Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn meysydd gwahanol yn eu bywydau.
Er enghraifft, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl yn y gwaith (gweler y pennawd Gwahaniaethu yn y gwaith), ac wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau (gweler y pennawd Mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau). Rydych yn cael eich hamddiffyn yn erbyn gwahaniaethu i raddau cyfyngedig hefyd yng nghyd-destun gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl sy'n rhentu neu'n prynu eiddo (gweler y pennawd Gwahaniaethu pan yn prynu neu'n rhentu eiddo), ac mewn addysg (gweler y pennawd Gwahaniaethu mewn addysg).
Mae yna rhai meysydd pwysig lle nad ydyw'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, er enghraifft mynediad at wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus– gweler y pennawd Mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae yna rheolau ynghylch yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ystyried fel anabledd, pan yn ystyried os oes gwahaniaethu wedi cymryd lle neu beidio.
Mae'r gyfraith yn dweud bod 'anabledd' yn golygu nam corfforol neu feddyliol, sydd ag effaith negyddol sylweddol a hir dymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd arferol.Mae yna reolau arbennig ar gyfer bobl sy’n dioddef o ganser, HIV a sglerosis ymledol ac ar gyfer bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall – gweler isod.
Yn ôl y diffiniad yma, fe all namau gynnwys namau synhwyraidd fel y clyw neu'r golwg, neu namau meddyliol, fel anableddau dysgu, dyslecsia a salwch meddwl. Mae rhai anffurfiadau difrifol yn cyfrif fel anabledd hefyd. Fe all rhai cyflyrau sy'n medru gwaethygu gydag amser, er enghraifft sglerosis ymledol (multiple scleroses) a HIV/AIDS gael eu hystyried fel anabledd cyn gynted â fydd y symptomau’n ymddangos, hyd yn oed cyn eu bod yn dechrau effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd.
Mae bod ag anabledd tymor-hir yn golygu:
Ystyrir bod nam yn effeithio ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd arferol os fydd yn effeithio ar o leiaf un o’r canlynol:
Hyd yn oed os ddefnyddir cymhorthion meddygol neu driniaeth i reoli neu gael gwared ar anabledd, mewn rhai achosion mae’n dal i gael ei ystyried fel anabledd.
Er na fydd nam bach,ar ei ben ei hun, yn cael ei gyfrif yn sylweddol,efallai bod gennych nifer o namau bach a all greu effaith sylweddol pan maen nhw’n cael eu hystyried gyda’u gilydd.Os fydd nam yn stopio, mae’n dal yn bosib ei ystyried i fod yn nam os ydy’r cyflwr yn debygol o ailddigwydd, er enghraifft, epilepsi.
Os ‘dych chi’n dioddef o ganser, HIV neu sglerosis ymledol yng Nhgymru, Lloegr neu’r Alban,’rydych yn cael eich cyfrif fel person ag anabledd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddangos bod gennych nam sydd yn cael effaith sylweddol, andwyol, tymor hir ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd arferol. Byddwch yn cael eich cyfrif yn anabl o’r dyddiad y canfuwyd eich bod yn dioddef o’r cyflwr.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ystyrir bod gennych anabledd os ‘rydych naill wedi eich:
Nid yw'r gyfraith yn cyfrif y canlynol fel anableddau ar hyn o bryd:
Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel anabledd, ewch at wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynglyn ag ystyr y termau nam meddyliol neu gorfforol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr:
Fe all cyflogwyr drin pobl anabl yn llai ffafriol os oes ganddynt ddigon o rhesymau y mae modd eu cyfiawnhau dros wneud hynny, a dim ond os na ellir goresgyn y broblem trwy wneud ‘addasiadau rhesymol’. Er enghraifft, fe allai cyflogwr gyfiawnhau ei gamau os ydyw wedi gwrthod rhoi swydd gosod carpedi i rhywun sydd â phoen cefn difrifol, oherwydd ni fyddai'n gallu cyflawni gofynion hanfodol y swydd.
Dyma enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gallai cyflogwr eu gwneud:
Mae gen i anabledd dysgu. Rydw i newydd gael cyfweliad am swydd newydd. Ond rwy'n nerfus iawn ac yn credu y byddai'n fy helpu petawn yn gallu cael rhywun i ddod i'r cyfweliad gyda mi rhag ofn i mi anghofio dweud rhywbeth pwysig. Maen nhw wedi dweud nad ydw i'n medru gwneud hyn am ei fod yn annheg. A yw hyn yn iawn?
Mae gennych yr hawl i ofyn i gwmni i wneud y newidiadau i chi oherwydd eich anabledd dysgu. Ni ddylent wrthod gadael i chi gael rhywun gyda chi yn eich cyfweliad. Gofynnwch am help i geisio eu perswadio i adael i chi fynd â rhywun gyda chi i'r cyfweliad. Efallai y byddai cynghorydd profiadol yn medru helpu, er enghraifft, yn eich CAB lleol. Neu chwiliwch ar wefan y y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com. Mae ganddynt daflenni sy'n arbennig ar gyfer pobl gydag anawsterau dysgu.
Pan fydd cyflogwyr yn penderfynu a ydyw addasiad yn un rhesymol, fe all ystyried sawl peth, gan gynnwys cost gwneud addasiad a maint y busnes. Os ydych chi eisoes yn y swydd, fe all y cyflogwr hefyd ystyried eich sgiliau a’ch profiad a’r cyfnod yr ydych wedi bod yn gweithio yno.
Os ydych yn anabl ac rydych chi angen newidiadau yn y gwaith er mwyn i chi fedru gwneud eich gwaith, efallai y byddwch yn medru cael help gan Mynediad i Waith. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gan Mynediad i Waith os ydych yn anabl ac yn chwilio am swydd. Mae Mynediad i Waith yn gynllun gan y llywodraeth sy’n gweithio gyda phobl anabl a chyflogwyr i weld pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn i’r person anabl fedru gwneud ei (g)waith. Efallai y byddan nhw hefyd yn medru rhoi peth arian i dalu am y newidiadau. Efallai y bydd Mynediad i Waith yn medru gwneud asesiad o’ch anghenion yn y gwaith, ac yn medru helpu gyda phethau fel offer, addasu safle neu weithiwr cymorth. Fel y person cyflogedig neu’r person sy’n chwilio am waith, eich cyfrifioldeb chi yw cysylltu â Mynediad i Waith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Mynediad i Waith, holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, neu chwiliwch ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch Mynediad i Waith, holwch yn eich swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol neu’r Ganolfan Waith (JobCentre), neu chwiliwch ar wefan NIDirect yn: www.nidirect.gov.uk.
Os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich anabledd, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn ogystal â chael eich trin yn annheg oherwydd anabledd, mae'n bosib y cewch eich trin yn annheg am resymau eraill, oherwydd:
Er enghraifft, rydych yn fenyw anabl ac rydych yn cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail rhyw yn ogystal â gwahaniaethu ar sail anabledd. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg am eich bod yn anabl ac am eich bod yn fenyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi'r ddau fater os ydych yn cwyno.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich oed, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd crefydd neu gred? Yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich hil, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
O dan y gyfraith, mae gan ddefnyddwyr nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau hawliau sylfaenol penodol.
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau defnyddwyr sylfaenol, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau a Prynu gwasanaethau – eich hawliau.
Yn ychwanegol at eich hawliau sylfaenol fel defnyddiwr os ydych yn anabl, mae gennych hawliau eraill hefyd sy’n eich amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau neu’n defnyddio cyfleusterau penodol. Mae hyn yn berthnasol waeth beth yw maint y mudiad neu’r cwmni sy’n darparu’r nwyddau, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau.
Mae enghreifftiau o wasanaethau na ddylai wahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn anabl yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan: westai, banciau, cymdeithasau adeiladu, cyfreithwyr, awdurdodau lleol, asiantaethau cyngor, tafarndai, theatrau, siopau, cwmnïau sy’n ceisio gwerthu dros y ffôn, gorsafoedd rheilffordd, eglwysi, meddygon a llysoedd barn a thrafnidiaeth gyhoeddus.. Nid oes gwahaniaeth a ydyw’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim neu os oes rhaid talu amdano.
Yn gyffredinol, nid oes hawl gan gwmnïau yswiriant wahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn anabl, ond weithiau maen nhw’n gallu eich trin chi’n llai ffafriol os ydynt yn gallu dangos bod hyn yn seiliedig ar wybodaeth ddibynadwy ynghylch risgiau yswiriant.
Mae gen i anabledd corfforol ac rydw i ond yn gallu cerdded pellteroedd byr heb help. Wrth deithio ar awyren, rydw i angen cadair olwyn i fynd o'r ddesg gofnresru i'r lolfa ymadael. Mae'r cwmni awyr wastad yn codi tâl arnaf am y gadair olwyn. A yw hyn yn deg?
Na, yn wir mae'n anghyfreithlon i'r cwmni teithio wneud i chi dalu am gadair olwyn os ydych yn anabl. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghtaifft yn eich CAB lleol, ynghylch sut i drafod gyda nhw cyn i chi archebu eich taith awyr nesaf.
Ni ddylai darparwyr nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau eich trin chi’n llai ffafriol nag y byddent yn trin person sydd ddim yn anabl (onid ydynt yn gallu dangos bod modd cyfiawnhau’r driniaeth). Er enghraifft, os ydyw gwesty’n gwrthod rhoi lle i berson gyda nam ar ei g/chlyw gan ddweud nad ydyw’r gwesty’n addas ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw, yna mae hyn yn driniaeth llai ffafriol.
Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaeth wneud 'addasiadau rhesymol’ i alluogi person anabl i ddefnyddio eu gwasanaethau. Os nad ydynt yn gwneud hyn, mae’n rhaid eu bod nhw’n gallu dangos bod modd cyfiawnhau’r ffaith eu bod wedi methu â gwneud hyn. Mae enghreifftiau o wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu gwybodaeth ar dapiau sain yn ogystal ag yn ysgrifenedig, neu osod ramp i alluogi mynediad mewn cadair olwyn.
Mae’r llywodraeth wedi cynhyrchu Côd Ymarfer ar Wahaniaethu ar sail anabledd. Mae’n ddatganiad o arfer da y gallwch ei ddefnyddio pan yn delio gyda rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau. Os ydych yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol am eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd, mae’n rhaid i’r llys ystyried y Côd wrth ddod i benderfyniad. Mae copi o’r Côd ar gael oddi ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ganllawiau ar ddod ag achos llys ar sail gwahaniaethu ar sail anabledd. Enw’r ddogfen hon yng Nghymru a Lloegr yw ‘Sut alla i wneud cais’, a gallwch ddod o hyd i gopi ar wefan Comisiwn Hawliau Anabledd, www.drc.org.uk.
Enw’r ddogfen hon yn yr Alban yw ‘Gwneud cais o dan adran 3 o’r Ddeddf Gwahaiaethu ar sail Anabledd yn yr Alban 1995’, a gallwch ddod o hyd i gopi ar wefan y Comisiwn Hawliau Anabledd yn www.drc.org.uk.
Os ydych chi’n credu bod darparwr nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod yn anabl, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
O dan y gyfraith, mae gan bob un sy’n prynu neu’n rhentu eiddo hawliau sylfaenol penodol.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru a Lloegr am eich hawliau sylfaenol pan fyddwch chi’n rhentu eiddo, gweler Tenantiaeth sector cyhoeddus a Tenantiaeth sector preifat.
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau sylfaenol pan fyddwch chi’n prynu eiddo, gweler Prynu cartref.
Yn ychwanegol at eich hawliau sylfaenol, os ydych yn anabl, mae gennych hawliau eraill hefyd sy’n eich hamddiffyn yn erbyn gwahaniaethu pan fyddwch chi’n prynu neu’n rhentu eiddo. Fe allai rhywun sy’n rhentu neu’n gwerthu eiddo i chi fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn os:-
Am fwy o wybodaeth ar rhestrau aros am dai neu gofrestrau tai, gweler Dod o hyd i lety.
Mae landlordiaid sy’n gosod ystafelloedd yn eu cartrefi eu hunain yn cael gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau.
Mae’n rhaid i wasanaethau fel cwmnïau gwerthu tai sicrhau bod eu swyddfeydd yn hygyrch, tra bod hynny’n rhesymol i’w wneud.
Os ydych yn anabl, rydych yn medru gofyn i'ch landlord (neu ddarpar-landlord) i wneud rhai newidiadau i'r eiddo, ac i'w polisïau, pan fydd angen gwneud hyn er mwyn i chi fedru byw yn yr eiddo. Gelwir y newidiadau hyn yn addasiadau rhesymol. Mae landlordiaid sy'n gwrthod gwneud addasiadau rhesymol, ac sydd ddim yn medru cyfiawnhau hyn, yn gwahaniaethu yn eich erbyn ac yn torri'r gyfraith.
Mae addasiadau rhesymol yn medru cynnwys:
Fe fydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol gan gynnwys:
Nid oes rhaid i'ch landlord gymryd unrhyw gamau sy'n golygu cael gwared ar nodweddion ffisegol neu eu newid, er enghraifft, gosod ramp concrit, parhaol neu waith sylweddol a fyddai'n niweidio'r eiddo'n ddifrifol.
Ni ddylai eich landlord wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, trwy eich troi allan o'ch cartref neu godi'r rhent oherwydd cost yr addasiad.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu pan yn prynu neu’n rhentu eiddo am eich bod chi’n anabl, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
(Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban yn unig).
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr anabl, na phobl anabl sy’n ceisio dod yn fyfyrwyr. Mae darparwyr addysg yn cynnwys darparwyr addysg bellach, addysg uwch, addysg oedolion a chymunedol. Nid yw hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.
Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr yn y ffyrdd canlynol:
Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr trwy eu trin yn llai ffafriol na myfyrwyr sydd ddim yn anabl, onid ydynt yn gallu cyfiawnhau’r driniaeth yma (gweler isod). Mae hyn yn golygu na ddylai darparwyr addysg:
Er enghraifft, os bydd ysgol yn gwrthod cymryd plentyn sy’n dioddef o epilepsi os nad ydyw’r ffitiau’n stopio, fe fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.
Mewn rhai achosion mae darparwr addysg yn gallu trin myfyriwr anabl yn llai ffafriol os ydyw’n gallu cyfiawnhau hyn. Fe all ysgol gyfiawnhau triniaeth llai ffafriol os ydyw'r driniaeth yn ganlyniad i ffordd o ddethol myfyrwyr a ganiateir. Er enghraifft, os yw plentyn gydag anawsterau dysgu yn gwneud cais i ysgol sy’n dewis ei disgyblion ar sail gallu academaidd ac mae’r plentyn yn methu arholiad mynediad yr ysgol. Yn yr amgylchiadau hyn, fe fydd yr ysgol yn gallu cyfiawnhau peidio â chynnig lle i’r plentyn.
Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr anabl trwy fethu â gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer yr anabledd. Os ydyw'r myfyriwr anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â myfyrwyr sydd ddim yn anabl, caiff hyn ei ystyried yn wahaniaethu. Er enghraifft, mae disgybl byddar sy’n darllen gwefusau o dan anfantais os ydyw athrawon yn siarad tra’n wynebu i ffwrdd i ysgrifennu ar fwrdd gwyn drwy’r amser.
Mae gwneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu cymhorthion arbennig fel offer a dehonglwyr iaith arwyddion.
Mae yna rai amgylchiadau lle y gallai darparwr addysg gyfiawnhau peidio â gwneud addasiad ar gyfer anabledd myfyriwr.
Nid oes rhaid i ysgolion wneud addasiadau rhesymol i adeiladau ac amgylchedd ffisegol yr ysgol. Ond, mae’n rhaid bod gan bob awdurdod addysg lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gynlluniau i wneud eu hysgolion yn fwy hygyrch i ddisgyblion anabl. Mae’n rhaid i ysgolion dan gymorth, ysgolion annibynnol, ac ysgolion arbennig digymorth gynhyrchu eu cynlluniau hygyrchedd eu hunain. Mae’n rhaid i’r cynlluniau fod yn ysgrifenedig ac ar gael i’r cyhoedd.
Mae'n rhaid i ddarparwyr addysg bellach ac addysg uwch wneud addasiadau rhesymol i'w safleoedd i alluogi gwell mynediad i fyfyrwyr anabl. Ond, gellir ystyried materion fel cost wrth benderfynu a yw addasiad yn rhesymol.
Am fwy o wybodaeth am hawliau myfyrwyr anabl mewn ysgol neu mewn addysg ôl-16, cliciwch ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Mae’n rhaid i bob ysgol gydymffurfio gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig lle mae yna ddatganiad ar blentyn. Er enghraifft, mae’n rhaid i ysgol recriwtio cynorthwy-ydd cefnogi dysgu neu ddarparu gwybodaeth mewn Braille neu ar dap sain lle mae datganiad y myfyriwr yn gofyn am hynny. Mewn rhai achosion mae’n rhaid i golegau addysg bellach hefyd gydymffurfio gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig.
Am fwy o wybodaeth yng Nghymru a Lloegr am anghenion addysgol arbennig, gweler Anghenion addysgol arbennig.
Os oes plentyn gennych sydd ag anghenion arbennig, yn Lloegr, efallai y byddwch yn medru gwneud cwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd). Mae’r Tribiwnlys yn cyhoeddi canllawiau ar ddwyn achos o wahaniaethu ar sail anabledd. Maen nhw ar gael ar wefan y Tribiwnlys yn: www.sendist.gov.uk. Mae gan y Tribiwnlys linell gymorth hefyd. Y rhif ffôn yw: 0870 241 2555.
Yng Nghymru, rydych yn medru cwyno i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig i Gymru. Mae gwybodaeth ynghylch apeliau gwahaniaethu ar wefan y Tribiwnlys yn: www.wales.gov.uk.
Yn yr Alban, fe allwch gwyno i Bwyllgor Apêl yr awdurdod addysg lleol.
Am fwy o wybodaeth am hawliau myfyrwyr anabl mewn ysgol neu mewn addysg ôl-16, a'r camau y medrwch eu cymryd os ydych chi am gwyno, cliciwch ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: www.equalityhumanrights.com.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu mewn addysg oherwydd eich anabledd, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn anabl, ni ddylai darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eich trin yn llai ffafriol nag y byddent yn trin person sydd ddim yn anabl (onid ydynt yn medru dangos bod cyfiawnhad dros y driniaeth hon). Mae ganddynt yr un dyletswyddau â darparwyr gwasanaethau eraill (gweler y pennawd Mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau). Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i'r gwasanaeth trafnidiaeth ei hun a hefyd i wasanaethau cysylltiedig eraill, er enghraifft, mewn gorsaf rheilffordd.
Mae yna eithriadau i'r rheolau hyn - nid yw cychod yn dod o dan y rheolau, er bod eu gwasanaethau cysylltiedig yn dod oddi tanynt. Er enghraifft, os ydych yn anabl, ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol yn y porthladd.
Pan fyddwch yn teithio mewn awyren, mae'n rhaid i gwmnïau meysydd awyr ddarparu gwasanaethau sy'n eich galluogi i chi i fynd ar yr awyren, dod oddi ar yr awyren, neu drosglwyddo at awyren arall. Nid ydynt yn cael codi tâl am y gwasanaethau hyn.
Mae yna reolau arbennig hefyd sy'n amddiffyn teithwyr anabl pan fyddant yn teithio mewn awyren yn Ewrop. Nid yw cwmnïau hedfan a chwmnïau teithio yn cael gwrthod derbyn archeb am sedd gan deithiwr anabl. Mae hyn yn berthnasol i bob taith awyr sy'n gadael maes awyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac i bob taith awyr sy'n cyrraedd gwlad yn yr UE ar awyren cwmni hedfan o'r UE.
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr trafnidiaeth, ynghylch arfer da wrth wasanaethu cwsmeriaid anabl. Mae'r canllawiau ar gael oddi ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: www.equalityhumanrights.com.
Am wybodaeth bellach am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl, gweler Opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl.
Os ydych yn anabl, sicrhewch eich bod yn cael yr holl help sydd ar gael i chi. Er enghraifft, efallai bod hawl gennych i fudd-daliadau. Efallai bod anghenion gofal gennych y bydd y cyngor yn medru eich helpu gyda nhw. Mae yna gonsesiynau ar gludiant a pharcio i bobl anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Budd-daliadau i bobl syn sâl neu'n anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gan y cyngor, gweler Gofal cymunedol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau ar gludiant a pharcio, gweler Opsiynau cludiant i bobl anabl.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) n gorff cenedlaethol, a allai fod yn gallu rhoi cyngor i chi ar Wahaniaethu ar sail anabledd. Efallai hefyd y bydd yn gallu eich helpu i gymryd camau pellach, lle mae angen. Mae eu gwybodaeth ar gael mewn sawl iaith gymunedol, mewn iaith arwyddion ac mewn iaith hawdd ei deall. Dyma eu manylion cyswllt:-
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:
Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn:0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/
The Equality Commission for Northern Ireland
Equality House
7-9 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DP
Ffôn: 028 9050 0600
Ffôn Testun: 028 9050 0589
Llinell Ymholiadau: 028 90 890 890
Ffacs: 028 9024 8687
E-bost: information@equalityni.org
Gwefan: www.equalityni.org
Efallai y bydd y Comisiwn yn medru eich helpu chi i gymryd camau pellach ynghylch Gwahaniaethu ar sail anabledd trwy archwilio honiadau o wahaniaethu, gwneud cais i’r llys am orchymyn i atal gwahaniaethu, a thrwy drefnu (mewn rhai achosion) cynrychiolaeth cyfreithiol. Fe all y Comisiwn hefyd ddarparu gwasanaeth cymrodedd ar eich cyfer os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu wrth gael mynediad at nwyddau, gwasanaethau neu adeiladau. Ar gyfer achosion yn ymwneud â gwahaniaethu mewn cyflogaeth, mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Labour Relations Agency) yn darparu gwasanaeth cymrodedd.
Ar wefan y llywodraeth yn www.direct.gov.uk/DisabledPeople mae yna lawer o wybodaeth i bobl anabl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Er enghraifft, mae yna wybodaeth ar gyflogaeth, opsiynau tai, addysg a hawliau ac oblygiadau tai.
Ar wefan y llywodraeth yn www.nidirect.gov.uk mae yna lawer o wybodaeth i bobl anabl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Er enghraifft, mae yna wybodaeth ar gyflogaeth, opsiynau tai, addysg, hawliau tai, iechyd a chymorth ariannol.
Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchwyd gan Advicenow. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ynghylch gwahaniaethu. Rhowch glic ar www.isthatdiscrimination.org.uk.