw gyfalaf dros £10,000. Ond, mae rhai mathau o gyfalaf yn cael eu hanwybyddu, er enghraifft, eich eiddo personol a’r cartref yr ydych yn berchen arno ac yn byw ynddo. Mae rhai mathau penodol eraill o eiddo hefyd yn cael eu hanwybyddu. Am fanylion llawn y mathau eraill o eiddo sy’n cael eu hanwybyddu, dylech gael cyngor.
Fe fyddwch yn medru cael y credyd cynilion os ydych chi neu eich partner yn 65 neu’n hyn. Nid oes gwahaniaeth pa un ohonoch sy’n cyflwyno’r cais am Gredyd Pensiwn. Rhaid eich bod chi’n byw yn y Deyrnas Gyfunol ac ni ddylai fod unrhyw reolaethau mewnfudo ar eich cyfnod yma a fyddai’n eich atal rhag hawlio budd-daliadau. Rhaid bod gennych fwy na swm penodol o incwm, ond nid cymaint fel nad ydych yn cael unrhyw gredyd cynilion.
Pan fyddwch chi’n gofyn am Gredyd Pensiwn, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn cyfrifo os oes hawl gennych i unrhyw gredyd gwarant yn gyntaf ac, os felly, faint. Yna, fe fydd yn edrych i weld a fedwch chi gael unrhyw gredyd cynilion.
Caiff eich incwm wythnosol (sy’n cynnwys incwm eich partner os ydych yn byw gyda’ch partner) ei gymharu at swm penodol wythnosol o’r enw ‘gwarant isafswm perthnasol’. Fe fydd yr gwarant isafswm perthnasol yn amrywio o berson i berson oherwydd,mae’n cynnwys elfennau gwahanol sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae cyfraddau’r elfennau gwahanol yn sefydlog ac fel arfer cânt eu cynyddu bob mis Ebrill.
Fe fyddwch ond â hawl i gredyd gwarant os yw’ch incwm yn llai na’r gwarant isafswm perthnasol. Dim ond mathau penodol o incwm sy’n cyfrif ar gyfer Credyd Pensiwn ac ni fydd eich holl incwm yn cael ei ystyried, sy’n golygu nad ydyw’n effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Caiff incwm o fath arall ei ddiystyru’n rhannol, sy’n golygu bod modd i chi gael swm penodol bob wythnos cyn iddo effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Er enghraifft, caiff cynhaliaeth plant, Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini eu diystyru’n llwyr. Fe fydd cynilion dros £10,000 yn codi eich incwm £1 yr wythnos am bob £500 ychwanegol (neu ran o £500).
Swm eich credyd gwarant yw’r gwahaniaeth rhwng eich gwarant isafswm perthnasol a’ch incwm. Os yw’ch incwm yn fwy na’ch gwarant isafswm perthnasol, ni fyddwch yn cael unrhyw gredyd gwarant, ond efallai y cewch beth credyd cynilion.
Mae eich gwarant isafswm perthnasol yn cynnwys gwarant isafswm safonol sy’n swm sefydlog ar gyfer person sengl ac yn swm sefydlog ar gyfer pâr. Os oes anghenion ychwanegol gennych, er enghraifft, am eich bod yn anabl, fe fydd symiau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at eich gwarant isafswm perthnasol. Mae yna symiau ychwanegol ar gyfer anabledd difrifol ac ar gyfer gofalu am berson anabl. Os ydych wedi cael eich symud at Gredyd Pensiwn o Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, efallai hefyd y byddwch yn cael swm ychwanegol i sicrhau nad ydych yn waeth eich byd.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynghylch symiau ychwanegol mewn credyd gwarant, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os oes morgais neu fenthyciad cartref gennych, efallai y byddwch yn medru cael swm ychwanegol i helpu gyda llog eich morgais. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help tuag at beth costau tai eraill, er enghraifft, rhent fe tenant y Goron, rhent tir neu les cyfnod hir a pheth costau gwasanaeth. Ond, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, os ydych yn rhentu eich cartref, ni fyddwch yn medru cael unrhyw gredyd gwarant ar gyfer costau tai a dylech hawlio Budd-dâl Tai yn lle.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dâl Tai.
Os oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref heblaw am eich partner, eich landlord, neu gydberchennog, tenant neu letywr, gellir gwneud didyniad o’r costau tai y mae’r credyd gwarant yn medru eu cynnwys. Efallai y bydd hyn yn berthnasol, er enghraifft, os oes mab neu ferch sy’n oedolyn yn byw gyda chi.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch y credyd gwarant, fe allwch glicio ar www.direct.gov.uk neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch credyd gwarant, rhowch glic ar www.nidirect.gov.uk.
Mae faint o gredyd cynilion sydd ar gael i chi yn dibynnu a yw’ch incwm wythnosol yn fwy neu’n llai na’r ‘terfyn credyd cynilion’. Mae hon yn gyfradd a osodir bob blwyddyn ac mae’n dibynnu a ydych chi’n berson sengl neu’n aelod o bâr. Os yw’ch incwm yn llai na’r terfyn credyd cynilion neu’r un peth, ni fyddwch yn cael unrhyw gredyd cynilion. Os yw’ch incwm yn fwy na’r terfyn credyd cynilion, efallai y cewch beth gredyd cynilion. Ond, os yw’ch incwm yn fwy na’ch ‘gwarant isafswm incwm perthnasol’ (gweler y pennawd Faint o gredyd gwarant), efallai y bydd yn rhy uchel i gael unrhyw gredyd cynilion.
Mae’r broses o gyfrifo credyd cynilion yn gymhleth. Fe fyddwch yn medru cael gwybod mwy am y cyfrifiad yn www.direct.gov.uk neu holwch gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae mwy o wybodaeth ynghylch cyfrifiad credyd cynilion yn www.dsdni.gov.uk.
Fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais am Gredyd Pensiwn. Dylech hawlio Credyd Pensiwn ar ffurflen PC1. Rydych yn medru cael hwn dros y ffôn, neu yn bersonol yn un o gymorthfeydd Gwasanaeth Pensiwn, swyddfa budd-dâl neu swyddfa Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor awdurdod lleol. Y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer Credyd Pensiwn yw 0800 99 1234 (ffôn testun 0800 169 0133). Yng Ngogledd Iwerddon llinell gais y Gwasanaeth Pensiwn yw 0808 100 6165 (ffôn testun 0808 1001165) Mae yna wybodaeth hefyd ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk ac yng Ngogledd Iwerddon yn www.dsdni.gov.uk ac mae’r ffurflen gais ar gael yma hefyd,
Os digwydd i chi ffonio, fe fydd staff y Gwasanaeth Pensiwn yn medru llenwi ffurflen gais dros y ffôn a’i anfon atoch er mwyn i chi ddarllen trwyddi a’i harwyddo, os byddai hyn o gymorth i chi.
Er mwyn cyflwyno cais dilys am Gredyd Pensiwn, rhaid i chi roi gwybodaeth benodol, fel arfer o fewn un mis i gyflwyno eich cais. Er enghraifft, fe fydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch neu dystiolaeth i alluogi’r Gwasanaeth Pensiwn i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd rhaid i chi ofyn am un.
Am fwy o wybodaeth ynghylch rhifau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant Gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.
Fe fydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi hefyd. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn trwy ddarparu dogfen fel trwydded yrru, tystysgrif geni, priodas neu bartneriaeth sifil, neu basport. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy nag un darn o dystiolaeth. Os nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol gennych, ceisiwch roi cymaint o dystiolaeth arall a ffeithiau amdanoch chi’ch hun â phosib.
Fe fydd rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch incwm hefyd. Gallai’r dystiolaeth hon gynnwys, er enghraifft, slipiau pensiwn, prawf o gostau gwasanaeth, prawf o unrhyw arian arall sy’n dod i mewn. Rhaid i chi anfon neu ddangos dogfennau gwreiddiol i’r Gwasanaeth Pensiwn, nid llungopïau. Fe fyddant yn cael eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosib.
Os ydych angen help pellach i hawlio, fe allwch ffonio rhif cenedlaethol y Gwasanaeth Pensiwn neu holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, rydych chi’n cael Credyd Pensiwn o’r dyddiad yr ydych yn cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn am y tro cyntaf i ddweud wrthynt eich bod am hawlio. Fe fydd yn rhaid i chi roi’r holl wybodaeth sydd ei angen i gefnogi eich cais o fewn un mis. Ond, efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn am gyfnod o hyd at dri mis cyn i chi gyflwyno eich cais. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. O 6 Hydref 2008, efallai y byddwch yn medru cael Credyd Pensiwn wedi'i ôl-ddyddio am gyfnod byrrach o dri mis. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros hawlio’n hwyr tra’ch bod chi’n esbonio ar eich ffurflen gais pryd y dechreuodd eich hawl i Gredyd Pensiwn.
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid mewn amgylchiadau, sy’n effeithio ar eich Credyd Pensiwn. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad, ac fe fydd yn rhaid ei ad-dalu. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn a gofyn i chi dalu dirwy.
Os ydych yn poeni eich bod yn cael eich amau o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, fe fydd Credyd Pensiwn yn cael ei dalu yn syth i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn eich holi ynghylch cael eich arian wedi ei dalu yn syth i mewn i gyfrif ond nid oes rhaid i chi gael eich talu fel hyn os ydyw’n creu problemau i chi. Mae’n bosib talu Credyd Pensiwn trwy anfon siec atoch yn y post ac fe fyddwch yn medru cyfnewid y siec yn y Swyddfa Bost. Os nad ydych yn medru casglu eich Credyd Pensiwn yn bersonol, efallai y byddwch yn medru trefnu i rywun arall wneud hyn ar eich rhan - gweler y pennawd Os ydych angen help i hawlio neu gasglu eich budd-dâl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ffyrdd o dalu, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych yn cael unrhyw gredyd gwarant (ar ei ben ei hun neu gyda chredyd cynilion), fe fyddwch yn cael uchafswm yr help yn awtomatig pan fyddwch chi’n ceisio am fudd-daliadau eraill, ac fe fyddwch yn cael help gyda chostau penodol. Os ydych yn cael credyd cynilion ar ei ben ei hun, efallai y byddwch yn dal i fedru cael help gyda rhai o’r costau hyn.
Os ydych ar gredyd gwarant, mae’n golygu y byddwch yn medru cael uchafswm Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Fe fyddwch hefyd yn cael help gyda chostau iechyd, er enghraifft, presgripsiynau rhad ac am ddim a help gyda chost ffioedd llys.
Os ydych ar gredyd cynilion neu gredyd gwarant, mae hyn yn golygu y byddwch yn medru gofyn am help gan y Gronfa Gymdeithasol, er enghraifft, benthyciadau cyllidebu, grantiau gofal cymunedol a thaliadau angladd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help o fath arall y gallech ei hawlio, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Os ydych wedi cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac wedi cael eich gwrthod, neu os ydych yn credu bod y swm a ddyfarnwyd i chi yn anghywir, fe allwch ofyn i’r Gwasanaeth Pensiwn ailystyried y penderfyniad, neu fe allwch apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan y Gwasanaeth Pensiwn, er enghraifft, oherwydd oedi neu gamgymeriadau, dylech gwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych hefyd yn herio penderfyniad ynghylch Credyd Pensiwn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau, ac ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Credyd Pensiwn neu os ydych am gwyno fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych angen help i hawlio neu gasglu eich budd-daliadau, fe allwch ofyn i rywun arall fod yn berson penodedig (appointee) neu’n asiant ar eich rhan. Mae person penodedig yn medru cymryd y cyfrifoldeb o hawlio a chasglu eich budd-dâl os nad ydych yn medru gwneud hyn eich hun. Ni fydd asiant yn medru hawlio ar eich rhan, ond fe fyddwch yn medru trefnu i asiant gasglu eich budd-dâl o fanc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost os nad ydych yn medru gwneud hynny eich hun.
Os ydych am benodi rhywun fel person penodedig neu asiant, neu rydych am ddod yn berson penodedig neu’n asiant i berson oedrannus sy’n adnabyddus i chi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.