Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rydw i am brynu ffôn symudol ond wedi drysu gyda’r holl wybodaeth rydw i wedi’i ddarllen. Allwch chi helpu?

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae angen i chi benderfynu pam yr ydych am gael ffôn. Ydych chi am wasanaeth ffôn sylfaenol neu ydych chi efallai am gysylltu â’r rhyngrwyd? Ydych chi’n mynd i ddefnyddio llawer arno, efallai ar gyfer y gwaith, neu a ydych chi am y ffôn rhag ofn y bydd angen help arnoch?

Fe allwch chi ddewis talu taliadau rhent a chost galwadau ffôn ar ddiwedd pob mis neu fe allwch chi brynu talebau ymlaen llaw. Mae angen i chi hefyd feddwl ble yr ydych chi am ddefnyddio’ch ffôn gan fod ffônau symudol yn gweithio trwy bigo i fyny signalau sy’n gallu bod yn wannach mewn rhai ardaloedd gwledig.

Os oes gennych chi broblem ynglŷn â ffôn symudol bydd angen i chi wybod gyda phwy mae’ch cytundeb. Fe allai fod gyda:

  • gweithredwr rhwydwaith
  • darparwr gwasanaeth
  • siop sy’n gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffonau symudol gweler Ffonau symudol.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyfathrebu: