Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Cyflenwad dwr

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Cael cyflenwad dwr

Mae dwr yn cael ei ddarparu drwy nifer o gwmnïau dwr preifat. Fel cwsmer domestig sy’n byw mewn eiddo, mae gennych yr hawl i gyflenwad dwr.

Ni chodir tâl am gymryd cyflenwad dwr sydd eisoes yn bodoli.

Os oes angen cysylltu cyflenwad dwr gydag eiddo, mae gan y cwmni dwr bob hawl i godi tâl am y cysylltiad. Bydd y taliadau yma’n cael eu gosod yng nghynllun tâl y cwmni, Os ydych yn dymuno cael mwy o fanylion am gynllun taliadau eich cwmni cyflenwi, dylech gysylltu â’r cwmni.

Nôl i’r brig


Cyflenwad dwr

Mae'n rhaid i gyflenwd dwr at ddibenion domestig fod:-

  • yn gyson. Os yw’n ofynnol fod y cwmni’n torri ar draws cyflenwad dwr, mae'n rhaid rhoi rhybudd rhesymol
  • yn ddiogel i’w yfed. Mae’n bosib y caiff Fflworid ei ychwanegu mewn rhai ardaloedd
  • yn cael ei ddarparu ar bwysedd addas
  • yn ddigonol ar gyfer pwrpasau domestig cyffredinol. Oes oes prinder dwr difrifol yn yr ardal, gall y cwmni wahardd y defnydd o bibellau dwr yn yr ardal er mwyn atal dyfrhau gerddi preifat neu olchi ceir preifat.

Nôl i’r brig


Cyfrifo costau dwr

Mae yna sawl ffordd gwahanol o gyfrifo costau dwr. Gall cwmni dwr ddefnyddio mwy nag un o’r ffyrdd yma.

Dyma'r dulliau o godi tâl:-

  • tâl na fesurwyd yn seiliedig ar werth trethadwy yr eiddo. Caiff cost y cyflenwad ei gyfrifo fel swm (mewn ceiniogau) ar gyfer pob punt o’r gwerth trethadwy. Bydd y swm yma yn amrywio o gwmni i gwmni; neu
  • tâl na fesurwyd yn seiliedig ar dâl cyfradd sefydlog. Bydd rhai cwmnïau dwr yn codi tâl cyfradd sefydlog ar bob un sydd heb fesurydd dwr, heb ystyried faint o ddwr y maent yn ei ddefnyddio neu’r math o eiddo y maent yn byw ynddo; neu
  • tâl na fesurwyd yn seiliedig ar fandiau. Ble mae cwsmer wedi gofyn am fesurydd dŵr ond nid oes modd ei osod oherwydd y pibau yn yr eiddo, mae cwmnïau’n medru cynnig Tâl Asesiad Cyfaint yn lle. Fel arfer, mae’n seiliedig ar faint yr eiddo, a’r math o eiddo, neu’r nifer o bobl sy’n byw yn yr eiddo; neu
  • tâl wedi ei fesur (gan ddefnyddio mesurydd dwr) yn seiliedig ar gyfaint y dwr, fel arfer mewn metrau ciwbig, a ddefnyddiwyd ar gyfradd a gymeradwywyd gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa’r Gwasanaethau Dwr (OFWAT).

Mae’n bosib y gallwch ddewis pa ddull a ddefnyddir, ond dim ond os nad oes gan y cwmni sy’n cyflenwi eich dwr raglen fesur unffurf.

Yn gyffredinol, os nad oeddech ar fesurydd dwr cyn 1 Ebrill 2000 ac rydych chi’n dal i gael eich cyflenwad heb fesurydd, mae gennych yr hawl i barhau i dalu am ddwr yn y ffordd yma. Ond, nid yw hyn yn wir os oes gan y cwmni sy’n cyflenwi eich dwr raglen fesur unffurf.

Os oes rhaglen fesur unffurf gan eich cwmni dwr, ni fyddwch yn medru dewis dull arall o godi tâl. Fe fydd yn rhaid i chi newid at dâl wedi’i fesur sy’n defnyddio mesurydd dwr.

Os ydych chi’n ystyried cael mesurydd dwr, fe allwch chi ddefnyddio cyfrifydd defnydd dwr y Cyngor Defnyddwyr Dwr i weld os allech chi arbed arian ar eich bil. Mae ar gael ar eu gwefan yn: (New window) www.ccwater.org.uk.

Mesur unffurf

Yn gyferithiol, mae gan gwmnïau dwr yr hawl i osod mesuryddion mewn ardaloedd sydd wedi eu datgan fel ardaloedd ble mae’r cyflenwad dwr yn isel. Os ydych chi’n byw mewn ardal o’r fath, gellir eich gorfodi’n gyfreithiol i gael mesurydd dwr ac ni fyddwch yn medru dewis dull arall o godi tâl. Gelwir hyn yn fesur unffurf.

Mae rhai cwmnïau dwr eisoes wedi dechrau gweithredu eu rhaglenni mesur unffurf. Fe fyddan nhw’n digwydd dros nifer o flynyddoedd. Fe fyddwch yn medru holi’ch cwmni i weld ym mha flwyddyn o’u rhaglen fyddwch chi’n cael mesurydd. Cyn i’r cwmni osod mesurydd, fe fyddan nhw’n anfon llythyr atoch yn dweud tua phryd fydd y mesurydd yn cael ei osod.

Mae rhai cwsmeriaid sydd â mesurydd dwr eisoes yn cael help gyda’u biliau oherwydd cyflwr meddygol neu am eu bod ar fudd-daliadau penodol. Wrth i’r rhaglen fesur unffurf gael ei gweithredu, fe fydd cwsmeriaid sy’n ei chael yn anodd talu unrhyw daliadau uwch ar ôl newid eu mesurydd yn cael cynnig tariffau arbennig.

Gofyn am fesurydd

Mae’n bosib y byddwch am wneud cais i osod mesurydd dwr:-

  • os mai ychydig iawn o ddwr fyddwch chi'n ei ddefnyddio
  • os oes gan yr eiddo werth trethadwy uchel iawn
  • os ydych am gael mwy o reolaeth ar faint o ddwr fyddwch chi'n talu amdano.

Er hyn, dyma rai anfanteision posib o gael mesurydd dwr:-

  • Anghyfleustra darllen y mesurdd
  • rhaid talu am ddwr sy'n gollwng wedi gosod y mesurydd. Er hyn, bydd pob cwmni yn gweithredu côd ymarfer ar ollyngiadau dwr ar gyfer pobl sydd â mesuryddion dwr. Gall y côdau yma warchod cwsmeriaid rhag colled i raddau
  • yr ansicrwydd o faint fydd y bil blynyddol.

Gall pob cwsmer sy’n byw mewn ty ddewis cael mesurydd dwr wedi ei osod yn eu cartref yn rhad ac am ddim, oni bai y byddai yn anymarferol neu’n afresymol o ddrud i osod mesurydd dwr. Fel arfer, bydd modd i chi newid yn ôl i’ch hen ddull tâl, cyn belled a’ch bod yn gwneud hynny o fewn 12 mis i ddechrau’r cyfnod tâl mesuredig.

Mae gan gwmnïau hawl gyfreithiol hefyd i osod mesuryddion dŵr mewn ardaloedd sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd lle mae dwr yn brin, neu lle mae pobl yn defnyddio llawer o ddwr at ddibenion sydd ddim yn anghenrheidiol, er enghraifft

  • defnyddio system daenu i ddyfrhau’r ardd
  • ail-lenwi pwll neu bwll nofio â chyfaint o 10,000 litr neu fwy
  • defnyddio 'cawod bwer'
  • llenwi bath sy'n dal mwy na 230 litr.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch mesuryddion dŵr a mesur unffurf mewn taflen a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (OFWAT) - 'Water meters - your questions answered - information for household customers' ar wefan OFWAT yn: (New window) www.ofwat.gov.uk.

Nôl i’r brig


Biliau dwr

Mae’n bosib y bydd eich bil dwr yn cynnwys y canlynol:-

  • Tâl sefydlog
  • tâl am ddwr, yn seiliedig ar ddarlleniad mesurydd dwr neu ddull arall o godi tâl
  • tâl am garthffosiaeth. Os darperir eich gwasanaeth carffosiaeth gan gan gwmni gwahanol, mae'n bosib y byddwch yn derbyn bil gwahanol am symud carthffosiaeth.

Fel arfer, caiff biliau eu hanfon unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, yn dibynnu ar arfer y cwmni. Os bydd y tâl a godir ar ddwr ar sail anfesuredig, bydd y bil am y cyfnod bilio sydd i ddod. Os bydd y dâl a godir am ddwr yn fesuredig, bydd y bil am y cyfnod bilio sydd newydd fod.

Os ydych yn talu arian i landlord neu berchennog safle cartrefi symudol am ddŵr neu garthffosiaeth, mae yna reolau arbennig ynghylch y swm y gellir ei godi arnoch. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan y Swyddfa Gwasanaethau Dŵr (OFWAT) – gweler y pennawd Sefydliadau defnyddiol.

Help gyda biliau dwr

Mae'n bosib y gall rhai pobl dderbyn help gyda'u costau dwr, er enghraifft, pobl sydd â mesuryddion dwr sy'n defnyddio cyfaint uchel oherwydd rhai cyflyrrau meddygol, neu oherwydd bod ganddynt 3 neu fwy o blant o dan 16 oed a'u bod yn derbyn budd-dâl sy'n eu gwneud yn gymwys. Yn Lloegr, gelwir hyn yn gynllun WaterSure. Mae'n bosib y byddant ar eu hennill  o gael bil a gyfrifir fel cost cyfartalog  ar gyfer cwsmeriaid domestig  y cwmni hwnnw yn hytrach na chyfaint mesuredig y dwr a ddefnyddiwyd.

Mae gan bob cwmni  ddarpariaeth yn ei lle er mwyn helpu pobl sy'n cael trafferth talu biliau, er enghraifft cynlluniau cyllideb. Dylech gysylltu’n uniongyrchol â’ch cwmni dwr am wybodaeth bellach ynghylch y cynlluniau sydd ar gael.

Mae gwybodaeth bellach ynghylch y cynlluniau gwahanol hefyd ar gael ar wefan Water UK yn: (New window) www.water.org.uk.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynglyn â'r gwahanol fathau o help sydd ar gael, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig gwybodaeth drwy'r e-bost, ciciwch ar (New window) CAB agosaf.

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r bil

Preswyliwr y ty sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu'r costau dwr. Os bydd rhywun yn rhannu'r annedd, yna caiff y cyfrifoldeb ei rannu hefyd, hyd yn oed os yw'r bil mewn un enw'n unig. Bydd preswyliwr sy'n aros yn y cartref yn cael yn gyfrifol am gostau presennol ac unrhyw ôl-ddyledion sy'n sefyll wedi i'r person arall yr oedd yn rhannu'r cartref ag ef/hi adael (er enghraifft, os bydd partneriaid wedi gwahanu). Mae'n bosib y bydd y cwmni yn ceisio ad-ennill unrhyw arian a oedd yn ddyledus iddynt gan y person a adawodd yr annedd.

Nôl i’r brig


Ôl-ddyledion dwr

Ni all cwmnïau dwr ddatgysylltu cyflenwad dwr cwsmer domestig oherwydd ôl-ddyledion am ddwr. Byddai'n rhaid i'r cwmni dwr gymryd camau drwy'r llys sirol ar gyfer dyled.

Os oes gennych ôl-ddyledion dwr, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi gwybodaeth drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Trefniadau i dalu'r ôl- ddyledion

Bydd yn rhaid i chi dalu am eich defnydd dwr presennol ynghyd â swm rhesymol tuag at yr ôl-ddyledion.

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau ac rydych mewn dyled gyda’ch taliadau dŵr, efallai y byddwch yn medru talu didyniadau trydydd person i’r cwmni dŵr. Gelwir hyn yn Water Direct. Mae didyniad trydydd person yn golygu bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn talu swm o’ch budd-daliadau yn syth i’r cwmni dŵr bob wythnos.

Er mwyn i chi fedru ymuno â Water Direct, rhaid eich bod chi ar un o’r budd-dalidau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • mewn rhai achosion, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (naill ai’n gysylltiedig ag incwm neu’n seilieig ar gyfraniadau).

Efallai y byddwch yn medru cael didyniad trydydd person os nad ydych wedi cyllidebu ar gyfer y taliadau dŵr ac mae er eich budd chi i’r Adran Gwaith a Phensiynau dynnu didyniadau trydydd person. Fel arfer, fe fydd cwmni dŵr yn annog y dull hwn o dalu ac efallai y bydd yn ceisio am ddidyniadau trydydd person pan fydd opsiynau talu eraill wedi rhedeg allan.

Mae rhai cyflenwyr dŵr wedi sefydlu ymddiriedolaethau elusennol annibynnol sy'n rhoi grantiau i rai o'u cwsmeriaid i'w helpu i dalu am ddyledion dŵr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r cwmni sy'n cyflenwi'ch dŵr a holwch am y cynlluniau sydd ar gael neu rhowch glic ar wefan Water UK yn: (New window) www.water.org.uk.

Nôl i’r brig


Iawndal oddi wrth y cwmni dwr

Mae gan bob cwmni rai safonau gwasanaeth a reolir gan y Cynllun Gwarantu Safonau Statudol. Mae'n orfodol bod y cwmnïau'n cydymffurfio â'r cynllun hwn. Mae'r safonau yma'n ymwneud â:

  • Chadw apwyntiadau
  • ymateb i ymholiadau ynglyn â chyfrif
  • ymateb i gwynion
  • toriadau yn y cyflenwad
  • pwysedd dwr
  • gosod mesuryddion
  • gorlifiad carthffosiaeth.

Os na all cwmni gwrdd â safon gwasanaeth arbennig, gallwch hawlio £20 o iawndal. Os bydd pwysedd y dwr yn is na'r lefel digonol ddwywaith mewn 28 niwrnod, gallwch hawlio £25. Fel arfer, bydd iawndal yn cael ei dalu/ ei gredydu gan y cwmni 'n awtomatig. Os yw'r gwyn yn ymwneud â thorri ar y cyflenwad, pwysedd isel y cyflenwad dwr neu orlifiad carthffosiaeth, rhaid i chi hawlio iawndâl yn ysgrifenedig o fewn tri mis i'r digwyddiad.

Ynghyd â safonau gwasanaeth a lefelau isafswm iawndaliadau angenrheidiol sy'n ddisgwyliedig gan bob cwmni, mae'n bosib y bydd rhai cwmnïau yn gweithredu eu safonau uwch a/ neu lefelau iawndaliadau eu hunain.

Nôl i’r brig


Cwynion

Os oes cwyn gennych am eich cwmni dwr, dylech fynd ar drywydd y gwyn gyda'r cwmni i ddechrau. Mae gan bob cwmni weithdrefn gwyno ac mae gan rai ohonynt swyddogion cwyno i ddelio gyda chwynion.

Os nad ydych yn fodlon ar ôl cwyno i'r cwmni dwr, fe fyddwch yn medru cwyno i'r Cyngor Defnyddwyr Dwr.

Y Cyngor Defnyddwyr Dwr

Mae'r Cyngor Defnyddwyr Dwr (CCWater) yn fudiad annibynnol sy'n medru ymchwilio i gwynion am y cwmniau dwr. I gysylltu â CCWater, ffoniwch nhw ar: 0845 039 2837, neu ewch at eu gwefan: (New window) www.ccwater.org.uk.

Os yw CCwater yn teimlo bod eich cwyn wedi'i chyfiawnhau, fe fyddan nhw'n gofyn i'ch cwmni dwr i unioni'r mater. Fe fydd swyddfa CCWater yn eich diweddaru chi ar gynnydd y gwyn ac yn ysgrifennu i ddweud wrthych beth yw'r canlyniad.

Os nad yw CCWater yn medru datrys y gwyn, fe fydd yn ei chyfeirio at OFWAT. Neu, os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae CCWater wedi delio gyda'ch cwyn, rydych chi'n medru cwyno i OFWAT eich hun. Fe fydd OFWAT ond yn mynd ar drywydd y mater os yw'n teimlo nad yw CCWater wedi delio gyda'ch cwyn yn iawn.

Office of Water Services (OFWAT)

OFWAT yw'r gwylgi annivynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i fonitro a rheoleiddio gweithgareddau'r cwmnïau dwr. Rydych chi'n medru cysylltu ag OFWAt yn:

OFWAT
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham B5 4UA
Ffôn: 0121 625 1300
Ffôn testun: 0121 625 1422
Ebost: enquiries@ofwat.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.ofwat.gov.uk

Arolygiaeth Dwr Yfed (Drinking Water Inspectorate)

Mae'r Arolygiaeth Dwr Yfed yn monitro ansawdd y dwr. Os ydych yn anhapus gydag ansawdd y cyflenwad dwr, gallwch anfon cwyn at y Pwyllgor Gwasanaethau Cwsmer Rhanbarthol  (gweler uchod) neu at Arolygiaeth Dwr Yfed. Rydych chi'n medru cysylltu â'r Arolygiaeth Dwr Yfed yn:

Room M03
55 Whitehall
London
SW1A 2EY
Ffôn: 030 0068 6400
Ffacs: 030 0068 6401
Ebost: dwi.enquiries@defra.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.dwi.gov.uk

Nôl i’r brig