Mae’r wybodaeth yma’n gymwys ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) wedi cynhyrchu canllawiau i'ch helpu chi i benderfynu pa ffordd yw'r ffordd orau o gynilo ar gyfer y Nadolig.
Mae'r canllawiau'n rhoi disgrifiad i chi o'r opsiynau cynilo gwahanol sydd ar gael, gan gynnwys:
Mae yna siart hefyd, sy'n gadael i chi gymharu'r holl opsiynau gwahanol.
I ddarllen yr wybodaeth, rhoch glic ar: www.consumerdirect.gov.uk.
Mae rhai o'r clybiau Nadolig mwy o faint yn perthyn i gymdeithas o'r enw Christmas Prepayment Association. Mae'r clybiau hyn yn talu'r arian y maen nhw'n ei gael gan eu cwsmeriaid i mewn i gronfa arbennig sy'n cynnig amddiffyniad i'r cwsmer. Mae mwy o wybodaeth ar wefan y gymdeithas: www.cpa-advice.org.uk.