Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Anfon arian dramor

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor ac angen help i anfon arian i wlad arall, mae yna wybodaeth a chyngor ar gael ar wefan SendMoneyHome.org. Mae’r wefan hefyd yn ddefnyddiol i’r rheiny sydd am brynu rhywbeth o wlad arall ac angen anfon arian yno.

Cefnogir SendMoneyHome.org gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol. Mae’n cynnig gwasanaeth ar-lein annibynnol rhad ac am ddim sy’n eich helpu i ddod o hyd i’r gyfradd gyfnewid orau, y ffi isaf a’r ffordd gyflymaf o drosglwyddo eich arian.

Ar y wefan, mae yna wasanaeth cymharu prisiau trosglwyddo sy’n gadael i chi gymharu’r hyn sydd gan y banciau, trosglwyddwyr arian, gwasanaethau trosglwyddo arian ar-lein a chwmnïau eraill i’w gynnig.

Mae yna wybodaeth ynghylch anfon arian o’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Canada, yr Almaen, Awstria, y Swistir, Gwlad Groeg, De Affrica neu’r Eidal i dros 80 o wledydd ar draws y byd. Mae peth gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd heblaw am Saesneg.

I fynd at y wefan , dilynwch y ddolen gyswllt isod:

(New window) www.SendMoneyHome.org.

Anfon arian yn ddiogel

Rydych yn medru anfon arian dramor trwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • ·cardiau credyd neu ddebyd
  • ·cardiau rhagdaledig
  • ·gwasanaethau banc neu gymdeithas adeiladu
  • ·gweithredwyr trosglwyddo arian
  • ·broceriaid cyfnewid dramor.

Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi a’r person sy’n derbyn yr arian, ill dau, dalu ffi.

Os ydych yn anfon arian at berson neu fusnes ac rydych yn defnyddio gweithredwr trosglwyddo arian, gwasanaeth trosglwyddo arian ar-lein neu frocer cyfnewid dramor, dylai’r cwmni fod wedi’i awdurdodi neu gofrestru gydag Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (yr FSA).

Os yw’r cwmni wedi’i awdurdodi gan yr FSA, mae ganddo drefniadau iawn mewn lle i ddiogelu eich arian os digwydd iddo fynd i drafferthion ariannol. Gwneir gwiriadau ariannol hefyd ar yr asiantau y mae’n eu defnyddio.

Nid yw cwmni sydd wedi’i gofrestru yn unig yn gorfod cael yr holl wiriadau hyn. Ond, fe fydd yr FSA yn sicrhau bod y cwmni yn gweithio o’r Deyrnas Unedig ac nad oes unrhyw un o’r bobl sy’n rhedeg y cwmni wedi ei g/chael yn euog o droseddau ariannol. I ddarganfod os yw cwmni wedi’i awdurdodi neu gofrestru cysylltwch â’r FSA yn (New window) www.fsa.gov.uk.

Dylai pob cwmni roi gwybodaeth i chi ynghylch p’un ai ei fod yn diogelu eich arian ac ynghylch costau neu ffioedd. Rhaid i gwmnïau awdurdodedig ddiogelu eich arian tra’i fod yn eu gofal, onid yw’r swm a drosglwyddwyd yn llai na £50.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch anfon arian gan ddefnyddio cwmni sydd ddim yn fanc nac yn gymdeithas adeiladu ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: (New window) www.moneyadviceservice.org.uk. Mae yna wybodaeth bellach hefyd ynghylch defnyddio banc neu gymdeithas adeiladu, ar yr un wefan.