Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae angen trwydded deledu arnoch i ddefnyddio unrhyw offer derbyn- teledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddyn nhw ymddangos ar y teledu. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni ar y BBC, ITV, Sianel 4, Sianel 5, cebl a theledu lloeren. Mae offer derbyn- teledu yn cynnwys:
Nid oes angen trwydded deledu arnoch os na all set deledu dderbyn rhaglenni teledu ac fe’i defnyddir yn unig:
Nid oes angen trwydded deledu arnoch os ydych ond yn gwylio gwasanaethau dal-i-fyny, megis BBC i-player, sy’n gadael i chi wylio rhaglenni ar ôl iddyn nhw gael eu darlledu.
Mae trwydded deledu yn caniatáu i’r person a enwir arni ac unrhyw aelod arall o’u cartref i ddefnyddio un neu fwy o setiau teledu neu recordydd fideo/DVD yn y cyfeiriad y mae’r drwydded yn berthnasol iddo. Os oes trwydded gennych ar gyfer eich cyfeiriad cartref, rydych hefyd yn gallu defnyddio dyfais a bwerir gan fatris, er enghraifft gliniadur neu ffôn symudol, i wylio teledu byw pan fyddwch chi i ffwrdd o’ch cartref.
Os mai teledu du a gwyn yn unig sydd gennych, dim ond trwydded deledu du a gwyn sydd ei angen arnoch. Os oes gennych deledu lliw, recordydd DVD neu recordydd fideo, fe fydd angen trwydded deledu lliw arnoch. Bydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os defnyddir y recordydd DVD neu fideo gyda set deledu du a gwyn.
Os nad ydych chi yn defnyddio’ch set deledu, recordydd fideo neu chwaraewr DVD i wylio neu recordio rhaglenni byw a ddarlledir (hynny yw, BBC, ITV, Sianel 4, Sianel 5, teledu cebl neu deledu lloeren),ni fydd angen trwydded arnoch. Mae hyn yn golygu na fyddai angen trwydded deledu arnoch os ydych chi, er enghraifft:
Sut bynnag, rhaid bod y set deledu yn analluog i dderbyn rhaglenni a ddarlledir yn fyw. Gellir gwneud hyn, er enghraifft, trwy wneud yn siŵr nad yw’r set deledu, y DVD na’r recordydd fideo:
Mae yna ffioedd penodol ar gyfer trwyddedau teledu lliw a rhai du a gwyn. Cynyddir y rhain yn flynyddol. Mae’r cynnydd yn effeithiol o ganol nos ar ddydd y cyhoeddiad. Y ffioedd cyfredol yw:
| Math o drwydded | O Ebrill 1 2009 | O Ebrill 1 2010 |
| Teledu du a gwyn | £48.00 | £49.00 |
| Teledu lliw a/neu recordydd fideo | £142.50 | £145.50 |
Mae trwyddedau teledu am ddim ar gael i unrhyw un sy’n 75 oed neu drosodd.
Mae’r nodyn atgoffa am drwydded deledu yn cynnwys manylion ynglŷn â sut i wneud cais ynghyd â ffurflen gais am drwydded deledu am ddim i rai dros 75 oed. Mae llinell gymorth arbennig i ateb unrhyw ymholiadau ar 0300 790 6073.
Os ydych chi’n 74, fe allwch chi wneud cais am drwydded tymor byr arbennig sy’n parhau hyd nes y byddwch chi’n 75 oed. Am fanylion ynglŷn â chost y drwydded yma, cysylltwch â Thrwyddedu Teledu ar y rhif uchod, neu drwy’r post (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu am y cyfeiriad).
Os ydych chi wedi’ch cofrestru’n ddall gan yr awdurdod lleol, fe gewch chi ostyngiad yng nghost eich trwydded deledu os cyflwynwch chi dystysgrif yr awdurdod lleol neu ffurflen ardystio’r meddyg pan fyddwch chi’n prynu’r drwydded. Mae’r gostyngiad yn 50% ar bris trwydded deledu lliw neu deledu du a gwyn. Os ydych chi wedi’ch cofrestru’n rhannol ddall, chewch chi ddim gostyngiad. Y gostyngiad yw:
| Math o drwydded | O Ebrill 1 2009 | O Ebrill 1 2010 |
| Teledu du a gwyn | £24.00 | £24.50 |
| Teledu lliw a/neu recordydd fideo | £71.25 | £72.75 |
Nid yw trwydded deledu yn angenrheidiol ar gyfer gosod neu ddefnyddio derbynnydd teledu sain-yn-unig.
Fe gewch chi mwy o fanylion am hyn oddi wrth Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB). Fe allwch chi gysylltu â’u llinell gymorth trwy ffonio, e-bostio neu ar-lein:
Tel: 0303 123 9999
E-bost: helpline@rnib.org.uk
Gwefan: www.rnib.org.uk
Os ydych chi’n byw yn un o’r mathau hyn o lety, fe allai fod hawl gennych i gael gostyngiad ym mhris trwydded deledu:
Os ydych chi’n byw yn un o’r mathau uchod o lety, rhaid i chi hefyd gwrdd â’r amodau canlynol i fod yn gymwys i gael gostyngiad ym mhris trwydded deledu. Rhaid eich bod:
Gelwir y math hwn yn drwydded ar gyfer Llety Gofal Preswyl (ARC). Trwydded grŵp ydyw a rhaid gwneud cais amdano gan y rhai sy’n darparu’r llety. Gellir ei gael dim ond oddi wrth Drwyddedu Teledu (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu) Mae darparwyr y llety yn gyfrifol am gasglu'r ffî trwydded oddi wrth bob person sy’n cael eu gwarchod gan yr ARC.
Mae ffî trwydded du a gwyn neu liw i rywun sy’n gymwys ar gyfer ARC yn £7.50 o 1 Ebrill 2007.
Os ydych chi’n credu fod gennych hawl i dderbyn ARC, fe ddylech chi gysylltu ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar yr arwydd CAB.
Cyn gynted ag y cewch chi set deledu, recordydd fideo/DVD y mae angen trwydded arnoch ar eu cyfer, a chi sy’n gyfrifol am brynu’r drwydded. Fe allwch chi wneud hyn trwy ffonio neu ysgrifennu at Drwyddedu Teledu a gofyn am ffurflen i’w chwblhau (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu am fanylion cyswllt) Ni fyddwch yn cael eich gwarchod nes rhoddir y drwydded, hyd yn oed os ydych chi wedi anfon y ffurflen wedi’i chwblhau ynghyd â’r taliad at Drwyddedu Teledu. Bydd trwydded a roddir am y tro cyntaf yn parhau am flwyddyn o ddiwrnod cyntaf y mis y rhoddir y drwydded.
Fe allwch chi wneud cais i adnewyddu'r drwydded i fyny at fis ymlaen llaw. Bydd y drwydded newydd yn parhau am flwyddyn o’r dyddiad terfyn gwreiddiol, nid o ddyddiad adnewyddu’r drwydded.
Os ydych chi’n gwneud cais i adnewyddu’r drwydded mwy na mis cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben, er enghraifft, er mwyn osgoi codiad pris disgwyliedig, bydd y drwydded newydd yn parhau am flwyddyn o ddiwrnod cyntaf y mis y rhoddir y drwydded, ac ni fydd ad-daliad o gwbl o’r hen drwydded.
Mae’n bolisi gan Drwyddedu Teledu i anfon llythyrau atgoffa i adnewyddu trwyddedau, ond nid ydynt o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny a chyfrifoldeb y daliwr trwydded ydyw adnewyddu’r drwydded. Nis ystyrir absenoldeb nodyn atgoffa fel esgus dilys dros beidio cael trwydded gyfredol. Cyfrifoldeb y daliwr trwydded hefyd ydyw dweud wrth Drwyddedu Teledu os ydyn nhw’n symud.
Os ydych chi’n rhentu neu brynu set deledu, recordydd DVD neu fideo, nid ydyw’r masnachwr o dan unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i hysbysu Trwyddedu Teledu. Mae hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi’n cyfnewid teledu du a gwyn a rentir am deledu lliw.
Fe allwch chi dalu am eich trwydded deledu mewn un taliad blynyddol neu trwy randaliadau (teledu lliw yn unig).
Os ydych chi’n gwneud un taliad blynyddol am eich trwydded deledu, fe allwch chi dalu trwy:
Mae yna sawl ffordd y gallwch chi dalu am eich trwydded deledu mewn rhandaliadau:
Fe allwch chi dalu mewn rhandaliadau am drwydded deledu teledu lliw newydd neu adnewyddu trwydded bresennol trwy ddebyd uniongyrchol o’ch cyfrif banc. Fe allwch chi wneud hyn:
Os na allwch chi fforddio talu am eich trwydded deledu mewn un cyfandaliad, efallai y gallwch chi dalu mewn rhandaliadau wythnosol neu fisol gan ddefnyddio cerdyn talu teledu. Fe allwch chi dalu gydag arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd dros y ffôn, ar-lein neu yn safle PayPoint - gweler o dan y pennawd Talu am eich trwydded deledu yn safle PayPoint. Er mwyn gwneud cais am gerdyn, ffoniwch Drwyddedu Teledu ar 0300 555 0286. Fe gewch chi fwy o fanylion oddi wrth Drwyddedu Teledu (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu).
Mae’r cerdyn cynilo trwydded deledu wedi cymryd lle stampiau cynilo trwydded deledu. Fe allwch chi dalu am eich trwydded deledu mewn rhandaliadau gyda’r cerdyn cynilo gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn debyd. Fe allwch chi ddefnyddio'r cerdyn cynilo yn safle PayPoint (gweler o dan y pennawd Talu am eich trwydded deledu yn safle PayPoint) neu dros y ffôn ar: 0300 555 0281.
Mae cerdyn cynilo trwydded deledu wedi cymryd lle'r stampiau trwydded deledu.
Allwch chi ddim mwyach brynu stampiau cynilo, ond os oes rhai yn dal i fod gennych, fe allwch eu defnyddio i dalu am drwydded deledu. Fe fydd angen i chi gysylltu â Thrwyddedu Teledu (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu).
Fe allwch chi ddefnyddio safle PayPoint i dalu am, neu i gynilo, ar gyfer trwydded deledu.
Gellir dod o hyd i safleoedd PayPoint mewn siopau papur newydd, siopau lleol, archfarchnadoedd a garejis petrol. Fe allwch chi gael manylion am eich safleoedd PayPoint lleol ar wefan Trwyddedu Teledu (gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu).
Os ydych chi’n adnewyddu’ch trwydded, ewch â’r ffurflen adnewyddu i safle PayPoint. Fe allwch dalu gydag arian parod neu gerdyn credyd neu ddebyd. Rhoddir derbynneb i chi gan y safle PayPoint a rhaid i chi atodi hon wrth y drwydded er mwyn iddi fod yn ddilys. Nid oes rhaid i chi anfon y dderbynneb at Drwyddedu Teledu er mwyn i’ch trwydded fod yn ddilys.
Fe allwch chi gael ad-daliad am drwydded deledu mewn rhai achosion prin yn unig. Gall hyn ddigwydd os:
Os oes gennych set deledu, neu recordydd DVD/fideo ac nid oes trwydded ar ei gyfer gall Trwyddedu Teledu ddod i wybod am hyn:
Efallai y cewch chi ymweliad gan swyddog ymchwilio Trwyddedu Teledu os ydyw Trwyddedu Teledu yn amau nad oes trwydded deledu gennych neu os nad ydych wedi ymateb i lythyr ymholi neu nodyn atgoffa am drwydded.
Mae pob swyddog ymchwilio yn cario cardiau adnabod y dylen nhw eu dangos. Rhaid i swyddog ymchwilio ddatgan pwrpas ei ymweliad.
Nid oes rhaid i chi adael swyddog ymchwilio i mewn i’ch cartref. Os ydych chi’n caniatáu i swyddog ymchwilio ddod i mewn, fe fyddan nhw yn archwilio’n fyr y prif ardaloedd byw. Os ydyn nhw’n fodlon nad oes set deledu, fe allan nhw awdurdodi ‘atal ar gysylltu’ am bedair blynedd. Mae hyn yn golygu na fydd neb yn cysylltu â chi am eich trwydded deledu am bedair blynedd.
Os ydyw’r swyddog ymchwilio yn fodlon nad oes trwydded deledu gennych ac y dylech gael un, cymerir datganiad o dan rybudd. Ni ddylai’r swyddog ymchwilio awgrymu na chymerir unrhyw gamau yn eich erbyn os prynwch chi drwydded deledu o fewn cyfnod arbennig.
Os nad ydych yn gadael i swyddog ymchwilio ddod i mewn, fe allan nhw wneud cais i lys yr ynadon (llys y siryf yn yr Alban) am warant chwilio. Fe allan nhw wneud hyn dim ond os oes rheswm da i amau fod trosedd wedi’i chyflawni. Nid yw gwrthod mynediad i swyddog ymchwilio ynddo’i hunan yn ddigon i gyfiawnhau i rywun wneud cais am warant chwilio.
Fe allwch chi gael eich erlyn am beidio â chael trwydded i ddefnyddio set deledu neu recordydd DVD/fideo neu offer arall i wylio neu recordio teledu byw Fe allwch gael eich erlyn hyd yn oed os nad chi yw’r un sy’n berchen neu rentu’r set, er enghraifft, mewn achos lle'r oedd y gŵr yn berchen ar y set ond mai’r wraig oedd yn ei rhoi ymlaen a’i gwylio, y wraig gafodd ei herlyn. Sut bynnag, os cewch eich erlyn, gall cyflwyno trwydded ddilys yn y llys gael ei ddefnyddio fel ple i liniaru. Dylid anfon copi o’r drwydded felly i’r llys.
Os ydyw Trwyddedu Teledu yn penderfynu erlyn, caiff yr achos ei wrando yn llys yr ynadon (Llys Rhanbarthol yn yr Alban). Os ceir chi’n euog y ddirwy uchaf y gellir ei gorfodi arnoch ydyw £1,000. Nis gall y llys gymryd ymaith y set deledu na’ch gorchymyn i dalu'r ôl-ddyledion trwyddedau teledu.
Os ydych chi’n fyfyriwr llawn amser yn byw o gartref, fel arfer bydd angen trwydded deledu arnoch os oes gennych deledu neu unrhyw beth arall a ddefnyddir i dderbyn neu recordio rhaglenni teledu byw (megis recordydd DVD neu fideo, blychau digidol pen set neu PCs â chardiau teledu).
Os ydych chi’n byw mewn neuadd breswyl ac yn defnyddio teledu yn eich ystafell fe fydd angen trwydded deledu ar wahân arnoch. Bydd angen eich trwydded eich hunan arnoch hefyd os ydych chi’n rhannu tŷ gydag eraill ond bod gennych deledu yn eich ystafell eich hunan y mae gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân ar ei chyfer. Os oes gennych gytundeb tenantiaeth ar wahân ond mai dim ond un teledu sy’n cael ei defnyddio mewn man cymunedol, dim ond un drwydded sydd ei hangen. Os ydych chi’n rhannu tŷ gydag eraill a bod cytundeb tenantiaeth ar y cyd gennych, dim ond un drwydded deledu sydd ei hangen waeth ble mae’r teledu wedi’i leoli yn y tŷ.
Mae angen trwydded arnoch i wylio teledu byw ar ffôn symudol neu ddyfais arall sy’n rhedeg ar fatris. Sut bynnag, os ydych chi’n arfer byw gyda rhywun y tu allan i amser tymor sy’n dal trwydded ddilys, er enghraifft, eich rhieni, a chwithau’n defnyddio’r set deledu ar fatris (hynny yw pweru mewnol) neu offer arall wedi ei bweru gan fatris, rydych yn cael eich gwarchod gan eu trwydded deledu hwy ac nid oes angen un arnoch chi eich hunan.
Os oes gennych recordydd DVD neu recordydd fideo, bydd angen trwydded deledu lliw eich hunan arnoch, waeth pa fath o deledu sydd gennych. Yr unig eithriad yw os defnyddir y recordydd DVD neu recordydd fideo i wylio DVDs neu fideos wedi’u recordio ymlaen llaw, ac yn yr achos hwn ni ddylid ei gysylltu ag erial.
Gall myfyrwyr wneud cais am ad-daliad am unrhyw ran nas defnyddiwyd o’u trwydded deledu. Os ydych chi wedi prynu trwydded ar ddechrau tymor yr hydref a dim yn aros yn llety’r brifysgol neu lety dros yr haf, mae gennych hawl i gael ad-daliad o unrhyw chwarter nas defnyddiwyd (tri mis calendr llawn).
Os oes gennych set deledu, recordydd DVD neu recordydd fideo y byddwch chi’n eu defnyddio mewn cyfeiriad arall dros dro, er enghraifft, ar y penwythnosau neu yn ystod gwyliau, bydd angen trwydded ar wahân ar eu cyfer. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes gennych drwydded ar gyfer teledu yn eich prif gartref.
Mewn llety ar rent, mae’r tenant yn gyfrifol am gael y drwydded oni bai fod y landlord wedi gosod y set, ac yn yr achos hwnnw disgwylir i’r landlord gael y drwydded. Sut bynnag bydd defnyddiwr y set deledu, recordydd DVD neu recordydd fideo bob amser yn gyfrifol yn y pendraw am sicrhau bod trwydded deledu ac felly fe allai fod yn gymwys i’w erlyn. Os mai chi yw’r tenant gwnewch yn siŵr bod yna drwydded, naill ai trwy sicrhau bod y landlord yn prynu’r drwydded neu ei phrynu eich hun.
Mae landlord sy’n gosod mwy nag un uned lety gyda set deledu, blwch digidol pen set, recordydd DVD neu recordydd fideo yn yr adeilad ar gyfer llety dros nos yn hytrach na llety hir dymor, yn gymwys i gael trwydded gwesty - gweler isod.
Os rhennir adeilad yn fflatiau un ystafell neu fflatiau mwy, ystyrir pob uned lety yn uned gartref ar wahân. Mae hyn yn golygu bod angen trwydded deledu ar wahân ar gyfer pob uned gartref. Mae lletywyr, gwesteion sy’n talu a thrigolion eraill, yn cynnwys perthnasau, sy’n byw mewn llety ar wahân yn yr un cyfeiriad yn cyfrif fel cartrefi ar wahân ac mae angen trwydded ar wahân arnynt i ddefnyddio’r teledu.
Lle mae pobol yn rhentu fflat neu dŷ ar y cyd dim ond un drwydded sydd ei hangen cyhyd â’u bod yn byw gyda’i gilydd fel rhan o’r un cartref, yn rhannu’r holl gyfleusterau a biliau. Efallai y bydd yn rhaid i bobol sy’n byw o dan y math hwn o gytundeb gyflwyno tystiolaeth o hyn, er enghraifft, y cytundeb tenantiaeth ar y cyd. Bydd angen i’r drwydded fod yn enw un unigolyn ac os bydd y person hwnnw neu honno yn gadael y fflat mae ganddynt hawl i fynd â’r drwydded a’i throsglwyddo i’w cyfeiriad newydd. Nid yw trwydded deledu yn drosglwyddadwy o un person i’r llall ac eithrio yn achos trwydded am ddim i rai dros 75 - gweler o dan y pennawd Faint yw trwydded deledu.
Os yw tenant yn gosod set deledu, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y landlord i sicrhau fod gan y tenant drwydded.
Rhaid i setiau teledu, blychau digidol pen set a recordydd DVD neu fideo sydd yn cael eu gosod gan landlord at ddefnydd gwesteion dros dro ar wyliau gael eu trwyddedu. Rhaid cael trwydded lawn ar wahan i bob uned lety sydd â set deledu, blwch digidol pen set, recordydd DVD neu recordydd fideo. Er enghraifft, mewn tŷ sydd wedi’i rannu’n fflatiau hunangynhaliol, bydd angen trwydded ar bob fflat. Sut bynnag, ar safle carafannau, mae perchennog y carafannau yn gymwys i gael trwydded gwesty - gweler isod. Os ydych chi’n berson sydd ar wyliau gyda set mewn carafán deithiol, fe warchodir hon gan drwydded i’ch cyfeiriad cartref. Os ydyw’r garafán yn sefydlog, mae trwydded i’ch cyfeiriad cartref yn cynnig digon o warchodaeth os na ddefnyddir y setiau teledu ar yr un amser yn y cartref a’r garafán sefydlog.
Gall perchnogion gwestai gael trwyddedau cynhwysfawr arbennig (trwyddedau gwesty) Dim ond un tâl trwydded sydd ei angen ar gyfer setiau teledu, recordydd DVD neu recordydd fideo a ddarperir gan berchennog y gwesty i fyny at 15 ystafell. Bydd pob tâl trwydded ychwanegol yn gwarchod i fyny at bump o ystafelloedd eraill. Gall ystafell gael mwy nag un set deledu, recordydd DVD neu recordydd fideo ynddi heb effeithio ar y rheol hon. Bydd angen trwyddedau ar wahan ar westeion a staff sy’n byw yn barhaol yn yr adeilad er mwyn defnyddio eu setiau eu hunain yn eu hystafelloedd. Gellir cael mwy o wybodaeth am drwyddedau gwestai oddi wrth Drwyddedu Teledu- gweler o dan y pennawd Trwyddedu Teledu).
Gall Trwyddedu Teledu ddelio ag unrhyw ymholiad ynglŷn â thrwyddedau teledu. Y cyfeiriad yw:-
Gwasanaethau Cwsmeriaid
Trwyddedu Teledu
Bryste BS98 1TL
Ymholiadau Cwsmeriaid: 0300 790 6071
Taliadau Debyd Uniongyrchol a chardiau credyd: 0300 790 6063
Newid Cyfeiriad: 0300 790 6065
Minicom: 0300 790 6050
Cynllun Taliad Arian Parod: 0300 555 0300
Gwasanaeth Cyfieithu: 0300 790 6044
Llinell Frys Cymru: 0300 790 6042
Gwefan: www.tvlicensing.co.uk
Trwyddedu Teledu (Gogledd Iwerddon)
Canolfan Rhanbarthol Trwyddedu Teledu
Llawr 9
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belffast
BT2 7LX
Tel: 0870 50001017