Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

Problemau yn yr ysgol

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon



Ynglŷn â’r wybodaeth hon

Fel rhiant, os ydych wedi profi problemau gydag ysgol ac os na fu trafodaethau anffurfiol yn llwyddiannus, mae’n bosib yr hoffech gymryd camau pellach. Mae angen i chi wybod y gweithdrefnau swyddogol pan ydych yn ceisio datrys problem.

Yn y wybodaeth hon, rydyn ni’n defnyddio’r gair rhiant i ddisgrifio naill ai ddau riant, neu warcheidwad y disgybl neu berson arall sydd â gofal dros y disgybl. Yng Ngogledd Iwerddon, gelwir yr awdurdod addysg lleol yn y Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd.

Nôl i’r brig


Delio â phroblem yn yr ysgol

Nodir y gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer delio â phroblem yn yr ysgol yn y paragraffau canlynol ac fe’i rhestrir yn y drefn y dylid eu defnyddio. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu ag un o’r cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion addysgol cyn eich bod yn cymryd unrhyw gamau. Os credwch chi fod gwahaniaethu yn rhan o’r achos, sicrhewch eich bod yn sôn amdano cyn gynted â phosibl.

Am gyfeiriadau cymdeithasau sy’n gallu rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion addysg, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Siarad â’ch plentyn

Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol bod gan eich plentyn broblem yn yr ysgol naill ai oherwydd bod eich plentyn, yr ysgol, rhiant arall neu frawd neu chwaer y plentyn wedi dweud wrthych. Ble bynnag y bo’n bosibl, dylech drafod y broblem a ffyrdd o’i datrys gyda’ch plentyn cyn cymryd camau eraill. Fodd bynnag, yn dibynnu ar oed eich plentyn, mae’n bosib y bydd angen i chi siarad a’i athro er mwyn egluro’r broblem.

Siarad ag athro eich plentyn

Pan ydych wedi adnabod y broblem a’ch bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am ba ddyletswydd, dylech siarad ag athro dosbarth neu diwtor blwyddyn eich plentyn cyn cymryd camau pellach. Bydd yr athro fel arfer yn gallu egluro’r broblem, darparu gwybodaeth a gallai fod yn barod i’ch cefnogi a chydweithio gyda chi er lles eich plentyn. Gellir datrys y rhan fwyaf o broblemau neu bryderon fel hyn.

Siarad â’r pennaeth

Er bod gan y pennaeth y gallu i redeg yr ysgol fel y mynno, mae’n rhaid iddo wneud hyn mewn ymgynghoriad â’r corff llywodraethol neu’r awdurdod addysg lleol ac yn unol â’r polisïau cytunedig. Gallai’r pennaeth, yn enwedig mewn ysgol fawr, ddyrannu’r cyfrifoldeb dros ddelio â phroblemau disgyblion unigol i aelod arall o staff. Fodd bynnag, gallwch fynnu siarad â’r pennaeth os ydych yn dymuno.

Siarad â’r rhieni eraill

Os credwch chi fod problem eich plentyn yn effeithio ar ddisgyblion eraill, mae’n bosib yr hoffech siarad â’r rhieni eraill er mwyn gweithredu ar y cyd neu godi’r mater mewn cyfarfod gymdeithas rhieni.

Gwneud cwyn ffurfiol

Os na allwch ddatrys y broblem drwy drafodaeth anffurfiol, mae’n bosib yr hoffech wneud cwyn ffurfiol i’r ysgol. Mae’n rhaid bod gan bob ysgol yn Lloegr a reolir gan awdurdod addysg lleol weithdrefn gwyno ffurfiol, ac mae gan lawer o ysgolion eraill weithdrefnau ffurfiol. Gofynnwch i’r ysgol am gopi o’i gweithdrefn gwyno. Mae’n debygol mai’r pennaeth neu aelod dynodedig arall o staff fydd yn delio â’r broblem yn wreiddiol. Os na ellir datrys y broblem fel hyn, fe fydd yn cael ei ystyried gan banel apêl llywodraethwyr yr ysgol.

Apelio i’r awdurdod addysg lleol

Yn dibynnu ar y broblem a’r math o ysgol ydyw, mae’n bosib y gallwch apelio i’r awdurdod addysg lleol neu i’r gymdeithas a sefydlodd yr ysgol. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn mynychu ysgol eglwysig, mae’n bosib y gallwch apelio i’r Bwrdd Esgobaethol lleol.

Bydd angen i chi wirio gyda’r ysgol, yr awdurdod addysg lleol neu’r gymdeithas a sefydlodd yr ysgol p’un ai ydych chi’n gallu apelio ac os allwch, beth yw’r weithdrefn apelio. Os fedrwch apelio i’r awdurdod addysg lleol, gallwch siarad â’ch cynghorwyr lleol cyn yr apel oherwydd gallant fod ar y pwyllgor apel neu’n fodlon rhoi cyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn ystyried apelio, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Yr ombwdsmon

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y gallwch gwyno i’r ombwdsmon.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr ombwdsmon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon.

Ar hyn o bryd, dim ond rhai materion penodol sy’n ymwneud â’r ysgol y gall yr ombwdsmon ymdrin â nhw. Gall yr ombwdsmon ddelio â chwynion yn erbyn:

  • gwasanaeth trafnidiaeth ysgol
  • anghenion addysgol arbenigol
  • cefnogaeth myfyrwyr
  • derbyniadau ysgol
  • gwaharddiadau parhaol o’r ysgol.

Os oes gennych gwyn am broblem arall, mae’n bosib y gallwch gwyno i gymdeithas arall. Yn Lloegr, cewch hyd i fwy o wybodaeth am ba sefydliad i gyfeirio eich cwyn ato ar wefan Ombwdsmon y Llywodraeth Leol yn: (New window) www.lgo.org.uk.

Camau cyfreithiol

Mae gan awdurdodau addysg lleol ac ysgolion rai dyletswyddau cyfreithiol penodol, er enghraifft, cael gwared ar wahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb cyfle neu ateb anghenion addysgol arbennig y disgyblion. Mewn rhai achosion, os yw pob ffordd arall yn aflwyddiannus, mae’n bosib y bydd angen i chi feddwl am gymryd camau cyfreithiol er mwyn eu gorfodi i gyflawni eu dyletswyddau.

Nôl i’r brig


Dyddiadau dechrau a gadael

Mae’n rhaid i bob disgybl rhwng 5 ac 16 oed (4 ac 16 oed yng Ngogledd Iwerddon) dderbyn addysg llawn amser, naill ai mewn ysgol neu du allan i’r ysgol. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg llawn amser ac mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol i sicrhau bod addysg llawn amser priodol ar gael. Gallai fod achosion arbennig lle gall plentyn adael yr ysgol pan yw’n 14 oed. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod addysg lleol ddarparu addysg llawn amser i unrhyw fyfyriwr rhwng 16 ac 19 oed sy’n ei dymuno.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr oed ysgol gorfodol ac am adael yr ysgol yn 14 oed, gweler Oed ysgol gorfodol yn Mynediad at addysg.

Nôl i’r brig


Gwyliau yn ystod y tymor

Gall ysgol gytuno i ganiatáu eich plentyn i gymryd hyd at ddeg diwrnod i ffwrdd o’r corff llywodraethol ac nid oes yn rhaid i’r ysgol gytuno.

Os hoffech gymryd eich plentyn allan o’r ysgol yn ystod y tymor, dylech siarad â phennaeth yr ysgol yn gyntaf. Yn Lloegr, os ydych yn cymryd eich plentyn allan o’r ysgol heb ganiatâd y pennaeth, gallech gael dirwy. Gallai methiant i dalu’r ddirwy o fewn 28 diwrnod arwain at erlyniad.

Os hoffech i’ch plentyn gymryd mwy na deg diwrnod o wyliau i ffwrdd o’r ysgol yn ystod y tymor, mae’n rhaid i chi gael caniatâd oddi wrth gorff llywodraethol yr ysgol. Yn ysgol eich plentyn, mae’n bosib mai’r pennaeth sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn. Os yw’r pennaeth yn gwrthod rhoi caniatâd, gallwch ofyn i’r corff llywodraethol i ystyried eich cais. Fodd bynnag, dim ond yn yr hyn a elwir yn amgylchiadau eithriadol y bydd y rhan fwyaf o gyrff llywodraethol yn caniatáu eich plentyn i gymryd mwy na deg diwrnod o wyliau.

Nôl i’r brig


Gwyliau i ddathlu digwyddiadau crefyddol pwysig

Mae’r hawl gan ddisgyblion i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer digwyddiadau crefyddol pwysig. Caniateir amser i ffwrdd o’r ysgol hyd yn oed os yw’r disgybl yn mynychu gweithgareddau cydaddoli’r ysgol. Mae’n arfer da i hysbysu’r ysgol o flaen llaw ac yn ysgrifenedig, o’r ffaith bydd eich plentyn yn absennol i ddathlu digwyddiad crefyddol pwysig.

Nôl i’r brig


Dewis pynciau

Os yw’r disgybl yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol, fe fydd yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn astudio pynciau gorfodol. Yn ogystal â hyn, bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn addysgu pynciau eraill a bydd y disgybl fel arfer yn gallu dewis pa bynciau ychwanegol i’w hastudio. Fodd bynnag, bydd yr ysgol yn cynghori disgybl ar ba bynciau a fyddai’n fwyaf addas iddo gan gymryd i ystyriaeth ei allu academaidd a’i gynlluniau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.

Os nad yw’r ysgol yn cynnig pwnc neu gyfuniad o bynciau yr hoffai’r disgybl eu hastudio, gallai hyn olygu na fydd yn gallu cael y cymwysterau angenrheidiol i gael lle ar gwrs addysg bellach neu uwch yn y dyfodol. Yn ogystal â defnyddio’r gweithdrefnau cyffredinol i geisio dwyn perswâd ar yr ysgol i gynnig pwnc penodol neu gyfuniad o bynciau, mae’n bosib yr hoffech awgrymu bod eich plentyn yn astudio’r pwnc mewn ysgol arall. Mae’n bosib gall yr ysgol ail-greu amserlen os gofynnir am gyfuniad penodol o bynciau.

Gall unrhyw gyfyngiad ar y dewis o bynciau effeithio ar ddisgyblion eraill ac mae’n bosib yr hoffech ystyried gwneud cwyn gyda rhieni anfodlon eraill neu gysylltu â’r gymdeithas rhieni.

Nôl i’r brig


Disgyblion nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf

Mae’n bosib y gall disgybl nad Saesneg yw ei iaith gyntaf gael ei haddysgu drwy gyfrwng ei famiaith. Er nad oes gofyn i awdurdodau addysg lleol neu gyrff llywodraethol wneud hyn, gallech ddarganfod p’un ai bod ganddynt bolisi neu beidio ac os felly, ceisiwch ddwyn perswâd arnynt i’w weithredu. Os nad oes ganddynt bolisi, gallech geisio dwyn perswad arnynt i lunio polisi addas.

Gallai disgybl nad Saesneg yw ei iaith gyntaf fod angen hyfforddiant ychwanegol i wella safon ei Saesneg ysgrifenedig a llafar. Nid oes gofyn i awdurdodau addysg lleol neu gorff llywodraethol i addysgu Saesneg fel ail iaith. Fodd bynnag, gallech ddarganfod p’un ai bod ganddynt bolisi nei beidio ac os felly, ceisiwch ddwyn perswad arnynt i’w weithredu. Os nad oes ganddynt bolisi, gallech geisio dwyn perswad arnynt i lunio polisi addas.

Cymraeg

Mae Cymraeg yn bwnc ar y cwricwlwm cenedlaethol ac mae’n orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru ar gyfer disgyblion tan eu bod yn 16 oed. Fe’i haddysgir naill ai fel ail iaith (mewn ysgolion Saesneg) neu fel iaith gyntaf (mewn ysgolion Cymraeg).

Nôl i’r brig


Addysg ryw

Mae’r polisi ar gyfer addysg ryw yn dibynnu ar y math o ysgol y mae’r disgybl yn ei mynychu.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o ysgolion, gweler Mathau o ysgolion.

Yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, mae’n rhaid i gyrff llywodraethol ystyried p’un ai a ydynt am gynnig addysg ryw neu beidio a phryd dylid ei chynnig. Mae’n rhaid iddynt gadw datganiad ysgrifenedig o’u polisi addysg rhyw a sicrhau ei fod ar gael i rieni ar gais.

Mewn ysgolion uwchradd a reolir gan awdurdodau addysg lleol, mae’n rhaid darparu addysg ryw (gan gynnwys addysg ar HIV ac AIDS a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol) i bob disgybl. Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol sicrhau bod datganiad ysgrifenedig o’i bolisi ar gael i rieni ar gais.

Os ydych yn rhiant i ddisgybl sy’n mynychu ysgol a reolir gan yr awdurdod addysg lleol, mae’n bosib yr hoffech eithrio eich plentyn o’r gwersi addysg ryw i gyd neu ychydig ohonynt. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’ch plentyn astudio’r agweddau hynny o’r cwricwlwm cenedlaethol sy’n ymdrin â’r broses atgenhedlu, fel arfer mewn gwersi gwyddoniaeth.

Nid yw’n ofynnol i ysgolion annibynnol ddarparu addysg ryw.

Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn disgyblion ar sail eu rhywioldeb. Fodd bynnag, mae’r hawl gan ysgolion ffydd i ddarparu addysg ryw yn unol â’u crefydd cyn belled â’i fod yn cael ei wneud mewn ffordd briodol.

Nôl i’r brig


Addysg grefyddol

Mae’n rhaid darparu addysg grefyddol mewn pob ysgol heblaw ysgolion annibynnol. Mae’n rhaid i rai ysgolion addysgu maes llafur cytunedig (gweler isod).

Mae’n rhaid darparu gwybodaeth i rieni am yr addysg grefyddol a ddarperir mewn ysgol benodol.

Mae’n rhaid i’r maes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol adlewyrchu bod traddodiadau crefyddol Lloegr a Chymru yn Gristnogol yn bennaf. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddo ystyried y prif grefyddau eraill ym Mhrydain. Dylai’r addysgu fod yn anenwadol, sy’n golygu na ddylai’r addysgu ganolbwyntio ar un math o Gristnogaeth. Fodd bynnag, caniateir gwersi unigol am enwadau penodol.

Nid yw’r rheolau sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd yn ymdrin ag addysg grefyddol.

Nôl i’r brig


Addoli ar y cyd (gwasanaeth)

Mae’n rhaid cynnal gweithred o addoli ar y cyd yn ystod pob diwrnod ysgol mewn ysgolion cymunedol, gwirfoddol a sefydledig. Bydd y ffurf o addoli ar y cyd yn dibynnu ar y math o ysgol ydyw.

Mewn ysgol gymunedol neu sefydledig, mae’n rhaid i bob gweithred addoli ar y cyd, megis gwasanaethau, fod o natur Gristnogol. Fodd bynnag, ni ddylent adlewyrchu un math penodol o Gristnogaeth, er enghraifft, Catholigiaeth.

Mewn ysgol ffydd, sy’n ysgol wirfoddol neu sefydledig, mae’n rhaid i sesiynau addoli ar y cyd adlewyrchu ffydd yr ysgol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am ysgolion ffydd yn Lloegr a Chymru, gweler dan y pennawd Gwahaniaethu ar sail crefydd mewn ysgolion a cholegau, yn Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Nid oes yn rhaid i golegau technoleg y dinasoedd (CTCs) gynnal un weithred ddyddiol o addoli ar y cyd ond mae’n rhaid bod ganddynt ddarpariaeth briodol ar ei gyfer.

Nid oes yn rhaid i ysgolion annibynnol gynnal un weithred ddyddiol o addoli ar y cyd.

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol y wladwriaeth ac os na hoffech iddo fynychu sesiynau addoli ar y cyd, gallwch ofyn i’r ysgol i’w heithrio. Mae’n rhaid i’ch ysgol gytuno. Gallwch hefyd drefnu bod eich plentyn yn mynychu gweithred addoli neu grefyddol amgen. Bydd yr ysgol fel arfer yn eich disgwyl i drefnu hyn ar gyfer dechrau neu ddiwedd y diwrnod ysgol.

Os yw eich plentyn yn y chweched dosbarth, gall benderfynu dros ei hun naill i gymryd rhan mewn gweithred addoli ar y cyd neu beidio.

Nôl i’r brig


Gwaith cartref

Yn ôl y gyfraith, nid oes yn rhaid i ddisgyblion wneud gwaith cartref. Anogir ysgolion i lunio polisiau manwl ar gyfer gwneud gwaith cartref. Dylai’r polisiau hyn nodi unrhyw gosbau am beidio â gwneud gwaith cartref. Os nad yw’r disgybl yn gwneud gwaith cartref yn unol â’r amgylchiadau hyn, gallai’r ysgol ddadlau bod y disgybl yn torri rheolau’r ysgol a gallai gymryd camau i’w disgyblu, cyn belled â bod y polisi a’r rheolau yn rhesymol ac wedi’u nodi’n glir.

Efallai eich bod yn poeni bod eich plentyn yn derbyn gormod neu ddim digon o waith cartref. Os oes gan yr ysgol bolisi gwaith cartref, dylech ei wirio er mwyn darganfod faint o waith cartref sy’n cael ei osod a faint o amser y disgwylir i’r disgybl ei dreulio arno.

Nôl i’r brig


Trefniadau cartref-ysgol

Mae’n rhaid bod gan bob ysgol drefniant cartref ysgol (HSA). Mae’n ddogfen a luniwyd gan gorff llywodraethol yr ysgol mewn ymgynghoriad â’r rhieni. Dylai’r HSA ddelio â materion megis presenoldeb, disgyblaeth ac ymddygiad, gwaith cartref a chwynion.

Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pob rhiant wedi llofnodi’r HSA, ac mae’n bosib y gwahoddir disgyblion i’w lofnodi hefyd. Os ydych yn gwrthod neu ddim yn llofnodi, ni ddylid eich cosbi chi na’ch plant mewn unrhyw ffordd. Nid yw telerau’r HSA yn gyfreithiol-rwym. Mae’n rhaid monitro ac adolygu’r HSAs yn rheolaidd. Fel rhiant, dylid ymgynghori â chi cyn gwneud adolygiad ac yna cewch eich gwahodd i lofnodi cytundeb newydd.

Nôl i’r brig


Codi tâl am addysg

Beth mae’n rhaid i ysgolion ei ddarparu am ddim

Mae’n rhaid i bob ysgol, heblaw ysgolion annibynnol, ddarparu addysg am ddim ac ni allant godi tâl am unrhyw weithgaredd (neu ddeunyddiau, llyfrau, arholiadau neu offer i’w ddefnyddio fel rhan o weithgaredd) sy’n:

  • rhan hanfodol o’r cwricwlwm cenedlaethol neu faes llafur addysg grefyddol, neu
  • rhan hanfodol o’r maes llafur ar gyfer arholiad penodedig, neu
  • sy’n cael ei gynnal yn rhannol neu yn gyfan gwbl yn ystod oriau ysgol.

Pa weithgareddau all yr ysgol godi tâl amdanynt

Gellir bob amser godi tâl am weithgaredd sy’n cael ei drefnu gan rywun arall yn hytrach na’r awdurdod addysg lleol neu’r gorff llywodraethol, er enghraifft, ymweliad â’r theatr gan gwmni theatr. Nid oes gwahaniaeth os yw’r gweithgaredd yn digwydd yn ystod oriau ysgol neu beidio.

Mae’n rhaid i’r awdurdod addysg lleol a’r corff llywodraethol lunio polisi costau sy’n nodi pa weithgareddau all yr ysgol godi tâl amdanynt. Mae’n rhaid i’r polisi gynnwys gwybodaeth am ddileadau, hynny yw pan na chodir tâl, er enghraifft, ar rieni sydd ar incwm isel.

Gall yr ysgol neu’r awdurdod addysg lleol ofyn am gyfraniadau gwirfoddol tuag at weithgareddau ac mae’n rhaid i bolisïau rhoi manylion o gostau gwirfoddol. Er enghraifft, mae’n gyffredin i ysgolion ofyn i rieni am gyfraniad gwirfoddol tuag at gost gweithgareddau, offer ysgol neu duag at gronfa’r ysgol yn gyffredinol. Mae’n rhaid bod pob cais i rieni am gyfraniadau yn nodi ei natur wirfoddol yn glir ac mae’n rhaid iddo nodi na wahaniaethir yn erbyn plant y rhieni sy’n dewis peidio â chyfrannu.

Weithiau gall ysgol ofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer gweithgaredd neu drip ac fe fydd yn nodi na fydd y trip yn mynd yn ei flaen heblaw bod y mwyafrif o rieni yn cyfrannu. Mae’n bosib y gall rhieni ystyried eu bod yn cael eu rhoi dan bwysau annheg ond nid yw’n wahaniaethu.

Os ydych yn rhiant a bod gennych broblem ynglyn â chael eich gofyn i dalu am weithgareddau, mae’n bosib yr hoffech gyngor gan ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Mynediad i gofnodion ysgol

Mae’n rhaid i awdurdodau addysg lleol ac ysgolion gadw gwybodaeth am gynnydd addysg pob disgybl. Gallant hefyd gadw cofnod o wybodaeth arall, er enghraifft, hanes meddygol y disgybl, cefndir y teulu, personoliaeth a rhagfynegiadau o’u potensial ar gyfer y dyfodol. Bydd y ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei storio yn amrywio rhwng awdurdodau addysg lleol ac ysgolion unigol. Bydd rhai yn storio’r holl wybodaeth ar gyfrifiadur tra bydd eraill yn cadw copïau caled.

Y disgybl ei hun a’i rieni sydd â hawl i weld y cofnodion ysgol. Gallwch weld cofnodion ysgol eich plentyn os ydych yn gwneud cais ysgrifenedig i’w gweld. Mae’n rhaid eich bod hefyd yn derbyn copi o’r cofnodion os ofynnwch yn ysgrifenedig amdanynt. Dylid eu ddarparu yn rhad ac am ddim neu am gost gyfwerth â chost llungopïo/postio.

Yng Nghymru, gall y pennaeth drefnu bod y cofnodion yn cael eu gyfieithu i’r Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith briodol arall. Os codir tâl am y cofnod a gyfieithwyd, ni ddylai fod yn uwch na chost y cofnodion gwreiddiol.

Mae’n rhaid i’r ysgol ddarparu’r cofnodion o fewn 15 diwrnod o dderbyn y cais ysgrifenedig amdanynt.

Os credwch chi fod unrhyw ran o’r cofnodion ysgol yn anghywir, ysgrifennwch at yr awdurdod addysg lleol neu’r ysgol sydd â’r cofnodion. Os yw’r cofnodion ysgol yn anghywir, mae’n rhaid eu cywiro.

Ni ddatgelir y cofnodion ysgol os:

  • ydynt yn cyfleu gwybodaeth am ddisgybl arall
  • yw deiliad y cofnodion yn credu y byddai datgelu’r wybodaeth yn achosi niwed difrifol i’r disgybl dan sylw neu i rywun arall
  • yw deiliad y cofnodion yn credu eu bod yna risg o gam-drin plant neu os yw’r plentyn eisoes wedi dioddef o gamdriniaeth.

Nôl i’r brig


Golwg cyffredinol

Mae gan rai ysgolion reolau am olwg cyffredinol disgyblion, er enghraifft, mae’n bosib nad oes hawl gan ddisgyblion i wisgo colur neu emwaith. Gall ysgol gael polisi ar olwg cyffredinol cyn belled â’i fod yn rhesymol ac nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn disgyblion. Cewch wybod am bolisi’r ysgol drwy ofyn i’r pennaeth neu’r corff llywodraethol.

Dylai ysgolion fod yn ystyriol o faterion crefyddol, diwylliannol a gwahaniaethol.

Gwisg ysgol

Nid oes ofyniad cyfreithiol bod disgybl yn gwisgo gwisg ysgol. Fodd bynnag, yn Lloegr a Chymru, mae gan y llywodraeth ganllawiau ynglyn â gwisg ysgol. Mae’r canllawiau yn annog ysgolion i gael gwisg benodol, er mai penderfyniad corff llywodraethol yr ysgol yw penderfynu p’un ai a ddylid cael un neu beidio.

Os oes gan yr ysgol bolisi gwisg ysgol, ni ddylai wahaniaethu yn erbyn disgyblion. Mae’n rhaid iddo hefyd ystyried cyfreithiau dynol.

Mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud y dylai’r polisi gwisg ysgol fod yn deg a rhesymol. Dylai sicrhau bod y wisg ysgol a ddewisir yn fforddiadwy. Ni ddylai fod yn rhy ddrud fel ei fod yn atal disgyblion rhag mynychu’r ysgol. Dylai’r ysgol ystyried y gost o gynnwys eitemau brand ac eitemau o liw anarferol cyn mynnu bod yn rhaid eu gwisgo.

Cewch wybod beth yw’r polisi gwisg ysgol drwy ofyn i’r pennaeth neu’r corff llywodraethol.

Am fwy o fanylion am ganllawiau’r llywodraeth ar wisg ysgol yn Lloegr, ewch at wefan yr Adran Addysg yn: (New window) www/education.gov.uk.

Mae’r canllawiau ar gyfer Cymru ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: (New window) http://new.wales.gov.uk.

Yng Nghymru, mae Cynllun Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu grant i ddisgyblion sy’n dechrau ym Mlwyddyn 7 ysgolion uwchradd a reolir gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru. Telir y grant i:

  • ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim, a
  • disgyblion mewn ysgolion arbennig, safleoedd adnoddau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r lwfans gwisg ysgol yn daladwy gan yr awdurdod addysg lleol i ddisgyblion sydd â rhieni sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm. Dim ond disgyblion sy’n mynychu ysgolion uwchradd a gramadeg sy’n cael eu cynorthwyo gan grant ac ysgolion arbennig (disgyblion dydd yn unig) sy’n gallu derbyn y grant. Mae’r grant hwn yn swm penodol.

Nôl i’r brig


Prydau ysgol

Mae’n rhaid i bob ysgol ddarparu prydau yng nghanol y dydd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion ddarparu cyfleusterau dan oruchwyliaeth ac am ddim i ddisgyblion fwyta brechdanau a gallent ddarparu prydau ysgol i bob disgybl. Gall ysgol sy’n penderfynu darparu prydau ysgol i bob disgybl bennu costau’r bwyd.

Mae’n rhaid i’r prydau bwyd a ddarperir gan ysgolion yr awdurdod lleol fodloni rhai safonau er mwyn darparu bwyd iachach.

Cewch fwy o wybodaeth am safonau’r llywodraeth ar gyfer bwyd a weinir mewn ysgolion yn Lloegr ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol: (New window) www.schoolfoodtrust.org.uk.

Yng Nghymru, cewch fwy o fanylion ar wefan Cynulliad Cymru: (New window) http://new.wales.gov.uk. Neu ewch at wefan Rhwydwaith Maeth Cymru: (New window) www.nutritionnetworkwales.org.uk.

Dylai ysgolion ddarparu dietau arbennig os oes eu hangen ar eich plentyn, er enghraifft, ar gyfer rhesymau meddygol neu grefyddol.

Am fwy o wybodaeth am brydau ysgol am ddim, gweler dan y pennawd Prydau ysgol am ddim yn Help gyda chostau addysg.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu mewn ysgolion

Aflonyddwch rhywiol a gwahaniaethu ar sail rhyw mewn ysgolion

Disgrifir aflonyddwch rhywiol fel ymddygiad annerbyniol o natur rywiol neu ymddygiad digroeso sy’n seiliedig ar ryw rhywun megis sylwadau annymunol o natur rywiol neu gyffwrdd amhriodol.

Dylid riportio unrhyw aflonyddwch rhywiol gan ddisgybl neu athro i’r pennaeth yn gyntaf. Ystyrir aflonyddwch rhywiol gan athro fel camymddygiad difrifol a gallai arwain at ddiswyddiad. Gall aflonyddwch rhywiol hefyd gael ei ystyried fel trosedd.

Gallai rhai ysgolion ddelio ag aflonyddwch rhywiol gan ddisgybl fel mater bwlio.

Gwahaniaethu ar sail rhyw yw pan gaiff rhywun ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei ryw na fyddai rhywun o’r rhyw arall dan yr un amgylchiadau. Mae’n digwydd i ferched a bechgyn. Os gwahaniaethwyd ar sail rhyw yn erbyn eich plentyn yn yr ysgol oherwydd, er enghraifft, ni all wneud technoleg oherwydd ei bod yn ferch, mynnwch gyngor ar ba gamau allwch eu cymryd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.

Aflonyddwch hiliol a gwahaniaethu ar sail hil mewn ysgolion

Gallai disgybl ddioddef o gamdriniaeth a thrais hiliol gan ddisgyblion eraill, naill ai ar dir yr ysgol neu wrth gerdded i’r ysgol neu gartref. Mae’n bwysig bod rhieni yn cyflwyno’r mater i sylw’r pennaeth. Mae gan benaethiaid y pŵer i reoli ymddygiad disgyblion du allan i’r ysgol os yw hyn yn rhesymol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad hiliol gan ddisgyblion ar eu ffordd i’r ysgol neu adref o’r ysgol.

Dylai ysgolion y wladwriaeth gael polisiau gwrth-hiliol clir a dylent gymryd camau cadarnhaol i gymell disgyblion rhag gwahaniaethu ar sail hil a stopio ymosodiadau hiliol. Os oes gan yr awdurdod addysg lleol ymgynghorydd sydd â chyfrifoldeb arbennig dros faterion hil, dylech hefyd riportio unrhyw ddigwyddiadau hiliol iddo ef.

Os nad oes gan ysgol bolisi gwrth-hiliol neu os nad yw’n barod i gymryd camau i atal gwahaniaethu ar sail rhyw neu ymosodiadau hiliol, mynnwch gyngor gan gymdeithas arbenigol a all roi cyngor ar sut i gymryd camau pellach. Mae’n bosib yr hoffech ddweud wrth yr heddlu os oes trosedd yn gysylltiedig â’r achos, er enghraifft, os ymosodwyd ar eich plentyn.

Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymdeithasau arbenigol a allai eich helpu chi, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion

Yn Lloegr a Chymru, mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw ysgol neu ddarparwr addysg, gan gynnwys colegau, wahaniaethu yn erbyn disgyblion anabl. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy’n ceisio am le neu gyn ddisgyblion. Mae gan ysgolion y dyletswyddau hyn yn ogystal â’u dyletswyddau at ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae’n rhaid i awdurdodau addysg lleol ddatblygu cynlluniau i wneud ysgolion yn fwy hygyrch i ddisgyblion anabl.

Os yw eich plentyn yn cael problemau wrth geisio cael ei dderbyn mewn ysgol, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd profiadol er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

Gwahaniaethu ar sail rhywioldeb

Mae yn erbyn y gyfraith i ysgol, coleg neu awdurdod addysg lleol wahaniaethu yn erbyn disgyblion sy’n lesbiaid neu hoyw neu sy’n blant i rieni lesbiaid neu hoyw. Er enghraifft, mae yn erbyn y gyfraith i ysgol atal disgybl rhag mynd ar drip ysgol preswyl oherwydd caiff ei ystyried yn hoyw. Mae bwlio disgyblion lesbiaidd neu hoyw, neu ddisgyblion a ystyrir yn lesbiaidd neu hoyw, yn erbyn y gyfraith.

Mae’r rheolau hyn yn gymwys i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion ffydd. Fodd bynnag, nid yw yn erbyn y gyfraith i ysgolion ffydd addysgu bod eu crefydd nhw yn dweud bod perthnasau un-rhyw yn anghywir.

(Example box starts)

Caiff eich merch ei bwlio yn yr ysgol oherwydd ein bod yn hoyw. Gwnaethon ni gwyno i’w hathro a dywedodd mai ‘dim ond pryfocio diniwed’ ydoedd. Mae’r ysgol yn cymryd bwlio am resymau eraill o ddifrif ac yn cymryd camau llym yn ei erbyn. Sut allwn ddelio â’r sefyllfa hon?

Gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail rhywioldeb. Defnyddiwch y weithdrefn gwyno arferol ac os nad yw’n gweithio, mynnwch gyngor ar y posibilrwydd o gymryd camau cyfreithiol.

(Example box ends)

Os gwahaniaethir yn eich erbyn ar sail eich rhywioldeb, gallech gysylltu â chymdeithas o’r enw Education Action Challenging Homophobia (EACH) sydd â llinell gymorth am ddim. Ei rhif ffôn yw: 0808 1000 143 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4.30 pm).

Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail rhywioldeb, gweler Gwahaniaethu ar sail rhywioldeb.

Os ydych yn ddisgybl neu riant sy’n dioddef o wahaniaethu ar sail rhywioldeb yn yr ysgol, siaradwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred mewn ysgolion

Mae yn erbyn y gyfraith i ysgol, coleg neu awdurdod addysg lleol wahaniaethu yn erbyn disgyblion neu rieni oherwydd eu crefydd neu gred. Mae gwahaniaethu yn erbyn rhywun heb grefydd hefyd yn erbyn y gyfraith. Mae yna rai eithriadau i’r rheolau cyffredinol. Er enghraifft, wrth dderbyn disgyblion, gallai ysgolion ffydd roi blaenoriaeth i ddisgyblion o’r un ffydd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail crefydd yn Lloegr a Chymru, gweler Gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred.

Os ydych yn ddisgybl neu riant sy’n dioddef o wahaniaethu ar sail crefydd yn yr ysgol neu oherwydd nad oes gennych grefydd, siaradwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Gwahaniaethu ar sail ailbennu rhyw mewn ysgolion

Yn Lloegr a Chymru, mae yn erbyn y gyfraith i ysgol, coleg neu ddarparwr addysg arall wahaniaethu yn erbyn rhywun sy’n cael triniaeth i ailbennu ei ryw.

Ailbennu rhyw yw newid o un rhyw i’r rhyw arall.

Mae hefyd yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn bwriadu cael triniaeth i ailbennu eich rhyw neu os ydych eisoes wedi’i chael.

Er enghraifft, gallai fod yn wahaniaethu os yw ysgol yn gwrthod caniatáu disgybl trawsrywiol i wisgo’r dillad sy’n briodol i’r rhyw y mae’n newid iddo.

Os hoffech fwy o wybodaeth yn Lloegr a Chymru am wahaniaethu ar sail ailbennu rhyw, gweler Cymryd camau am wahaniaethu ar sail ailbennu rhyw.

Gwahaniaethu mewn ysgolion ar sail beichiogrwydd neu famolaeth

Yn Lloegr a Chymru, mae yn erbyn y gyfraith i ysgol, coleg neu ddarparwr addysg arall wahaniaethu yn erbyn myfyriwr oherwydd ei bod yn feichiog neu wedi cael babi o fewn y 26 wythnos ddiwethaf. Er enghraifft, ni ddylid atal merch rhag mynd i’r ysgol oherwydd ei bod yn feichiog. Os na all fynychu’r ysgol oherwydd ei beichiogrwydd neu oherwydd ei bod wedi cael babi, dylid darparu math arall o addysg ar ei chyfer.

Nôl i’r brig


Disgyblu a chosbi

Yn Lloegr, mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am lunio polisi’r ysgol ar ddisgyblu a chosbi. Mae’n rhaid i’r pennaeth gyhoeddi’r polisi i ddisgyblion a rhieni. Mae’n rhaid i’r polisi fod wedi’i gynllunio i hyrwyddo ymddygiad da ac atal ymddygiad drwg. Mae’n rhaid iddo gynnwys manylion ynglyn â sut fydd yr ysgol yn gweithredu i atal pob math o fwlio (gweler dan y pennawd Bwlio).

Mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud bod yn rhaid i bolisi disgyblu a chosbi’r ysgol ddangos ei ymrwymiad at ddileu pob math o wahaniaethu, aflonyddwch a bwlio. Dylai’r polisi hefyd ddangos ymrwymiad yr ysgol at gydraddoldeb cyfleoedd i bob disgybl.

Dylai’r polisi sicrhau bod disgyblion bregus yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Mae disgyblion bregus yn cynnwys:

  • gyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig
  • disgyblion sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol
  • disgyblion ymfudol a ffoaduriaid
  • disgyblion a ofelir gan yr awdurdod lleol.

Gallai disgyblion yr holl grwpiau hyn ddangos ymddygiad anodd a dylai fod polisi disgyblu a chosbi’r ysgol yn gallu ymdrin â’u hanghenion penodol.

(Example box starts)

Cadwyd fy mab ar ôl ysgol oherwydd dywedodd yr athro ei fod wedi aflonyddu ar y dosbarth. Cafodd ei ddychryn gan sŵn uchel ar y stryd oherwydd cafodd ei atgoffa o bethau drwg a ddigwyddodd iddo yn y gorffennol - rydyn ni’n ffoaduriaid gwleidyddol. Dechreuodd sgrechian a rhedeg i ffwrdd, ond nid oedd yn bwriadu bod yn aflonyddgar.

Nid ddylid cadw eich mab ar ôl ysgol yn yr achos hwn. Byddai’n well i’w athro hysbysu’r dosbarth bod yna amgylchiadau arbennig a’i gysuro a’i gefnogi. Ceisiwch siarad â’r ysgol a’i hatgoffa o ganllawiau’r llywodraeth sy’n rhan o’i pholisi disgyblu. Os nad yw hyn yn helpu, siaradwch ag ymgynghorydd arbenigol ynglyn ag unrhyw gamau pellach y gallwch eu cymryd.

(Example box ends)

Gall aelod staff ddisgyblu disgybl ar dir yr ysgol neu du allan, er enghraifft, ar drip ysgol.

Gall y pennaeth a’r athrawon ddefnyddio dulliau rhesymol heb fod yn gorfforol i gosbi disgybl am ymddygiad annerbyniol. Mae’n rhaid i bob cosb fod yn deg, rhesymol ac o fewn polisi’r ysgol. Mae enghreifftiau o gosbau rhesymol yn cynnwys gwaith ychwanegol yn ystod oriau ysgol neu gael pryd o dafod.

Cael eich cadw i mewn ar ôl ysgol

Mae gan athro yr hawl i’ch cadw i mewn ar ôl ysgol gyda neu heb ganiatâd eich rhiant, cyn belled â bod:

  • yr ysgol wedi ei wneud yn hysbys i ddisgyblion a rhieni bod cadw disgyblion ar ôl ysgol yn fesur disgyblu, a
  • bod pennaeth neu athro awdurdodedig arall yn bresennol pan fod disgyblion yn cael eu cadw i mewn ar ôl ysgol, a
  • bod y gosb yn ‘rhesymol’, er enghraifft, bod oed ac anghenion addysgol arbennig neu grefyddol y disgybl yn cael eu hystyried, a
  • bod yr ysgol yn ystyried diogelwch y disgybl drwy, er enghraifft, ystyried pryd fydd hi’n tywyllu, argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus i deithio adref a’r tebygolrwydd o ymosodiadau hiliol, a
  • bod y disgybl dan 18 oed, a
  • bod y disgybl yn cael ei gadw ar ôl ysgol ar ddiwrnod ysgol neu, yn Lloegr, hefyd ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul yn ystod y tymor, tra nad ydyw yn union cyn hanner tymor neu ar ôl hanner tymor neu ar ddiwrnod a glustnodwyd ar gyfer hyfforddiant staff, a
  • yng Nghymru, bod rhiant y disgybl wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig 24 awr cyn bod yn rhaid i’r disgybl gael ei gadw ar ôl ysgol (nid yw hyn yn berthnasol i ddisgyblion sy’n cael eu cadw i mewn yn ystod amser cinio).

Yng Nghymru, mae canllawiau ar gadw disgyblion ar ôl ysgol ar wefan Llywodraeth Cymru yn: (New window) http://new.wales.gov.uk.

Os caiff ddisgybl ei anafu neu ei ladd o ganlyniad i gael ei gadw i mewn ar ôl ysgol ac roedd yn rhaid

iddo, er enghraifft, deithio adref yn hwyr ar ei ben ei hun, mae’n bosib y gellir cyhuddo’r awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethol o esgeulustod ac efallai bydd yn rhaid iddynt dalu iawndal i’r rhiant.

Gall yr aelod staff sy’n gyfrifol ddisgyblu disgybl p’un ai ei fod ar dir yr ysgol neu beidio, er enghraifft, os ydyw ar drip ysgol.

Atafaelu eitemau

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i ysgolion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gallai cosbau disgyblaethol gynnwys atafaelu a/neu waredu eitemau megis chwaraeydd MP3 neu ffôn symudol. Mae’n rhaid gwneud hyn dan amgylchiadau rhesymol. Er enghraifft, yn ôl canllawiau’r llywodraeth, os yw disgybl yn chwarae cerddoriaeth yn uchel ar ei chwaraeydd cerddoriaeth personol, byddai’n rhesymol i’w gymryd wrtho a’i ddychwelyd iddo ar ddiwedd y dydd. Ni fyddai ei ddinistrio yn rhesymol.

Cosbi corfforol

Gall aelod o staff ddefnyddio grym corfforol rhesymol i stopio ymladd rhwng disgyblion neu stopio disgyblion rhag peryglu eu hun, disgyblion eraill neu eiddo’r ysgol neu atal disgybl rhag cyflawni trosedd.

Mae cosbi corfforol yn erbyn y gyfraith mewn pob ysgol (gan gynnwys ysgolion annibynnol) a phob meithrinfa.

Os ydych yn pryderu am ddefnyddio cosb gorfforol, dylech gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Ymddygiad aflonyddgar

Mae’r dulliau y mae ysgol yn eu defnyddio i ddelio â disgyblion aflonyddgar yn amrywio’n helaeth a gallai math o ymddygiad a ystyrir yn aflonyddgar mewn un ysgol fod yn dderbyniol mewn ysgol arall.

Mae’n rhaid i ysgolion hefyd ystyried amgylchiadau personol disgyblion cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd. Er enghraifft, mae eu polisi ynglyn â delio ag ymddygiad aflonyddgar yn gorfod dangos eu bod yn ymwybodol o anghenion arbennig a allai fod gan ddisgyblion bregus. Mae gan rai ysgolion unedau arbennig sy’n gysylltiedig â’r ysgol sy’n arbenigo mewn helpu disgyblion sydd ag ymddygiad aflonyddgar.

Gallai ymddygiad aflonyddgar disgybl fod yn un o’r ffactorau pam nad yw plentyn yn mynd i’r ysgol. Er enghraifft, mae’n bosib cafodd y plentyn ei wahardd yn barhaol neu dros dro o’r ysgol. Os nad yw plentyn yn mynd i’r ysgol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol i ddarparu addysg briodol. Mae rhai awdurdodau addysg lleol yn darparu addysg mewn unedau arbennig o’r enw Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRU).

Gall ysgol hefyd geisio delio â disgyblion aflonyddgar drwy eu neilltuo o’r cwricwlwm cenedlaethol i gyd neu ran ohono fel eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Er enghraifft, gellir eithrio disgyblion sydd dros 14 oed o rai pynciau fel eu bod yn gallu mynychu cwrs mewn coleg addysg bellach neu gymryd rhan mewn rhaglen yn y gweithle.

Os hoffech fwy o wybodaeth am addysg tu allan i’r ysgol ar gyfer disgyblion sy’n 14 oed neu hŷn, gweler Oed ysgol gorfodol.

Ymddygiad aflonyddgar oddi ar dir yr ysgol

Mae gan benaethiaid y gallu i reoli ymddygiad disgyblion oddi ar dir yr ysgol os yw’n rhesymol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad aflonyddgar gan ddisgyblion ar eu ffordd i’r ysgol ac oddi yno. Er bod ysgolion yn gallu rheoli camymddygiad oddi ar dir yr ysgol, dim ond os yw’r disgybl ar dir yr ysgol neu o dan reolaeth aelod o staff, er enghraifft, ar drip ysgol, y gellir ei gadw i mewn ar ôl ysgol. Fel arall, ni ellir cosbi disgybl tan ei fod yn ôl yn yr ysgol.

Yng Nghymru, mae’r Cod Ymddygiad wrth Deithio yn nodi pa ymddygiad sy’n ddisgwyliedig o ddisgyblion sy’n teithio i’r ysgol neu oddi yno. Mae’n berthnasol i bob math o drafnidiaeth i’r ysgol neu’r coleg, ac i bob disgybl rhwng 5 a 19 oed.

Mae’n rhaid i ddisgyblion sy’n teithio ar fws i’r ysgol neu’r coleg, hefyd gydymffurfio â rheolau rhan benodol o’r Cod o’r enw Ymddygiad wrth Deithio ar Fws Ysgol.

Bydd y Cod yn rhan o bolisi ymddygiad yr ysgol a gall diffyg cydymffurfio arwain at gamau disgyblu. Gallai hyn gynnwys gwahardd y disgybl o’r ysgol neu golli hawl i ddefnyddio trafnidiaeth ysgol. Darllenwch y Cod ar wefan Cynulliad Cymru: (New window) www.wales.gov.uk.

Nôl i’r brig


Arfau yn yr ysgol

Mae’n drosedd i gario cyllyll, drylliau neu arf ymosodol arall ar dir yr ysgol.

Gall yr heddlu chwilio disgyblion yn yr ysgol ac arestio unrhyw un os ydynt yn amau eu bod yn cario arf ymosodol. Gallant hefyd gymryd yr arf wrthynt a’i gadw. Gall yr heddlu ddefnyddio grym rhesymol i wneud hyn.

Mae’n rhaid i’r heddlu ddilyn canllawiau penodol pan ydynt yn chwilio ysgol neu rywun yn yr ysgol. Gelwir y rhain yn Godau Ymarfer yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.

Gall pennaeth, neu rywun arall sydd wedi’i awdurdodi gan y pennaeth, chwilio disgybl os oes ganddynt reswm da dros gredu bod disgybl yn cario cyllell, llafn neu arf ymosodol arall. Mae hyn yn cynnwys chwilio ei eiddo. Gall chwilio disgybl, hyd yn oed os nad yw’r disgybl yn cytuno i gael ei chwilio, ond ni all ofyn i’r disgybl dynnu unrhyw ddillad heblaw am ddillad allanol. Gellir chwilio disgybl ar dir yr ysgol neu rywle arall ble mae’r person sy’n chwilio yn gyfrifol am y disgybl, er engrhaifft, ar drip ysgol.

Os ceir hyd i gyllell neu arf, gellir ei gymryd oddi wrth y disgybl. Mae’n rhaid ei roi u’r heddlu cyn gynted â phosibl.

Erbyn hyn gall ysgolion sgrinio disgyblion am arfau gan ddefnyddio datgelyddion metel sy’n debyg i’r rhai a geir mewn meysydd awyr. Gellir sgrinio disgyblion, hyd yn oed os nad oes rheswm i gredu bod ganddynt arf ac nid ydynt wedi rhoi eu caniatâd.

Nôl i’r brig


Cyffuriau yn yr ysgol

Dylai fod gan bob ysgol a reolir gan yr awdurdod addysg lleol raglen addysg cyffuriau. Dylai fod yn berthnasol i oed ac anabledd y disgyblion.

Dylai fod gan bob ysgol a reolir gan yr awdurdod addysg lleol bolisi cyffuriau sy’n nodi’r ffyrdd y mae’r ysgol yn delio â chyffuriau ar dir yr ysgol. Gallai ysgol ddweud wrth yr heddlu os darganfyddir cyffuriau anghyfreithlon yn yr ysgol, neu os ydynt yn amau bod cyffuriau anghyfreithlon ar dir yr ysgol.

Yn Lloegr, mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud y gall staff yr ysgol chwilio disgybl a’i eiddo heb ganiatâd y disgybl, os oes sail resymol dros amau bod gan y disgybl gyffuriau anghyfreithlon. Ond, ni allant ofyn i’r disgybl dynnu unrhyw ddillad heblaw am ddillad allanol. Gellir chwilio eiddo disgybl, ond dim ond pan fydd y disgybl ac aelod arall o staff yn bresennol.

Os yw staff yr ysgol yn dod o hyd i gyffuriau anghyfreithlon, rhaid iddynt eu trosglwyddo i ddwylo’r heddlu cyn gynted â phosib, onid oes rheswm da dros beidio â gwneud hynny. Yn yr achos hwn, rhaid gwaredu’r cyffuriau.

Nôl i’r brig


Triwantiaeth

Mae’n rhaid i ysgolion nodi ar eu cofrestr presenoldeb p’un ai bod disgybl o oed ysgol gorfodol yn absennol gyda neu heb ganiatad. Os ydych yn darganfod bod eich plentyn yn colli’r ysgol, dylech geisio datrys y broblem cyn gynted â phosibl drwy siarad â’r ysgol. Siaradwch ag athro eich plentyn yn gyntaf.

Mae gan bob awdurdod addysg lleol Swyddog Lles Addysg (EWO) sy’n gallu ymweld â’r disgybl adref os gofynnwyd gan yr ysgol. Bydd yr EWO yn ceisio darganfod pam fod y disgybl yn colli ysgol a chynnig cyngor. Bydd yr ysgol yna yn hysbysu’r EWO o bresenoldeb y disgybl yn yr ysgol.

Pan nad yw’r disgybl yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn Lloegr a Chymru, gall yr awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethol yr ysgol drefnu cytundeb rhieniol gyda’r rhiant. Mae hyn yn nodi’r camau y cytunwch eu cymryd i wella presenoldeb eich plentyn. Nid yw’n orfodol ond os nad ydych yn cytuno neu fethu â chydymffurfio â thelerau’r contract yr ydych wedi’i lofnodi, gellir cymryd camau pellach yn eich erbyn.

Os yw’r disgybl yn parhau i golli’r ysgol, bydd yr EWO yn ymweld â chartref y disgybl yn rheolaidd. Os nad yw’n gweld gwelliant, gallai anfon rhybudd y bydd camau yn cael eu cymryd yn eich erbyn yn y llys. Gall ysgol wahardd disgybl o’r ysgol oherwydd triwantiaeth parhaus, er bod hyn yn anghyffredin.

Yn Lloegr, mae gan awdurdodau addysg lleol, penaethiaid a’r heddlu hefyd y gallu i gyhoeddi rhybudd cosb os yw disgybl yn colli ysgol. Os na telir y rhybudd cosb, gall yr awdurdod addysg lleol erlyn. Os ydych yn anghytuno â’r rhybudd cosb, gallwch fynd i’r llys i ddadlau eich achos. Mae’n rhaid i’r rhybuddion cosb gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod addysg lleol ac os nad oes ganddynt un eto, ni all gyhoeddi rhybudd cosb.

Os yw’r heddlu yn credu bod eich plentyn o oed ysgol gorfodol ac yn absennol o’r ysgol heb ganiatad, gallant gymryd eich plentyn yn ôl i’r ysgol neu le arall a ddynodwyd gan yr awdurdod addysg lleol. Os ydych yn credu bod yr heddlu wedi gweithredu’n afresymol, dylech gwyno.

Os hoffech gwyno i’r heddlu neu’r awdurdod addysg lleol, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Bwlio

Mae canllawiau’r llywodraeth yn disgrifio bwlio fel ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, sy’n cael ei ailadrodd dros gyfnod o amser, sy’n niweidio unigolyn neu grŵp arall yn fwriadol, naill ai’n gorfforol neu’n emosiynol. Gall bwlio fod ar sawl ffurf, gan gynnwys seiber-fwlio, ac yn aml y cymhelliant yw rhagfarn yn erbyn grwpiau penodol neu’r farn fod plentyn arall yn wahanol.

Mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud y dylai ysgolion y wladwriaeth gael polisi gwrth-fwlio sy’n nodi sut y dylid delio â bwlio yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys:

  • bwlio ar sail hil, crefydd a diwylliant
  • bwlio disgyblion sydd ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig
  • bwlio rhywiaethol ac aflonyddwch
  • bwlio disgyblion ar sail eu rhywioldeb neu rywioldeb honedig
  • seiber-fwlio (defnyddio ffôn symudol neu’r rhyngrwyd i fwlio disgyblion).

Os nad oes polisi, dylech gysylltu â’r pennaeth.

Yn Lloegr, mae canllawiau’r llywodraeth yn dweud y dylai ysgolion ddisgyblu disgyblion sy’n bwlio, boed hynny o fewn yr ysgol neu du allan i safle’r ysgol. Ar yr un pryd, dylai’r ysgol ystyried pam y maen nhw’n bwlio ac adnabod unrhyw angen i’r bwlis eu hunain gael help.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio i’r fath raddau fel ei fod yn rhy ofnus i fynd i’r ysgol, neu eich bod chi’n poeni am ddiogelwch eich plentyn, mae’n bosib yr hoffech gadw eich plentyn adref. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn darparu addysg briodol i’ch plentyn. Os yw eich plentyn yn rhy sâl i fynd i’r ysgol oherwydd ofn neu straen, dylai fynd at y doctor a dylid gofyn i’r doctor roi tystiolaeth feddygol i’r ysgol. Os na all eich plentyn gael tystysgrif feddygol, sicrhewch eich bod yn nodi yn eich llythyrau ei fod yn afresymol, yn eich barn chi, i’ch plentyn fynychu’r ysgol oherwydd bwlio.

Os yw’r bwlio yn hynod o ddifrifol a bod y bwli dros ddeg oed, gellir ei erlyn am gyflawni trosedd, er enghraifft, ymosodiad neu aflonyddwch. Os nad yw’r ysgol wedi llwyddo i atal y bwlio, mae’n bosib yr hoffech ei riportio i’r heddlu.

Os na fydd yr heddlu yn fodlon gweithredu, neu os yw’r bwli dan ddeg oed, gallwch ofyn i gyfreithiwr am gyngor ynglyn â chamau cyfreithiol eraill. Er enghraifft, gellwch gymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr ysgol am esgeulustod a’r awdurdod addysg lleol am fethu â chyflawni ei ddyletswydd i ofalu am y disgybl.

Yn Lloegr, mae canllawiau i rieni, disgyblion ac athrawon ynghylch bwlio ar gael o’r Adran Addysg yn: (New window) www.education.gov.uk.

Yng Nghymru, mae canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru: (New window) wales.gov.uk.

Nôl i’r brig


Diogelwch yn yr ysgol ac ar dripiau ysg

Nid oes yn rhaid i ysgolion ddarparu yswiriant ar gyfer damweiniau i ddisgyblion. Mae’n bosib yr hoffech drefnu yswiriant damweiniau unigol ar gyfer eich plentyn ac mae’n bosib y cewch wybodaeth a chyngor ynglyn â sut i’w wneud gan eich awdurdod addysg lleol. Mae rhai awdurdodau addysg lleol wedi trefnu telerau arbennig gyda chwmnïau yswiriant. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am bolisiau addas gan frocer yswiriant.

Mae’n ddyletswydd ar bob athro i ofalu am ddisgyblion tra’u bod ar dir yr ysgol neu’n cymryd rhan mewn gweithgaredd ysgol, er enghraifft, ymweliad â phwll nofio lleol neu drip i ffwrdd o’r ysgol. Bydd y ddyletswydd gofal hon yn gymwys hyd yn oes os ydych wedi rhoi caniatad i’ch plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd. Dylech hysbysu’r ysgol o unrhyw gyflwr meddygol neu anabledd sydd gan eich plentyn a olygir ei fod yn fwy tebygol o gael ei anafu neu fod angen cymryd gofal ychwanegol, er enghraifft, os oes gan eich plentyn haemoffilia. Dylai’r ysgol gofnodi pob damwain.

Nôl i’r brig


Addysg yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd

Os na all eich plentyn fynd i’r ysgol oherwydd beichiogrwydd, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol i ddarparu addysg briodol amgen, er enghraifft, hyfforddiant gartref. Byddai’n rhesymol i ddisgwyl isafswm o ddeg awr yr wythnos. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae’r ddarpariaeth fel arfer yn fwy cyfyngedig. Mae llawer o awdurdodau addysg lleol yn darparu un sesiwn yr wythnos ac nid yw rhai hyd yn oed yn darparu hyn. Fodd bynnag, nid yw diffyg adnoddau yn rheswm digonol dros beidio â darparu addysg briodol amgen.

Os ydych yn teimlo nad yw eich plentyn yn derbyn yr addysg briodol oherwydd beichiogrwydd, dylech ystyried gofyn am gyngor arbenigol ynglyn â’r camau y gallwch eu cymryd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Nôl i’r brig


Gwaharddiadau o’r ysgol

Mae’r gweithdrefnau y gellir eu defnyddio i wahardd disgybl o’r ysgol, a’r gweithdrefnau y gallwch chi eu defnyddio i herio’r penderfyniad, yn amrywio yn ôl y math o ysgol y mae eich plentyn yn ei mynychu. Fodd bynnag, mae gan y llywodraeth ganllawiau sy’n ymdrin â disgyblu a chosbi, ac mae’n rhaid i’r ysgol eu dilyn pan yw’n penderfynu naill ai i wahardd disgybl neu beidio.

Defnyddir gwahanol dermau mewn gwahanol ysgolion pan gaiff disgybl ei wahardd, ond yn gyffredinol defnyddir y diffiniadau canlynol:

  • gwaharddiad dros dro: gwneir hyn fel arfer am resymau disgyblu ar gyfer cyfnod penodol – gweler isod
  • gwaharddiad parhaol: mae hyn fel arfer yn golygu bod y disgybl wedi cael gwybod na all fynychu rhyw ysgol benodol am dorri rheolau disgyblu mewn ffordd ddifrifol, neu ymddwyn yn aflonyddgar yn barhaus - gweler isod.

Mae yn erbyn y gyfraith i’r ysgol wahaniaethu, er enghraifft, ar sail hil, rhyw neu anabledd wrth benderfynu naill i wahardd eich plentyn neu beidio. Os ydych yn credu bod gwahaniaethu yn gysylltiedig â phenderfyniad yr ysgol i wahardd eich plentyn, sicrhewch eich bod yn ei grybwyll cyn gynted ag y gallwch.

(Example box starts)

Gwaharddwyd fy mab o’r ysgol oherwydd iddo ymladd gyda’r bechgyn eraill yn ei ddosbarth. Mae’n dweud yr oedd yn ceisio amddiffyn ei hun ac nid yw wedi bod mewn trafferth debyg erioed o’r blaen. Ni chosbwyd unrhyw un o’r bechgyn eraill sydd â chroen gwyn. Rydw i’n meddwl bod gwahaniaethu ar sail hil yn ffactor - mae ein teulu yn hanu o’r Caribî.

Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu ar sail hil yn erbyn eich mab. Mynnwch gyngor gan gymdeithas arbenigol ynglyn â’r camau y gallwch eu cymryd yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

(Example box ends)

Os ydych yn rhiant i blentyn sy’n wynebu gwaharddiad neu sydd wedi cael ei wahardd, mae’n bosib y byddai cysylltu â chymdeithas arbenigol am gefnogaeth a chyngor yn ddefnyddiol. Er enghraifft, mae’r Ganolfan Ymgynghori ar Addysg yn rhedeg llinell gyngor rad ac am ddim ar waharddiadau. Y rhif yw: 0808 800 0327.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.

Yn Lloegr, os gwaharddwyd eich plentyn o’r ysgol, mae’n ddyletswydd arnoch i’w reoli yn ystod amser ysgol yn ystod pum diwrnod cyntaf y gwaharddiad. Os ceir hyd i’ch plentyn, er enghraifft, yn y dref, parch, ar y stryd neu du allan i gatiau’r ysgol, byddwch wedi cyflawni trosedd oni bai bod gennych reswm da dros ganiatáu eich plentyn i fod yno. Gall yr awdurdod addysg lleol eich erlyn ac mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy. Fel arall, gallech dderbyn rhybudd cosb. Dylech dalu’r ddirwy cyn y dyddiad a nodwyd ar y rhybudd. Os ydych yn anghytuno â’r ddirwy, gallwch ofyn am wrandawiad llys er mwyn dadlau eich achos.

Gwaharddiad dros dro

Ni ellir gwahardd disgybl dros dro am fwy na 45 diwrnod mewn blwyddyn ysgol. Ni ddylid defnyddio gwaharddiadau o fwy na 15 diwrnod ysgol yn aml ac fel arfer bydd gwaharddiad o un i dri diwrnod ar gyfer y gwaharddiad cyntaf yn briodol. Fel arfer, caiff disgybl ei wahardd dros dro os yw’n torri rheolau disgyblu, er enghraifft, os yw’n gwrthod gwisgo’r wisg ysgol gywir. Os caiff disgybl ei wahardd o’r ysgol am fwy nag un neu dau ddiwrnod, dylai’r pennaeth drefnu bod y disgybl yn derbyn gwaith i’w wneud adref a’i farcio pan ddychwela i’r ysgol.

Gwaharddiad parhaol

Gellir gwahardd disgybl am dorri rheolau disgyblu mewn ffordd ddifrifol. Gallai’r pennaeth ddewis gwahardd disgybl yn barhaol os yw’r drosedd yn ddifrifol iawn, hyd yn oed os nad yw erioed wedi cael ei wahardd dros dro o’r blaen. Pan fydd yn rhaid i’r pennaeth ymchwilio’r digwyddiad, mae’n bosib y bydd yn gwahardd y disgybl am gyfnod penodol ac yna, pan fod ganddo’r holl ffeithiau, gall ei newid i fod yn waharddiad parhaol.

Os gwaharddwyd plentyn yn barhaol o’r ysgol, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau y darperir addysg addas arall o chweched diwrnod y gwaharddiad (yng Nghymru o’r 15fed diwrnod).

Yn Lloegr, nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu addysg addas arall ar gyfer disgybl os yw:

  • yn mynd i stopio addysg orfodol o fewn y chwe wythnos nesaf ac
  • nid oes unrhyw arholiadau nac asesiadau cyhoeddus eraill i’w cwblhau.

Yn Lloegr, fe fydd yr awdurdod lleol yn darparu addysg ran amser ar gyfer disgybl, ond dim ond os oes gan y disgybl anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sy’n golygu nad addysg lawn amser yw’r opsiwn orau i’r disgybl. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os yw’r disgybl yn datblygu salwch cronig neu ag anabledd ar ôl damwain.

Gorchymyn rhieni

Yn Lloegr a Chymru, gall awdurdod addysg lleol geisio i’r llys ynadon am orchymyn rhieni ar gyfer rhieni’r plentyn sydd wedi’i wahardd o’r ysgol. Os gwneir gorchymyn rhieni, mae’n golygu bod gennych chi, fel y rhiant, reolaeth dros y plentyn a’ch bod yn mynychu sesiynau cynghori neu dderbyn rhaglen arweiniad. Os nad ydych yn cydymffurfio â thelerau’r gorchymyn rhieni heb unrhyw reswm da, rydych yn cyflawni trosedd a gallech dderbyn dirwy.

Gall yr awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethol yr ysgol hefyd geisio am orchymyn rhieni hyd yn oed os nad yw’r disgybl wedi’i wahardd o’r ysgol, ond ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd a allai fod wedi arwain at waharddiad.

Nôl i’r brig


Canlyniadau arholiad

Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniadau eich arholiadau neu asesiadau, mae’r ffordd o ddelio â’r broblem yn dibynnu ar b’un ai bod yr arholiadau yn rhai mewnol neu allanol.

Arholiadau mewnol

Os yw’r arholiadau yn rhai mewnol, gallwch chi neu’ch plentyn gysylltu â’r athro, pennaeth neu’r corff llywodraethol. Fel arfer nid oes hawl gennych i ofyn bod canlyniadau’r arholiad mewnol yn cael eu harolygu eto.

Arholiadau allanol

Os oes gennych ymholiadau ynglyn â phrawf Cyfnod Allweddol, dylech siarad â’r ysgol. Os yw’r ysgol yn credu bod gwall marcio, gallwch ofyn iddo gael ei arolygu gan asiantaeth marcio allanol.

Os ydych yn anhapus â chanlyniadau’r arholiadau allanol megis arholiadau TGAU neu lefel A, gallwch ofyn i’r pennaeth i gyflwyno ymholiad am ganlyniadau neu apel i’r bwrdd arholi. Gallai ymholiad fod yn wiriad clerigol cyflym neu gallai arwain at ail-arholi ac ail-farcio gwaith cwrs. Mae’n rhaid i’r pennaeth ofyn i’r bwrdd arholi amdano cyn Medi 20 yn dilyn arholiadau TGAU/lefel A yr haf.

Nôl i’r brig


Ail-sefyll

Mae gan ddisgyblion yr hawl i ail-sefyll yr arholiad os oeddent wedi’i golli yn wreiddiol neu os hoffent wella eu gradd. Yn ymarferol, mae hyn yn dibynnu ar bolisi’r ysgol. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn rhaid i rai disgyblion dalu eu ffioedd eu hun i ail-sefyll arholiad.

Nôl i’r brig