Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae hawl gennych i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau y flwyddyn. Gelwir hyn yn wyliau statudol.
I gyfrifo sawl diwrnod o wyliau statudol fedrwch chi eu cymryd bob blwyddyn, mae angen i chi luosi 5.6 gyda’r nifer o ddiwrnodau yr ydych yn eu gweithio mewn wythnos.
Er enghraifft:
Uchafswn y gwyliau statudol â chyflog fedrwch chi eu cael yw 28 diwrnod. Mae hyn yn berthnsaol hyd yn oed os ydych yn gweithio fwy na phum diwrnod yr wythnos.
Efallai bod eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi mwy o wyliau na hyn i chi. Mae gan weithwyr rhan-amser hawl i wyliau ar gyfradd pro rata.
Nid oes gan rai gweithwyr hawl awtomatig i wyliau statudol (er enghraifft aelodau o'r lluoedd arfog neu'r heddlu) ac mae'n rhaid i'r gweithwyr yma ddibynnu ar eu cytundebau cyflogaeth ar gyfer unrhyw hawl i wyliau.
Bydd eich cyflogwr yn penderfynu pryd mae'r flwyddyn wyliau yn dechrau ac yn gorffen – efallai y bydd yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn hyd 5 Ebrill y flwyddyn nesaf, neu efallai y bydd yn rhedeg o 1 Ionawr hyd 31 Rhagfyr. Os yw’ch blwyddyn wyliau’n cynnwys amser cyn 1 Ebrill 2009, fe fydd eich hawl yn llai. Caiff ei gyfrifo ar sail pro rata - 4.8 wythnos ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill 2009 a 5.6 wythnos ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2009.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â'ch hawl i wyliau â chyflog, gweler Gwyliau a chyflog yn ystod gwyliau.