Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rydw i bob amser yn cael galwadau ffôn oddi wrth bobol nad ydw i’n eu hadnabod. Sut alla i eu stopio?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydyw’r galwadau ffôn oddi wrth bobl sy’n ceisio gwerthu rhywbeth i chi yna fe allwch chi gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn. Ni ddylai cwmnïau wneud galwadau ffôn i bobol sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Am fanylion ynglŷn â sut i gofrestru cysylltwch â’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn ar 0845 070 0707, neu ewch i’w gwefan yn (New window) www.tpsonline.org.uk. Os ydyw’r galwadau ffôn oddi wrth ddieithriaid sy ddim yn rhoi eu henwau ac sy’n ymosodol yna cysylltwch â’r heddlu. Mae’r math yma o alwad niwsans yn erbyn y gyfraith ac fe ellir erlyn person os ceir eu bod yn gwneud hyn.

Mae yna sawl ffordd o geisio darganfod pwy sy’n gwneud galwadau niwsans.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â gwasanaethau ffôn gweler Gwasanaethau Ffôn.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyfathrebu: