Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'r wybodaeth yma'n amlinellu yr hyn fedrwch chi wneud os ydych yn byw mewn llety wedi'i rhentu a bod angen gwneud gwaith atgyweirio.
Os ydych yn byw mewn eiddo sydd wedi'i rhentu, sydd mewn cyflwr anfoddhaol, mae'n bosib fod yna nifer o ffyrdd o wneud atgyweiriadau neu welliannau.
Dyma faes cymhleth iawn o'r gyfraith ac mae ceisio cael atgyweiriadau wedi'u gwneud yn gallu peryglu tenantiaid. Gallai pobl sydd â sicrwydd cyfyng gael eu troi allan os ydynt yn cymryd camau yn erbyn eu landlord. Os nad ydych yn sicr ynglyn â diogelwch eich ty, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori ynglyn â thai, canolfan gyfraith neu Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yng Nghymru a Lloegr, rydych yn medru cysylltu â llinell gymorth cyngor ar dai rhad ac am ddim Shelter ar 0800 800 4444 neu rhowch glic ar wefan Shelter yn: www.shelter.org.uk.
Os oes angen atgyweiriadau yn eich cartref, efallai bod modd:
Bydd pa gamau sydd angen i chi eu cymryd yn dibynnu ar ddiogelwch eich ty. Bydd hefyd yn dibynnu ar ba gyfrifoldebau atgyweirio sydd gennych a pha rai sydd gan eich landlord (gweler isod).
Ni ddylech stopio talu eich rhent oherwydd amodau tai gwael. Os oes rhent yn ddyledus, gallai eich landlord gymryd camau er mwyn eich troi chi allan.
Fel tenant, mae gennych yr hawl i lety sydd mewn cyflwr rhesymol. Mae gennych ymrwymiad hefyd i ofalu am y llety. Efallai bod y cytundeb tenantiaeth yn rhoi manylion am eich cyfrifoldebau chi a'ch landlord o ran gwneud atgyweiriadau a dylech ddarganfod beth yw'r rhain.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â chytundebau tenantiaeth, gweler Cytundebau tenantiaeth.
Mae yna atgyweiriadau penodol a fydd, bron bob tro, yn gyfrifoldeb i'ch landlord, pun ai eu bod wedi eu nodi'n benodol yn y cytundeb tenantiaeth ai peidio. Dyma nhw:-
Yn yr Alban, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o landlordiaid preifat sicrhau bod eu heiddo’n cwrdd â safon benodol, a elwir yn repairing standard – gweler y pennawd Atgyweiriadaui i denantiaid preifat yn yr Alban.
Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol (Cynghorau Dosbarth a Chyfarwyddiaeth Tai Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon) i gymryd camau yn erbyn landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol eraill fel cymdeithasau tai yn yr achosion canlynol:
Mae'r ddyletswydd yn cwmpasu diffyg atgyweirio mewn mannau cyffredin o flociau o fflatiau, fel llethrau sbwriel aflan a gwres canolog swnllyd.
Os ydych yn credu bod cyflwr yr eiddo yn effeithio ar eich iechyd chi neu yn achosi niwsans, dylech wneud cwyn i Adran Iechyd yr Amgylchedd eich hawdurdod lleol (Cyngor Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon). Mae'n rhaid iddyn nhw ymchwilio ac, os yn berthnasol, rhoi notis i'ch landlord yn dweud bod angen gwneud yr atgyweiriadau angenrheidiol.
Os na fydd eich landlord yn cydymffurfio â'r notis, gallai gael ei (h)erlyn a gall yr awdurdod lleol (Cyngor Dosbarth yng Ngogledd Iwerddon) wneud y gwaith atgyweirio ei hun.
Mae hefyd yn ddyletswydd ar yr awdurdodau hyn i gymryd camau yn erbyn landlord os ydynt yn teimlo nad yw cyflwr yr eiddo yn dderbyniol i bobl fyw ynddo. Fe allai hyn fod, er enghraifft, am nad yw eich cartref yn ddiogel yn strwythurol, nid oes digon o wres neu olau, neu nid oes system carthffosiaeth a draenio addas.
Fe fydd yr awdurdod lleol yn gorchymyn i'ch landlord i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol. Os nad oes modd atgyweirio eich heiddo, mae'n bosib y bydd yr awdurdod lleol yn gorchymyn na ddylai neb fyw ynddo neu bod yn rhaid ei ddadfeilio. Yn yr achos yma, bydd yn eich hail-gartrefu.
Fel arfer, mae eich landlord hefyd yn gyfrifol am atgyweiriadau i fannau cyffredin yr adeilad, er enghraifft, grisiau, lifftiau, cynteddau neu lwybrau gardd sy'n cael eu rhannu gyda thenantiaid eraill neu eich landlord.
Mae'n rhaid i'ch landlord wneud yn siwr fod unrhyw gyfleusterau nwy a thrydanol yn yr eiddo yn ddiogel.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am wybodaeth ynglyn â chyfrifoldebau eich landlord mewn perthynas â chyfarpar nwy a thrydan, gweler Problemau cyffredin wrth rentu.
Os oes rhaid gwneud y gwaith ar frys, er enghraifft, os yw toiledau wedi'u blocio, gall yr awdurdod lleol gymryd camau brys i ddelio â'r broblem.
Gall tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol eraill (gan gynnwys cymdeithasau tai) ddefnyddio cynlluniau 'hawl i atgyweiriadau' i hawlio iawndal am atgyweiriadau nad ydyw'r landlord yn eu gwneud o fewn graddfa amser benodol.
Yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol ddilyn cynllun hawl i atgyweiriadau. O dan y cynllun hawl i atgyweiriadau hwn, os ydych yn denant i'r awdurdod lleol ac ni wneir atgyweiriadau o fewn y graddfa amser benodol, gallwch hysbysu'r landlord eich bod eisiau contractwr gwahanol i wneud y gwaith. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol benodi contractwr newydd a gosod terfyn amser arall. Yna, gallwch hawlio iawndal os nad yw'r atgyweiriadau yn cael eu gwneud o fewn y terfyn amser newydd.
Yng Nghymru a Lloegr, fel tenant awdurdod lleol, gallwch ddefnyddio'r cynllun 'hawl i atgyweiriadau' ar hyn o bryd ar gyfer atgyweiriadau y mae eich landlord yn amcangyfrif y byddent yn costio hyd at £250. Gallwch hefyd hawlio hyd at £50 o iawndal. Mae ugain math o atgyweiriad yn gymwys ar gyfer y cynllun, gan gynnwys drysau anniogel, systemau ffôn mynediad wedi torri, sinciau wedi'u blocio a thoi sy'n gollwng. Fe fydd eich awdurdod lleol yn medru rhoi rhestr lawn i chi o’r atgyweiriadau y mae’r cynllun yn eu cynnwys.
Ni fydd atgyweiriad yn gymwys ar gyfer y cynllun os oes gan yr awdurdod lleol lai na 100 o adeiladau, os nad ydyw'n gyfrifol am yr atgyweiriad neu os yw'r awdurdod yn penderfynu y byddai'n costio mwy na £250.
Yn yr Alban, mae gan denantiaid awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (gan gynnwys cymdeithasau tai cydweithredol hollol gilyddol) ac awdurdodau dwr a charthffosiaeth gynllun hawl i atgyweiriadau sy’n cynnwys atgyweiradau ‘cymwys’ werth hyd at £350.
Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch yr hawl i atgyweiriadau, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.
Yng Nghymru a Lloegr, os ydych yn denant i landlord cymdeithasol arall, fel cymdeithas tai, mae gennych yr hawl i iawndal os ydych yn adrodd ynglŷn â phroblem yn ymwneud ag atgyweiriad neu waith cynnal a chadw sy'n effeithio ar eich iechyd neu’ch diogelwch, ac mae’ch landlord yn methu ddwywaith â gwneud yr atgyweiriad o fewn y terfyn amser a osodwyd. Mae yna gyfradd sefydlog sy'n £10, a £2 y dydd hyd at gyfanswm o £50 ar hyn o bryd, ar gyfer pob diwrnod mae'r atgyweiriad heb ei wneud. Gall y landlord unigol osod uchafswm ar gyfer atgyweiriad cymwys. Dylech gysylltu â'ch landlord am fwy o fanylion am y cynllun.
Fel tenant Cyfarwyddiaeth Dai, efallai eich bod am wneud yr atgyweiriadau eich hyn, yn enwedig os nad ydyw'n waith sylweddol. On dan y cynllun atgyweiriadau hunan-help (self-help repairs scheme) fe allwch wneud y gwaith eich hun neu drefnu bod contractwr preifat yn ei wneud ac yna hawlio'r costau yn ôl gan y Gyfarwyddiaeth Dai. Er mwyn gwneud y gwaith atgyweirio o dan y cynllun atgyweiriadau hunan-help, mae'n rhaid i chi ysgrifennu at reolwr rhanbarthol (district manager) Cyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon (Northern Ireland Housing Executive) gan roi manylion y gwaith atgyweirio. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun:
Os ydyw'n bosib gwneud y gwaith atgyweirio o dan y cynllun, fe fydd y Gyfarwyddiaeth Dai yn rhoi caniatâd ysgrifenedig i chi er mwyn gwneud y gwaith atgyweirio ac yn dweud wrthych faint y mae'n fodlon ei dalu am y gwath. Mae'r swm y bydd y Gyfarwyddiaeth Dai yn ei dalu am y gwaith atgyweirio yn seiliedig ar ei raddfa amcangyfrif cost ei hun ac nid ar faint y costiodd yr atgyweiriad mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu y gallech dderbyn llai nag yr ydych yn gorfod ei dalu er mwyn gwneud y gwaith.
Unwaith yr ydych wedi cael caniatâd ysgrifenedig y Gyfarwyddiaeth Dai, fel allwch wneud y gwaith atgyweirio eich hun neu drefnu i gontractwr preifat wneud y gwaith. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i wneud, dylech ofyn i'r Gyfarwyddiaeth Dai archwilio'r gwaith. Tra bod y Gyfarwyddiaeth Dai yn fodlon bod y gwaith wedi'i wneud yn iawn, fe fyddwch yn derbyn y taliad o fewn 28 diwrnod.
Yn yr Alban, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o landlordiaid preifat sicrhau bod eu heiddo’n cwrdd â safon benodol, a elwir yn repairing standard. Mae’r safon hon yn gosod cyfrifoldeb ar landlordiaid i gadw eu heiddo mewn cyflwr da.
Os ydych yn denant i landlord preifat ac yn cael problemau yn eich eiddo, rhaid i chi ddweud wrth eich landlord amdanynt. Os nad yw’ch landlord yn gwneud unrhyw beth i wella’r broblem, rydych yn medru ceisio i’r PRHP (Private Rented Housing Panel). Cynlluniwyd y Panel fel ffordd cyflym a hwylus o gael landlord i wneud atgyweiriadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y safon atgyweirio ‘repairing standard’ a’r PRHP, gweler Hawliau newydd i denantiaid sector preifat.
Efallai y byddwch yn gallu cael grant, benthyciad neu fath arall o help ar gyfer gwelliannau i'r cartref gan eich awdurdod lleol. Fodd bynnag, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich landlord yn gyntaf.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth gweler Help gyda gwelliannau i'r cartref. Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth, gweler Grantiau tai.
Mae gan y tenantiaid canlynol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yr hawl i wneud gwelliannau i'r eiddo lle maent yn byw, a thalu amdanynt:
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan rai tenantiaid Cyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon a rhai tenantiaid cymdeithasau tai cofrestredig hawliau tebyg. Mae rhaid i chi gael cytundeb ysgrifenedig eich landlord, ond ni ellir gwrthod yn afresymol â rhoi hwn.
Os yw'ch landlord yn gwrthod caniatâd, mae'n rhaid iddo/i roi ei resymau yn ysgrifenedig. Gallwch herio'r gwrthodiad yma yn y llys, lle bydd cyfrifoldeb gan eich landlord i brofi ei b/fod yn ymddwyn yn resymol wrth wrthod y caniatâd.
Bydd angen help cynghorydd profiadol arnoch er mwyn darganfod a fedrwch wneud gwelliannau, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn denant awdurdod lleol, ac rydych yn gwneud gwelliannau penodol i'ch cartref, er enghraifft inswleiddio'r llofft, gwaredu rhag drafft, baddon, basnau neu doiledau newydd a mesurau diogelwch, gallwch wneud cais am iawndal am wneud hynny pan fyddwch chi'n symud allan. Yn yr Alban, mae hyn yn berthnasol os ydych yn denant i gymdeithas dai.
Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer yr iawndal yma os byddwch yn prynu eich cartref.
Os ydych yn denant anabl, mae'n bosib y byddwch yn gallu cael grant i wneud eich cartref yn fwy addas.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, am wybodaeth ynglyn â grantiau ar gyfer tenantiaid anabl, gweler Help gyda gwelliannau y'r cartref. Yn yr Alban, gweler Grantiau tai.
Os ydych yn denant anabl, efallai y byddwch yn medru cael help gan yr awdurdod lleol i gael addasiadau wedi eu gwneud i'ch cartref. Yng Ngogledd Iwerddon, mae hyn yn berthnasol os ydych yn denant Cyfarwyddiaeth Tai, yn berchen-breswyliwr neu'n landlord ar ran tenant anabl. Yn gyntaf, fe fydd yn rhaid i chi gael yr angen am unrhyw addasiadau wedi ei asesu gan yr adran gwasanaethau cymdeithasol (yr adran gwaith cymdeithasol yn yr Alban). Mae addasiadau yn medru cynnwys gosod lifft grisiau neu hoist neu addasiadau i ystafell ymolchi neu doiled.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gan yr awdurdod lleol, gweler Gofal cymunedol.
Os ydych am wneud addasiadau eich hun fel bod eich cartref yn fwy addas, fe fydd angen i chi gael caniatâd eich landlord yn gyntaf. Ond, ni ddylai eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da.
Os nad yw'r addasiadau sydd eu hangen arnoch yn golygu newid eich cartref yn ffisegol, efallai ei bod yn ddyletswydd ar eich landlord i wneud y newidiadau hyn. Er enghraifft os ydych chi angen newid y tapiau neu addasu cloch y drws, er mwyn i chi fyw'n gyffyrddus yn eich cartref, oherwydd eich anabledd, mae'n rhaid i'ch landlord gymryd camau rhesymol i wneud yr addasiadau hyn. Os nad yw'r landlord yn cytuno, yna mae hyn yn medru bod yn wahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Os ydych am wneud addasiadau, neu mae eich landlord yn gwrthod gadael i chi wneud eich cartref yn fwy addas, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn rhentu eiddo, ni ddylai eich landlord wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb.
Os yw’ch landlord yn gwrthod trwsio eich cartref am un o’r rhesymau hyn, mae hyn yn medru bod yn wahaniaethu ac efallai ei fod yn ymddwyn yn anghyfreithlon.
Efallai na fydd y rheol hon yn berthnasol os yw’ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Os ydych yn credu bod eich landlord yn gwrthod trwsio am ei fod yn gwahaniaethu, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymrwymiad ar eich landlord i drwsio os ydych yn anabl, gweler y pennawd Tenantiaid anabl.
Os oes angen atgyweirio’ch eiddo, fel arfer y cam cyntaf yw siarad â’ch landlord. Efallai y bydd yn werth ceisio trafod yn gyfeillgar gyda’ch landlord, hyd yn oed os nad yw’n ddyletswydd gyfreithiol arno i wneud atgyweiriad.
Mae hefyd yn ddoeth cyflwyno cais am atgyweiriad yn ysgrifenedig. Dylech gadw copïau o unrhyw lythyron i’ch landlord.
Os ydych yn denant i awdurdod lleol, cymdeithas dai neu, yng Ngogledd Iwerddon, Cyfarwyddiaeth Dai, dylech ddarganfod faint o amser mae eich landlord yn ei gymryd fel arfer i wneud atgyweiriadau. Efallai y bydd hyn yn dibynnu pa mor frys yw’r atgyweiriad.
Os nad yw’r trafodaethau’n ddwyn ffrwyth, efallai y bydd angen i chi gymryd camau eraill i atgyfnerthu eich hawliau i atgyweiriadau.
Os ydych yn ystyried cymryd camau ynghylch diffyg atgyweirio yn eich cartref, dylech ddarganfod pa fath o denantiaeth sydd gennych yn gyntaf. Er enghraifft, mae rhai mathau o denantiaethau, er enghraifft tenantiaethau fyrddaliol sicr, yn ei gwneud yn haws i’ch landlord eich troi chi allan. Efallai y bydd eich landlord yn penderfynu eich troi chi allan os ydych yn gofyn am atgyweiriadau ac mae gennych denantiaeth sy’n caniatau i’ch landlord wneud hyn.
Fe fydd cynghorydd yn gallu holi i weld os ydych yn medru ceisio cael yr atgyweiriadau heb y risg o golli eich llety. Fe fyddan nhw hefyd yn medru holi i wels os oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich landlord i wneud yr atgweiriad. Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, dylech sôn wrth y cynghorydd am hyn.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am fwy o wybodaeth ar denantiaethau byrddaliol sicr a mathau eraill o gytundebau tenantiaeth preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat
Am fwyo wybodaeth ynghylch rhentu gan landlord tai cymdeithasol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol neu yn yr Alban, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch cytundebau tenantiaeth, gweler Cytundebau tenantiaeth.
Mae cyngor ar ddiffyg atgyweirio ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB
Ydw i’n medru dal rhent yn ôl oddi wrth fy landlord oherwydd problemau gydag atgyweiriadau?
Nid oes hawl gennych i ddal rhent yn ôl ac ni ddylech wneud hyn i gesio gorfodi eich landlord i wneud atgyweiriadau. Os ydych yn dal rhent yn ôl, fe allai eich landlord gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn am ôl-ddyledion rhent ac fe allech golli eich cartref.
Mewn rhai amgylchiadau, rydych yn medru trefnu i’r atgyweiriadau gael eu gwneud eich hun a defnyddio arian y rhent i dalu am y gwaith. Ni argymhellir eich bod yn gwneud hyn oherwydd mae’n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn benodol er mwyn gwneud hyn. Mae’r gyfraith yn y maes hwn yn gymhleth ac felly nae’n bwysig cael cyngor.
Nid yw’n syniad da stopi talu eich rhent, dylech ymgynghori â chynghorydd profiadol ar unwaith, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth.
Mae cyngor ar gael ynghylch diffyg atgyweirio gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Os ydych yn gwybod bod yna nifer o denantiaid yn cael eu heffieithio gan y diffyg atgyweirio, efallai y byddai'n effeithiol dechrau ymgyrch yn erbyn eich landlord. Mae'n debygol y bydd hyn y fwy effeithiol os yw'ch landlord yn awdurdod lleol neu'n gymdeithas tai, a allai fod yn sensitif i gyhoeddusrwydd gwael. Dylai ymgyrch lwyddiannus gynnwys cymaint o bobl ag sy'n bosib. Mae cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau lleol neu genedlaethol yn gallu bod yn effeithiol hefyd. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol rhoi pwysau ar gynghorwyr lleol, ASau a chadeirydd y pwyllgor tai (os yw'ch landlord yn awdurdod lleol).
Os ydych yn denant llywodraeth leol yn Lloegr, ac mae’ch landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriad, fe fyddwch yn medru cwyno i Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Mae Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol os ydych yn anfodlon gydag unrhyw agwedd ar sut mae problem ynglyn â gwaith atgyweirio wedi cael ei thrin. Os ydych yn credu bod yna wahaniaethu, yna rydych yn medru cwyno am hyn hefyd.
Ni allwch gwyno i'r Ombwdsmon tan i chi fynd trwy weithrdefn gwyno'r awdurdod lleol ei hun yn gyntaf. Gall cwyn i'r Ombwdsmon gymryd tipyn o amser i'w archwilio. Gall yr Ombwdsmon wneud argymhellion hefyd i wneud atgyweiriadau ac i dalu iawndal. Ni ellir gorfodi argymhellion yr Ombwdsmon ond fel arfer, mae awdurdodau lleol yn cydymffurfio.
Os ydych yn denant i landlord cymdeithasol heblaw am gyngor, er enghraifft cymdeithas tai, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Tai.
Mae rhai landlordiaid preifat hefyd wedi ymuno â chynllun yr Ombwdsmon Tai yn wirfoddol. Fe allwch chi edrych i weld os yw’ch landlord yn aelod o’r cynllun trwy edrych ar y Cyfeirlyfr Aelodau ar wefan yr Ombwdsmon Tai: www.housing-ombudsman.org.uk.
Rydych yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Tai ynghylch unrhyw agwedd ar y ffordd y mae’ch landlord wedi trafod cais am atgyweiriad. Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn hefyd. Nid ydych yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Tai hyd nes i chi fynd trwy weithdrefn gwyno eich landlord yn gyntaf.
Am wybodaeth ynghylch sut i gwyno, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr.
Os ydych yn credu bod rhwymedigaeth ar eich landlord i wneud atgyweiriad, efallai y byddwch am siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Os ydych yn denant llywodraeth leol neu landlord cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’ch landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriad, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Enghraifft o landlord cymdeithasol yw cymdeithas tai.
Mae’r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion am wasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol.
Rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsmon os ydych yn anfodlon gydag unrhyw agwedd ar sut mae problem ynglyn â gwaith atgyweirio wedi cael ei thrin. Os ydych yn credu bod yna wahaniaethu, yna rydych yn medru cwyno am hyn hefyd.
Os ydych am gwyno i’r Ombwdsmon, rhaid i chi gwyno i’ch landlord yn gyntaf fel eu bod nhw’n cael cyfle i ymateb i’ch pryderon.
Gall cwyn i'r Ombwdsmon gymryd tipyn o amser i'w archwilio. Gall yr Ombwdsmon wneud argymhellion hefyd i awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol wneud atgyweiriadau ac i dalu iawndal. Ni ellir gorfodi argymhellion yr Ombwdsman, ond fel arfer, mae awdurdodau lleol yn cydymffurfio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yng Nghymru.
Os ydych yn credu bod rhwymedigaeth ar eich landlord i wneud atgyweiriad, efallai y byddwch am siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Mae’r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion o gamweinyddu neu fethiant mewn gwasanaethau ynghylch awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol eraill. Os ydych yn credu bod yna wahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn hefyd. Dylech fynd trwy weithdrefn gwynion y landlord ei hun cyn cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban,.
Os cynhelir eich cwyn i'r Ombwdsmon, fe fydd yr Ombwdsmon yn medru gwneud argymhellion ynghylch y ffordd y cafodd y gwyn ei thrafod ac fe fydd hefyd yn medru argymell bod y landlord yn talu iawndal. Er na ellir grymuso argymhellion yr Ombwdsmon i'r landlord, fel arfer cydymffurfir â hwy.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yn yr Alban.
Os ydych yn credu bod rhwymedigaeth ar eich landlord i wneud atgyweiriad, efallai y byddwch am siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB..
Os ydych yn denant Cyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon neu gymdeithas tai, gallwch wneud cwyn i Ombwdsmon Gogledd Iwerddon os yw’ch landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriadau. Dylech fynd trwy weithdrefn gwynion y landlord ei hun cyn cywno i’r Ombwdsmon.
Os oes tystiolaeth fod y landlord wedi bod yn aneffeithlon wrth wneud atgyweiriadau, efallai y bydd yr Ombwdsmon yn dweud bod yna gamweinyddu wedi bod. Yn y fath achosion, bydd yr Ombwdsmon yn ceisio sicrhau rhyw fath o ddêl. Gallai hyn fod yn ymddiheuriad, neu’n iawndal.
Os nad yw’r Ombwdsmon yn medru cael iawndal, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys sirol am daliad.
Am wybodaeth ynglyn â sut i wneud cwyn, yng Ngogledd Iwerddon gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych yn credu bod rhwymedigaeth ar eich landlord i wneud atgyweiriad, efallai y byddwch am siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Os ydych yn ystyried dechrau camau cyfreithiol yn erbyn eich landlord, dylech siarad â chynghorydd profiadol yn gyntaf, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Mae cymryd camau cyfreithiol yn gallu bod yn gostus ac yn medru cymryd tipyn o amser. Mae yna nifer o gyfreithiau sy’n trafod eich hawl i gael eich eiddo wedi ei atgyweirio, ac maen nhw’n gymhleth iawn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rho cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Os yw'ch eiddo mewn cyflwr gwael, mae'n bosib y bydd eich landlord wedi torri'r cytundeb tenantiaeth neu’r gyfraith trwy fethu â gwneud y gwaith atgyweirio. Gallai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys manylion penodol ynglyn â pha atgyweiriadau y mae eich landlord wedi cytuno arnynt. Efallai y bydd eich landlord wedi cytuno i’r rhain yn ysgrifenedig neu ar lafar. Hyd yn oed os nad oes unrhyw delerau penodol yn y cytundeb tenantiaeth, mae’r gyfraith yn dweud bod gan eich landlord gyfrifoldebau ar gyfer atgyweiriadau penodol. I ddarganfod mwy am y rhain, gweler y pennawd Cyfrifoldebau'r tenant a'r landlord.
Os yw eich landlord wedi torri'r cytundeb tenantiaeth neu’r gyfraith, gallwch gymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn. Os ydych yn bwriadu cymryd camau, rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i’ch landlord ynghylch yr atgyweiriadau sydd angen eu gwneud. Ni fyddwch yn medru dechrau cymryd camau hyd nes i chi roi amser rhesymol i’ch landlordi wneud yr atgyweiriadau hyn.
Os ydych yn llwyddiannus, efallai y cewch orchymyn llys sy'n gorchymyn i'ch landlord wneud y gwaith atgyweirio. Mae'n bosib hefyd y byddwch yn cael iawndal. Efallai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i helpu gyda chostau eich achos.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, am fwy o wybodaeth ar denantiaethau byrddaliol sicr a mathau eraill o gytundebau tenantiaeth preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat
Am fwyo wybodaeth ynghylch rhentu gan landlord tai cymdeithasol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol neu yn yr Alban, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch cytundebau tenantiaeth, gweler Cytundebau tenantiaeth.
Am wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Os ydych yn dioddef oherwydd cyflwr gwael eiddo, gallwch erlyn eich landlord yn breifat. Os yw'r erlyniad yn llwyddiannus, bydd eich landlord yn cael gorchymyn i wneud y gwaith atgyweirio, a bydd yn euog o drosedd os nad ydyw'n gwneud y gwaith.
Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer tenantiaid awdurdod lleol, oherwydd efallai na fyddant yn medru defnyddio camau eraill yn erbyn yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid yw cymorth cyfreithiol troseddol ar gael i dalu am eich costau cyfreithiol.