Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban



Gwasanaethau Bws a bysiau moethus

Mae gwasanaethau bws y tu allan i Lundain yn cael eu rhedeg gan weithredwyr preifat neu maen nhw’n wasanaethau sy’n gymorthdaledig gan Weithrediaeth Cludiant Teithwyr neu awdurdod lleol. Mae yna chwe Awdurdod Cludiant Teithwyr yn Lloegr ac un yn yr Alban. Mae gan bob Awdurdod Cludiant Teithwyr Wethrediaeth Cludiant Teithwyr, sy’n gyfrifol am wasanaethau cymorthdaledig yn ei ardal - gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau.

Gall awdurdodau lleol ddarparu rhai gwasanaethau bysiau a rhaid iddynt ddarparu gwasanaethau bysiau sy’n ateb gofynion pobol hŷn ac anabl. Fel arfer bydd gan yr awdurdod lleol swyddog trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gyfrifol am wasanaethau bws.

Mae gwasanaethau bws yn Llundain yn gyfrifoldeb Transport for London (TfL), sy’n rhoi cytundebau a thrwyddedau i weithredwyr bysiau preifat.

Mae pob gwasanaeth bws moethus ym Mhrydain yn cael eu gweithredu’n breifat.

Tocynnau cosb

Yn Llundain yn unig, efallai y byddwch yn gymwys i gael tocyn cosb os ydych chi’n teithio heb docyn neu drwydded ddilys. Nid dirwy ydyw tâl cosb ond mae’n bris sy’n cael ei osod ar gyfradd uwch na’r pris arferol.

Os nad ydych chi’n talu am y tocyn cosb pan ofynnir i chi, rhaid i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i gynrychiolydd swyddogol Transport for London (TFL). Mae gwrthod rhoi’r manylion hyn yn drosedd ac fe allech chi gael eich erlyn. Os ydych chi am apelio yn erbyn codi tâl cosb arnoch - os ydych chi wedi talu ai peidio- mae gennych 21 diwrnod i wneud hyn. Rhaid i TFL wedyn ddangos i chi pam y dylech chi dalu ac os ydych chi’n parhau i wrthod, bydd yn rhaid iddyn nhw fynd â’r achos i’r llys sirol. Os ydych chi am apelio ysgrifennwch at y Gwasanaethau Gwarchod Cyllid - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi’ch trin yn annheg oherwydd bod tâl cosb wedi’i godi arnoch fe ddylech chi gwyno’n ysgrifenedig wrth Transport for London -ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain.

Cwynion am wasanaethau bws

Os oes gennych gwyn ynglŷn ag unrhyw wasanaeth bws (er enghraifft, gyrru anniogel, gorbrisio, rhedeg yn hwyr, ymddygiad staff annerbyniol) fe ddylech chi gwyno yn uniongyrchol wrth y gweithredwr bws. Rhaid arddangos enw a chyfeiriad y gweithredwr ar y cerbyd ac fe gaiff ei arddangos hefyd ar y tu allan. Yn Llundain fe allwch chi gwyno’n uniongyrchol wrth Transport for London (TFL)).

Mae gan lawer o weithredwyr preifat a Gweithrediaethau Cludiant Teithwyr siarteri neu godau ymarfer sy’n nodi sut yr ymdrinnir â chwynion a beth y gall teithiwr ei ddisgwyl.

Os ydych chi wedi cwyno am wasanaeth bws y tu allan i Lundain ac yn anfodlon â’r modd y mae’r gweithredwr wedi delio â’ch cwyn, fe allwch fynd â’r gwyn:

  • yn Lloegr a Chymru’n unig, at y Corff Apeliadau Bysiau (pa un ai yw’r bws yn cael ei weithredu’n breifat neu’n un cymorthdaledig) - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau, neu
  • y Comisiynydd Trafnidiaeth i’r ardal, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y gwasanaeth neu’r Weithrediaeth Cludiant Teithwyr lleol - (ar gyfer y cyfeiriadau, gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau)
  • yn yr Alban, y Platfform Teithwyr Bysiau (BPP)- gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau.

Os ydych chi wedi cwyno am wasanaeth bws yn Llundain ac yn anfodlon, fe ddylech chi gysylltu â London Travelwatch - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain.

Os ydych chi’n teithio y tu allan i Lundain a bod gennych gwyn gyffredinol am wasanaethau bws, er enghraifft, ynglŷn â diffyg gwasanaeth yn eich ardal neu ynglŷn â ble y lleolir arosfan neu gysgodfa bws, fe ddylech chi gysylltu â’r awdurdod lleol neu, os ydych chi mewn ardal sy’n cael ei gwarchod gan Awdurdod Cludiant Teithwyr, y Weithrediaeth Cludiant Teithwyr - ar gyfer y cyfeiriadau gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau. Yn Llundain, fe ddylech chi gysylltu â Chanolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Bysiau Cludiant Llundain- ar gyfer y cyfeiriadau, gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain.

Os oes gyda chi gwyn ynglŷn â gwasanaeth bws yn yr Alban, cysylltwch â’r gweithredwr bws yn gyntaf. Os nad yw hyn yn datrys y broblem fe allwch chi fynd â’ch cwyn at y Platfform Teithwyr Bws (BPP) - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau. Gall BPP ddelio â chwynion am fethiannau gwasanaeth, ymddygiad staff, darpariaeth gwasanaeth a phrisiau, ac fe allan nhw - os cynhelir eich cwyn- orfodi’r gweithredwyr bws i dalu iawndal. Rhaid i chi gwyno wrth y BPP cyn gynted ag sy’n bosibl, heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl i chi dderbyn yr ymateb terfynol oddi wrth y gweithredwr bws. Os ydyw’r gwyn y tu allan i’w cylch gwaith hwy, bydd BPP yn ei drosglwyddo i gorff sy’n gallu delio ag ef, megis Y Comisiynydd Trafnidiaeth, neu’r Corff Apeliadau Bysiau. Allwch chi ddim mynd yn syth at y Corff Apeliadau Bysiau gyda chwyn am wasanaethau bws yn yr Alban. Fe allwch chi hefyd achwyn yn uniongyrchol wrth y Comisiynydd Trafnidiaeth i’r Alban. All y Comisiynydd Trafnidiaeth ddim dyfarnu iawndal ond fe all ddirwyo gweithredwr bws neu dynnu nôl eu trwydded gweithredwr.

Cwynion am wasanaethau bws moethus

Dylai unrhyw un sydd â chwyn am safon gwasanaeth bws moethus gyfeirio eu cwyn i’r gweithredwr. Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd y mae’r gweithredwr wedi delio â’r gwyn fe ddylech chi gwyno wrth y Corff Apeliadau Bysiau (BAB). Ar gyfer y cyfeiriad gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau.

Nôl i’r brig


Gwasanaethau Rheilffyrdd a Threnau tanddaearol

Tocynnau Cosb

Gwasanaethau Rheilffyrdd

Gall gweithredwyr rheilffyrdd roi tocyn cosb i deithiwr sy’n teithio heb y tocyn cywir mewn rhai ardaloedd. Bydd hyn yn docyn cosb yn y man a’r lle ar ben y tâl arferol ac nid dirwy mohono. Os yw’r pris y dylech chi fod wedi’i dalu yn £10.00 neu lai, y gosb fydd £20.00. Os oedd y pris dros £10.00, bydd y tocyn cosb yn ddwywaith gwerth pris y tocyn.

Efallai y byddwch am apelio yn erbyn tâl cosb os oedd:

  • rhybudd annigonol eich bod yn teithio mewn ardal tocynnau cosb oherwydd, er enghraifft, bod arwyddion yn annigonol, ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu doeddech chi ddim yn gallu darllen yr arwyddion oherwydd bod nam ar eich golwg
  • cyfle annigonol i brynu tocyn i deithio oherwydd, er enghraifft, bod ciw hir o bobol wrth y swyddfa docynnau a doedd y peiriant tocynnau ddim ar gael, neu os oeddech chi ddim yn gallu defnyddio’r peiriant oherwydd anabledd corfforol.

Dylid apelio i’r Gwasanaeth Apêl Tocynnau Cosb Annibynnol (IPFAS) - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd, Cyfeiriadau.

Mae’n drosedd i deithio ar drên gyda’r bwriad o osgoi talu am docyn. Os cewch eich erlyn am y drosedd hon, fe ddylech chi gael cyngor pellach oddi wrth ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft yn Swyddfa Cyngor ar Bopeth.

Gwasanaethau trenau tanddaearol

Rhoddir tocynnau cosb ar wasanaethau trenau tanddaearol yn Llundain ac nid gwasanaethau trenau tanddaearol y tu allan i Lundain. Rhoddir tocynnau cosb am yr un rheswm ag ar fysiau, ac ymdrinnir â hwy yn yr un modd - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Bws a Bysiau Moethus.

Os ydych chi am apelio yn erbyn tocyn cosb, fe ddylech chi ysgrifennu at Swyddfa Tocynnau Cosb Trenau Tanddaearol Llundain - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain.

Cwynion am wasanaethau rheilffyrdd

Os oes gennych gwyn ynglŷn â thaith trên neu fod trên yn hwyr neu wedi’i ganslo, fe ddylech chi gyfeirio’ch cwyn at swyddog gwasanaethau cwsmeriaid y gweithredwr trên. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn iawndal am wasanaethau sy’n hwyr. Fe ddylech chi wirio hyn gyda swyddog gwasanaethau cwsmeriaid y gweithredwr trên. Os ydych chi’n cwyno am orsaf, fe ddylech chi ddarganfod os yw’r orsaf yn cael ei rhedeg gan gwmni gweithredu trenau neu gan Network Rail. Fe allwch chi wneud hyn trwy wirio’r logo a arddangosir yn yr orsaf. Fe ddylech chi wedyn gyfeirio’ch cwyn at y swyddog cwsmeriaid priodol.

Am wybodaeth ynglŷn â pha iawndal y gallwch chi ei dderbyn os yw’ch tren yn hwyr, gweler Cwestiynau Cyffredin am drafnidiaeth.

Rhaid i weithredwyr trenau gael siarter teithwyr sydd wedi’i gymeradwyo gan y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd. Yn ogystal â nodi safonau gwasanaeth, mae’r siarter yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â sut mae cwyno. Os ydych chi am gwyno fe allwch chi gael ffurflen gwyno yn yr orsaf neu fe allwch chi gwyno dros y ffôn. Mae hysbysiadau mewn gorsafoedd ac ar drenau yn rhoi cyfeiriadau cwyno a manylion rhifau ffôn.

Os yw cwyn yn debygol o ymwneud â mwy nag un cwmni, neu os ydych chi’n ansicr ynglŷn â pha gwmni y dylech gwyno wrtho, cwynwch wrth y sawl sydd fwyaf tebygol. Dylai’r cwmni hwn wedyn ddelio â’r gwyn neu ei drosglwyddo i’r cwmni neu gwmnïau priodol.

Os ydych chi’n teithio y tu allan i Lundain ac yn anfodlon ynglŷn â’r ffordd mae’r cwmni trenau neu Network Rail wedi delio â’ch cwyn, fe ddylech chi gwyno wrth Passenger Focus (gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau). Yn Llundain, fe ddylech chi gysylltu â London TravelWatch - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundainam y cyfeiriad.

Cwynion am y Gwasanaeth Ymholiadau National Rail

Mae’r Gwasanaeth Ymholiadau National Rail yn rhoi gwybodaeth dros y ffôn ynglŷn ag amserlenni, prisiau a thocynnau ar unrhyw daith. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am waith peirianyddol sy’n digwydd ac am y daith orau neu rataf i’w defnyddio. Y rhif ffôn yw 08457 48 49 50. Y rhif ffôn ar gyfer y Gymraeg yw 0845 60 40 500.

Os rhoddwyd gwybodaeth anghywir i chi, cwynwch wrth Passenger Focus (gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau). Fe fydd angen i chi roi’r dyddiad a’r amser y ffonioch chi'r Gwasanaeth Ymholiadau National Rail ynghyd â’ch cod ffôn chi eich hun er mwyn iddyn nhw adnabod y ganolfan alw fu’n ymdrin â’ch ymholiad gwreiddiol.

Cwynion am wasanaethau trenau tanddaearol

Y tu allan i Lundain y mae yna wasanaethau trenau tanddaearol ar Lannau Mersi, Tyne a Wear a Glasgow. Mae’r rhain yn gyfrifoldeb y Weithrediaeth Cludiant Teithwyr ar gyfer yr ardal - gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau er mwyn gweld y cyfeiriadau. Mae trenau tanddaearol yn Llundain yn gyfrifoldeb Transport for London - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain am y cyfeiriad.

Os oes gennych gwyn, ewch at weithredwr y gwasanaeth. Rhaid arddangos enw a chyfeiriad y gweithredwr ar y trên a bydd yn cael ei arddangos hefyd yn yr orsaf.

Yn Llundain, os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn cychwynnol wrth y rheolwr cyswllt fe allwch chi gwyno wrth Ganolfan Gwasanaeth y Cwsmer Trenau Tanddaearol Llundain- gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain am y cyfeiriad.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon fe ddylech chi gwyno wrth London TravelWatch - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain am y cyfeiriad.

Nôl i’r brig


Tacsis a cherbydau hurio preifat

Ymhob ardal y tu allan i Lundain, mae’r awdurdod lleol yn rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat a’u gyrwyr. Yn Llundain mae tacsis a cherbydau hurio preifat a’u gyrwyr yn cael eu trwyddedu gan yr Heddlu Metropolitan yn y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain am y cyfeiriad.

Cwynion am dacsis a cherbydau hurio preifat

Tacsis

Os oes gyda chi gwyn ynglŷn ag ymddygiad gyrrwr, er enghraifft, neu yrru anniogel, neu’r gyrrwr ddim yn cymryd y daith fwyaf uniongyrchol, neu’r mesurydd wedi’i osod yn anghywir, cwynwch wrth y gweithredwr tacsi. Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb yna cwynwch wrth eich awdurdod lleol, gan ddyfynnu, lle mae’n bosibl, rhif y drwydded. Fel arfer arddangosir rhif y drwydded y tu fewn a’r tu allan i’r tacsi.

Os ydych chi’n cwyno am wasanaeth tacsi yn Llundain ac yn anfodlon â’r ymateb yr ydych wedi’i dderbyn, ewch â’ch cwyn at y Swyddfa Cludiant Cyhoeddus, gan roi rhif bathodyn y gyrrwr a chymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y gwyn - gweler o dan y pennawd Gwasanaethau Cludiant yn Llundain am y cyfeiriad.

Cerbydau hurio preifat

Fe ddylech chi yn y lle cyntaf gwyno wrth y gweithredwr. Os nad ydych chi’n fodlon â chanlyniad cwyn wrth y gweithredwr cerbyd hurio preifat, ewch at eich awdurdod lleol neu Swyddfa Cludiant Cyhoeddus os ydych chi’n byw yn ardal Llundain.

Nôl i’r brig


Niwed Personol a difrod i eiddo

Os ydych chi’n cael niwed neu os caiff eich eiddo ei ddifrodi wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac eithrio trên (er enghraifft, os ydych chi’n syrthio lawr staer ar risiau symudol), fe ddylech chi ei riportio wrth y gweithredwr. Efallai y byddwch chi hefyd am ystyried os allwch chi gael iawndal ai peidio am unrhyw niwed neu ddifrod a achoswyd gan y ddamwain.

Os ydych chi’n cael niwed neu os caiff eich eiddo ei ddifrodi ar drên, cwynwch wrth y gweithredwr trên neu Hawliadau Rheilffyrdd Miller - gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau am y cyfeiriad. Os ydych chi’n amau fod yna dorri rheolau iechyd a diogelwch wedi digwydd fe ddylech ei riportio wrth y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch - gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau.

Nôl i’r brig


Tocynnau Mantais

Gall eich cyngor lleol gynnig tocynnau rhatach i rai pobol, er enghraifft, pobol o oedran pensiwn, pobol anabl neu ddisgyblion ysgol. Gall y tocynnau mantais hyn fod yn berthnasol i bob math o drafnidiaeth gyhoeddus - bysiau, trenau, tramiau a threnau tanddaearol. Mewn rhai achosion, rhaid i’ch cyngor lleol gynnig tocynnau mantais - gweler o dan y pennawd Teithio am ddim ar fws.

Os ydych chi am wybod a ydych yn gymwys i dderbyn tocyn mantais, cysylltwch â swyddog gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus eich awdurdod lleol neu Weithrediaeth Cludiant Teithwyr (gweler o dan y pennawd Cyfeiriadau). Os ydych chi’n byw yn Llundain, er mwyn cael gwybodaeth am docynnau teithio mantais, ewch i: (New window) www.freedompass.org.

Teithio am ddim ar fws

Lloegr

Yn Lloegr, yr ydych yn gymwys i deithio am ddim ar adegau llai prysur ar fysiau lleol unrhyw le yn Lloegr os ydych chi:

  • yn anabl, neu
  • yn fenyw sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn gwladol, neu
  • yn ddyn sydd wedi cyrraedd yr oed pensiwn gwladol ar gyfer menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi.

Fe allwch chi ddod o hyd i declyn cyfrifo i’ch helpu i gyfrifo eich oedran pensiwn gwladol, neu oedran pensiwn gwladol menyw sydd â’r un dyddiad geni â chi, ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Mae’r oriau llai prysur rhwng 9.30am a 11pm yn ystod yr wythnos a thrwy’r dydd ar y penwythnos a gŵyl y banc. Yn Llundain, fe allwch chi deithio am ddim ar y bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus arall unrhyw bryd, nid ar adegau llai prysur yn unig. Am fwy o wybodaeth, ewch i: (New window) www.londoncouncils.org.uk.

Mae rhai gwasanaethau bws heb fod yn gynwysedig yn y teithio am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys bysiau moethus rhwng dinasoedd, rhai bysiau parcio a theithio, gwasanaethau bysiau yn lle trenau dros dro ac unrhyw wasanaethau â’u bwriad yn bennaf ar gyfer twristiaeth.

Mae rhai awdurdodau lleol yn dewis cynnig gostyngiadau ychwanegol a theithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gwiriwch gyda’ch awdurdod lleol am fanylion llawn.

Cymru

Yng Nghymru, gall y bobol ganlynol gael tocyn bws am ddim:

  • pobol sy’n 60 oed neu drosodd
  • pobol anabl
  • pobol sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd wedi cael anaf difrifol neu gyn-filwyr sydd wedi cael anaf difrifol
  • cydymaith hanfodol i bobol anabl. Mae’r tocyn bws yn dangos os yw’r cydymaith yn hanfodol.

Mae’r tocyn bws ar gael oddi wrth eich awdurdod lleol. Mae’n caniatáu teithio am ddim ar fws unrhyw bryd a gellir ei ddefnyddio ymhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Fe allwch chi hefyd ei ddefnyddio ar rai gwasanaethau pellter-hir.

Yr Alban

Yn yr Alban, gall y bobol ganlynol gael Cerdyn Hawl cenedlaethol. Mae hwn yn caniatáu iddynt deithio am ddim ar fws unrhyw le yn yr Alban:

  • pobol sy’n 60 oed neu drosodd
  • pobol anabl
  • cydymaith hanfodol i bobol anabl. Mae’r Cerdyn Hawl yn dangos os yw’r cydymaith yn hanfodol.

Mae’r Cerdyn Hawl ar gael oddi wrth eich awdurdod lleol. Mae gwybodaeth bellach am y cynllun a sut i wneud cais ar gael o wefan Info Scotland yn: (New window) www.transportscotland.gov.uk.

Cynllun tocynnau mantais i bobol ifanc yn yr Alban

Yn yr Alban, mae gan bobol ifanc rhwng 16 a 18 oed a gwirfoddolwyr llawn amser rhwng 19 a 25 yr hawl i brisiau gostyngol ar fws, trên a fferi. Mae angen Cerdyn Hawl cenedlaethol arnoch i gael mynediad i’r cynllun. Mae’r rhain ar gael oddi wrth eich awdurdod lleol. Fe allwch chi gael gwybodaeth bellach o wefan y cynllun yn: (New window) www.givememycard.org.

Llundeinwyr ar rai budd-daliadau

Os ydych chi’n cael Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gymhorthdal Incwm, efallai eich bod yn gymwys i gael Cerdyn Gostyngiad ar Deithio gan y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn i chi fedru teithio’n rhatach yn Llundain.

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â’r cynllun hwn, gan gynnwys sut i geisio amdano, ar wefan Transport for London yn: (New window) www.tfl.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chymhorthdal Incwm, gweler Help i bobol ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Cyflogaeth a Chynnal, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n sâl neu’n anabl. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n chwilio am waith.

Mynediad i bobol anabl

Mae gan y mwyafrif o ddarparwyr trafnidiaeth bolisi ynglŷn â darparu mynediad i deithwyr anabl.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mynediad i bobl anabl, gweler Opsiynau Cludiant i bobol anabl.

Nôl i’r brig


Cyfeiriadau

Gweithrediaethau Cludiant Teithwyr (PTEs)

Greater Manchester PTE

Box 429
9 Portland Street
Piccadilly Gardens
Manchester M60 1HX
Ffôn: 0161 242 6000
Ffacs: 0161 228 3291

Merseyside PTE (Merseytravel)

24 Hatton Garden
Liverpool L3 2AN
Ffôn: 0151 227 5181
Ffacs: 0151 236 2457

South Yorkshire PTE

11 Broad Street West
Sheffield
S1 2BQ
Ffôn: 0114 276 7575
Ffacs: 0114 275 9908

Tyne and Wear PTE (Nexus)


Customer Services
Nexus
Grainger Chambers
Hood Street
Newcastle on Tyne NE1 6JQ
Ffôn: 0191 202 0747

West Midlands PTE (Centro)

Centro House
16 Summer Lane
Birmingham B19 3SD
Ffôn: 0121 200 2787
Ffacs: 0121 214 7272

West Yorkshire PTE

Wellington House
40/50 Wellington Street
Leeds LS1 2DE
Ffôn: 0113 251 7272
Ffacs: 0113 251 7333

Strathclyde PTE

Consort House
12 West George Street
Glasgow G2 1HN
Ffôn: 0141 332 6811
Ffacs: 0141 332 3076

Comisiynwyr Trafnidiaeth

Gogledd

Hillcrest House
368 Harehills Lane
Leeds LS9 6NF
Ffôn: 0113 254 3291
Ffacs: 0113 248 9607

Dwyrain

City House
126-130 Hills Road
Cambridge CB2 1NP
Ffôn: 01792 454390
Ffacs: 01223 309684

Canolbarth Gorllewin Lloegr a De Cymru

Cumberland House
200 Broad Street
Birmingham B15 1TD
Ffôn: 0121 609 6801
Ffacs: 0121 608 1001

Gorllewin

2 Rivergate
Temple Quay
Bristol BS1 6EH
Ffôn: 0117 900 8577
Ffacs: 0117 929 8352

South Eastern and Metropolitan area

Ivy House
3 Ivy Terrace
Eastbourne BN21 4QT
Ffôn: 01323 452400
Ffacs: 01323 726679

Yr Alban

Argyle House
3 Lady Lawson Street
Edinburgh EH3 9SE
Ffôn: 0131 200 4955
Ffacs: 0131 229 0682

Corff Apeliadau Bysiau

Lloegr

The Bus Appeals Body
c/o BUS USERS UK
PO Box 2950
Stoke-on-Trent
ST4 9EW

Ffôn: 01782 442 855
Ffacs: 01782 442 856
E-bost: enquiries@bususers.org
Gwefan:(New window) www.bususers.org

Cymru

Bus Users UK
d/o PTI Cymru Cyf
Blwch Post 1045
Caerdydd
CF11 1JE

Ffôn: 029 2022 1370

Yr Alban

Bus Passengers Platform (BPP)
Scottish Government
Area 2D Dockside
Victoria Quay
Edinburgh
EH6 6QQ

Ffôn: 0131 244 1709
E-bost: admin@ptucscotland.gov.uk

Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd (ORR)

Office of Rail Regulation
One Kemble Street
London
WC2B 4AN

Ffôn: 020 7282 2000
Ffacs: 020 7282 2040
Gwefan: (New window) www.rail-reg.gov.uk

Hawliadau Rheilffyrdd Miller

The Registrar
Room A201
MacMillan House
Paddington
London W2 1YJ

Gwasanaeth Apeliadau Tocynnau Cosb Annibynnol (IPFAS)

PO Box 89
Portsmouth
PO1 1OG

Gwefan: (New window) www.penaltyfares.co.uk

Passenger focus

Cyfeiriad ar gyfer Cwynion:

FREEPOST (RRRE-ETTC-LEET)
PO BOX 4257
Manchester
M60 3AR

Ffôn: 0300 123 2350
Ffacs: 0845 850 1392

E-bost: info@passengerfocus.org.uk
Gwefan: (New window) www.passengerfocus.org.uk

Nôl i’r brig


Gwasanaethau Cludiant yn Llundain

Cludiant Bysiau yn Llundain

London Buses Customer Services
4th Floor
Zone B5
14 pier Walk
London SE10 0ES

Ffôn: 0845 300 7000 (Llun-Gwener 8.00yb-8.00yh)
Ffôn Testun: 020 7918 4435
Llinell gwybodaeth ar deithio 24 awr: 0843 222 1234
E-bost: customerservices@tfl-buses.co.uk
Gwefan: (New window) www.tfl.gov.uk/buses

Trenau Tanddaearol Llundain

Customer Service Centre
London Underground
55 Broadway
London
SW1H 0BD

Ffôn: 0845 330 9880 (8.00am-8.00pm)
Llinell gwybodaeth ar deithio 24 awr: 0843 222 1234
E-bost: customerse@tfl.gov.uk
Gwefan: (New window) www.tfl.gov.uk/tube

Swyddfeydd Apeliadau Tocynnau Cosb

Trenau Tanddaearol Llundain

Penalty Fares Appeals Office
Pelham Housey
63-81 Pelham Street
London
SW7 2NJ
Email: penaltyfares@tube.tfl.gov.uk

Bysiau Llundain

Revenue Protection Services
London Bus Services
PO Box 3893
London
SWIW 9FL

Docklands Light Railway

The Penalty Fares Administrator
Serco Docklands Limited
Castor Lane
Poplar
London E14 0DS

Tramlink

Tram Operations Ltd
Penalty Fare Administration
Tramlink Shop
5 Suffolk House
George Street
Croydon
CR0 1PE

London TravelWatch

6 Middle Street
London
EC1A 7JA

Ffôn: 020 7505 9000 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9.30 tan 17.00)
Ffacs: 020 7505 9003
E-bost: enquiries@londontravelwatch.org.uk
Gwefan: (New window) www.londontravelwatch.org.uk

Swyddfa Cludiant Cyhoeddus

15 Penton Street
London
N1 9PU

Ffôn: 0845 602 7000
Gwefan: (New window) www.tfl.gov.uk/pco

Nôl i’r brig