Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 21 af 2010

Nwy a thrydan - In England

Cyflenwad trydan

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Pwy sy'n medru cyflenwi trydan

Mae yna nifer o gwmnïau sy'n medru cyflenwi trydan.

Mae rhestr o'r cwmnïau sy'n cyflenwi trydan yn eich ardal chi ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae'n rhaid i bob cwmni cyflenwi trydan gael trwydded gan Ofgem (Office of Gas and Electricity Markets). Un o amodau'r drwydded yw bod yn rhaid i gwmni sy'n cyflenwi trydan gynhyrchu côd ymarfer ar:-

  • y gweithdrefnau ar gyfer cwyno
  • talu biliau, y trefniadau ar gyfer delio gyda dyledion a mesuryddion rhagdaliad
  • gweithdrefnau mynediad i safleoedd
  • cyngor ar effeithlonrwydd ynni
  • gwasanaethau i bobl hŷn, pobl anabl neu bobl sydd â salwch cronig.

Er nad yw'r codau hyn yn rhwymo'n gyfreithiol, dylai'r cwmni trydan lynu atynt. Rydych yn medru gofyn i'ch cwmni trydan am gopi o'r codau. Mae'n medru bod yn ddefnyddiol i chi wybod beth sydd yn y codau os ydych yn cael anghytundeb gyda'r cwmni trydan, er enghraifft, ynghylch bil trydan neu newid cwmni cyflenwi. Os nad yw cwmni trydan yn glynu at y codau, fe fyddwch yn medru cwyno – gweler y pennawd Cwynion.

Nôl i’r brig



Pwy sydd â hawl i gyflenwad trydan

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae'n rhaid i gwmni trydan gytuno i gyflenwi trydan i chi os ydych yn gofyn am lofnodi cytundeb.

Maen nhw'n medru gwrthod cyflenwi trydan yn yr amgylchiadau canlynol:-

  • mae'r weirio yn eich tŷ mewn cyflwr peryglus
  • datgysylltwyd y cyflenwad ac nid oes rhwymedigaeth i ailgysylltu
  • gofynnwyd am sicrwydd ond ni chafodd ei dalu (gweler y pennawd Symud tŷ neu newid eich cwmni cyflenwi trydan)
  • gwrthodwyd mesurydd rhagdaliad.

Os gwrthodir rhoi cyflenwad trydan i chi, mynnwch gyngor gan Cyswllt Defnyddwyr, gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Nôl i’r brig



Dewis cwmni cyflenwi trydan

Rydych chi'n medru newid eich cwmni cyflenwi trydan os ydych yn dymuno gwneud hynny. Os ydych yn ystyried newid at gwmni cyflenwi arall, cofiwch y bydd y prisiau, y polisïau a'r gwasanaethau a gynigir gan y cyflenwyr gwahanol, yn amrywio. Dylech ddarllen yr wybodaeth a'r cytundebau ar gyfer y cyflenwyr gwahanol yn ofalus, a chymharu’r rhain gyda'ch cwmni cyflenwi trydan presennol er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y ddêl orau ar gyfer eich anghenion chi.

Rydych yn medru gweld beth yw'r prisiau tanwydd diweddaraf ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk. Neu cliciwch ar wefan Llais Defnyddwyr am daflen ffeithiau ar gymharu prisiau, neu ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau ar-lein sy'n ei gwneud yn haws i gymharu a newid cyflenwyr. Mae yna restr o wefannau cymharu prisiau ar wefan Llais Defnyddwyr.

Cynigion tanwydd deublyg

Mae tanwydd deublyg yn golygu bod yr un cwmni cyflenwi'n cyflenwi eich nwy a'ch trydan. Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr nwy a thrydan yn cael trwydded gan Ofgem i gyflenwi'r ddau danwydd i gwsmeriaid. Mae rhai cwmnïau cyflenwi trydan yn cyflenwi'r ddau danwydd o dan un cytundeb, tra bod eraill yn rhoi un cytundeb ar gyfer nwy ac un arall ar gyfer trydan.

Yn aml, mae cyflenwyr sy'n cynnig cynigion deublyg yn rhoi gostyngiad ar gyfanswm y bil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i'r ddêl danwydd orau ar eich cyfer chi, rhowch glic ar wefan Llais Defnyddwyr yn: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Am wybodaeth ynghylch cyflenwad nwy, gweler Cyflenwad nwy.

Canllawiau y mae'n rhaid i gwmni cyflenwi eu dilyn wrth werthu trydan i chi

Pan fydd cwmni nwy yn gwerthu trydan i chi, mae'n rhaid iddo gadw at safonau penodol.

Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr wedi cofrestru i gôd ymarfer a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Cyflenwyr Ynni (AES). Mae'n rhaid i asiantau gwerthu ddilyn y canllawiau yn y côd. Mae'r canllawiau'n cynnwys pob math o werthu trydan, gan gynnwys gwerthu o ddrws i ddrws (gwerthu ar stepen eich drws) a gwerthu dros y ffôn (gwerthu o bell). Dyma rai o'r canllawiau yn y côd ymarfer:

  • mae'n rhaid i unrhyw ymgyrchoedd hysbysebu a hyrwyddo gan gwmnïau trydan fod yn gywir, yn deg ac yn rhesymol. Mae hyn yn golygu nad ydyw asiantau gwerthu, hysbysebion na deunydd cyhoeddusrwydd yn medru rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i chi
  • rhaid i asiantau gwerthu alw yn eich cartref rhwng 9.00yb a 8.00yh yn unig, onid ydych wedi gofyn yn benodol iddynt alw tu allan i'r amserau hyn. Os ydynt yn ymweld â thai gwarchod, rhaid iddynt gysylltu â'r warden yn gyntaf
  • rhaid i asiantau gwerthu brofi pwy ydynt trwy ddangos Cerdyn Adnabod, a hynny heb i neb ofyn iddynt
  • rhaid i'r asiant gwerthu sicrhau eich bod wedi deall y cytundeb, gan gynnwys unrhyw hawl i ganslo (gweler isod) cyn i chi lofnodi
  • rhaid i'r asiant gwerthu sicrhau bod y person sy'n llofnodi'r cytundeb yn gyfrifol am dalu'r bil trydan
  • rhaid i chi gael copi o'r cytundeb.

Os nad yw'r asiant gwerthu'n dilyn y canllawiau hyn, efallai y bydd hawl gennych i iawndal.

Wrth werthu ar y stepen drws, amod o’r drwydded yw fod yn rhaid i gyflenwr roi amcanbris ysgrifenedig i chi cyn cwblhau’r gwerthiant.

Os oes cwyn gennych ynghylch y ffordd y gwerthwyd trydan i chi, dylech fynd ar drywydd y gwyn gyda'r cwmni dan sylw yn gyntaf. Gofynnwch iddynt am gopi o'r côd ymarfer a defnyddiwch yr wybodaeth yn y côd i'ch helpu i gwyno.

Os nad ydych yn medru dod i gytundeb gyda'r cwmni trydan, byddwch yn medru cwyno - gweler y pennawd Cwynion.

Hawl i ganslo

Os ydych yn llofnodi cytundeb i brynu trydan gan rywun sydd wedi galw yn eich cartref, efallai y bydd hawl gennych i ganslo'r cytundeb os ydych yn newid eich meddwl. Byddwch yn medru canslo'r cytundeb ar yr amod eich bod yn canslo o fewn saith niwrnod i'w lofnodi. Nid oes gwahaniaeth a oeddech wedi gwahodd yr asiant sy'n gwerthu i alw yn eich cartref ai peidio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i ganslo cytundeb a lofnodwyd yn eich cartref, gweler Gwasanaethau a brynwyd ar stepen eich drws yn Prynu gwasanaethau - eich hawliau.

Os ydych yn llofnodi cytundeb i brynu trydan dros y ffôn, efallai y byddwch hefyd yn cael yr hawl i newid eich meddwl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawl i ganslo cytundeb yr ydych wedi cytuno iddo dros y ffôn, gweler Gwasanaethau a brynwyd o bell yn Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Nôl i’r brig



Symud tŷ neu newid eich cwmni cyflenwi trydan

Pan fyddwch chi'n symud i gartref newydd, dywedwch wrth y cwmni cyflenwi trydan newydd o ba ddyddiad yr ydych am gymryd y cyflenwad. Efallai mai'r un cwmni cyflenwi trydan fydd yn cyflenwi eich hen gyflenwad trydan a'ch cyflenwad newydd, neu efallai y byddwch am newid at gwmni cyflenwi newydd wrth i chi symud. Efallai y bydd yn rhaid i chi newid at gwmni cyflenwi newydd os nad yw'ch cwmni cyflenwi'n cyflenwi trydan yn yr ardal yr ydych wedi symud iddi.

Os ydych am ganslo'ch cytundeb gyda'ch cwmni cyflenwi trydan presennol, mae'n rhaid i chi roi rhybudd o ddau ddiwrnod, o leiaf, iddynt. Os nad ydych yn gwneud hyn, maen nhw'n medru parhau i gyflenwi'ch trydan, hyd yn oed os ydych wedi symud allan o'r eiddo.

Mae eich cwmni cyflenwi trydan hefyd yn medru gwrthwynebu eich hawl i newid at gwmni cyflenwi arall mewn rhai amgylchiadau eraill, er enghraifft, os ydych mewn dyled.

Dylech ganslo unrhyw archebion sefydlog neu ddebyd uniongyrchol unwaith y byddwch wedi talu'r bil terfynol i'ch cwmni cyflenwi trydan presennol.

Fe fydd eich hen gwmni cyflenwi trydan, a'r cwmni newydd, eisiau darlleniad terfynol o'ch mesurydd, a gymerwyd ar y diwrnod y newidioch eich cwmni cyflenwi. Fe fydd rhai cyflenwyr yn anfon person allan i ddarllen y mesurydd, ac efallai y bydd yn codi tâl am hyn; fe fydd eraill yn gofyn i chi ddarllen y mesurydd ac anfon y darlleniad iddyn nhw. Yn y naill achos neu'r llall, cadwch nodyn o'r darlleniad rhag ofn y bydd yna ddadlau yn nes ymlaen.

Rhaid i chi roi'r rhif cyflenwi ar gyfer y mesurydd yn eich cartref i'r cwmni cyflenwi trydan newydd. Mae'r rhif cyflenwi'n rhif adnabod ar gyfer y mesurydd ac mae ar y bil sy'n gysylltiedig â'r mesurydd. Os ydych yn symud i dŷ newydd, fe fydd yn rhaid i chi ofyn i'r preswylwyr presennol am y rhif cyflenwi.

Os oes rhaid ailgysylltu'r cyflenwad trydan, efallai y bydd y cwmni cyflenwi trydan yn codi tâl. Mae Cyswllt Defnyddwyr (gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol) yn medru dweud a ddylai'r cwmni fod wedi codi tâl a faint sy'n swm rhesymol.

Cael cyngor ynghylch newid at gwmni cyflenwi trydan newydd

Am wybodaeth a chyngor ynghylch newid at gwmni cyflenwi trydan newydd, ewch at wefan Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk. Mae gwefan Llais Defnyddwyr yn medru rhoi gwybodaeth i chi ar yr hyn y dylech ei wirio os ydych am newid cwmni cyflenwi. Mae hefyd yn medru rhoi rhestr o gwmnïau cyflenwi trydan lleol i chi. Rydych yn medru cael taflenni ffeithiau i gymharu prisiau hefyd.

Newid eich cwmni cyflenwi pan fydd dyled gennych

Os oes dyled trydan gennych, efallai na fyddwch yn cael eich derbyn gan gwmni cyflenwi newydd.

Os yw'r arian yn ddyledus gennych ers llai na 28 diwrnod, er enghraifft, nid ydych wedi talu bil diweddar, fe fyddwch yn dal i fedru newid cwmni cyflenwi. Fe fydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd.

Fe fyddwch hefyd yn cael newid eich cwmni cyflenwi os ydych yn defnyddio mesurydd rhagdaliad ac mae gennych ddyled o hyd at £200. Fe fydd eich dyled yn cael ei throsglwyddo at eich cwmni cyflenwi newydd. Am fwy o wybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi pan fydd dyled gennych, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr  - gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Darparu sicrwydd

Fe fydd gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid fesurydd credyd (gweler isod) ac fe fyddant yn derbyn biliau rheolaidd. Ond, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd y cwmni cyflenwi trydan yn gwrthod rhoi cyflenwad i chi hyd nes i chi ddarparu sicrwydd addas. Yn gyntaf, dylai'r cwmni cyflenwi trydan ofyn i chi gytuno i gael mesurydd rhagdaliad - gweler isod. Dim ond os ydych yn gwrthod mesurydd rhagdaliad y dylai'r cwmni cyflenwi trydan ofyn am sicrwydd arall. Fel arfer fe fydd yn gofyn i chi wneud un o'r canlynol:-

  • ymuno â chynllun talu rheolaidd (gweler y pennawd Biliau trydan)
  • talu trwy ddebyd uniongyrchol (gweler y pennawd Biliau trydan)
  • darparu gwarantydd (gweler isod)
  • rhoi blaendal ariannol (gweler isod).

Yr amgylchiadau mwyaf cyffredin i gwmni cyflenwi trydan ofyn am sicrwydd yw ble rydych yn gwsmer newydd ac nid ydych yn medru profi pwy ydych chi neu roi cyfeiriad blaenorol, neu mae gennych hanes gwael o dalu yn eich cyfeiriad presennol neu flaenorol.

Gwarantyddion

Os ydych yn enwi gwarantydd, fe fydd y gwarantydd yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu eich biliau trydan os nad ydych yn talu. Cyn llofnodi i fod yn warantydd, dylech ddarllen amodau'r cytundeb gyda'r cwmni cyflenwi a chael amcan o gost debygol y biliau.

Blaendaliadau ariannol

Rhaid i'r cwmni cyflenwi trydan ofyn am swm 'rhesymol' yn unig fel blaendal sicrwydd. Mae yna ganllawiau yn amodau'r drwydded sy'n dweud faint o flaendal y dylid ei godi. Fel arfer, mae'n hyd at unwaith a hanner swm bil chwarterol.

Os ydych yn credu bod swm y blaendal yn afresymol, er enghraifft, am nad ydych yn defnyddio llawer o drydan, trafodwch y mater gyda'r cwmni cyflenwi trydan. Os nad ydych yn fodlon o hyd, rydych yn medru cwyno – gweler y pennawd Cwynion.

Os ydych yn cael trafferth cael cyflenwad trydan, neu mae rhywun yn mynd i stopio eich cyflenwad, siaradwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Mesuryddion

Mae yna nifer o wahanol fesuryddion ar gael, ac maen nhw'n syrthio i ddau gategori:-

  • mesuryddion chwarterol neu gredyd, ble rydych chi'n defnyddio'r trydan ac yn talu amdano'n nes ymlaen
  • mesuryddion rhagdaliad, ble rydych chi'n talu ymlaen llaw am eich cyflenwad trydan.

Mesuryddion credyd

Fe fydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael mesurydd credyd ac yn derbyn biliau bedair gwaith y flwyddyn. Gelwir y rhain yn filiau chwarterol. Fe fydd y cwmni cyflenwi trydan yn galw i ddarllen y mesurydd yn rheolaidd, neu'n cysylltu â'r cwsmer i ofyn iddynt ddarllen y mesurydd a rhoi gwybod beth yw'r darlleniad. Rhaid i'r mesurydd gael ei ddarllen o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Mae'r cwsmer yn medru talu'r bil mewn sawl ffordd - gweler y pennawd Biliau trydan.

Mesuryddion rhagdaliad

Os ydych yn cael trafferth talu am eich trydan, rydych yn medru gofyn am osod mesurydd rhagdaliad. Os ydych mewn dyled, dylech gael cynnig mesurydd rhagdaliad yn lle eich datgysylltu.

Rydych yn medru gofyn am fesurydd rhagdaliad os nad ydych mewn dyled, ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros hyd nes bod un ar gael.

Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mesuryddion rhagdaliad electronig yw'r unig opsiwn sydd ar gael fel mesurydd rhagdaliad.

Dyma'r prif fathau o fesuryddion rhagdaliad:

  • mesuryddion tocyn
  • mesuryddion allwedd
  • mesuryddion cerdyn
  • mesuryddion smart card.

Fe fydd y cwmni cyflenwi trydan yn darparu rhestr o lefydd ble y byddwch yn medru cael y cerdyn, tocyn neu allwedd wedi'i wefru, ac mae hyn yn medru cynnwys peiriannau gwefru. Fe fydd y mesurydd yn cofnodi faint o drydan a ddefnyddir.

Dyma fanteision defnyddio mesurydd rhagdaliad:

  • mae'n medru bod yn ffordd ddefnyddiol o gyllidebu os ydych ar incwm isel
  • mae'n medru cael ei ddefnyddio i dalu dyledion fel opsiwn arall yn lle datgysylltu.

Mae yna sawl anfantais i ddefnyddio mesurydd rhagdaliad, gan gynnwys:

  • fel arfer, rydych yn talu mwy am eich trydan na phetai gennych fesurydd credyd. Fel arfer, mesuryddion rhagdaliad yw'r ffordd ddrutaf o dalu am drydan
  • os nad ydych yn medru fforddio prynu'r tocynnau neu wefru eich cerdyn neu allwedd, ni fydd gennych unrhyw drydan
  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau trafnidiaeth i gyrraedd y man gwefru agosaf
  • gellir gosod y mesurydd i adennill dyledion. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu am ddefnyddio trydan ac am eich dyledion ar yr un pryd
  • fe fydd yn rhaid i chi dalu mwy tuag at y dyledion pan fyddwch yn defnyddio mwy o drydan.

Darllen mesuryddion

Pan fydd y cwmni cyflenwi trydan yn dod i ddarllen y mesurydd dylech, os yn bosib, ddarllen y mesurydd eich hun i gadarnhau ei fod yn gywir.

Rhaid i chi roi mynediad i'r mesurydd pryd bynnag bydd y cwmni cyflenwi trydan yn gofyn amdano. Er enghraifft, os ydych yn adeiladu cypyrddau cegin o amgylch mesurydd, ac mae'n rhaid tynnu'r cypyrddau'n rhydd er mwyn i'r cwmni cyflenwi trydan osod mesurydd newydd, chi fydd yn gyfrifol am gost y cypyrddau newydd.

