Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos bod tua 80,000 o bobl yn medru siarad Cymraeg. Yng Nghymru, mae dros draean o blant rhwng 3 a 15 oed yn medru siarad yr iaith.
Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus, er enghraifft awdurdodau lleol, i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Am fwy o fanylion ynglŷn â hyn, rhowch glic ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn:
Saesneg: www.byig-wlb.org.uk
Cymraeg: www.byig-wlb.org.uk
Mae’r Gymraeg yn un o destunau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae’n orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru i ddisgyblion hyd at 16 oed. Caiff ei haddysgu naill ai fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg neu fel iaith gyntaf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae gwybodaeth ar gael ar gyrsiau, adnoddau dysgu a chymwysterau i oedolion sydd am ddysgu Cymraeg, ar wefan Cymraeg i Oedolion yn: www.new.wales.gov.uk.
Mae gwybodaeth ynghylch magu plant yn ddwyieithog ar gael gan brosiect Twf.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch Twf ar ei gwefan: www.twfcymru.com
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi hawl diamod i siaradwyr Cymraeg siarad Cymraeg yn y llys yng Nghymru. Os ydych am siarad Cymraeg yn y llys, dylech gysylltu â chlerc y llys ymlaen llaw i sicrhau bod modd gwneud trefniadau addas.
Os cewch eich galw i wasanaethu ar reithgor mewn unrhyw Lys y Goron yng Nghymru, fe fyddwch yn cael dogfennau dwyieithog y bydd yn rhaid i chi eu llenwi a’u dychwelyd. Os bydd eich ymateb yn nodi eich bod am ddefnyddio’r Gymraeg, fe fydd unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol yn y Gymraeg. Yn y llys, mae rheithwyr yn cael gwahoddiad i wylio fideo sy’n esbonio cyfrifoldebau rheithwyr. Mae’r fideo ar gael yn y Gymraeg. Fe fyddwch hefyd yn medru tyngu llw’r rheithiwr yn Gymraeg. Rhaid darparu cyfleusterau cyfieithu os nad yw’r gwrandawiad cyfan yn y Gymraeg.
Os ydych am gysylltu â sefydliad trwy gyfwng y Gymraeg, efallai y bydd ganddynt linell gymorth cyfrwng Cymraeg arbennig.
I weld rhestr lawn o sefydliadau sydd â llinell gymorth cyfrwng Cymraeg, rhowch glic ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn:
www.byig-wlb.org.uk (Saesneg)
www.byig-wlb.org.uk (Cymraeg)
Mae Llinell Gyswllt â’r Gymraeg yn wasanaeth sy’n darparu gwybodaeth gyffredinol ar Gymru a’r iaith Gymraeg. Caiff ei rhedeg ar ran Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan Mamiaith, rhan o Fenter Môn yn Llangefni.
Mae gwasanaethau’r Llinell Gyswllt yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n medru:
Dyma fanylion cyswllt y Llinell Gyswllt:
Ffôn: 0845 607 6070 Llun - Gwener 9.00yb-5.00yp
Ffacs: 01248 725 735
Gwefan: www.llinellgyswllt.co.uk
E-bost: linkline@welsh-language-board.org.uk
E-bost: cyswllt@bwrdd-yr-iaith.org.uk
Am fwy o wybodaeth am y Llinell Gyswllt, rhowch glic ar wefan iaith Gymraeg Llywodraeth cynulliad Cymru yn:
www.new.wales.gov.uk (Saesneg)
www.new.wales.gov.uk (Cymraeg)