Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Gwasanaethau'r awdurdod lleol ar gyfer plant mewn angen

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Dyletswyddau'r awdurdod lleol

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol warchod a hyrwyddo lles plant mewn angen yn ei ardal. Er mwyn gwneud hyn, mae'n rhaid gweithio gyda'r teulu i ddarparu gwasanaethau cynnal a fydd yn galluogi plant i gael eu meithrin o fewn eu teuluoedd eu hunain. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n ddyletswydd ar yr Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (yr HSCTau) i ddiogelu lles plant mewn angen yn eu hardal ac i hyrwyddo’u lles.

Nôl i’r brig


Pwy sy'n ‘blant mewn angen’

Caiff plant mewn angen eu diffinio o dan y gyfraith, fel plant sy'n iau na 18 ac:-

  • sydd angen gwasanaethau awdurdod lleol i gyrraedd neu gynnal safon rhesymol o iechyd neu ddatblygiad
  • sydd angen gwasanaethau awdurdod lleol i atal niwed sylweddol neu bellach i iechyd neu ddatblygiad
  • sydd yn anabl.

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gadw cofrestr o blant sydd ag anableddau yn ei ardal ond nid oes yn rhaid cadw cofrestr o'r holl blant mewn angen.

Nôl i’r brig


Pa wasanaethau mae'r awdurdod lleol yn medru eu darparu

Gall yr awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer plant mewn angen. Gall y rhain gynnwys:-

  • cyfleusterau gofal dydd ar gyfer plant o dan 5 sydd heb ddechrau'r ysgol
  • gofal ar-ôr-ysgol a gofal yn ystod y gwyliau neu weithgareddau ar gyfer plant oed ysgol
  • cyngor, arweiniad a chwnsela
  • gweithgareddau galwedigaethol, cymdeithasol, diwylliannol neu hamdden
  • cymorth yn y cartref a chyfleusterau golchi a sychu dillad
  • cymorth gyda theithio i'r cartref ac oddi wrth y cartref er mwyn defnyddio unrhyw wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol
  • cymorth i'r plentyn a'r teulu gael gwyliau
  • canolfannau teulu
  • cymorth ariannol, fel arfer ar ffurf benthyciad, gweler isod
  • gofal seibiant
  • gofalu am y plentyn, gweler isod.

Gall yr awdurdod lleol ddarparu'r gwasanaethau canlynol hefyd i bob plentyn yn ei ardal, nid dim ond plant mewn angen:-

  • cyfleusterau gofal dydd ar gyfer plant o dan 5 sydd heb ddechrau'r ysgol
  • gofal ar-ôr-ysgol a gofal yn ystod y gwyliau neu weithgareddau ar gyfer plant oed ysgol.

Yn Lloegr, os yw plentyn yn aros i ffwrdd oddi wrth ei deulu am o leiaf tri mis mewn lleoliad gofal, er enghraifft mewn:

  • ·ysbyty’r GIG
  • ·ysgol breswyl
  • ·cartref gofal
  • ·ysbyty annibynnol

efallai y bydd yr awdurdod lleol yn medru darparu’r gwasanaethau canlynol:

  • ·cyngor, arweiniad, cwnsela
  • ·ymweliadau â’r lleoliad gofal i’r teulu
  • ·ymweliadau cartref
  • ·helpu trefnu gwyliau er mwyn i aelodau’r teulu fod gyda’i gilydd.

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth ynglyn â'r gwasanaethau y mae'n eu darparu ar gyfer plant mewn angen a'u teuluoedd. Mae'n rhaid bod y wybodaeth yma ar gael i'r bobl a allai fanteisio o'r gwasanaethau.

Yn ychwanegol at y gwasanaethau uchod, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol leol, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y plant canlynol ble mae’n teimlo eu bod yn briodol:-

  • plant anabl
  • plant a allai, fel arall, fod yn ddarostyngedig i drefniadau gofal
  • plant syn debygol o fod ynghlwm â throseddau.

Yn Lloegr, o 1 Ebrill 2011, rhaid i awdurdodau lleol ddarparu seibiannau rhag dyletswyddau gofalu (gofal seibiant) i rieni plant anabl.

Cymorth ariannol

Gall yr awdurdod lleol roi cymorth ariannol mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau, pan fydd plant mewn angen. Gallai'r cymorth fod ar ffurf benthyciad, arian parod, neu gyfraniad 'mewn da', er enghraifft talebau ar gyfer siop arbennig, neu eitem o fwyd, dillad neu ddodrefn. Yng Nghymru, gellir ond gwneud taliadau ariannol mewn amgylchiadau neilltuol ac os ydych yn gwneud cais am daliad, bydd yn rhaid i chi berswadio'r awdurdod lleol bod eich hachos chi yn un neilltuol.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan Ymddiriedolaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y pwer dewisol i ddarparu cymorth ariannol neu gmorth mewn da i deuluoedd er mwyn cwrdd â'i ddyletswyddau. Mae'n rhaid bod gennych blentyn sydd wedi ei asesu fel plentyn sydd mewn angen.

Os ydych am wneud cais i'r awdurdod lleol am gymorth ariannol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gofalu am blant mewn angen

Mae awdurdod lleol yn 'gofalu' am blentyn pan fydd yr awdurdod lleol yn trefnu i' plentyn fyw yn rhywle heblaw yn ei g/chartref.

Mae'r awdurdod lleol yn gallu gofalu am blentyn mewn dwy ffordd. Naill ai trwy 'ddarparu llety' neu lle mae'r plentyn yn destun gorchymyn llys.

Plentyn sydd mewn llety

Pan fydd plentyn yn cael ei r(h)oi mewn llety gan yr awdurdod lleol mae hyn yn drefniant gwirfoddol rhwng yr awdurdod lleol a'r teulu. Mae hyn yn golygu eich bod yn cadw eich holl hawliau a'ch cyfrifoldebau fel rhieni y plentyn ac nid yw'r awdurdod lleol yn cymryd unrhyw rai o'r hawliau na chyfrifoldebau yna. Os ydych yn riant, gallwch felly symud eich plentyn o'r llety ar unrhyw adeg.

Mae’n ddyletswydd ar awdurdod lleol i roi llety i blentyn mewn angen yn yr achosion canlynol:-

  • nid oes unrhyw un â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn; neu
  • mae'r plentyn ar goll neu wedi'i (g)adael; neu
  • ni all y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn barhau i ddarparu gofal a llety addas am ba reswm bynnag; neu
  • mae’r plentyn wedi cyrraedd 16 oed ac mae’n debygol bod lles y plentyn mewn perygl difrifol os nad yw’r awdurdod lleol yn darparu llety ar gyfer y plentyn.

Os yw’n ddyletswydd ar awdurdod lleol i roi llety i blentyn mewn angen, rhaid i’r adran gwasanaethau plant roi llety i’r plentyn ei hun. Ni all wrthod gwneud hynny a chyfeirio’r plentyn at yr adran tai fel person digartref yn lle.

Os yw'r awdurdod lleol yn darparu llety ar gyfer y plentyn, mae'n rhaid iddo lunio cynllun gyda'r teulu gan benderfynu ar y trefniadau a fydd yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn. Mae'n rhaid cael hyn yn ysgrifenedig.

Efallai bydd y plentyn yn byw mewn cartref maeth neu gartef i blant. Gallai'r cartref maeth fod yn gartref teulu neu ffrindiau'r teulu.

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod plentyn sydd mewn llety yn parhau i gael cysylltiad gyda'r teulu a'r ffrindiau.

Plant y'n destun gorchymyn gofal

Pan mae llys wedi gorchymyn mewn perthynas â phlentyn, neu bennu gorchymyn gofal, mae hyn yn golygu y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd cyfrifoldeb dros y plentyn ynghyd â chi fel rhiant. Bydd yr awdurdod lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer y man lle bydd y plentyn yn byw, mewn trafodaeth gyda chi. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu symud y plentyn os nad ydych yn cytuno â chynnig yr awdurdod lleol.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i wrthod safbwynt rhiant os ydyw'n ystyried hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu neu hyrwyddo lles plentyn.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â phan fydd plentyn yn destun gorchymyn gofal, gweler Plant a gofal awdurdod lleol.

Nôl i’r brig


Cwynion ynghylch awdurdod lleol

Os nad ydych yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gynigir gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol, efallai y byddwch yn medru cwyno. Gofynnwch iddynt am gopi o’u gweithdrefn gwyno.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r weithdrefn ar gyfer cwyno ynghylch adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn Lloegr, gweler Cwynion ynghylch y GIG ac adrannau gwasanethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler HSC complaints in Northern Ireland.

Yng Nghymru, mae gwybodaeth ynglŷn â sut i gwyno ynghylch gwasanaeth awdurdod lleol ar wefan Llywodraeth Cymru yn: (New window) new.wales.gov.uk.

Nôl i’r brig