Os nad yw'r cwmni cyflenwi trydan wedi medru cael mynediad i ddarllen y mesurydd, efallai y bydd yn gadael cerdyn i chi ei lenwi gyda'ch darlleniad eich hun, neu'n cysylltu â chi i ofyn i chi ddarllen y mesurydd.

Mae cwsmer sy'n anabl, â salwch cronig neu wedi cyrraedd oed pensiwn, yn medru gofyn i'r cwmni cyflenwi trydan ddarllen eu mesurydd bob tri mis os nad ydyn nhw, neu aelod arall o'r teulu, yn medru gwneud hynny. Ond, fe fydd y bil yn amcan o'r defnydd trydan os nad yw'r cwmni cyflenwi trydan yn medru dod i mewn.

O dan gôd ymarfer y cwmni cyflenwi trydan, mae cwsmer sy'n anabl, â salwch cronig neu wedi cyrraedd oed pensiwn yn medru cael cyngor a gwybodaeth ar:-

  • reolyddion neu addasyddion arbennig ar gyfer mesuryddion rhagdaliad neu gyfarpar trydan sy'n eiddo i’r cwmni cyflenwi trydan
  • ailosod y mesurydd os ydyw'n eiddo i'r cwmni cyflenwi trydan ac mewn lleoliad sy'n ei gwneud yn anodd i'r cwsmer ei ddarllen.

Rhaid rhoi cyngor a gwybodaeth ar ailosod y mesurydd yn rhad ac am ddim. Efallai y byddant hefyd yn medru rhoi rheolyddion neu addasyddion arbennig ar gyfer y mesurydd neu'r cyfarpar, yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwasanaethau i gwsmeriaid sy'n anabl, â salwch cronig neu wedi cyrraedd oed pensiwn, gweler y pennawd Gwasanaethau rhad ac am ddim i bobl hŷn, pobl anabl a phobl gyda salwch tymor hir.

Os ydych yn credu bod darlleniad eich mesurydd yn anghywir

Os ydych yn credu bod y darlleniad a roddwyd ar eich bil yn anghywir, cymerwch eich darlleniad eich hun. Os yw hyn yn dangos bod y mesurydd wedi'i gamddarllen, dywedwch wrth y cwmni cyflenwi trydan beth yw'r darlleniad cywir ac fe fydd yn anfon bil diwygiedig atoch. Os yw'ch darlleniad chi'n dangos bod y mesurydd wedi cael ei ddarllen yn gywir, efallai bod nam ar y mesurydd a dylid dweud wrth y cwmni cyflenwi trydan am y mater.

Os ydych wedi cael amcan o ddarlleniad, darllenwch y mesurydd eich hun. Rydych yn medru cysylltu â'r cwmni cyflenwi trydan ar y rif ffôn sydd ar y bil, neu ddychwelyd y bil, i roi eich darlleniad eich hun. Yna, fe fyddwch yn cael bil diwygiedig.

Mewn rhai achosion, os yw’ch tŷ wedi cael ei rhannu yn fflatiau, efallai y bydd dryswch ynghylch y mesuryddion. Holwch eich cwmni cyflenwi i sicrhau bod y rhif cyfresol ar eich mesurydd yn cyfateb i’r rhif y mae’r bil yn berthnasol iddo.

Ymyrryd â mesurydd

Efallai y bydd y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn datgysylltu eich cyflenwad trydan trwy dynnu'r mesurydd os oes digon o dystiolaeth ganddo eich bod wedi ymyrryd â'ch mesurydd. I atal y cwmni rhag datgysylltu'ch cyflenwad, mae'n rhaid i chi argyhoeddi'r cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan nad ydych wedi ymyrryd â'r mesurydd, a'ch bod wedi gofalu'n iawn am y mesurydd.

Os cewch eich amau o ymyrryd â mesurydd dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig



Biliau trydan

Byddwch yn derbyn biliau trydan yn rheolaidd.

Os oes nam ar eich golwg neu'ch clyw, mae'r cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn medru rhoi biliau ar ffurf addas i chi, er enghraifft mewn Braille neu drwy ffôn testun.

Mewn rhai amgylchiadau, rydych yn medru trefnu bod eich biliau'n cael eu hanfon at rywun arall, fel cynhaliwr, fel eu bod nhw'n medru eich helpu chi i'w darllen a'u gwirio – gweler y pennawd Gwasanaethau rhad ac am ddim i bobl hŷn, pobl anabl a phobl gyda salwch tymor hir.

Tâl sefydlog

Mae'r tâl sefydlog yn swm dyddiol sefydlog a godir ar ddefnyddwyr trydan, waeth faint o drydan a ddefnyddir. Mae yna daliadau gwahanol ar gyfer mesuryddion rhagdaliad a chredyd.

Efallai y bydd y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn cynnig yr opsiwn o beidio â thalu tâl sefydlog, ond talu cyfradd ychydig yn uwch ar gyfer y trydan a ddefnyddir yn lle. Byddai angen i chi gyfrifo, o'ch biliau, ai'r opsiwn yma fyddai'n rhatach i chi.

Talu'r bil trydan

Mae'n rhaid i gwmnïau cyflenwi trydan adael i chi dalu eich bil mewn sawl ffordd os oes mesurydd credyd gennych. Y gofyniad lleiaf yw bod y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn gadael i chi dalu gydag arian, siec, archeb post neu ddebyd uniongyrchol misol. Efallai hefyd y bydd y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn cynnig dulliau eraill o dalu. Fe fydd rhai cwmnïau cyflenwi trydan yn rhoi gostyngiad i chi os ydych yn talu trwy ddull penodol.

Fel arfer, bydd y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan yn gadael i chi dalu'r bil trwy'r dulliau canlynol:-

  • trwy bostio siec, archeb post, manylion cerdyn credyd neu ddebyd at y cwmni sy'n cyflenwi'ch trydan
  • mewn unrhyw swyddfa post, gydag arian, stampiau cynilo neu siec
  • yn eich banc. Efallai y bydd tâl os ydych yn talu'r bil gydag arian parod
  • mewn banc arall. Efallai y bydd tâl, er, mae rhai cwmnïau cyflenwi trydan wedi sefydlu cynlluniau talu rhad ac am ddim
  • gydag arian parod mewn lleoliadau PayPoint, sydd i'w gweld mewn mannau lleol fel archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol a siopau.

Os nad ydych yn medru fforddio talu'r bil trydan yn llawn pan fydd yn cyrraedd, efallai y byddwch chi am ystyried:-

  • defnyddio un o'r dulliau talu isod i wasgaru'r gost a'ch helpu i osgoi mynd i ddyled
  • cael mesurydd rhagdaliad wedi'i osod – gweler y pennawd Mesuryddion
  • prynu stampiau cynilo trydan yn rheolaidd i dalu peth o'ch bil, neu'r cyfan ohono, pan fydd yn cyrraedd. Gellir ond prynu stampiau cynilo trydan o swyddfeydd post a gellir eu defnyddio i dalu biliau trydan. Nid oes modd eu defnyddio i dalu am atgyweiriadau, gwasanaethau na chyfarpar. Nid yw pob cwmni cyflenwi trydan yn gweithredu cynllun stampiau
  • cael cyngor ar sut i ostwng eu defnydd o drydan – gweler y pennawd Arbed arian ar filiau trydan.

Os yw cwmni trydan wedi methu ag anfon bil allan, nid ydynt yn cael anfon bil atoch am unrhyw swm sy'n mynd yn ôl fwy na blwyddyn. Ond, mae hyn ond yn berthnasol os ydych wedi ceisio â chysylltu â nhw i drefnu talu ac nid ydych wedi rhwystro unrhyw ymgais gan y cwmni i ddarllen eich mesurydd neu i ddatrys ymholiadau ynghylch biliau.

Cynlluniau talu rheolaidd

Holwch eich cwmni cyflenwi trydan am wybodaeth ynghylch y cynlluniau talu sydd ar gael Mae rhai cwmnïau cyflenwi trydan yn cynnig gostyngiad i gwsmeriaid sy'n talu eu biliau trwy ddebyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cynllun cyllidebu neu daliadau hyblyg. Dylech ddarllen amodau'r cynlluniau talu y mae'ch cwmni cyflenwi trydan yn eu cynnig yn ofalus. Dyma'r cynlluniau talu rheolaidd fwyaf cyffredin:-

  • debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog – gweler isod
  • cynlluniau cyllidebu gyda thaliadau sefydlog rheolaidd – gweler isod
  • cynlluniau taliadau hyblyg – gweler isod.

Debyd uniongyrchol, archeb sefydlog a chynlluniau cyllidebu taliad sefydlog

Rhoddir amcan o'ch defnydd blynyddol o drydan, fel arfer ar sail eich defnydd blaenorol, ac rydych yn talu'r swm hwn trwy randaliadau cyfartal dros y flwyddyn.

Os ydych yn defnyddio cynllun cyllidebu taliad sefydlog, rhaid i chi dalu'r swm a gytunwyd i'r cwmni cyflenwi trydan ar yr adeg benodol - fel arfer, mae hyn yn wythnosol, bob pythefnos neu bob mis. Gan ddibynnu ar gynllun y cwmni cyflenwi trydan, efallai y byddwch yn medru anfon taliadau drwy'r post at y cwmni cyflenwi trydan, neu dalu mewn swyddfeydd post, banciau neu leoliadau eraill.

Ar ddiwedd y flwyddyn efallai y bydd swm yn ddyledus i chi, neu 'gredyd'. Fe fydd unrhyw swm sy'n ddyledus yn cael ei ystyried wrth gyfrifo rhandaliadau’r flwyddyn nesaf, neu, os yw'n swm mawr, fel arfer bydd yn rhaid ei dalu.

Os yw’ch cwmni cyflenwi wedi cynyddu eich debyd uniongyrchol ac rydych yn teimlo bod y swm newydd yn afresymol, efallai y byddwch am herio’r cynnydd. Dylech geisio sicrhau bod eich taliadau wedi cael eu hasesu ar y swm o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio ac nad ydyw’n amcangyfrif. Dylech ddweud wrth eich cwmni cyflenwi am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai arwain at ostyngiad yn y nwy yr ydych yn ei ddefnyddio.

Cynllun taliadau hyblyg

Efallai y bydd y cwmni cyflenwi trydan yn cynnig cynllun taliadau hyblyg, sy'n eich galluogi chi i dalu unrhyw swm ar unrhyw adeg. Efallai y bydd hon yn ffordd ddefnyddiol o dalu os yw'ch incwm yn amrywio. Darllenwch amodau'r cynllun yn ofalus, er enghraifft, sut mae'r taliadau'n cael eu cyfrifo a beth sy'n digwydd os ydych yn cynilo credyd neu'n mynd i ddyled.

Cyfraddau is i gwsmeriaid sydd ar incwm isel neu gwsmeriaid bregus

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyflenwi trydan yn cynnig cyfraddau is i gwsmeriaid sydd ar incwm isel neu gwsmeriaid bregus, fel pobl hŷn, neu bobl sydd â salwch tymor hir. Gelwir y cyfraddau is hyn yn dariffau cymdeithasol.

Mae gan bob cwmni cyflenwi ei gyfres ei hun o reolau ynghylch pwy sy'n gymwys i gael y cyfraddau is. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch cwmni cyflenwi trydan a gofynnwch am fanylion eu tariffau cymdeithasol.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a chyflenwyr trydan yn rhannu gwybodaeth er mwyn adnabod cwsmeriaid dros 70 sy’n cael elfen gwarant Credyd Pensiwn. Os ydych chi dros 70 ac yn cael elfen gwarant Credyd Pensiwn, dylai’r cwmni sy’n cyflenwi’ch trydan roi £80 yn ôl i chi ar eich bil. Ond os ydych chi eisoes ar dariff cymdeithasol, efallai na fyddwch chi’n cael yr arian yma yn ôl.

Nôl i’r brig



Arbed arian ar filiau trydan

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich biliau trydan yn y dyfodol trwy ddefnyddio trydan yn effeithlon neu inswleiddio eich cartref. Mae'n rhaid bod gan bob cwmni cyflenwi trydan gôd ymarfer ar ddefnyddio trydan yn effeithlon. Os ydych yn gofyn, mae'n rhaid i'r cwmni cyflenwi trydan hefyd drefnu i chi gael cyngor rhad ac am ddim, ar gais, gan berson sydd â chymwysterau addas ar:-

  • atal gwres rhag dianc o'r cartref
  • dewis systemau a rheolyddion gwresogi trydan
  • defnyddio system wresogi drydan yn effeithlon
  • sefydliadau sy'n medru rhoi cyngor pellach, hyfforddiant a gwasanaethau eraill
  • ffynonellau cymorth ariannol posib ar gyfer unrhyw waith a fyddai'n gwella'r defnydd effeithlon o drydan.

Rydych hefyd yn medru defnyddio'r cyfleuster gwirio cymhwyster ar wefan Llais Defnyddwyr. Mae'n cynnig opsiwn chwilio personol, ar sail eich amgylchiadau personol, i ddarganfod pa grantiau, budd-daliadau, cyngor neu gymorth sydd, efallai, ar gael i'ch helpu i dalu'ch biliau trydan neu sicrhau bod eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni. Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Efallai y byddwch yn medru gostwng eich bil trydan drwy newid y cwmni sy'n cyflenwi eich tanwydd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch newid y cwmni sy'n cyflenwi'ch tanwydd, ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr yn (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Rydych hefyd yn medru:

  • rhoi clic ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn: (New window) www.est.org.uk
  • cysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni ar 0800 512 012.

Am fwy o wybodaeth ynghylch arbed arian ar gostau tanwydd, gweler Costau tanwydd ac arbed arian.

Nôl i’r brig



Dyledion ac osgoi cael eich datgysylltu

Os oes dyledion trydan gennych, rydych mewn perygl o gael eich cyflenwad trydan wedi'i ddatgysylltu. Ond, mae'n anarferol iawn i chi gael eich datgysylltu os ydych yn methu â thalu eich biliau trydan.

Os oes unrhyw ddyledion trydan gennych, efallai bod gennych ddyledion eraill sydd angen eu sortio hefyd. Dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Camau y mae'n rhaid i'ch cwmni cyflenwi eu cymryd cyn eich datgysylltu

Mae'n rhaid i gwmni cyflenwi trydan ddilyn amodau safonol trwydded, ac mae un o'r amodau hynny'n nodi sut mae'n delio gyda chwsmeriaid sy'n cael trafferth talu. Nid yw cwmni cyflenwi trydan yn medru cyhoeddi rhybudd o ddatgysylltu hyd nes o leiaf 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi bil. Rhaid i chi gael o leiaf saith niwrnod o rybudd o ddatgysylltu. Os nad ydych yn medru talu eich bil, cysylltwch â'ch cwmni cyflenwi ar unwaith. Dylech gael cynnig trefniadau i dalu'r ddyled ar gyfradd yr ydych yn medru ei fforddio. Os nad ydych yn medru fforddio talu'r ddyled fel hyn, mae'n rhaid iddynt gynnig gosod mesurydd rhagdaliad - gweler y pennawd Mesuryddion.

Efallai y bydd gan rai grwpiau cwsmeriaid amddiffyniad ychwanegol rhag cael eu datgysylltu. Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os:

  • rydych wedi cyrraedd oed pensiwn
  • mae gennych salwch tymor hir
  • rydych yn anabl
  • mae gennych drafferthion ariannol difrifol.

Rydych yn medru cael mwy o wybodaeth ynghylch y camau y mae cwmni cyflenwi yn gorfod eu cymryd cyn eich datgysylltu, ar wefan Llais Defnyddwyr yn www.consumerfocus.org.uk, neu rydych yn medru cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr – gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Datgysylltu – cwyno i Cyswllt Defnyddwyr

Os cawsoch eich datgysylltu, neu os oes cwmni'n bygwth eich datgysylltu, ac nid ydych wedi llwyddo i ddatrys y mater gyda'r cwmni sy'n cyflenwi eich trydan, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr ar: 0845 404 0506.

Mae datgysylltu'n cynnwys ble mae rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch mesurydd rhagdaliad sy'n golygu nad ydych yn medru talu neu rydych wedi talu ond nid yw'ch cyflenwad trydan yn gweithio o hyd.

Ble'n briodol, fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr, a fydd yn mynd ar drywydd eich cwyn gyda'r cwmni cyflenwi trydan.

Ystyrir cwyn ynghylch datgysylltu yn achos sy'n flaenoriaeth a dylai fod wedi ei ddatrys ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi ei chyfeirio at Llais Defnyddwyr. Os ydych ar fesurydd rhagdaliad, dylech gael eich cyflenwad trydan yn ôl o fewn tair awr.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich cwyn o hyd, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni – gweler y pennawd Cwynion.

Help arall sydd ar gael i chi

Mae Llinell Gymorth Home Heat yn cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a dyledion tanwydd i ddefnyddwyr sydd ar incwm isel. Mae cynghorwyr y Linell Gymorth yn medru helpu adnabod ble y gallai mesurau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim fod ar gael ac maen nhw hefyd yn medru sicrhau nad ydyw cwsmeriaid bregus mewn perygl o gael cyflenwadau tanwydd wedi eu datgysylltu. Rydych yn medru cysylltu â Llinell Gymorth Home Heat ar 0800 33 66 99.

Mae rhai cyflenwyr ynni wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid, i'w helpu i dalu dyledion trydan. Rydych hefyd yn medru cael grantiau i dalu dyledion nwy ac unrhyw rai o filiau eraill y cartref.

Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar (New window) www.edfenergytrust.org.uk neu gofynnwch am gopi o lyfryn Utility Trusts and Schemes gan (New window) www.britishgasenergytrust.org.uk.

Nôl i’r brig



Gwasanaethau arbennig i bobl hŷn, pobl anabl a phobl gyda salwch tymor hir

Mae gwasanaethau rhad ac am ddim ar gael gan bob cwmni cyflenwi trydan o dan y Gofrestr Gwasanaethau sy’n Flaenoriaeth. Mae gwasanaethau ar gael i gwsmeriaid sydd:

  • wedi cyrraedd oed pensiwn, neu
  • ag anabledd, neu
  • â nam ar eu clyw neu eu llygaid, neu
  • â salwch tymor hir.

