Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Ynglŷn â’r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i:

  • aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, gan gynnwys aelodau’r adfyddinoedd. Mae hyn yn cynnwys aelodau’r Fyddin Diriogaethol, Adfyddin y Llynges Frenhinol (RNR), Adfyddin y Môr-filwyr Brenhinol (RMR) ac Adfyddin Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFVR)
  • bobl oedd yn arfer gwasanaethu yn y lluoedd arfog gan gynnwys aelodau adfyddinoedd (cyn-filwyr)
  • dibynyddion aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr.

Mae yna nifer o gynlluniau pensiwn gwahanol ar gael i’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Rydych yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i gael gwybod am y cynlluniau sydd ar gael i chi, gan ddibynnu ar eich sefyllfa. Rydych hefyd yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i gael gwybod am fudiadau eraill a allai eich helpu.

Nôl i’r brig


Mathau o gynlluniau

Mae cynlluniau pensiwn yn gynlluniau sy’n rhoi taliadau i chi ar ôl i chi adael y lluoedd arfog neu phan fyddwch chi’n ymddeol yn 65 oed.

Mae cynlluniau iawndal yn gynlluniau a fydd yn eich helpu os fyddwch chi’n cael anaf tra’n gwasanaethu. Fe fyddan nhw hefyd yn eich helpu os ydych chi’n dibynnu ar aelod o’r lluoedd arfog a fu farw tra’n gwasanaethu.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynlluniau iawndal, gweler Os cawsoch eich gorfodi i adael y lluoedd arfog oherwydd anaf difrifol.

Mae’r cynlluniau efallai y byddwch yn medru eu defnyddio yn dibynnu ar:

  • y math o wasanaeth a wnaethoch
  • pryd fuoch chi’n gwasanaethu
  • y math o help sydd ei angen arnoch.

Dyma’r cynlluniau efallai y byddwch yn medru eu defnyddio:

Efallai y bydd y cynlluniau hyn yn berthnasol i chi, ond fe fydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Nôl i’r brig


Os oeddech wedi ymuno â’r lluoedd arfog rhwng 1975 a 2005

Mae AFPS75 yn gynllun pensiwn sy’n gysylltiedig â gwaith ac fe ddechreuodd ym 1975.

Efallai eich bod yn aelod o’r cynllun hwn os oeddech wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog rhwng 1975 a 5 Ebrill 2005. Ond, efallai eich bod wedi dewis cael eich trosglwyddo at Gynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog 2005 (AFPS 05).

O dan AFPS75, mae eich pensiwn yn daladwy i chi pan fyddwch chi’n 60. Fe fydd y pensiwn a gewch yn dibynnu ar eich rheng a’r cyfnod yr ydych wedi gwasanaethu.

Rydych yn medru defnyddio cyfrifydd pensiwn y Lluoedd Arfog i roi amcan o’r budd-daliadau y byddwch yn eu cael. Rhowch glic ar wefan (New window) Cyfrifydd Pensiynau’r Lluoedd Arfog ac atebwch y cwestiynau.

Mae mwy o wybodaeth ar AFPS 75 ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn: (New window) www.mod.uk.

Nid yw’r AFPS yn effeithio ar y pensiwn a gewch gan y wladwriaeth. Mae gennych yr hawl i ddechrau cael pensiwn y wladwriaeth pan fyddwch wedi cyrraedd oed ymddeol y wladwriaeth.

Fe allwch gyfrifo’r union oed y byddwch yn medru cael pensiwn gan y wladwriaeth trwy ddefnyddio cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov. Rhowch glic ar: (New window) www.directgov.uk.

Mae help a chyngor ar gael hefyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ffoniwch Llinell y Lleng Llinell y Lleng: 08457 725 725 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 10.00yb-4.00yp).
E-bost: trwy’r wefan yn: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Nôl i’r brig


Os ydych wedi ymuno â’r lluoedd arfog ers Ebrill 2005

Os ydych wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog ers 6 Ebrill 2005, fe fyddwch yn aelod awtomatig o Gynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog 2005 (AFPS 05).

Mae AFPS 05 yn gynllun sy’n gysylltiedig â gwaith ac fe ddechreuodd ar 6 Ebrill 2005. Roedd yn cymryd lle’r cynllun blaenorol, AFPS 75. Mae unrhyw un sydd wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog ers y dyddiad hwn yn aelod o’r cynllun os nad ydynt wedi dewis eithrio allan o’r cynllun. Mae rhai pobl a oedd ar y cynllun blaenorol, (AFPS 75) hefyd wedi dewis ymuno ag AFPS 05.

O dan gynllun AFPS 05, mae eich pensiwn yn daladwy i chi pan fyddwch chi’n 60. Fe fydd y pensiwn a gewch yn dibynnu ar y cyfnod yr ydych wedi gwasanaethu a’ch cyflog terfynol.

Fe allwch ddefnyddio cyfrifydd pensiwn y Lluoedd Arfog er mwyn rhagweld faint fyddwch chi’n ei gael. Rhowch glic ar wefan (New window) Cyfrifydd Pensiwn y Lluoedd Arfog ac atebwch y cwestiynau.

Mae mwy o wybodaeth am AFPS 05 ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn: (New window) www.mod.uk.

Nid yw’r AFPS yn effeithio ar y pensiwn a gewch gan y wladwriaeth. Mae gennych yr hawl i ddechrau derbyn pensiwn gan y wladwriaeth pan fyddwch chi wedi cyrraedd oed ymddeol.

Fe allwch gyfrifo’r union oed y byddwch yn medru cael pensiwn gan y wladwriaeth trwy ddefnyddio cyfrifydd oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov. Rhowch glic ar: (New window) www.directgov.uk.

Mae help a chyngor ar gael hefyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ffoniwch Llinell y Lleng: 08457 725 725 (Llun-Gwener) 10.00yb-4.00yp). Gwefan: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Nôl i’r brig


Os ydych wedi ymuno ag adfyddin ar ôl Ebrill 2005

Os ydych wedi dechrau neu ailddechrau gwasanaethu’n llawn amser gydag adfyddin o 6 Ebrill 2005 ymlaen, fe fyddwch yn aelod o Gynllun Pensiwn Adfyddinoedd (RFPS 05) onid ydych wedi dewis eithrio allan o’r cynllun.

Fe fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn os ydych wedi gwasanaethu yn un o’r lluoedd canlynol:

  • y Fyddin Diriogaethol
  • Adfyddin y Llynges Frenhinol (RNR)
  • Adfyddin y Môr-filwyr Brenhinol (RMR)
  • Adfyddin Gwirfoddolwyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFVR).

I ddarganfod mwy, rhowch glic ar wefan SaBRE (Supporting Britain's Reservists and Employers yn: (New window) www.sabre.mod.uk.

Mae help a chyngor ar gael hefyd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol. Ffoniwch Llinell y Lleng Llinell y Lleng: 08457 725 725 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 10.00yb-4.00yp).
E-bost: trwy’r wefan yn: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Nôl i’r brig


Pensiwn i Wŷr Gweddw neu Weddwon Rhyfel

Os yw’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw o ganlyniad i wasanaethu yn y lluoedd arfog, efallai y cewch Bensiwn i Wŷr Gweddw neu Weddwon Rhyfel.

Mae hyn yn seiliedig ar gyflog eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag asiantaeth o’r enw Service Personnel and Veterans Agency. Mae eu manylion cyswllt yn yr adran Help pellach.

Am fwy o wybodaeth ar fudd-daliadau pan fydd rhywun wedi marw, gweler Budd-daliadau a Phrofedigaeth.

Nôl i’r brig


Os oes problemau iechyd gennych am i chi fod yn y lluoedd arfog

Os oes problemau iechyd gennych am i chi fod yn y lluoedd arfog, efallai y bydd hawl gennych i gael taliadau o dan y cynllun pensiwn rhyfel neu gynlluniau iawndal y lluoedd arfog.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynllun pensiwn rhyfel a chynllun iawndal y lluoedd arfog, gweler Os cawsoch eich gorfodi i adael y lluoedd arfog oherwydd anaf difrifol.

Nôl i’r brig


Help pellach

Mwy o wybodaeth ar gyfer y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ar addysg, gweler Help gyda hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Am fwy o wybodaeth ariannol, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

I gael help gyda budd-daliadau neu ddyledion yn Ngogledd Iwerddon, fe allwch gysylltu â llinell gymorth Budd-daliadau ac Arian Cronfa Les Llu Awyr Brenhinol y Lleng Brydeinig Frenhinol (Royal British Legion Royal Air Force):

Llinell Gymorth: 0845 266669
E-bost: rbl.rafbf@citizensadvice.co.uk

Am fwy o wybodaeth ar iechyd, gweler Gofal iechyd i bobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Am fwy o wybodaeth ar dai, gweler Opsiynau tai i bobl sy’n gadael y Lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mudiadau eraill

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi cyngor ar bensiynau a help i hawlio.

Ffôn: Legionline: 08457 725 725
Gwefan: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Gwasanaeth Iawndal a Phensiynau Rhyfel

Am wybodaeth ar Bensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiwn Gwŷr Gweddw neu Weddwon Rhyfel, yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiynau Rhyfel ac Iawndal:

War Pensions and Compensation Service
The Royal British Legion
Haig House
199 Borough High Street
London
SE1 1AA

Rhif Ffôn: 020 3207 2164 neu 020 3207 2168 neu 020 3207 2169
Ffacs: 020 3207 2218
E-bost: trwy’r wefan yn (New window) www.britishlegion.org.uk.

Tîm Iawndal a Phensiynau Rhyfel

Am wybodaeth ar hawlio iawndal yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â’r Tîm Pensiynau Rhyfel ac Iawndal:

War Pensions and Compensation Team
The Royal British Legion
Haig House
199 Borough High Street
London
SE1 1AA

Rhif Ffôn: 020 3207 2163
Ffacs: 020 3207 2218
E-bost: trwy’r wefan yn (New window) www.britishlegion.org.uk.

Lleng Brydeinig Frenhinol Yr Alban

Mae Lleng Brydeinig Frenhinol yr Alban yn medru rhoi help a chyngor ar bensiynau’r lluoedd arfog yn yr Alban.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â nhw yn:

Royal British Legion Scotland
New Haig House
Logie Green Road
Edinburgh
EH7 4HR

Rhif Ffôn: 0131 557 2782
Ffacs: 0131 557 5819
E-bost: lao@rblscotland.org
Gwefan: (New window) www.rblscotland.org.

SPVA (Service Personnel and Veterans Agency)

Mae’r SPVA (Service Personnel and Veterans Agency) yn rhoi cyngor ar bensiynau’r lluoedd arfog ac yn delio gyda cheisiadau am bensiynau rhyfel a iawndal.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â nhw yn:

Service Personnel and Veterans Agency
Room 8102
Norcross
Thornton-Cleveleys
Lancashire
FY5 3WP

Rhif Ffôn: 0800 169 2277
Ffôn Testun: 0800 169 3458
E-bost: veterans.help@spva.gsi.gov.uk
Gwefan: (New window) www.veterans-uk.info.

Mae’r SPVA wedi cynhyrchu Map Gwybodaeth. Rydych yn medru ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion mudiadau eraill yn eich ardal sydd efallai’n medru eich helpu gyda:

  • Materion ariannol, gan gynnwys budd-daliadau a phensiynau
  • llety
  • cyflogaeth.

Mae’r Map Gwybodaeth ar gael ar-lein yn: (New window) www.veterans-uk.info.

Neu ffoniwch llinell gymorth yr SPVA ar 0800 169 22 77.

Cymdeithas Pensiwn y Lluoedd

Mae Cymdeithas Pensiwn y Lluoedd yn medru rhoi cyngor ar bensiynau’r lluoedd arfog.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â nhw yn:

The Forces Pension Society
68 South Lambeth Road
London
SW8 1RL

Rhif Ffôn: 020 7820 9988
Ffacs: 020 7820 7583
E-bost: memsec@forpen.co.uk
Gwefan: (New window) www.forpen.org.

Aftercare Service – Gogledd Iwerddon

Mae gwasanaeth o’r enw Aftercare Service yn darparu cymorth meddygol, galwedigaethol a lles i gyn-filwyr rhan amser a llawn amser UDR a R IRISH (HS) a’u teuluoedd.  

Fe allwch ffonio un o’u timau maes:
Gogledd (Coleraine) 02892 260615
Dwyrain (Holywood) 02890 420266
Gorllewin (Enniskillen) 02892 260114
De (Portadown) 02890 260044
Gwefan: (New window) www.aftercareservice.org

SaBRE (Supporting Britain's Reservists and Employers)

Mae SaBRE (Supporting Britain's Reservists and Employers) yn rhoi cymorth a chyngor i aelodau adfyddinoedd a’u cyflogwyr ar bob mater, gan gynnwys pensiynau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy gysylltu â nhw yn:

SaBRE
Holderness House
Clifton Street
London
EC2A 4EY

Llinell Gymorth: 0800 389 5459
Ffacs: 020 7426 8390
E-bost: trwy eu gwefan yn (New window) www.sabre.mod.uk.
Gwefan: (New window) www.sabre.mod.uk.

Nôl i’r brig