Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r ddogfen hon yn ymdrin â gostyngiadau treth. Sut bynnag, nid yw’n sôn am ostyngiadau treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith neu ostyngiadau treth ar gyfer pobol hunan gyflogedig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r prif fathau o ostyngiadau treth y gallwch chi eu hawlio fel gweithiwr cyflogedig, gweler gwefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gostyngiadau treth ar gyfer pobol hunan gyflogedig, gweler gwefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.
Fel trethdalwr, os ydych chi’n gwario arian ar rai treuliau, gellir didynnu’r swm yr ydych yn ei wario o’ch cyfanswm incwm ac felly fe fyddwch yn talu llai o dreth. Fe allwch chi hawlio gostyngiadau treth yn ychwanegol at unrhyw lwfansau treth personol y mae gennych hawl iddynt. Fe ellir eu hôl-ddyddio am i fyny at bedair blynedd yn y rhan fwyaf o achosion.
Fe allwch chi gael gostyngiad treth ar gyfraniadau pensiwn yr ydych yn eu talu i bensiwn cwmni (galwedigaethol), pensiwn personol neu bensiwn budd-ddeiliad, cyhyd â bod HMRC wedi cymeradwyo’r cynllun pensiwn.
Pan fyddwch chi’n ymddeol, fe allwch chi ddewis cymryd rhan o’ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gostyngiadau treth ar daliadau pensiwn, gweler gwefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Os ydych chi’n berchen-ddeiliad neu’n denant ac yn rhentu ystafelloedd wedi’u dodrefnu yn eich tŷ, fe allwch ddewis derbyn swm arbennig o incwm yn ddi-dreth. Gelwir hyn yn gynllun rhentu ystafell. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chynllun rhentu ystafell ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Os nad yw’r cynllun rhentu ystafell yn berthnasol i chi, fe allwch chi o hyd hawlio gostyngiad treth ond o dan system wahanol. Fe allwch chi hawlio treuliau am gynnal a chadw eiddo sy’n cael ei osod fel gostyngiad yn erbyn treth.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am hyn ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Fe gewch chi ostyngiad treth ar yswiriant bywyd dim ond os brynoch chi’r yswiriant ar neu cyn 13 Mawrth 1984. Fe gewch chi’r gostyngiad yn y ffynhonnell trwy dalu taliad premiwm net i’r cwmni yswiriant.
Efallai y gallwch chi gael gostyngiadau treth ar daliadau i bobol eraill, er enghraifft, rhai taliadau cynhaliaeth a thaliadau i elusennau.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau cynhaliaeth ar wefan HMRC yn: www.hmrc.gov.uk.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â rhoi arian i elusen ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ynglŷn â rhoi arian i elusen ar wefan NIDirect yn: www.nidirect.gov.uk.
Mae’n rhaid i chi hawlio rhai gostyngiadau trwy ysgrifennu at eich swyddfa dreth, er bod y mwyafrif yn awtomatig. Nid oes rhaid i chi gymryd camau i hawlio gostyngiadau treth awtomatig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â hawlio gostyngiadau treth, gweler gwefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.