Dyma'r gwasanaethau sy'n medru bod ar gael, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • gwasanaeth sydd wedi'i deilwra'n well at eich anghenion, er enghraifft, rydych yn medru gofyn am gael darlleniad eich mesurydd mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain
  • symud eich mesurydd yn rhad ac am ddim i'w wneud yn fwy hygyrch
  • cael rheolyddion ac addasyddion fel bod eich mesurydd yn haws ei ddefnyddio
  • cael rhybudd o flaen llaw os fydd yn rhaid tarfu ar eich cyflenwad trydan
  • cael eich biliau, neu gopi ohonynt, wedi eu hanfon at berson arall, fel cynhaliwr, fel eu bod yn medru eich helpu i'w darllen a'u gwirio.

Am fwy o wybodaeth neu gyngor am wasanaethau rhad ac am ddim o dan y Gofrestr Gwasanaethau sy’n Flaenoriaeth gan eich cwmni cyflenwi trydan, rhowch glic ar wefan y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr: yn (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Mae cyngor ymarferol ar gael ar-lein hefyd, ar wefan Energy Retail Association yn: (New window) www.homeheathelp.org.uk. Mae yna:

  • rifau ffôn cyswllt a dolen at dimau gwasanaethau blaenoriaethau cyflenwyr sy'n medru eich helpu i gael mynediad at eich gwasanaethau rhad ac am ddim
  • gwybodaeth ynghylch gwasanaethau eraill sydd ar gael, er enghraifft grantiau ar gyfer inswleiddio'r cartref, opsiynau talu hyblyg ac ad-daliadau'r gaeaf
  • help i osgoi datgysylltu os nad ydych yn medru talu'r bil
  • cyngor ar wneud eich cartref yn effeithlon o ran ynni.

Nôl i’r brig



Cwynion

Os oes cwyn gennych am eich cwmni cyflenwi trydan, dylech godi'r mater gyda'ch cwmni cyflenwi trydan i ddechrau.

Ond, mae'r broses gwyno'n wahanol i gwsmeriaid sydd wedi cael eu datgysylltu neu ble mae'r cwmni'n bygwth eu datgysylltu, neu i gwsmeriaid sy'n cael eu hystyried yn gwsmeriaid bregus. Dylech geisio datrys y mater gyda'ch cwmni cyflenwi trydan yn gyntaf ond, os ydych yn mynd i drafferthion, dylech fynd â'ch cwyn at Cyswllt Defnyddwyr.

Os ydych wedi cael eich datgysylltu neu mae'r cwmni'n bygwth eich datgysylltu, gweler y pennawd Dyledion ac osgoi cael eich datgysylltu. Os ydych yn credu efallai eich bod yn fregus, gweler y pennawd Cwyno os ydych yn fregus.

Cwyno i'ch cwmni cyflenwi

Rhaid bod gan eich cwmni cyflenwi weithdrefn ar gyfer delio gyda chwynion. Dylech fod yn medru cael copi o'r weithdrefn hon oddi ar wefan eich cwmni cyflenwi. Dylai'r weithdrefn gynnwys enwau a manylion cyswllt pob ffynhonnell help, cyngor a gwybodaeth annibynnol sydd ar gael.

Os fyddwch chi angen help neu gyngor ynghylch cwyno neu ddelio gyda'ch cwmni cyflenwi, rydych yn medru cysylltu â Cyswllt Defnyddwyr - gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol am fanylion cyswllt, neu edrychwch ar gefn eich bil ynni. Fodd bynnag, ni fydd Cyswllt Defnyddwyr yn medru trafod eich cwyno ar eich rhan.

Rydych yn medru cwyno am unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a gawsoch gan eich cwmni cyflenwi trydan. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y maen nhw wedi delio gyda'ch cwyno, rydych hefyd yn medru cwyno am hyn.

Rydych yn medru cwyno dros y ffôn, yn bersonol neu'n ysgrifenedig – gan gynnwys drwy'r e-bost.

Unwaith fyddwch chi wedi cwyno, rhaid i'ch cwmni cyflenwi ddweud wrthych pa gamau y byddan nhw'n eu cymryd i ddatrys eich cwyn, a faint o amser mae hyn yn debygol o gymryd. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'ch cwmni cyflenwi'n trafod eich cwyn, fe allwch ofyn am adolygiad mewnol.

Os nad yw'ch cwmni cyflenwi'n medru datrys eich cwyn mewn ffordd sy'n eich gwneud chi'n hapus, rhaid iddynt ddweud hyn wrthych yn ysgrifenedig. Gelwir hyn yn llythyr sefyllfa ddiddatrys neu 'letter of deadlock'. Unwaith y byddwch wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, os ydych am fynd â'r gwyn ymhellach, fe fyddwch yn medru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni. Os nad ydych wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, rhaid i chi aros o leiaf wyth wythnos (deuddeg os yw'ch cwmni cyflenwi wedi ymuno â chynllun yr Ombwdsmon Ynni ar ôl Hydref 2008) cyn i chi fedru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni - gweler y pennawd Cwyno i'r Ombwdsman Ynni.

Cwyno os ydych yn fregus

Ystyrir bod rhai defnyddwyr trydan yn fregus. Efallai bod hyn yn berthnasol i chi os nad yw'n rhesymol i chi gwyno ar eich pen eich hun oherwydd:

  • mae gennych anabledd meddwl neu gorfforol
  • nid oes gennych yr iaith neu'r sgiliau darllen Saesneg sylfaenol. Ni fydd hyn yn berthnasol os oes cyfleusterau cyfieithu ar gael i chi
  • mae gennych amgylchiadau personol arbennig o anodd, er enghraifft, rydych newydd gael profedigaeth
  • mae yna angen brys penodol i ddatrys eich problem ac nid ydych yn medru gwneud hyn mewn pryd
  • mae eich problem yn arbennig o gymhleth.

Os ydych yn fregus ac nid ydych wedi medru datrys eich problem yn uniongyrchol gyda'ch cwmni cyflenwi trydan, dylech gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr - gweler y pennawd Help pellach am fanylion cyswllt, neu edrychwch ar gefn eich bil trydan.

Ble'n briodol, fe fydd Cyswllt Defnyddwyr yn cyfeirio eich achos at y gwylgi i ddefnyddwyr, Llais Defnyddwyr, a fydd yn mynd ar drywydd eich cwyn gyda'r cwmni cyflenwi.

Dylech gael ymateb gan eich cwmni cyflenwi o fewn deg diwrnod gwaith i'r dyddiad y cyfeiriwyd eich achos at Llais Defnyddwyr. Dylai mwyafrif helaeth y cwynion gael eu datrys o fewn 35 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae Llais Defnyddwyr wedi delio â'ch cwyn, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni – gweler isod.

Cwyno i'r Ombwdsman Ynni

Rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni os ydych wedi derbyn llythyr sefyllfa ddiddatrys gan eich cwmni cyflenwi trydan. Os nad ydych wedi cael llythyr sefyllfa ddiddatrys, fe fyddwch yn medru cwyno os yw'ch cwyn i'r cwmni cyflenwi trydan wedi bod yn mynd ymlaen ers o leiaf wyth wythnos ac un o'r canlynol yw'ch cwmni cyflenwi:

  • E.ON
  • EDF Energy
  • Nwy Prydain
  • Npower
  • Scottish Power
  • Scottish and Southern.

Os nad ydych yn cael eich trydan gan un o'r cwmnïau hyn, fel arfer rhaid i chi aros deuddeg wythnos cyn y byddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni.

Mae'r Ombwdsman Ynni'n medru ymchwilio i gwynion gan gwsmeriaid domestig a chwsmeriaid busnes bach. Mae cwsmer busnes bach yn un sydd â:

  • defnydd blynyddol o hyd at 55,000 cilowat awr o drydan, neu
  • hyd at ddeg gweithiwr a throsiant blynyddol o hyd at 2 miliwn ewro.

Rhaid i chi fynd â'ch cwyn i'r Ombwdsman o fewn chwe mis i ddyddiad y llythyr sefyllfa ddiddatrys gan eich cwmni cyflenwi trydan, os cawsoch un. Os na chawsoch lythyr o'r fath, fe fyddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman ar unrhyw adeg rhwng wyth wythnos a naw mis ar ôl y dyddiad y cwynoch i'ch cwmni cyflenwi, os yw'ch cwmni cyflenwi yn un o'r cwmnïau a nodwyd yn gynharach. Os nad yw'ch cwmni ar y rhestr uchod, mae gennych rhwng 12 wythnos a naw mis i gwyno.

Fe fyddwch yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni trwy lythyr, ffacs, ffôn neu ar-lein.

Fe fydd yr Ombwdsman Ynni'n medru trefnu un o'r canlynol:

  • i chi gael ymddiheuriad
  • i chi gael esboniad
  • i ddatrys eich problem
  • mewn rhai amgylchiadau, i chi gael iawndal ariannol.

Am fanylion cyswllt yr Ombwdsman Ynni, gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Nôl i’r brig



Sefydliadau defnyddiol

Llais Defnyddwyr

Llais Defnyddwyr yw'r gwylgi defnyddwyr sy'n gyfrifol am amddiffyn buddiannau defnyddwyr trydan a nwy.

Mae gan wefan Llais Defnyddwyr:

  • gronfa ddata o wybodaeth ynghylch hawliau defnyddwyr
  • cyfleuster 'Holi cwestiwn' sy'n gadael i chi holi cwestiwn newydd ar-lein os nad ydych yn medru dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei angen yn y gronfa ddata
  • cyfres o daflenni ffeithiau a thaflenni i ddefnyddwyr, i'w lawrlwytho
  • gwybodaeth ynghylch newid eich cwmni cyflenwi tanwydd
  • gwybodaeth ynghylch y cwmnïau cyflenwi sy'n gweithredu yn eich ardal chi a'r prisiau y maen nhw'n eu codi
  • gwybodaeth ynghylch gwasanaethau cymharu prisiau
  • gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio llai o ynni a gostwng eich biliau tanwydd.

Rhowch glic ar: (New window) www.consumerfocus.org.uk.

Cyswllt Defnyddwyr

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn wasanaeth cyngor dros y ffôn ac ar-lein i ddefnyddwyr ac fe'i cefnogir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaethau Safonau Masnach yr awdurdodau lleol.

Mae Cyswllt Defnyddwyr yn medru rhoi help a chyngor ynghylch materion ynni. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i newid eich cwmni cyflenwi a hefyd sut i ddelio gyda'ch cwmni cyflenwi os oes cwyn gennych.

Rydych yn medru cwyno am eich cwmni cyflenwi trydan i Cyswllt Defnyddwyr os cawsoch eich datgysylltu, os oes rhywun yn bygwth eich datgysylltu neu os credir eich bod yn gwsmer bregus.

Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Cyswllt Defnyddwyr ar sail prisiau 0845.

Ffôn: 0845 404 0506
Gwefan: (New window) www.consumerdirect.org.uk

Yr Ombwdsman Ynni

Os oes cwyn gennych am eich cwmni cyflenwi trydan ac nid ydych wedi llwyddo i'w datrys yn uniongyrchol gyda'ch cwmni cyflenwi, rydych yn medru cwyno i'r Ombwdsman Ynni. Rhaid eich bod wedi cwyno i'ch cwmni cyflenwi trydan yn gyntaf.

Mae'r Ombwdsman Ynni hefyd yn delio gyda chwynion am gwmnïau cyflenwi nwy.

Rydych yn medru cysylltu â'r Ombwdsman Ynni yn:

PO Box 966
Warrington
WA4 9DF

Ffôn: 0845 055 0760 neu 01925 530263
Ffacs: 0845 055 0765 neu 01925 530264
Ffôn testun: 18001 0845 051 1513 neu 18001 01925 430886
E-bost: enquiries@energy-ombudsman.org.uk
Gwefan: (New window) www.energy-ombudsman.org.uk.

Ofgem (Office of Gas and Electricity Markets)

Mae Ofgem yn gorff rheoleiddio annibynnol, a sefydlwyd gan y llywodraeth i hybu cystadleuaeth ac i fonitro a rheoleiddio gweithgareddau cwmnïau cyflenwi yn y diwydiannau trydan a nwy. Mae Ofgem hefyd yn monitro Codau Ymarfer cwmnïau cyflenwi ac yn ceisio sicrhau bod anghenion cwsmeriaid bregus yn cael eu diwallu. Nid ydynt yn medru delio'n uniongyrchol gyda chwynion defnyddwyr. Mae eu tîm Materion Defnyddwyr yn delio gydag ymholiadau ynghylch eu polisïau. Gellir cysylltu â nhw ar: 020 7901 7295 neu drwy e-bostio: consumeraffairs@ofgem.gov.uk.

Nôl i’r brig