Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae sgwatio'n golygu byw yn rhywle heb unrhyw hawliau cyfreithiol. Nid ydyw yn erbyn y gyfraith ond gellir eich troi chi allan yn hawdd iawn. Rydych hefyd yn medru cael eich arestio os ydych yn difrodi'r eiddo neu, mewn rhai amgylchiadau, os ydych yn gwrthod gadael.
I ddarganfod mwy am sgwatio, rhowch glic ar wefan Shelter yn www.england.shelter.org.uk. Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i bobl yng Nghymru.
Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar www.housingadviceni.org.
Yn Lloegr, mae’r llywodraeth wedi cynhyrchu canllawiau fel eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau os digwydd i bobl sgwatio yn eich cartref. Mae’r canllawiau ar gael ar wefan Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
Yng Nghymru, mae canllawiau tebyg i berchnogion cartrefi ar gael ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon mae canllawiau ar wefan NIDirect yn www.nidirect.gov.uk