Mae’r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae yna rai termau cyffredin yn cael eu defnyddio yn yr eitem hon:-
Mae’r wybodaeth yma’n ymwneud ag achosion sy'n geisiadau bach. Mae achos sy'n gais bach yn achos sydd wedi'i amddiffyn ac mae'r llys wedi ei glustnodi ar gyfer y trac achosion bach. Mae yna reolau arbennig ynghylch achosion sy'n geisiadau bach ac mae'r gweithdrefnau'n cael eu disgrifio yn yr wybodaeth yma.
Os oes gennych achos sy'n cael ei drosglwyddo i drac sydd ddim yn drac achosion bach, dylech gysylltu â chynghorwr profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd y llys yn gorchymyn i’r garfan sy’n colli’r achos dalu am gostau’r cyfreithwyr, ac os byddwch yn cyfarwyddo cyfreithiwr, bydd yn rhaid i chi dalu’r costau eich hunan. Oherwydd hyn, bydd y mwyafrif o hawlwyr yn delio ag achos bach heb help cyfreithiwr. Mae’n bosib cael cymorth cyfaill neu gynrychiolydd lleyg, er enghraifft, gall rhai Canolfannau Cynghori gynnig cynghorwyr sydd wedi eu hyfforddi i helpu pobl sydd ag achosion bach. Gellir cael cyngor (nid cynrychiolaeth) cyfreithiwr drwy’r cynllun cymorth cyfreithiol.
Am fanylion ynglyn â’r cynllun cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Pan fydd y llys yn ystyried a ddylid dirprwyo achos i’r trac achosion bach ai peidio, bydd nifer o ffactorau’n cael eu hystyried, ond y prif ffactor fydd gwerth ariannol yr achos.
Os bydd gwerth ariannol yr achos yn £5000 neu lai, fel arfer bydd yr achos yn cael ei ddirprwyo i’r trac achosion bach. Er hyn, os mai hawliad ar sail niwed personol yw’r achos, yr unig bryd y caiff yr achos ei ddiprwyo i’r trac achosion bach fydd pan na fydd yr hawliad am niwed personol yn fwy na £1000. Os bydd yr hawliwr yn denant yng ac yn dwyn achos yn erbyn y perchennog am ei f/bod am sicrhau atgyweirio neu waith arall ar yr eiddo, a bod y gwaith hwnnw yn werth £1000 neu lai, bydd yr achos yn cael ei ddirpwyo i’r trac achosion bach.
Mewn rhai achosion, hyd yn oed os bydd gwerth yr achos yn fwy na £5000 a bod y ddwy garfan yn gytun, gall y llys ddirprwyo'r achos i’r trac achosion bach. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd y rheol arferol ynglyn â chostau’n gymwys ac os bydd yr hawliwr yn colli’r achos, bydd yn rhaid iddo/iddi dalu costau cyfreithiwr y diffynnydd. Er hyn, os bydd yr hawliwr yn ennill yr achos, mae’n bosib y gorchmynnir i’r diffynnydd dalu costau’r hawliwr.
Dyma'r mathau mwyaf cyffredin o achosion yn y trac achosion bach:-
Os bydd achos yn un cymhleth, mae’n bosib y bydd y barnwr yn ei ddirprwyo i drac arall neu i wrandawiad llawn, hyd yn oed os bydd yr achos yn is na chyfyngiad ariannol y trac hwnnw.
Os yw eich hachos yn un cymhleth,dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Gynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn mynd i gymryd camau drwy’r llys, rhaid i chi wneud hyn o fewn terfynau amser penodol. Mae’r terfyn amser yn dibynnu ar y math o gamau yr ydych yn eu cymryd, er enghraifft, mae’r terfyn amser ar gyfer torri cytundeb yn chwe mlynedd.
Fe fydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r terfynau amser ar gyfer cymryd camau drwy’r llys, a dylech ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae’n rhaid i chi geiso datrys cais cyn dwyn achos llys. Os na fyddwch yn ceisio datrys y sefyllfa’n gyntaf, mae’n bosib y bydd y llys yn eich cosbi. Felly, er enghraifft, os nad yw eich teledu’n gweithio, nid oes pwrpas gwneud cais at y llys ar unwaith am iawndal – mae’n rhaid i chi gysylltu â’r siop a werthodd y teledu i chi yn gyntaf i geisio datrys y broblem, gan ddefnyddio'r llys dim ond os nad ydych wedi llwyddo i ddatrys y broblem trwy drafod. Bydd y llys yn disgwyl i chi wneud cais ysgrifenedig, gan roi amser rhesymol i’r person arall i ymateb – mis fel arfer. Dylech eu rhybuddio y byddwch yn dwyn achos llys os na fyddant wedi ymateb o fewn y cyfnod a nodwyd.
Efallai y byddwch yn medru sortio'ch cais trwy ddefnyddio cyfryngu os yw'r ochr arall yn cytuno. Gyda chyfryngu, mae trydydd person diduedd, a elwir yn gyfryngwr, yn helpu’r ddwy ochr i gytuno ar ateb i broblem y mae'r ddwy ochr yn hapus gydag ef. Weithiau, hyd yn oed os ydych yn dechrau cais, efallai y bydd y llys yn cyfeirio eich cais at gyfryngwr.
Gallwch ddod o hyd i ddarparwr cyfryngdod lleol trwy ddefnyddio’r teclyn ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk. Fe fydd tâl sefydlog.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch cyfryngdod ar wefan ADRnow hefyd, yn: www.adrnow.org.uk.
Mae yna swyddog cyfryngdod hefyd yn y llys achosion bach. Mae cyfryngdod yn rhad ac am ddim unwaith fyddwch chi wedi talu eich ffi ymgeisio i’r llys.
Gellir dechrau achos mewn unrhyw lys sirol.
Yna, fe fydd y llys yn trosglwyddo'r achos yn awtomatig at lys sirol agosaf y diffynnydd yn yr achosion canlynol:
Mewn achosion eraill, mae'r naill ochr neu’r llall yn medru gofyn am symud yr achos at lys sirol arall.
Manylion cyswllt llysoedd sirol
Mae gan wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi declyn defnyddiol sy'n eich helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys sirol lleol.
Os ydych yn anabl ac yn mynd i’r llys, dylech gysylltu â’r llys er mwyn cael gwybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael yno ar gyfer pobl anabl. Edrychwch ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn:: www.hmcourts-service.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth, fe allwch gysylltu â Llinell Gymorth Anabledd Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ar 0800 358 3506 rhwng 9yb a 5yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae galwadau ffôn i'r rhif hwn yn rhad ac am ddim. Os ydych yn fyddar neu'n drwm eich clyw, mae yna wasanaeth ffôn testun ar gael.
Os nad yw mynediad i’r llys yn bosib oherwydd eich anabledd, gellir symud yr achos i lys sydd yn fwy addas.
Fel hawliwr, byddwch yn dechrau hawliad trwy lenwi ffurflen hawlio (N1). Gellir cael ffurflenni hawlio o lysoedd lleol ac o wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi yn www.hmcourts-service.gov.uk.
Mae’r ffurflen hawlio yn gofyn am fanylion am yr hawliwr a’r diffynnydd a'r swm sy'n cael ei hawlio. Bydd lle ar y ffurflen i fanylion arbennig yr hawliad. Os na bydd digon o le ar y ffurfen, gellir gosod y manylion yma ar ddarn o bapur ar wahân. O dan rai amgylchiadau, fel hawliwr, mae’n bosib y bydd angen amser ychwanegol arnoch i gwblhau manylion hawliad. Mae gennych yr hawl i anfon manylion arbennig hawliad at y diffynnydd ar wahân, ond heb fod yn hwyrach na 14 niwrnod ar ôl anfon y ffurflen hawlio.
Os bydd manylion yr achos yn gymhleth, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel yr hawliwr, mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio llog ar eich hawliad. Os mai dyma’r achos, rhaid i chi gynnwys llog yn y swm yr ydych yn ei hawlio ar y ffurflen gais. Mae yna ffurf benodol o eiriau y dylech eu defnyddio i wneud hyn. Am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio llog, darllenwch y nodiadau canllaw sy’n dod gyda’r ffurflen hawlio.
Os bydd manylion yr achos yn rhy gymhleth i ffitio yn y gofod ar y ffurflen, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mewn rhai achosion, bydd rhaid cysylltu dogfennau ychwanegol at manylion yr hawliad, er enghraifft, os yw’r cais yn seiliedig ar gytundeb ysgrifenedig (er enghraifft, cytundeb i brynu nwyddau neu wasanaethau, er enghraifft), dylai copi o’r cytundeb fod yn gysylltiedig â datganiad yr hawliad.
Gellir dechrau rhai ceisiadau am swm sefydlog o arian ar-lein yn www.moneyclaim.gov.uk. Fel arfer, fe fydd ceisiadau'n cael eu cyhoeddi, eu hargraffu a'u hanfon at y diffynnydd ar y diwrnod y cyflwynir y cais. Yng Nghymru a Lloegr, rhaid talu ffioedd llys ar gyfer ceisiadau ar-lein trwy gerdyn debyd neu gredyd.
Fel yr hawliwr, dylech anfon, neu fynd â dau gopi o’r furflen hawlio i’r llys lle dymunwch ddechrau’r camau cyfreithiol. Dylech gadw copi ychwanegol ar gyfer eich cofnodion personol. Rhaid i chi hefyd fynd â, neu anfon ffi y llys. Bydd y ffi yn dibynnu ar faint o arian sy'n cael ei hawlio. Rydych yn gallu darganfod faint yw'r ffi trwy fynd at wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn www.hmcourts-service.gov.uk.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd y ffi yn cael ei ildio, er enghraifft:
Byddwch yn medru gofyn i’r llys ddweud wrthych sut i geisio am ostwng neu ildio’r ffioedd neu mae mwy o wybodaeth a’r ffurflen eithriad ar gael oddi ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi www.hmcourts-service.gov.uk.
Bydd y llys yn stampio’r ffurflen hawlio, ac yn y mwyafrif o achosion, yn ei anfon at y diffynnydd. Bydd yn eich hysbysu am ddyrodiad gyda dogfen â rhif yr achos arni.
Fel arfer, bydd y llys yn dosbarthu ffurflen hawlio drwy ei hanfon at y diffynnydd drwy gyfrwng post dosbarth cyntaf. Ystyrir bod y diffynnydd wedi ei derbyn ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl postio, ac eithrio ble mae eich cais wedi ei gyhoeddi ar-lein. Fel yr hawliwr, os ydych am ddosbarthu'r ffurflen eich hunan, gallwch ofyn i’r llys ei hanfon yn ôl atoch wedi i’r ffurflen gael ei stampio fel y gallwch ei dosbarthu. Mae yna nifer o ffurflenni sy’n rhaid eu hanfon gyda’r ffurflen hawlio.
Os mai chi yw'r diffynnydd, ac rydych yn derbyn bod yr arian sy'n cael ei hawlio yn ddyledus, ni fyddwch yn amddiffyn yr achos ac ni fydd y llys yn ei glustnodi ar gyfer y trac ceisiadau bach i gael sylw.
Os ydych yn medru talu’r arian sy'n ddyledus ar unwaith, dylech ei anfon yn syth at yr hawliwr.
Os ydych chi angen amser i’w dalu, byddwch yn medru cynnig trefniant, er enghraifft, eich bod yn talu ‘r arian mewn rhandaliadau dros gyfnod o amser neu dalu’r swm mewn un swm ar ddyddiad penodedig yn y dyfodol. Os bydd yr hawliwr yn derbyn y cynnig hwn, bydd angen iddo/iddi ddychwelyd ffurflen i’r llys yn ceisio ‘dyfarniad ar fynediad’. Os mai chi yw'r diffynnydd ac nid ydych yn cadw at y trefniant, mae'r hawliwr yn medru cymryd camau cyfreithiol i'ch gorfodi chi i dalu.
Os mai chi yw'r hawliwr ac nid ydych yn derbyn cynnig y diffynnydd, rhaid i chi nodi eich rhesymau dros wrthod a bydd swyddog o’r llys yn penderfynu ar gytundeb. Dylai fod yn un rhesymol. Bydd y llys yn anfon gorchymyn tâl i’r ddwy garfan (dyfarniad i’r hawliwr ar ôl penderfyniad.)
Os mai chi yw'r hawliwr ac nid ydych yn hapus â’r gorchymyn, dylech anfon llythyr i’r llys yn egluro pam eich bod yn anfodlon a rhaid i chi anfon copi o’r llythyr at y diffynnydd hefyd. Yna, bydd barnwr yn penderfynu ar swm rhesymol y bydd disgwyl i’r diffynnydd ei dalu. Os na fydd y diffynnydd yn cadw at y trefniant, gall yr hawliwr gymryd camau gorfodi.
