Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

A ydyw fy nghyflogwr yn medru fy ngorfodi i ad-dalu gordaliad cyflog?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Yn ôl y gyfraith, mae eich cyflogwr ond yn cael tynnu rhai didyniadau penodol o'ch cyflog. Mae'n medru tynnu treth ac yswiriant gwladol (YG) ac hefyd unrhyw symiau eraill yr ydych wedi eu caniatau yn ysgrifenedig ymlaen llaw neu sydd wedi eu caniatau yn eich cytundeb cyflogaeth.

Fodd bynnag, os talwyd gormod o gyflog i chi, yn wirioneddol, yna ni fydd eich cyflogwr angen eich cytundeb i adennill y swm yma. Mae'n medru tynnu'r arian o'ch cyflog heb eich caniatâd. Mae yna rai eithriadau i'r rheol hon, ac mae yna reolau arbennig ynghylch tynnu arian o gyflog gweithwyr siop.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â thynnu arian o gyflog, gan gynnwys y rheolau ynghylch cyflog gweithwyr siop, gweler Hawliau i gyflog. Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler hefyd Mae’r Cyflogwr yn dal eich cyflog yn ôl yn y Taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Os tynnwyd swm o'ch cyflog ac nid ydych yn cytuno â'r didyniad, er eghraifft, i adennill gordaliad cyflog, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch gilc ar (New window) CAB agosaf.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth: