Diweddarwyd y safle:

Chwefror 11 af 2012

Gwasanaethau ffôn

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pwy all ddarparu gwasanaeth ffôn

Mae nawr yn bosibl i chi ddewis rhwng ystod o gwmnïau ffôn ar gyfer llinellau ffôn a darparwyr offer ar gyfer setiau llaw ffôn, ffacsau a switsfyrddau. Yn ogystal â BT, mae cwmnïau ffôn nawr yn cynnwys NTL (yn ymgorffori Cable and Wireless plc) ac Energis Communications (ar gyfer cwsmeriaid busnes yn unig), ac amryfal gwmnïau gwasanaeth ffôn cebl.

Dewis cwmni ffôn

Cyn dewis cwmni ffôn, dylech ddarganfod pa wasanaethau ffôn sydd ar gael a’u costau. Er enghraifft:

  • y gost, gan gynnwys rhentu offer, costau llinell a galwadau a chyfleusterau galw megis galwad yn aros.
  • p’un ai bod cyfraddau rhatach yn cael eu cynnig ar gyfer dulliau talu penodol, er enghraifft, os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol
  • pa gynigion sydd y cwmnïau ffôn, er enghraifft, cynigion ar gyfer atgyweiriadau, neu gymorth ychwanegol ar gyfer cwsmeriaid hŷn neu anabl
  • polisïau’r cwmni ffôn, er enghraifft, ar ddyled a datgysylltiadau.

Mae pob cwmni ffôn yn cyhoeddi Cod Ymarfer sy’n ymdrin â materion megis atgyweiriadau, cynnal a chadw, datgysylltiadau a gweithdrefnau cwyno. Gwiriwch y Cod Ymarfer cyn dewis cwmni ffôn. I wybod ym mhle y cewch gopi o Godau Ymarfer y cwmnïau ffôn unigol, gweler yr adran ar Gwyno am gwmni ffôn.

Contractau safonol

Pan ydych yn gwneud cais i osod eich ffôn, caiff ffurflen gais i’w hanfon atoch a fydd yn nodi telerau’r cytundeb sydd rhyngoch chi a’r cwmni ffôn. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd angen i chi gytuno i fod yn gyfrifol am y costau rhentu am flwyddyn. Os hoffech ganslo rhentu llinell ffôn cyn diwedd y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi dalu’r rhent am flwyddyn os yw hyn wedi’i nodi yn y contract.

Ers 26 Mai 2011, rhaid cynnig yr opsiwn o gytundeb 12 mis i chi. Ni all unrhyw gytundeb bara am fwy na 24 mis.

Contractau treigl

O 31 Rhagfyr 2011, mae cwmnïau ffôn wedi eu gwahardd rhag gwerthu contract treigl i chi. Mae contract treigl yn un sy’n eich clymu’n awtomatig at isafswm cyfnod contract a ailadroddir, a hynny’n ddiofyn, os nad ydych yn dweud wrth eich cwmni ffôn nad ydych am iddo adnewyddu eich contract.

Os ydych wedi llofnodi contract treigl cyn 31 Rhagfyr 2011, mae eich cwmni ffôn yn medru parhau i adnewyddu eich cytundeb yn awtomatig hyd nes 31 Rhagfyr 2012. Ond, os nad ydych am i hyn ddigwydd, pan fyddwch chi’n cael y llythyr adnewyddu gan eich cwmni ffôn, rhaid i chi ymateb iddo mewn amser a dweud wrth y cwmni nad ydych am adnewyddu’r ddêl.

Os ydych yn teimlo bod rhai o delerau ac amodau’r cytundeb yn amhriodol neu’n annerbyniol, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Blaendaliadau

Gallai rhai cwmnïau ffôn ofyn i chi am flaendal cyn darparu gwasanaeth ffôn. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu blaendal os oes gennych orchymyn llys yn eich erbyn am beidio â thalu unrhyw fil. Hyd yn oed os nad yw’n gofyn am flaendal, gallai’r cwmni ffôn gyfyngu ar nifer y galwadau y gallwch eu gwneud. Cyn gynted â bod nifer penodol o alwadau yn cael eu gwneud, bydd bil yn cael ei anfon atoch.

Cyn cytuno i wasanaeth ffôn, gallai’r cwmni wirio eich cofnod credyd drwy ddefnyddio asiantaeth cyfeirio credyd.

Am fanylion asiantaethau cyfeirio credyd a sut i wirio cofnodion credyd person, gweler Credyd.

Os yw’r cwmni ffôn yn gofyn am flaendal, cewch wybod faint bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Caiff y blaendal ei gadw gan y cwmni ffôn am gyfnod penodol. Os ydych yn cael cofnod talu da, bydd y blaendal (a llog) yn cael ei gredydu yn eich bil(iau) nesaf.

Os gofynnir i chi am flaendal a’ch bod yn teimlo ei fod yn rhy ddrud, neu os ydych yn meddwl na ddylech ei dalu, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Costau inswleiddio a chysylltu

Mae’n bosib y bydd angen i chi dalu costau cyn gosod neu gysylltu eich ffôn, er enghraifft, ar gyfer gosod ffôn os nad oes ffôn eisoes yn yr eiddo, neu ar gyfer ail-gysylltu llinell ffôn. Gellir codi tâl am offer ychwanegol megis estyniadau i osodiadau sydd eisoes yn bod, plygiau newydd neu glychau ychwanegol.

Nôl i’r brig


Dewis offer

Gallwch rentu neu brynu offer ffôn. Mynnwch gyngor gan swyddfa werthu’r cwmni ffôn.

Gwiriwch fod unrhyw offer a brynwch wedi’i gymeradwyo ar gyfer rhwydwaith ffonau cyhoeddus y DU. Mae’n bwysig eich bod yn gwirio hyn oherwydd gallai cwmnïau symud unrhyw offer nad yw wedi’i gymeradwyo oddi ar eu rhwydwaith. Mae pob offer cymeradwy wedi’u marcio gan ddot gwyrdd.

Nid oes gan gwmniau ffôn gyfrifoldeb am offer na chafodd eu rhentu na’u prynu oddi wrthynt.

Nôl i’r brig


Contractau cynnal a chadw

Gallai eich cytundeb ar gyfer rhentu offer ffôn gynnwys amodau am atgyweiriadau rhad ac am ddim i’r offer.

Gallai’r cwmni ffôn hefyd gynnig ystod o wasanaethau cynnal a chadw ychwanegol ar gyfer atgyweiriadau brys. Bydd hefyd angen i chi dalu swm ychwanegol amdanynt oni bai bod yna eithriadau, er enghraifft, nid yw BT yn codi tâl ychwanegol ar gwsmeriaid sydd ag anableddau difrifol iawn.

Nôl i’r brig


Llyfrau ffôn ac ymholiadau cyfeirlyfr

Mae BT yn cynhyrchu llyfr ffôn. Nid oes yn rhaid i chi gael eich cynnwys ynddo os na hoffech i bawb gael mynediad i’ch rhif ffôn.

Ni chodir tâl arnoch am gael eich rhestru yn y llyfr ffôn.

Os ydych wedi eich rhestru yn y llyfr ffôn, bydd gan gwmnïau sy’n delio ag ymholiadau am rifau ffôn eich rhif ffôn hefyd. Mae’r cwmnïau hefyd yn codi tâl am eu gwasanaethau, oni bai bod person yn anabl. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr anabl gofrestru gyda’r cwmni ffôn cyn eu bod yn medru hawlio gwasanaeth rhad ac am ddim.

Nôl i’r brig


Atgyweiriadau

Mae gan bob cwmni wahanol bolisïau ar gyfer atgyweiriadau, a bydd angen i chi wirio Cod Ymarfer y cwmni ffôn.

Bydd Codau Ymarfer ar gyfer atgyweiriadau fel arfer yn ymdrin â materion megis p’un ai bod yna derfyn amser ynghylch pryd y dylid dechrau’r atgyweiriadau ar ôl riportio’r broblem a ph’un ai dylid atgyweirio diffygion yn rhad ac am ddim. Dyma’r achos fel arfer oni bai bod y cwmni yn penderfynu mai’r cwsmer sy’n gyfrifol am y difrod.

Os oes gennych broblem gydag atgyweiriadau, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Ad-daliad ac iawndal pan nad yw gwasanaeth ffôn ar gael

Os nad yw eich ffôn yn gweithio’n gywir am gyfnod penodol wedi i chi ei riportio, mae’n bosib y gallwch hawlio ad-daliad rhent. Efallai bydd y cwmni ffôn yn gorfod talu iawndal ar gyfer y cyfnod pan nad oedd y ffôn ar gael. Bydd y manylion perthnasol yn y Cod Ymarfer.

Os cewch broblemau ynghylch yr ad-daliad a’r iawndal, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Hawlio cost atgyweirio ar bolisïau yswiriant

Mae’n bosib y gallwch hawlio ar bolisi yswiriant cynnwys y cartref ar gyfer y gost o atgyweirio neu ailosod offer ffôn diffygiol os na chaiff ei ddarparu’n rhad ac am ddim gan y cwmni ffôn. Darllenwch eich polisi er mwyn darganfod os fydd yn rhaid i chi dalu tâl atodol neu os fyddwch yn colli eich bonws dim-hawlio oherwydd bod cost ailosod offer ffôn diffygiol fel arfer yn eithaf isel.

Nôl i’r brig


Hawl i wasanaeth ffôn

Mae BT yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ffôn i unrhyw un sy’n ei ddymuno, oni bai bod darpar gwsmer wedi bod mewn dyled i BT o’r blaen. Os felly, gall BT wrthod darparu gwasanaeth newydd.

Os yw darpar gwsmer yn byw mewn man anghysbell, gallai’r gost o ddarparu gwasanaeth ffôn fod yn hynod o uchel, ac efallai na fydd y person yn gallu talu’r gost cysylltu llawn.

Nid yw un o’r cwmnïau ffôn eraill yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ffôn.

Os yw BT yn gwrthod darparu llinell ffôn neu os yw’r gost yn afresymol o uchel, siaradwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Sut i gael llinell ffôn

Os hoffech linell ffôn newydd wedi’i gosod, hysbyswch y cwmni ffôn o’r dyddiad yr hoffech ei gweithredu. Gallwch wneud hyn dros y ffôn ond bydd angen i chi ysgrifennu cais ysgrifenedig.

Os hoffech newid darparwr eich ffôn symudol, hysbyswch y cwmni yr ydych yn ei defnyddio ar hyn o bryd a’r cwmni newydd.

Os yw’r cwmni ffôn yn cytuno i ddarparu gwasanaeth, mae telerau ac amodau darparu’r llinell ffôn wedi’u nodi yn nhelerau ac amodau safonol y cwmni. Mae’n rhaid darparu’r gwasanaethau o fewn amser rhesymol. Os nad yw’r cwmni ffôn yn darparu llinell ffôn neu wasanaethau fel y nodwyd yn y cytundeb, mae hyn yn dor-cytundeb.

Am fwy o wybodaeth am broblemau gyda gwasanaethau, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Nôl i’r brig


Newid cwmnïau ffôn

Sut i newid eich cwmni ffôn

Os hoffech newid (neu drosglwyddo) cwmni ffôn, cysylltwch â’r cwmni ffôn yr hoffech ei ddefnyddio. Bydd y cwmni newydd yn gwneud y trefniadau angenrheidiol ar eich rhan.

Cyn symud i gwmni ffôn newydd, dylech gael dau lythyr - un o’ch hen gwmni ffôn ac un o’r cwmni newydd sy’n dweud eich bod yn newid cwmni.

Dylech hefyd gael ychydig o wybodaeth allweddol am y newidiad, er enghraifft, dyddiad y newidiad, ei gost a’ch hawl i ganslo y newidiad os dymunwch. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Pan ydych yn newid cwmni ffôn, dylech dderbyn llythyr arall a fydd yn esbonio eich bod wedi newid cwmni.

Os nad ydych yn cael y wybodaeth allweddol cyn eich bod yn newid neu lythyr sy’n cadarnhau bod y newid wedi digwydd, gallwch gwyno.

A allaf gadw fy hen rif pan wyf yn newid?

Mae’n rhaid i bob cwmni ffôn eich caniatáu i gadw eich rhif ffôn pan ydych yn newid cwmni. Gelwir hyn yn cludadwyedd rhif.

Fel arfer, dim ond os ydych yn newid eich cwmni ffôn heb newid eich cyfeiriad y gallwch gadw eich rhif.

Gyda rhai cwmnïau ffôn, mae’n bosib y gallwch gadw’r un rhif hyd yn oed os ydych yn newid eich cyfeiriad. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i gwmnïau ffôn gynnig y gwasanaeth hwn. Os ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn, gallant godi tâl amdano, cyn belled â’i fod yn swm rhesymol.

Os ydych wedi cytuno i symud eich hen rif at gwmni ffôn newydd, rhaid symud y rhif at y cwmni ffôn newydd o fewn un diwrnod gwaith unwaith:

  • fyddwch chi wedi derbyn yr holl wybodaeth allweddol, fel y gost o newid at gwmni arall a’ch hawl i ganslo
  • fydd unrhyw osodiad ffisegol wedi’i gwblhau
  • fydd eich hen gwmni ffôn wedi rhoi eich rhif i’r cwmni newydd.

Fe fydd yn rhaid i’r hen gwmni ffôn gynnig iawndal i chi os oes oedi neu os oes unrhyw nam yn y broses o symud eich rhif.

A allaf ganslo'r newidiad?

Pan ydych yn newid i gwmni ffôn newydd, rydych yn cael deg diwrnod o gyfnod newid meddwl. Yn ystod y cyfnod hwn, os ydych yn newid eich meddwl ynglŷn â’r newidiad, gallwch ganslo’r cytundeb newydd yn ddi-dâl. I ganslo’r newidiad, cysylltwch â’r hen gwmni neu’r cwmni newydd gan ddweud eich bod am ganslo’r newidiad.

Gallwch hefyd ganslo os oedd y cwmni wedi camwerthu y gwasanaeth newydd i chi neu wedi eich symud heb eich caniatâd.

Os na roddir caniatâd i chi ganslo’r newidiad neu os codir tâl arnoch am ganslo, gallwch hefyd gwyno i’r cwmni newydd. Yn ogystal â chwyno i’r cwmni ffôn, gallwch hefyd gwyno i’r corff gwarchod buddiannau telathrebu Ofcom. Ni fydd yn medru ymdrin â’ch achos chi yn unigol, ond os yw digon o bobl yn cwyno yn erbyn yr un cwmni, fe all gymryd camau yn ei erbyn.

A all fy nghwmni ffôn fy atal rhag newid?

Gall cwmni ffôn eich atal rhag symud i gwmni newydd dim ond:

Nid oes hawl gan eich cwmni ffôn i’ch atal rhag newid cwmni am unrhyw reswm arall, gan gynnwys os nad ydych wedi talu eich bil ffôn.

Os yw eich cwmni ffôn yn ceisio eich atal rhag newid am reswm nad yw wedi ei restru yma, gallwch gwyno. Yn ogystal â chwyno i’r cwmni ffôn, gallwch hefyd gwyno i’r corff gwarchod buddiannau telathrebu Ofcom. Ni fyddant yn medru ymdrin â’ch achos chi yn unigol, ond os yw digon o bobl yn cwyno yn erbyn yr un cwmni, fe all gymryd camau yn ei erbyn.

A allaf gael fy newid heb fy nghaniatâd?

Nid oes hawl gan gwmni ffôn i’ch symud o un cwmni heb ddweud wrthych yn gyntaf neu heb eich cytundeb. Gelwir hyn yn slamio.

Os yw hyn yn digwydd, dylech gysylltu â’r cwmni ffôn sydd wedi eich symud a’r cwmni yr ydych wedi symud wrtho er mwyn dweud nad ydych am symud. Dylech roi hyn yn ysgrifenedig.

Os nad yw pethau wedi’u datrys mewn ffordd sy’n eich bodloni, er enghraifft, os yw’r cwmni yn cymryd gormod o amser i’ch symud yn ôl neu’n ceisio codi tâl arnoch, dylech gwyno. Yn ogystal â chwyno i’r cwmni ffôn, gallwch hefyd gwyno i’r corff gwarchod buddiannau telathrebu Ofcom. Ni fyddant yn medru ymdrin â’ch achos chi yn unigol, ond os yw digon o bobl yn cwyno yn erbyn yr un cwmni, fe all gymryd camau yn ei erbyn.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ychydig o awgrymiadau i’ch helpu rhag cael eich ‘slamio’:

  • byddwch yn wyliadwrus pan ydych yn rhoi gwybodaeth bersonol dros y ffôn
  • dim ond os ydych yn sicr o bwy ydynt y dylech gytuno ar unrhyw beth dros y ffôn
  • trafod y cytundeb cyn ei lofnodi. Os ydych yn ansicr, gofynnwch i’r galwr anfon y wybodaeth atoch yn gyntaf
  • gofynnwch i weld cerdyn adnabod gwerthwyr carreg drws er mwyn gwirio eu bod yn cynrychioli cwmni dilys
  • peidiwch â rhoi eich manylion debyd uniongyrchol oni bai eich bod yn newid cwmnïau ffôn
  • peidiwch â llofnodi unrhyw beth oni bai eich bod wedi’i ddarllen a’ch bod yn deall yr hyn yr ydych yn ei lofnodi.

Pethau eraill na all cwmni ffôn eu gwneud

Mae yna sawl peth arall na all cwmni ffôn newydd eu gwneud pan yw’n ceisio gwerthu ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i chi neu geisio dwyn perswâd arnoch i newid cwmni.

Nid oes hawl gan gwmni i gam-werthu ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i chi. Mae hyn yn golygu na ddylent hepgor unrhyw wybodaeth, neu roi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i chi pan ydynt yn ceisio gwerthu rhywbeth i chi. Er enghraifft, ni ddylent roi gwybodaeth anghywir i chi am gostau a thariffau, arbedion neu gynigion arbennig.

Nid oes gan gwmni ffôn yr hawl i roi gormod o bwysau arnoch neu ddefnyddio ymddygiad ymosodol.

Nid oes gan werthwr cwmni ffôn yr hawl i honni ei fod yn gweithio ar ran cwmni nad yw wir yn gweithio iddo. Gelwir hyn yn cogio neu honni.

Nid oes hawl gan werthwyr cwmni ffôn i ddwyn perswâd arnoch i lofnodi cytundeb drwy ddweud wrthych eich bod yn llofnodi am wybodaeth yn unig. Nid oes hawl ganddynt i ffugio eich llofnod ar gytundeb.

Os ydych yn credu bod cwmni ffôn wedi cam-werthu cynnyrch neu wasanaeth i chi neu os nad ydych yn fodlon ag ymddygiad un o’i werthwyr, gallwch gwyno. Yn ogystal â chwyno i’r cwmni ffôn, gallwch hefyd gwyno i’r corff gwarchod buddiannau telathrebu Ofcom. Ni fydd yn medru ymdrin â’ch achos chi yn unigol, ond os yw digon o bobl yn cwyno yn erbyn yr un cwmni, fe all gymryd camau yn ei erbyn.

Mwy o wybodaeth am newid eich cwmni ffôn

Cewch fwy o wybodaeth neu gyngor am newid cwmni ffôn newydd gan gorff gwarchod buddiannau telathrebu Ofcom. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn dylech ei wirio os ydych yn meddwl am newid cwmni ffôn, a rhestr o’r cwmnïau ffôn trwyddedig.

Nôl i’r brig


Rhagddewis cludwr

Mae gwasanaeth ffôn sy’n eich galluogi i ragddewis cludwr (CPS) yn caniatáu cwsmer BT i wneud galwadau gan ddefnyddio cwmni ffôn arall. Gallwch wneud hyn naill ai drwy ddeialu cod byr neu rif rhadffôn ar eich ffôn BT (sy’n eich cysylltu chi â’r cwmni ffôn arall) ac yna deialu’r rhif angenrheidiol. Fel arall, gallwch osod addasydd rhwng y soced a’r ffôn er mwyn dargyfeirio galwadau at ffôn arall heb orfod deialu cod yn gyntaf. Mae’n rhaid cynnig y gwasanaeth rhagddewis cludwr i gwsmeriaid BT. Gall cwmnïau ffôn eraill, er enghraifft, cwmnïau ffonau symudol, ddewis p’un ai a ydynt am gynnig y gwasanaeth hwn neu beidio.

Nid yw rhai mathau o alwadau wedi’u cynnwys yn y CPS, er enghraifft, rhifau argyfwng, cymorth cysylltydd, ymholiadau cyfeirlyfr a mynediad rhyngrwyd cyfradd unffurf. Byddwch yn dal yn cael yr un mynediad atynt.

Nid oes yn rhaid i chi wneud pob galwad gan ddefnyddio CPS. Er enghraifft, mae’n bosib eich bod am ddefnyddio darparwr CPS am alwadau rhyngwladol a darparwr arall ar gyfer galwadau lleol. Os byddwch yn trefnu defnyddio darparwr arall ar gyfer galwadau rhyngwladol, bydd yn rhaid i chi ddeialu cod y darparwr hwnnw cyn deialu’r rhif rhyngwladol. Gallwch ddewis o bedwar opsiwn: galwadau cenedlaethol yn unig, galwadau rhyngwladol yn unig, galwadau cenedlaethol a rhyngwladol a ‘phob galwad’, sy’n cynnwys galwadau lleol, cenedlaethol, rhyngwladol a ffonau symudol.

Bydd BT yn parhau i berchen, rhedeg ac anfon biliau ar gyfer eich llinell ffôn. Ni fydd eich rhif ffôn yn newid. Fodd bynnag, byddwch yn cael bil ar wahân ar gyfer costau galwadau pob cwmni ffôn a ddefnyddiwch. Cewch fwy o wybodaeth am CPS gan Ofcom.

Nôl i’r brig


Biliau ffôn

Pwy sy'n gyfrifol am y bil ffôn

Y person sydd â’i enw ar y cyfrif sy’n gyfrifol am y bil ffôn. Bydd rhai cwmnïau ffôn yn caniatáu enw un person yn unig ar y cyfrif ffôn. Bydd cwmnïau ffôn eraill yn caniatáu enwau ar y cyd i fod yn ddeiliaid cyfrif ffôn. Yn yr achos hwn, mae’r ddau berson a enwyd ar y cyfrif yn gyfrifol am y bil a gellid erlid y ddau am daliad.

Os oes gennych bil drud oherwydd galwadau a wneir gan rywun nad yw wedi’i enwi ar y cyfrif, er enghraifft, ffrind neu letywr, bydd angen i chi erlid y person hwnnw am yr arian. Os ffoniwyd gwasanaethau graddfa premiwm (gweler Gwasanaethau Ffôn Graddfa Premiwm), gallech hefyd gysylltu â’r awdurdod rheoli gwasanaethau graddfa premiwm PhonepayPlus am gymorth ynghylch hawlio iawndal.

Dadlau ynghylch swm y bil

Gallai eich cwmni ffôn gynnig gwasanaeth bilio wedi’i eitemeiddio, sy’n dangos naill ai dyddiad, amser, hyd a chost galwadau sy’n costio mwy na swm penodol, neu’r holl alwadau a wnaed. Bydd angen i chi wirio gyda’ch cwmni ffôn i wybod p’un ai ei fod yn cynnig gwasanaeth o’r fath a ph’un ai bod yn rhaid i chi dalu amdano. Bydd hyn yn eich helpu i leihau dadleuon ynghylch swm y bil.

Mae’n bosib eich bod yn meddwl bod eich cwmni ffôn yn codi gormod o dâl arnoch. Yn gyffredinol, anaml y bydd offer ffôn yn rhoi gwybodaeth anghywir ond mae diffygion yn bosibl. Ar adegau, gallai set law fod yn ddiffygiol ac nid yw’n datgysylltu ar ddiwedd galwad neu drwy hap a damwain gallwch ailosod set law yn anghywir.

Os oes gennych ymholiadau ynghylch bil, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Ffôn talu a osodwyd gan landlord

Os yw landlord yn rhoi ffôn talu mewn eiddo, ef sy’n gyfrifol am ei rentu ac am dalu’r cwmni ffôn am y galwadau a wnaed. Gellir rhaglennu rhai ffonau talu (gan y landlord) gyda graddfa arbennig ar gyfer costau. Gallant fod dipyn yn uwch na chostau ffonau talu cyhoeddus. Mae’n rhaid i’r landlord arddangos y costau ar y ffôn talu neu ar ei ymyl.

Nôl i’r brig


Datgysylltiad

Mae gan bob cwmni ffôn bolisi ei hun ynglŷn â datgysylltu ac mae’n hanfodol eich bod yn cyfeirio at y Cod Ymarfer.

Os anfonwyd bil atoch ac os nad ydych wedi’i dalu, bydd y cwmni ffôn fel arfer yn anfon nodyn atgoffa atoch. Yn dibynnu ar God Ymarfer y cwmni ffôn, bydd yn rhaid i chi dalu’r bil o fewn amser penodol cyn bod y gwasanaeth ffôn yn cael ei ddatgysylltu. Pan ydych yn derbyn nodyn atgoffa, mae’n well eich bod yn anfon siec yn uniongyrchol at y darparwr gwasanaeth ffôn neu dalu’n uniongyrchol yn un o swyddfeydd y cwmni os oes cyfleuster o’r fath ar gael. Gallai talu drwy’r Swyddfa Bost neu’r banc gymryd sawl diwrnod.

Os oes dadlau ynghylch y bil, dylech dalu’r swm y credwch chi sy’n ddyledus ynghyd â llythyr. Dylai hyn eich atal rhag cael eich datgysylltu am y tro.

Os datgysylltwyd eich llinell ffôn a’ch bod am ei hailgysylltu, bydd y cwmni ffôn fel arfer yn codi tâl am hyn.

Os ydych yn wynebu cael eich datgysylltu neu os ydych wedi cael eich datgysylltu, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Ffonau ar gyfer pobl anabl

Cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol (gwaith cymdeithasol yn Yr Alban)

Os adnabuwyd bod gan berson angen penodol yn dilyn asesiad o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990, mae’n bosib caiff y person hwnnw help gyda’i gostau ffôn. Bydd rhai awdurdodau lleol yn talu am osod ffôn a bydd eraill yn talu costau rhentu.

Os ydych yn anabl a bod angen fwy o wybodaeth arnoch am gostau ffôn, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Problemau mewn ardaloedd gwledig

Gosod ffôn mewn ardaloedd anghysbell

Mae yna fel arfer gost safonol ar gyfer rhedeg llinell ffôn mewn i eiddo a gosod ffôn. Fodd bynnag, os nad ydych yn byw yn agos i gebl, gallai’r cwmni ffôn godi tâl ar gyfer gosod cebl, polion newydd ac yn y blaen neu efallai bydd angen i chi gyfrannu at y gost. Cysylltwch â’r cwmni ffôn am fanylion ynghylch, er enghraifft, pa mor agos ydych chi at gwsmeriaid eraill neu geblau ffôn, a’r costau cysylltu tebygol.

Cael mynediad i dir ar gyfer gosodiadau ac atgyweiriadau

Os dymuna cwmni ffôn osod cebl, polion neu beilonau ffôn neu offer arall, mae’n rhaid iddo gael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth y tirfeddianwyr perthnasol gan gynnwys perchnogion y tir ar gyfer mynediad. Gallai’r problemau amrywiol canlynol godi:

  • mae’n bosib nad ydych am gael polion ar eich tir neu wifrau uwchben eich eiddo. Mae’n bosib na hoffech i’r cwmni ffôn balu ar eich tir er mwyn gosod ceblau neu efallai na fyddwch yn cytuno â chynlluniau’r cwmni ffôn
  • gallai fod dadlau ynghylch pa mor agos i adeilad y mae’r cwmni ffôn am osod gwifrau uwchben
  • mae’n bosib yr ydych yn caniatáu mynediad i’r cwmni ffôn ond rydych am wybod p’un ai bod hawl gennych i iawndal, ac os felly, faint o iawndal allech ei dderbyn. Mae’n syniad da cael cyngor cyfreithiol ar hyn
  • gallai’r tirfeddiannwr blaenorol fod wedi cytuno i osod ceblau neu bolion ac mae’n bosib eich bod yn rhwym wrth y cytundeb.

Os ydych yn gwrthod caniatáu cwmni ffôn i wneud gosodiadau, gallai wneud cais i’r llys am ganiatâd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am osod offer ffôn ar eich tir, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Nôl i’r brig


Galwadau niwsans

Stopio galwadau ffôn a ffacsau digroeso

Gwaharddir pob cwmni marchnata uniongyrchol rhag gwneud galwadau ffôn digroeso i bobl sydd wedi’u cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn (TPS). Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth ar 0845 070 0707. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am TPS drwy glicio ar (New window) www.tpsonline.org.uk. Nid oes hawl gan gwmnïau marchnata uniongyrchol yn yr Undeb Ewropeaidd anfon ffacsau digroeso at unrhyw un sydd heb roi eu caniatâd i dderbyn ffacsau oddi wrth y cwmni. Nid oes gwahaniaeth p’un ai eu bod wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffacs neu beidio. Rhif ffôn y Gwasanaeth Dewis Ffacs (FPS) yw 0845 070 0702. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn drwy glicio ar (New window) www.fpsonline.org.uk.

Galwadau ffôn aflonyddgar, anllad neu faleisus

Gallai gwneud galwadau ffôn anllad, aflonyddgar neu faleisus fod yn drosedd. Os ydych yn derbyn galwad tebyg, cysylltwch â’r heddlu. Gall yr heddlu, er enghraifft, awdurdodi’r gwasanaeth ffôn i olrhain galwadau maleisus. Os caiff y person sy’n gwneud y galwadau ei erlyn, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth yn y llys.

Efallai bod gan y cwmni ffôn weithdrefnau ar gyfer delio â galwadau ffôn maleisus, anllad neu aflonyddgar. Gwiriwch God Ymarfer y cwmni ffôn. Er enghraifft, mae gan BT rif ffôn arbennig, sef 0800 666700, ar gyfer neges 24 awr a recordiwyd.

Galwadau distaw

Systemau galw awtomataidd a ddefnyddir gan rai canolfannau galw sydd fel arfer yn gwneud galwadau distaw. Yn ôl canllawiau Ofcom, dylai canolfannau galw chwarae neges gwybodaeth os yw galwad wedi ei adael. Os ydych yn derbyn galwadau distaw, cysylltwch ag Ofcom os ydych yn gwybod enw a rhif y cwmni dan sylw. Am fanylion cyswllt Ofcom, gweler Sefydliadau Defnyddiol. Os na allwch adnabod y cwmni, dylech gysylltu â’r cwmni ffôn am gymorth.

Arddangos enw’r galwr/dychwelyd galwad

Mae bron pob cwmni ffôn yn darparu cyfleusterau ‘arddangos enw’r galwr’ neu ‘ddychwelyd galwad’. Mae’r cyfleuster sy’n arddangos enw’r galwr yn dangos rhif y galwr os oes gan y ffôn sy’n derbyn yr alwad uned arddangos weledol. Mae’r cyfleuster dychwelyd galwad yn galluogi’r person sy’n derbyn y galwadau i ddarganfod rhif y galwr diwethaf drwy ffonio 1471. I ddileu’r rhif diwethaf a dderbyniodd eich ffôn, deialwch 1475.

Gallai’r gwasanaeth dychwelyd galwad fod yn gyfyngedig o ran galwadau maleisus, oherwydd gallai’r person sy’n gwneud y galwadau guddio eu rhif drwy ddeialu 141 cyn gwneud y galwad. Nid yw hyn yn golygu na ellir olrhain y rhif ar ôl derbyn caniatâd yr heddlu. Gallwch hefyd benderfynu peidio ag ateb y galwad os nad yw rhif y galwr wedi’i arddangos.

Llinellau cymorth galwadau

Os ydych yn derbyn biliau ffôn wedi’u heitemeiddio, bydd unrhyw alwadau i linellau ffôn yn cael eu rhestru. Mae hyn yn golygu bydd pobl eraill yn yr un eiddo yn gallu gweld eich bod wedi ffonio llinell gymorth. Mae bron pob cwmni ffôn yn darparu gwasanaeth deialu’r rhif diwethaf, sy’n golygu gall aelodau eraill sy’n byw yn yr un eiddo wirio rhif ffôn y person diwethaf a alwyd.

Mae rhai cwmnïau ffôn yn eitemeiddio galwadau sy’n costio mwy ac felly gallech wneud galwad byr iawn i linell gymorth a gofyn iddynt ddychwelyd eich galwad er mwyn diogelu eich cyfrinachedd. Nid yw’r rhan fwyaf o’r llinellau cymorth sy’n darparu hyn yn defnyddio offer arddangos enw’r galwr ac maen nhw’n cuddio eu rhif pan ydynt yn ffonio neu ddychwelyd eu galwadau. Ni chaiff rhifau rhadffôn sy’n dechrau gyda’r rhifau 0800 neu 0500 eu heitemeiddio ar y bil ffôn oni bai bod y galwadau yn cael eu gwneud trwy’r switsfwrdd.

Os nad ydych am i’r llinell gymorth wybod eich rhif ffôn, dylech ddeialu 141 cyn deialu rhif y llinell gymorth. Dim ond os ydych yn cael mynediad i’r llinell gymorth yn syth y mae hyn yn gweithio; nid yw’n gweithio os ydych yn pwyso ar y botwm ‘ailddeialu’.

Nôl i’r brig


Cynlluniau ad-dalu, disgownt a chost isel

Mae llawer o gwmnïau ffôn yn cynnig cynlluniau disgownt ac ad-dalu arbennig gan gynnwys cynlluniau ar gyfer pob math o ddefnyddwyr eu gwasanaethau ffôn. Cewch wybodaeth am y cynlluniau hyn gan y cwmnïau ffôn unigol.

BT Basic

Mae BT yn cynnig gwasanaeth rhentu llinell a lwfans galwadau rhad ac am ddim bychan i rai o’i gwsmeriaid sy’n derbyn budd-daliadau. Gelwir hyn yn gynllun BT Basic. Mae’n rhaid eich bod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn gwarantedig.

I geisio am BT Basic, mae’n rhaid eich bod yn llanw ffurflen gais. Am ffurflen gais, ffoniwch BT ar: 0800 783 1675. 

Am fwy o wybodaeth am BT Basic, ewch i wefan BT: (New window) www.bt.com.

Am fwy o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm, gweler (New window) Cymorth ar gyfer pobl sydd ar incwm isel - Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth am Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, gweler Budd-daliadau ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn gwarantedig, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Nôl i’r brig


Gwasanaethau ffôn graddfa premiwm

Mae gwasanaethau graddfa premiwm yn rhoi gwybodaeth a darparu adloniant dros y ffôn, er enghraifft, gwybodaeth am y tywydd, cystadlaethau a gwasanaethau cyfnewid negeseuon.

Mae cost galwadau premiwm yn fwy na galwadau ffôn arferol, a gallai costau ffonau symudol, bocsys ffôn a gwestau fod yn uwch. Mae’n rhaid dangos cost galwad o ffôn domestig arferol ar hysbyseb y gwasanaeth.

Mae’r rhan fwyaf o rifau ffôn y gwasanaethau graddfa premiwm yn dechrau gyda’r rhifau ‘090’, ac mae gwasanaethau ar gyfer oedolion yn unig yn dechrau gyda’r rhifau ‘0909’. Gallai rhai gwasanaethau graddfa premiwm ar ffôn symudol ddefnyddio codau mynediad byr. Mae rhifau ffôn gwasanaethau Ymholiadau Cyfeirlyfr sy’n dechrau gyda ‘118’ hefyd yn rhifau cyfradd premiwm.

Gallwch atal unrhyw un rhag deialu o’ch llinell ffôn i rifau cyfradd premiwm 090 sy’n seiliedig yn y DU. Mae hyn yn cynnwys galwadau o’ch cyfrifiadur, os oes gennych un. Os hoffech wneud hyn, dylech gysylltu â’r cwmni ffôn.

Os oes gennych broblem gyda gwasanaeth ffôn cyfradd premiwm, neu os codwyd y tâl anghywir arnoch am ddefnyddio rhif cyfradd premiwm, gallwch gwyno i’r cwmni rheoli gwasanaethau cyfradd premiwm PhonepayPlus. Fe allwch gwyno dros y ffôn, drwy neges testun, yn ysgrifenedig neu ddefnyddio’r ffurflen gwyno ar-lein.

Fe fydd PhonepayPlus yn ymchwilio i’ch cwyn ac unwaith y bydd wedi gorffen ymchwilio, fe fydd yn dweud wrthych beth oedd y canlyniad. Os yw cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth graddfa premiwm wedi torri Cod Ymarfer PhonepayPlus, fe all PhonepayPlus wneud unrhyw un/rai o’r canlynol:

  • stopio’r cwmni rhag redeg y gwasanaeth
  • codi dirwy ar y cwmni
  • gorchymyn i’r cwmni roi ad-daliad rhesymol i chi.

Os ydych wedi defnyddio gwasanaeth graddfa premiwm sydd wedi achosi niwed eang i ddefnyddwyr, efallai y rhoddir iawndal i chi heb i chi ofyn amdano, hyd yn oed os nad ydych wedi cwyno am y gwasanaeth.

Nôl i’r brig


Cwynion am gwmniau ffôn

Os oes gennych gwyn am gwmni ffôn, dylech siarad â nhw yn gyntaf. Os nad yw hyn yn datrys y broblem, gallwch wneud cwyn ffurfiol i’r cwmni. Cewch hyd i fanylion am sut i wneud hyn ar gefn eich bil ffôn. Os na allwch ddod o hyd i’r manylion hyn, bydd staff gwasanaeth cwsmeriaid y cwmni yn esbonio sut i wneud cwyn ffurfiol.

Mae’n ofynnol bod gan bob cwmni ffôn broses gwyno ffurfiol i gwsmeriaid. Os nad oes gan y cwmni broses o’r fath, dylech ddweud wrth y cwmni gwarchod buddiannau, Ofcom.

Os ydych wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r cwmni ffôn ac os nad yw wedi datrys y broblem, gallwch geisio ddefnyddio cynllun Datrys Anghydfod Amgen (ADR). Gall eich cwmni fod yn perthyn i un o ddau gynllun ADR sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Ofcom:

Mae’n ofynnol bod gan gwmnïau ffôn gynllun ADR. Maen nhw’n torri rheolau diogelu cwsmeriaid os nad oes ganddynt un. Os nad yw eich cwmni ffôn yn dweud wrthych am ei gynllun ADR, gallwch ffonio Ofcom.

Os oes gennych gwyn am wasanaeth rhif cyfradd premiwm, gweler yr adran ar wasanaethau ffôn cyfradd premiwm.

Nôl i’r brig


Sefydliadau defnyddiol

Ofcom

Contact Centre
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA
Rhif ffôn y llinell ymholiadau: 0300 123 3333
Switsfwrdd: 020 7981 3000
Ffôn testun: 0300 123 2024
Ffacs: 020 7981 3333
Gwefan: (New window) www.ofcom.org.uk

Ofcom yw corff gwarchod buddiannau telathrebu yn y DU. Nid yw Ofcom yn archwilio cwynion unigol yn erbyn cwmnïau ffôn, er eu bod yn cofnodi pob cwyn am y cwmni. Os yw un cwmni penodol yn ymddangos fel petai’n peri problemau i ddefnyddwyr, mae’n bosib y gallai Ofcom ystyried ei archwilio.

Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu

PO Box 730
Warrington
WA4 6WU

Ffôn: 0330 440 1614
Ffôn testun: 0330 440 1600
Ffacs: 0330 440 1615

E-bost: enquiries@os-communications.org
Gwefan: (New window) www.os-communications.org

Efallai y bydd Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebu (Otelo gynt) yn medru eich helpu gyda chwyn ynghylch cwmni ffôn os yw’r cwmni yn aelod o’r Cynllun. Rhaid eich bod chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni ei hun yn gyntaf.

CISAS

24 Angel Gate
City Road
Llundain
EC1V 2PT
Rhif ffôn: 020 7520 3827
Ffacs: 020 7520 3829
E-bost: info@cisas.org.uk
Gwefan: (New window) www.arbitrators.org

Gallai’r CISAS (Communications and Internet Services Adjudication Scheme) eich helpu gyda chwyn am gwmni ffôn, os yw’r cwmni yn aelod i gynllun CISAS. Mae’n rhaid eich bod wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r cwmni yn gyntaf.

NIACT

Northern Ireland Advisory Committee on Telecommunications
The Secretary
7th Floor
Chamber of Commerce House
22 Great Victoria Street
Belfast
BT2 7QA

Rhif ffôn: 028 9024 4133
Ffacs: 028 9024 7024

PhonepayPlus

Freepost WC5468
London
SE1 2BR

Ffôn: 0800 500212
Testun: 0207 407 3430
Gwefan: (New window) www.phonepayplus.org.uk
E-bost: secretariat@phonepayplus.org.uk

PhonepayPlus yw corff gwarchod buddiannau’r gwasanaethau graddfa premiwm. Mae gan PhonepayPlus gyfleuster gwirio rhif ar ei wefan sy’n eich galluogi chi i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am rifau cyfradd premiwm sy’n ymddangos ar eich bil ffôn. Gallan nhw hefyd roi cyngor i chi am yr hyn i’w wneud nesaf.

Nôl i’r brig