Os mai chi yw'r diffynnydd ac nid ydych yn derbyn bod yr arian sy'n cael ei hawlio yn ddyledus, byddwch yn amddiffyn yr achos. Mae'n rhaid i chi ymateb i’r ffurflen hawlio a’r manylion arbennig o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad y cyrhaeddodd y ddogfen (dyma’r ail ddiwrnod ar ôl postio).
Os cyrhaeddodd y manylion arbennig ar ôl y ffurflen gais, rhaid i chi ymateb o fewn 14 niwrnod o ddyddiad derbyn manylion arbennig yr hawliad. Mae'n rhaid i chi ymateb drwy lenwi’r ffurflen amddiffyniad a anfonwyd atoch gyda’r ffurflen hawlio.
Fel y diffynnydd, os na fyddwch yn anfon amddiffyniad i’r llys, gall yr hawliwr ofyn am gael gorchymyn yn eich herbyn. Os digwydd hyn, dylai’r pleidiau sy’n ymwneud â’r mater gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel diffynnydd, gallwch anfon eich hamddiffyniad i’r llys. Er hyn, os oes angen mwy o amser arnoch i baratoi amddiffyniad, gallwch anfon cydnabyddiaeth eich bod wedi derbyn y ddogfen yn ôl ac yna’r amddiffyniad o fewn 14 niwrnod i’r dyddiad hwnnw (byddai’r gydnabyddiaeth yn cael ei anfon at y diffynnydd yn y lle cyntaf gyda’r ffurflen hawlio).
Pan fydd yr amddiffyniad wedi ei ddychwelyd i’r llys, bydd y llys yn anfon holiadur dyraniad i’r hawliwr ac i’rdiffynnydd. Rhaid dychwelyd hwn heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a nodir arno. Fel yr hawliwr, pan fyddwch yn dychwelyd yr holiadur dyraniad, bydd yn rhaid i chi dalu ffî, er y mae’n bosib y caiff y ffi ei ildio ar seiliau ariannol. Bydd y llys yn defnyddio’r wybodaeth a gasglir o’r holiadur dyrannu i benderfynu i ba drac y caiff yr achos ei ddirprwyo.
Pan fydd y llys wedi penderfynu dyranu’r achos i’r trac achosion bach, bydd hysbysiad o ddyraniad yn cael ei anfon. Bydd y ffurflen hon yn dweud wrth y pleidiau beth sy’n rhaid iddynt ei wneud wrth baratoi ar gyfer y gwrandawiad terfynol. Gelwir y cyfarwyddiadau yma yn ‘gyfarwyddyd’. Er enghraifft, mae’n bosib y cyfarwyddir y pleidiau i anfon copïau o’r holl ddogfennau y maent yn bwriadu eu defnyddio yn y llys ac at y parti arall o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Oni wnewch, gellid gohirio'r achos ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu holl gostau'r achos.
Mae yna gyfarwyddiadau safonol ar gyfer nifer o achosion cyffredin, er enghraifft, os yw’r hawliad yn ymwneud â nwyddau diffygiol, mae yna gyfarwyddiadau safonol ynglyn â’r ddogfennaeth sy’n rhaid ei anfon at y parti arall. Os yw’r hawliwr yn dymuno dangos fideo fel tystiolaeth, rhaid iddo/iddi gysylltu â’r llys er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer dangos y fideo yn y gwrandawiad.
Bydd yr hysbysiad dyraniad (neu'r hysbysiad o wrandawiad) fel arfer yn nodi’r dyddiad, yr amser a’r lleoliad lle bydd y gwrandawiad yn cymryd lle a faint o amser a ganiateir ar gyfer y gwrandawiad.
Fel yr hawliwr,os byddwch am fynychu’r gwrandawiad, ond yn methu, gallwch ysgrifennu at y llys a gwneud cais am ddyddiad hwyrach ar gyfer y gwrandawiad. Mae yna ffi yn daladwy am y cais hwn, a bydd y llys ond yn barod i gytuno os oes yna resymau teg dros newid y dyddiad.
Fel yr hawliwr, mae’n bosib na fyddwch yn dymuno mynychu’r gwrandawiad, er enghraifft, os bydd costau teithio yn uwch na gwerth yr achos. Mewn sefyllfa o’r fath, gallwch ysgrifennu at y llys a gofyn iddynt ddelio â’r hawliad yn eich habsenoldeb. Rhaid i’r llythyr gyrraedd y llys heb fod yn hwyrach na saith diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad, a rhaid anfon copi o’r llythyr yma at y diffynnydd.
Weithiau, ni fydd y llys yn clustnodi dyddiad ar gyfer y gwrandawiad terfynol ar yr un adeg â’r dyraniad. Yn lle hyn, gall:
Mae'n bwysig paratoi’r achos yn ofalus - rhaid argyhoeddi’r llys. Mae’r pwyntiau canlynol yn ganllawiau cyffredinol i baratoi achos. Os nad ydych yn hyderus ynglyn â’r ffordd y byddwch yn cyflwyo’ch hachos, dylech ystyried mynd â rhywun arall gyda chi i helpu, a/ neu geisio cyngor arbenigol yn gyntaf. Dyma'r prif bwyntiau:
Fel arfer, cynhelir y gwrandawiad terfynol yn gyhoeddus, ond gellir ei gynnal yn breifat os bydd y pleidiau yn cytuno i hyn, neu os yw’r llys yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol er lles cyfiawnder.
Bydd gwrandawiadau yn y trac achosion bach yn anffurfiol ac ni fydd rheolau llym tystiolaeth yn gymwys. Gall y barnwr ddefnyddio unrhyw ddull o ddelio â’r gwrandawiad y mae'n ei ystyried yn deg, ac mae’n bosib y bydd yn gofyn cwestiynau i’r tystion cyn gadael i unrhyw un arall wneud hynny. Gall y barnwr gyfyngu ar yr amser a ganiateir i bob parti neu dyst i gyflwyno tystiolaeth.
Mae gan gynrychiolydd lleyg yr hawl i siarad ar ran parti yn y gwrandawiad terfynol, ond dim ond os yw’r parti hwnnw’n mynychu’r gwrandawiad.
Os nad ydych yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, mae’n bosib y byddai'n ddefnyddiol cael cyfieithydd i’ch helpu i gyflwyno’ch hachos. Ni fydd y llys yn medru eich helpu i ddod o hyd i gyfieithydd.
Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i gyfieithydd, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ar ddiwedd y gwrandawiad , bydd y barnwr yn cyflwyno ei (d)dyfarniad. Mae’n orfodol bod y barnwr yn cyflwyno rhesymau dros y dyfarniad ac mae'n rhaid cyflwyno’r rhesymau yma mor gryno a syml ag sy’n bosib. Er hyn, mae’n bosib y bydd y barnwr yn eu cyflwyno yn hwyrach, naill ai mewn dogfen neu mewn gwrandawiad arall.
Os ydych yn hawliwr ac yn ennill yr achos, bydd ffioedd y llys yn cael eu had-dalu i chi a gallwch hawlio rhai costau arbennig hefyd. Os byddwch yn colli’r achos, ni fyddwch yn derbyn y ffioedd yn ôl ond mae’n anhebygol y byddwch yn talu unrhyw gostau eraill.
Mae’n bosib i chi apelio yn erbyn dyfarniad yn y trac achosion bach, dim ond os bydd y llys wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol neu os oedd anghysondebau difrifol yng nhrefniadau'r gwrandawiad.
Os ydych yn dymuno apelio, rhaid i chi gyflwyno rhybudd apêl o fewn 21 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, onid yw’r llys wedi rhoi terfyn amser gwahanol.
Mae ffi yn daladwy onid ydych ar incwm isel neu’n gallu dangos caledi ariannol.
Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn dyfarniad yn y trac achosion bach, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel diffynnydd, os byddwch yn colli’r achos ac yn gwrthod talu, bydd yn rhaid i’r hawliwr fynd yn ôl i’r un llys a cheisio gorchymyn i gael yr arian . Gelwir hyn yn orchymyn gorfodaeth. Fel hawliwr, bydd yn rhaid i chi dalu ffi i ddechrau camau gorfodi.
Os ydych am orfodi dyfarniad, dylech gysylltu â chynghorwr profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu darparu cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch achosion bach mewn taflen gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, o’r enw 'The small claims track in civil courts'(EX306). Mae’r daflen ar gael yn www.hmcourts-service.gov.uk.
Mae gwybodaeth bellach ar wefan Directgov hefyd, yn www.direct.gov.uk.