Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

England    Hawliau sifil    Negeseuon gan y Frenhines  

Hawliau sifil - In England

 

 


Negeseuon gan y Frenhines

Mae’r wybodaeth yma’n gymwys ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pwy all dderbyn neges oddi wrth y Frenhines

Gall y Frenhines anfon neges, ar ffurf cerdyn cyfarch personol, i berson sy'n ddinesydd Prydeinig ar gyfer:-

  • eu pen-blwydd yn 100, 105 ac unrhyw ben-blwydd wedi 105;
  • eu pen-blwydd priodas 60, 65, 70 mlynedd ac unrhyw ben-blwydd priodas wedi 70 mlynedd.

Gellir anfon cerdyn hefyd at ddinesydd gwlad y mae'r Frenhines yn bennaeth y wladwriaeth arni, tra bod y dinesydd yna yn byw yn y wlad yna ar yr adeg yna. Gellir cael gwybodaeth ynglyn â hyn yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod.

Roedd y Frenhines yn arfer anfon neges at bobl a oedd wedi rhoi genedigaeth lluosog i o leiaf tri phlentyn, ond nid yw'n gwneud hyn bellach.

Nôl i’r Brig



Sut i wneud cais am neges gan y Frenhines

Gallwch wneud cais am neges ar eich cyfer chi'ch hun neu ar gyfer rhywun arall.

Ar gyfer pen-blwydd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn trefnu anfon neges i unrhyw un sydd wedi cyrraedd yr oed perthnasol sy'n derbyn Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn neu Gymhorthdal Incwm. Bydd swyddog o'r swyddfa budd-daliadau lleol yn ymweld i gadarnhau oed y person ac yna'n anfon y wybodaeth ymlaen at Balas Buckingham, os nad yw'r person sy'n dathlu ei ben-blwydd/phen-blwydd yn gwrthwynebu. Neu, gellir cael ffurflen gais yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod. Ar gyfer pen-blwydd priodas, gellir cael ffurflen gais yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer pen-blwydd neu ben-blwydd priodas drwy ysgrifennu neu ffonio:-

Th Anniversaries Office
Buckingham Palace
London SW1A 1AA
Ffôn: 020 7930 4832

Rydych hefyd yn medru cael ffurflen gais ar gyfer pen-blwydd oddi ar wefan swyddogol y Frenhines yn: (New window) www.royal.gov.uk neu ar gyfer pen-blwydd priodas yn: (New window) www.royal.gov.uk.

Dylech ddychwelyd y ffurflen gais heb fod yn gynharach na thair wythnos cyn y dyddiad dathlu.

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