Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Oes yna amddiffyniad arbennig yn y gweithle ar gyfer pobl anabl?

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, a'r Alban

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu ar sail anabledd. Mae hyn yn berthnasol i recriwtio, amodau a thelerau'r gyflogaeth, dyrchafiad, a dewis ar gyfer diswyddo neu ddod â swyddi i ben. Mae yna rai pwyntiau pwysig i'w cofio:-

  • mae gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn y gyfraith
  • efallai y bydd cyflogwr yn gallu trin person anabl yn llai ffafriol, os oes yna rheswm dros hyn yn gellir ei gyfiawnhau'n ddigonol. Er enghraifft, fe fyddai cyflogwr yn gallu cyfiawnhau gwrthod person sydd â poen difrifol yn ei gefn am swydd gosod carpedi, am na fyddai'n gallu cyflawni gofynion pwysig y swydd
  • os nad ydyw'ch cyflogwr yn gwneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer eich anabledd, mae hyn yn wahaniaethu
  • mae gwahaniaethu yn gallu codi o ganlyniad i anabledd rhywun. Er enghraifft, mae gweithiwr yn cael shifftiau nos i’w gweithio. Mae ganddi fethiant yr arennau ac mae’n cael dialysis bob nos. Bydd gwneud iddi weithio shifftiau nos yn golygu ei bod yn cael ei thrin yn anffafriol ac fe fydd hyn yn anghyfreithlon onid oes modd i’w chyflogwr gyfiawnhau’r rheswm dros wneud hyn
  • mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr, neu unrhyw un sy'n gweithio gyda chi, i'ch poenydio chi oherwydd eich anabledd, er enghraifft trwy alw enwau arnoch neu ddweud jôc am eich anabledd
  • mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr eich erlid chi am gymryd camau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, neu am helpu rhywun arall i gymryd camau.

Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu am fod gennych anabledd, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel 'addasiadau rhesymol' i'r gweithle, ac am wybodaeth gyffredinol ynglyn â beth ddylech chi ei wneud am wahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

I gael cyfeiriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â gwahaniaethu: