Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Lwfans Ceisio Gwaith

Mae Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn fudd-dâl i bobl sy’n ddi-waith ond sy’n medru gweithio. Er mwyn cael Lwfans Ceisio Gwaith mae’n rhaid i chi fodloni nifer o amodau eraill hefyd, sy’n cynnwys dangos eich bod chi’n chwilio am waith.

Efallai y byddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm neu fudd-daliadau eraill yn lle Lwfans Ceisio Gwaith os nad oes yn rhaid i chi fod ar gael i weithio o dan gyfraith budd-daliadau. Efallai bod hyn am eich bod chi’n sâl neu’n anabl, rydych yn gofalu am berson anabl, neu rydych yn rhiant unigol mewn rhai amgylchiadau. Os nad oes yn rhaid i chi fod ar gael i weithio, ni fyddwch yn gorfod cofrestru na chwilio am waith.

I ddarganfod mwy am Gymhorthdal Incwm a help o fath arall i bobl ar incwm isel, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Nôl i’r brig


Y ddau fath o Lwfans Ceisio Gwaith

Mae yna ddau fath o Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau (dim prawf moddion) a Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm (prawf moddion). Pan fyddwch chi’n gofyn am Lwfans Ceisio Gwaith, fe fydd swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu pa fath ddylech chi ei gael. Efallai y cewch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau ar ei ben ei hun, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n b ar incwm ar ei ben ei hun neu gyfuniad o’r ddau.

Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau

Fe fydd y penderfyniad i roi Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau i chi yn dibynnu ar eich cyfraniadau yswiriant gwladol. Os ydych wedi bod yn gweithio ac yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol o fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, efallai y byddwch yn gymwys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Ni chaiff Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau ei effeithio gan unrhyw gynilion sydd gennych. Ond, os oes enillion rhan amser gennych neu bensiwn galwedigaethol neu bersonol, fe allai hyn effeithio ar faint o lwfans a gewch. Er enghraifft, mae swm y LCG a gewch yn cael ei dorri, punt am bunt, am unrhyw bensiwn galwedigaethol sydd dros £50 yr wythnos. Os ydych yn ennill gormod, ni fyddwch yn cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau o gwbl.

Fe fyddwch ond yn cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau ar eich cyfer chi eich hun, felly ni fyddwch yn cael swm ar gyfer eich partner os ydych yn hawlio fel un o bâr. Ond, efallai y cewch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm ar ben eich Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau os oes partner gennych, neu oherwydd eich amgylchiadau personol - er enghraifft, os ydych yn anabl neu’n gofalu am berson anabl neu mae’n rhaid i chi dalu morgais.

Telir Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau am uchafswm o chwe mis. Ar ôl hynny, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, gan ddibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.

Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm

Efallai y cewch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm os nad oes gennych ddigon o gyfraniadau yswiriant gwladol i gael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fe fyddwch hefyd yn medru ei gael ar ben Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau oherwydd bod partner gennych, neu oherwydd amgylchiadau personol eraill - er enghraifft, os ydych yn anabl neu’n gofalu am berson anabl neu â chostau tai. Mae’r penderfyniad i roi Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm i chi yn dibynnu ar eich incwm a’ch cyfalaf.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n medru cael Lwfans Ceisio Gwaith

Eich oed

Fel arfer, fe fyddwch chi ond yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych yn 18 neu’n hŷn. Rhaid eich bod chi hefyd yn iau nag oed pensiwn y wladwriaeth. Os ydych yn ddyn sy’n iau na 65 ond yn hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth i fenyw o’ch oed chi, fe allwch ddewis hawlio Credyd Pensiwn yn lle Lwfans Ceisio Gwaith, heb orfod cofrestru fel person di-waith.

Rydych yn medru cyfrifo union ddyddiad eich oed pensiwn y wladwriaeth trwy ddefnyddio’r cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov. Rhowch glic ar: (New window) www.directgov.uk.

Os ydych yn hyn nag oed pensiwn, efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Pensiwn yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros 60.

Os ydych yn ddi-waith ac yn iau na 18, ac nid ydych mewn addysg llawn amser, efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. I ddarganfod mwy, dylech holi cynghorydd profiadol - er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Rydych chi’n byw yn y Deyrnas Gyfunol

Rhaid eich bod chi’n byw yn y Deyrnas Gyfunol cyn y medrwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych yn dod o dramor neu wedi dod i fyw yn y DG yn ddiweddar, efallai y cewch drafferth hawlio’r budd-dâl, gan ddibynnu ar eich statws mewnfudo.

Os nad ydych yn siŵr am eich hawl i hawlio budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ddim mewn addysg nac yn astudio

Ni fyddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith os ydych mewn addysg mewn ysgol neu ar lefel debyg. Ni fydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith, ond os ydych yn fyfyriwr rhan amser, efallai y byddwch yn medru ei gael.

Os ydych yn fyfyriwr rhan amser ac eisiau hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ddim yn gweithio neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos

I hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, rhaid eich bod chi ddim yn gweithio o gwbl, neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos. Os ydych yn byw gyda phartner ac yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, rhaid bod eich partner naill ai ddim yn gweithio neu’n gweithio llai na 24 awr yr wythnos. Os ydych chi neu eich partner yn gweithio 16 awr neu fwy, efallai y byddwch yn medru cael Credyd Treth Gwaith yn lle.

Os ydych yn gweithio llai nag 16 awr, neu mae eich partner yn gweithio llai na 24 awr, fe fydd faint o Lwfans Ceisio Gwaith y byddwch yn medru ei gael yn dibynnu ar eich enillion. Os ydych yn ennill gormod, ni fyddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau. Fe fydd hefyd rhaid i chi chwilio am swydd llawn amser fel rhan o’r amodau ar gyfer cael Lwfans Ceisio Gwaith. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i’ch partner chwilio am waith llawn amser hefyd.

Am fwy o wybodaeth ar Gredyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.

Os ydych yn gweithio’n rhan amser ac am wybod a fedrwch chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, dylech holi cynghorydd profiadol - er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Eich incwm a’ch cyfalaf

Rhaid bod eich incwm a’ch cyfalaf yn is na swm penodol (gweler y pennawd Faint o Lwfans Ceisio Gwaith fedrwch chi ei gael).

Medru gweithio

Rhaid eich bod chi’n medru gweithio i gael Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych yn rhy sâl i weithio efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu fudd-daliadau eraill i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Am fwy o wybodaeth ar y budd-daliadau y mae’n bosib y medrech eu hawlio, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Amodau ceisio gwaith

Er mwyn cael Lwfans Ceisio Gwaith, rhaid i chi ddangos eich bod yn bodloni amodau penodol sy’n gysylltiedig â chwilio am waith. Rhaid i chi fod yn ceisio gwaith yn weithgar, rhaid eich bod chi ar gael i weithio a rhaid bod gennych Gytundeb Ceisio Gwaith cyfredol gyda swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith. Yng Ngogledd Iwerddon mae hwn gyda’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency). Mae Cytundeb Ceisio Gwaith yn ddogfen sy’n nodi’r hyn yr ydych wedi cytuno i’w wneud i ddod o hyd i waith. Fe fydd yn rhaid i chi gofrestru gyda swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith o leiaf pob pythefnos fel y gallant weld os ydych yn cwrdd â’r amodau hyn ac i weld os oes angen help ychwanegol arnoch i ddod o hyd i waith. Gellir eich galw i mewn i swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith ar unrhyw adeg ac os ydynt yn credu nad ydych yn cadw at eich Cytundeb Ceisio Gwaith, gellir cwtogi neu stopio eich budd-dâl, (gweler y pennawd Lwfans Ceisio Gwaith a sancsiynau).

Os ydych yn un o bâr sy’n byw gyda’ch gilydd (ac nid oes gennych blentyn dibynnol) fel arfer mae’n rhaid i chi a’ch partner gwrdd â’r amodau ceisio gwaith i gael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’r ddau ohonoch gofrestru a chwilio am waith.

Os ydych yn un o bâr ac eisiau gwybod a oes rhaid i’r ddau ohonoch gofrestru, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ar gael i weithio a cheisio gwaith yn weithgar

Ar gael i weithio

Rhaid eich bod chi ar gael i weithio er mwyn cael Lwfans Ceisio Gwaith. Fel arfer, mae hyn yn golygu bod yn rhaid eich bod chi’n medru dechrau swydd ar unwaith. Ond, mae hyn yn wahanol os ydych yn gofalu am rywun neu’n gwneud gwaith gwirfoddol. Os oes cyfrifoldebau gofalu gennych, neu os ydych chi'n gwneud gwaith gwirfoddol, rhaid eich bod chi ar gael i ddechrau gwaith ar rybudd o wythnos, ond rhaid eich bod chi ar gael ar gyfer cyfweliad am swydd o fewn 48 awr o rybudd. Mae’r amserau hyn yn hirach os ydych yn gyfrifol am ofalu am blentyn dan 16.

Os oes cyflwr meddygol arnoch, efallai y byddwch yn medru cyfyngu eich hun at fathau penodol o swyddi neu swyddi lle mae’n rhaid i chi weithio oriau penodol yn unig. Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth feddygol i’ch galluogi i gyfyngu eich argaeledd ar gyfer gwaith fel hyn. Ond, os yw’ch cyflwr meddygol neu anabledd yn golygu y byddai’n anodd i chi ddod o hyd i waith addas, efallai na fyddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith ac fe fydd yn rhaid i chi hawlio budd-daliadau eraill yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os ydych yn sâl neu’n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn dan 16, efallai y byddwch yn medru cyfyngu ar yr adegau yr ydych ar gael i weithio. Efallai y byddwch yn medru cyfyngu ar yr adegau yr ydych ar gael i weithio fel eich bod ond ar gael i weithio 16 awr yr wythnos. Os yw’ch plentyn dan 13, efallai hefyd yn byddwch yn medru cyfyngu ar yr adegau yr ydych ar gael i weithio fel eich bod ar gael yn ystod oriau ysgol arferol eich plentyn yn unig.

Yn ystod gwyliau ysgol ac os yw’ch plentyn wedi ei (g)wahardd o’r ysgol, efallai y byddwch yn cael hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Efallai y byddwch yn medru gwneud hyn er nad ydych ar gael i weithio oherwydd eich cyfrifoldebau gofal plant. Ond, mae’n rhaid i chi ddangos nad yw’n resymol i chi wneud unrhyw drefniadau gofal plant eraill. Er enghraifft, efallai am nad oes gofal plant addas ar gael yn eich ardal chi, neu am ei fod yn rhy ddrud.

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm fel un o bâr, efallai y bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch fod ar gael i weithio.

Am fwy o wybodaeth ar gyfyngu eich argaeledd ar gyfer gwaith ac ystyr bod 'ar gael i weithio', dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ceisio gwaith yn weithgar

Yr holl amser y byddwch yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, rhaid i chi ddangos eich bod yn ceisio gwaith yn weithgar. Fe fydd yn rhaid i chi brofi eich bod wedi cymryd camau rhesymol i ddod o hyd i waith, er enghraifft, eich bod wedi ceisio am swyddi gwag, darllen hysbysebion, neu gofrestru gydag asiantaethau cyflogaeth. Dylech gadw cofnod o bob cam a gymerwch i ddod o hyd i waith, yn ogystal â chopïau o hysbysebion yr ydych yn ymateb iddynt a llythyron yr ydych yn eu hanfon a’u derbyn ynghylch swyddi. Fe fydd yn rhaid i chi fynd i swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith yn rheolaidd i ddangos eich bod yn dal i gymryd camau i ddod o hyd i waith.

Os ydych yn parhau i fod yn ddi-waith, fe fyddwch yn cael cyfweliadau mwy manwl gyda swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith, a fydd yn medru eich cyfeirio chi at gyflogwyr penodol neu wneud i chi ehangu’r amrywiaeth o swyddi yr ydych yn chwilio amdanynt. Unwaith y byddwch wedi bod yn ddi-waith am sawl mis, fwy na thebyg y bydd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth gorfodol, fel y Rhaglen Waith, sy’n medru cynnwys profiad gwaith neu hyfforddiant.

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm fel un o bâr, efallai y bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch geisio gwaith yn weithgar (gweler y pennawd Amodau ceisio gwaith).

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau gorfodol ar gyfer pobl ddi-waith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Cynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth.

Am fwy o wybodaeth am ystyr ceisio gwaith yn weithgar, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Faint o Lwfans Ceisio Gwaith fedrwch chi ei gael

Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau - ffigyrau

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, fe fyddwch yn cael y symiau canlynol bob wythnos. Ond, mae’n bosib y bydd y swm a gewch yn gostwng os oes gennych incwm o enillion rhan amser neu gynllun pensiwn galwedigaeth neu bersonol. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau a’ch incwm, efallai y byddwch yn gymwys i gael peth Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm hefyd (gweler y pennawd Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm).

Oed O 11 Ebrill 2011
Iau na 25 oed £53.45
25 oed neu’n hyn £67.50

Fe fydd eich incwm o enillion rhan amser neu daliadau pensiwn galwedigaethol neu bersonol ond yn gostwng eich Lwfans Ceisio Gwaith ar ôl diystyru rhan ohono, ac felly dim ond rhan o’ch incwm o’r ffynonellau hyn fydd yn effeithio ar eich budd-dâl. Ond, os yw’r rhan o’ch enillion neu daliadau pensiwn galwedigaethol neu bersonol sy’n cael ei hystyried yn uwch na’r swm wythnosol o Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau sy’n berthnasol i chi, ni fyddwch yn cael unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau.

Nid yw’ch cyfalaf nac unrhyw incwm arall yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau.

Os hoffech wybodaeth ynghylch sut y bydd eich enillion rhan amser neu incwm o bensiwn galwedigaeth neu bersonol yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm - ffigyrau

Fe fydd y swm o Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm y mae hawl gennych iddo yn dibynnu ar eich incwm, eich cyfalaf a’ch amgylchiadau personol. Caiff eich incwm ei gymharu at ffigwr benodol sy’n dibynnu ar yr amgylchiadau hyn, er enghraifft, a ydych chi’n byw gyda phartner, neu a ydych chi’n anabl neu’n gofalu am berson anabl. Mae Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm yn medru cynnwys swm i helpu gyda thaliadau llog morgais a chostau tai eraill os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae’r swm o Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm a gewch, a’r rheolau ar gyfer cyfrifo faint sy’n ddyledus i chi, yr un peth ar gyfer Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y ffigyrau, yr incwm a’r rheolau cyfalaf ar gyfer Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel - Cymhorthdal Incwm.

Nôl i’r brig


Sut i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith

Rydych yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar-lein neu dros y ffôn.

Rydych yn medru hawlio ar-lein ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Rydych yn medru hawlio dros y ffôn drwy ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith.

Ffôn: 0800 055 6688
Ffôn testun: 0800 023 4888.
Llinell iaith Gymraeg: 0800 012 1888.

Mae’r llinell ffôn ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8yb tan 6yh.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith mewn Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau neu Swyddfa Nawdd Cymdeithasol. I ddod o hyd i'ch swyddfa agosaf, rhowch glic ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn: (New window) www.dsdni.gov.uk.

Os ydych yn cael trafferth hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, fe fyddwch yn medru cael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, fe fydd yn rhaid i chi gael cyfweliad ynghylch pam yr ydych chi'n ddi-waith a pha fath o waith yr ydych chi'n chwilio amdano. Dylid cynnal y cyfweliad mewn lleoliad sy'n hygyrch i chi os ydych yn anabl. Os ydych chi angen cyfieithydd ar y pryd, dylid darparu un ar eich cyfer.

Os ydych yn ail-hawlio Lwfans Ceisio Gwaith o fewn 26 wythnos i’w gael o’r blaen ac ni fu unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, fe fyddwch yn medru cwblhau ffurflen Rapid Reclaim symlach a byrrach yn lle. Fe fyddai hyn yn wir, er enghraifft, os ydych wedi cymryd swydd neu gynyddu eich oriau ond nid yw pethau wedi gweithio allan ac mae angen i chi fynd yn ôl ar fudd-daliadau.

Pan fyddwch yn hawlio fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi roi rhif yswiriant gwladol unrhyw bartner sy’n byw gyda chi hefyd. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, ceisiwch roi gwybodaeth a fydd yn helpu’r swyddfa i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych o gwbl, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un. I ddangos mai chi sydd â rhif, neu i ofyn am rif, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o bwy ydych chi hefyd, er enghraifft, tystysgrif geni.

Fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth arall hefyd fel rhan o’ch cais am Lwfans Ceisio Gwaith, er enghraifft, tystiolaeth o’ch incwm. Os nad yw hyn ar gael ar unwaith, fe fyddwch yn medru ei roi yn nes ymlaen, ond mae’n bwysig gwneud hynny o fewn mis i’ch cais i gael yr holl arian sy’n ddyledus i chi.

Os ydych yn cael trafferth darparu rhif yswiriant gwladol neu unrhyw dystiolaeth arall y gofynnir amdano, neu os hoffech help i lenwi eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Cael Lwfans Ceisio Gwaith wedi ei ôl-ddyddio

Efallai y byddwch yn medru cael peth Lwfans Ceisio Gwaith am gyfnod cyn i chi wneud eich cais os oeddech yn medru hawlio ynghynt ac mae gennych resymau dros hawlio’n hwyr. Rhaid bod y rhesymau hyn yn rhai penodol a bennir yn ôl y gyfraith ac a dderbynnir gan swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith, er enghraifft, mae gennych anawsterau iaith, neu cawsoch y cyngor anghywir a’ch arweiniodd i feddwl na fyddech yn cael unrhyw arian. Gelwir y broses o gael budd-dâl am gyfnod cyn i chi hawlio yn ‘ôl-ddyddio’. Ni fyddwch yn cael unrhyw fudd-dâl wedi ei ôl-ddyddio am y rheswm eich bod chi ddim yn gwybod y medrech hawlio yn unig.

Os oes gennych un o’r rhesymau a dderbynnir dros ôl-ddyddio eich cais, gellir ôl-ddyddio eich Lwfans Ceisio Gwaith hyd at uchafswm o un neu dri mis gan ddibynnu pam nad ydych wedi medru hawlio ynghynt. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi cwrdd â’r amodau ar gyfer bod yn gymwys trwy gydol cyfnod yr ôl-ddyddio, gan gynnwys eich bod ar gael i weithio ac yn ceisio gwaith yn weithgar. Dylech ofyn am Lwfans Ceisio Gwaith wedi ei ôl ddyddio, a dweud pam, ar eich ffurflen gais.

Os ydych am hawlio Lwfans Ceisio Gwaith wedi ei ôl-ddyddio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gwiriadau Lwfans Ceisio Gwaith a thwyll

Efallai eich bod yn cyflawni twyll budd-dâl neu gredyd treth os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newidiadau yn eich amgylchiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn cyflawni twyll, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad y mae’n rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod yn hawlio ac fe fydd swyddogion twyll hefyd yn medru cael gwybodaeth amdanoch gan asiantaethau eraill y llywodraeth a gan eich cyflogwr, banc neu gwmnïau iwtiliti. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am dwyll budd-dâl, fe fydd eich budd-dâl yn cael ei atal. Os ydych yn eich cael yn euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir gostwng neu stopio eich budd-dâl yn y dyfodol.

Os ydych yn poeni eich bod dan amheuaeth o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu rydych wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn sâl tra’n cael Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych yn rhy sâl i gofrestru neu gwrdd ag amodau ceisio gwaith eraill tra’ch bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, dylech ddweud wrth swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosib. Rydych yn medru bod yn sâl am hyd at bythefnos a chael y budd-dâl o hyd. Hefyd, rydych yn medru bod yn sâl ddwywaith tra’ch bod chi’n ddi-waith ac yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, heb i hyn effeithio ar eich hawl i’r budd-dâl.

Os ydych yn ddi-waith am fwy na blwyddyn, rydych yn medru bod yn sâl hyd at ddwywaith ymhob cyfnod o 12 mis na fyddwch chi’n gweithio, heb i hyn effeithio ar eich hawl i’r budd-dâl.

Os ydych yn sâl am fwy na phythefnos neu fwy na dwywaith yn ystod y flwyddyn, ni fyddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith mwyach. Fe fydd yn rhaid i chi hawlio budd-dâl am salwch neu anabledd yn lle. Os ydych yn gwella ac yn medru cwrdd â’r amodau ceisio gwaith eto nes ymlaen, fe fyddwch yn medru gwneud cais newydd am Lwfans Ceisio Gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os ydych yn sâl neu’n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Nôl i’r brig


Camau gorfodol i ddod o hyd i waith - Cyfarwyddiadau ceisio gwaith

Tra’ch bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y bydd y swyddog yr ydych yn ei weld yn swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig awgrymiadau ynghylch pethau y byddech yn medru eu gwneud i gynyddu eich siawns o ddod o hyd i waith. Os nad ydych yn llwyddo i gymryd y camau hyn, efallai y cewch gyfarwyddyd ceisio gwaith. Mae hwn yn gyfarwyddyd ffurfiol i chi gymryd camau penodol i’ch helpu i ddod o hyd i waith, er enghraifft, mynychu cwrs penodol, cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth, ymateb i hysbyseb penodol neu gymryd rhan mewn ‘sesiwn dychwelyd i’r gwaith’.

Os nad ydych yn dilyn y cyfarwyddyd ceisio gwaith ac nid oes rheswm da gennych dros wneud hyn, ni fyddwch yn medru cael unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith am wythnos neu bythefnos, gan ddibynnu ar y math o gyfarwyddyd. Os ydych yn gwrthod mewn ffordd afresymol neu os nad ydych yn dilyn y cyfarwyddyd eilwaith, ni fyddwch yn cael y budd-dâl am bedair wythnos arall. Rheswm da dros wrthod, er enghraifft, fyddai am fod cyfarwyddyd yn gwrthdaro gyda’ch crefydd, neu am fod y gwaith yn golygu y byddech yn waeth eich byd nag y byddech ar Lwfans Ceisio Gwaith.

Os caiff eich Lwfans Ceisio Gwaith ei stopio oherwydd cyfarwyddyd ceisio gwaith, efallai y byddwch yn medru hawlio taliad caledi. Mae’r taliad hwn yn swm gostyngol o’r lwfans (gweler y pennawd Taliadau caledi a Lwfans Ceisio Gwaith).

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfarwyddiadau ceisio gwaith a beth sy’n rheswm da dros wrthod dilyn y cyfarwyddyd, neu am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau caledi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Lwfans Ceisio Gwaith a sancsiynau

Os nad ydych yn cymryd cyfleoedd cyflogaeth neu os nad ydych yn rhoi tro ar unrhyw siawns am waith, neu os ydych yn methu â chyflawni’r cyfarwyddyd ceisio gwaith, gellir eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu bod eich Lwfans Ceisio Gwaith yn gostwng neu’n dod i ben yn gyfan gwbl am rhwng un a 26 wythnos. Mae’n bosib i hyn ddigwydd os ydych yn methu â cheisio am swydd y tynnir eich sylw ato gan swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith, neu nid ydych yn cymryd swydd a gynigiwyd i chi. Gellir hefyd eich sancsiynu oherwydd amgylchiadau gadael eich swydd ddiwethaf, er enghraifft, os ydych wedi gadael o’ch gwirfodd neu wedi cael eich diswyddo oherwydd camymddwyn.

Mae sancsiynau’n medru bod yn berthnasol i gynlluniau hyfforddiant a chyflogaeth hefyd yn ogystal â swyddi. Er enghraifft, os ydych ar gynllun cyflogaeth gorfodol, fel y Rhaglen Waith, ac nid ydych yn dilyn un o’r opsiynau a gynigir i chi, gellir eich sancsiynu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau gorfodol i bobl ddi-waith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler Cynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth.

Os daw eich Lwfans Ceisio Gwaith i ben oherwydd sancsiwn, efallai y byddwch yn medru gofyn am daliad caledi (gweler y pennawd Taliadau caledi a Lwfans Ceisio Gwaith).

Os ydych wedi cael eich sancsiynu ac rydych yn credu bod y penderfyniad yn annheg, mae’n bosib i chi ei herio (gweler y pennawd Problemau gyda Lwfans Ceisio Gwaith). Mae’n bosib i chi herio’r penderfyniad i stopio neu ostwng eich budd-dâl, neu hyd cyfnod y sancsiwn.

Os ydych yn credu bod penderfyniad ynghylch sancsiwn yn anghywir, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Taliadau caledi a Lwfans Ceisio Gwaith

Mae taliad caledi yn swm gostyngol o Lwfans Ceisio Gwaith y mae’n bosib y medrwch ei gael os gwrthodwyd Lwfans Ceisio Gwaith i chi, neu os yw’ch budd-dâl wedi cael ei stopio oherwydd eu bod yn amau a ydych ar gael i weithio ac yn ceisio gwaith yn weithgar. Fe fyddwch hefyd yn medru ei gael os ydych yn aros i swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith benderfynu a ydych yn cwrdd â’r amodau ceisio gwaith neu os ydych wedi cael eich sancsiynu (gweler y pennawd Lwfans Ceisio Gwaith a sancsiynau).

Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch taliadau caledi, a sut i ofyn amdanynt, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sut caiff Lwfans Ceisio Gwaith ei dalu

Fel arfer, telir budd-daliadau a chredydau treth yn syth i mewn i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Ond, gellir talu rhai budd-daliadau trwy siec sy’n daladwy mewn swyddfa bost os nad oes cyfrif gennych, neu os byddai rheoli cyfrif yn anodd i chi.

Am fwy o wybodaeth ar sut y telir budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.

Nôl i’r brig


Problemau gyda Lwfans Ceisio Gwaith

Os gwrthodwyd rhoi Lwfans Ceisio Gwaith i chi a chithau’n credu y dylech ei gael, neu os ydych yn credu bod y swm a ddyfarnwyd i chi yn anghywir, fe allwch ofyn i swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith ailystyried y penderfyniad, neu fe allwch apelio. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech ofyn i’r Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol (Social Security Agency) i ailystyried y penderfyniad. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.

Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch, mae’n bosib i chi gwyno. Rydych yn medru gwneud hyn waeth a ydych hefyd yn herio penderfyniad ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith ai peidio.

Gwahaniaethu

Mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, crefydd neu gred pan fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn penderfynu ynghylch eich cais am Lwfans Ceisio Gwaith. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn

Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad ynghylch budd-dâl, ac am gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith neu os ydych am gwyno, mae’n bosib hefyd i chi holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Maen nhw’n medru darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. I ddod o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith leol rhowch glic ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan adran o’r enw Department for Social Development (DSD) wybodaeth ynghylch budd-daliadau wedi ei chyfieithu i mewn i rai ieithoedd cymunedol. Am fwy o wybodaeth rhowch glic ar wefan y DSD yn (New window) www.dsdni.gov.uk

Nôl i’r brig


Budd-daliadau eraill tra’ch bod ar Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y byddwch yn medru cael budd-daliadau eraill neu help gyda chostau eraill. Os ydych ar Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, fe fyddwch yn medru cael uchafswm budd-dâl tai (i helpu gyda’r rhent) ac uchafswm budd-dâl treth gyngor (sy’n gostwng eich bil treth gyngor). Fe fydd hawl gennych hefyd i help o fath arall, er enghraifft, presgripsiynau rhad ac am ddim, cinio ysgol rhad ac am ddim i’ch plant, a help gyda chostau babi newydd-anedig. Os ydych ar Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau, efallai y bydd hawl gennych i rai o’r budd-daliadau hyn a’r mathau hyn o help, gan ddibynnu ar eich incwm.

Am fwy o wybodaeth ar Adviceguide ynghylch budd-daliadau eraill tra’ch bod ar Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu ar incwm isel, gweler Pa fudd-daliadau sydd ar gael i mi?

Nôl i’r brig