Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy nghytundeb yn y gwaith yn dweud fy mod yn gorfod ymddeol yn 60. Ydyn nhw'n medru fy ngorfodi i ymddeol?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Nid oes oed ymddeol arferol mwyach.

Os yw’ch cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi ymddeol ar oed penodol, mae eich cyflogwr ond yn medru gwneud i chi ymddeol unwaith fyddwch chi wedi cyrraedd yr oed hwn os yw’n medru cyfiawnhau hynny. Os nad yw’n medru ei gyfiawnhau, mae hyn yn medru bod yn wahaniaethu ar sail oed ac, o bosib, yn ddiswyddiad annheg hefyd, a dylech gael cyngor pellach.

Er enghraifft, os oes swydd gennych sy’n gofyn am dipyn o ymdrech yn gorfforol. ac mae’ch cyflogwr am wneud i bawb sy’n gwneud y gwaith ymddeol ar ôl cyrraedd 60, rhaid iddo gyfiawnhau hyn, neu fe fydd yn wahaniaethu ar sail oed. Os yw’n medru dangos y byddai cadw pobl dros 60 yn y swyddi hynny yn achosi problemau go iawn i’r busnes, yna efallai na fydd hyn yn wahaniaethu ar sail oed.

Ond, os dechreuwyd cymryd camau i wneud i chi ymddeol cyn 5 Ebrill 2011, a chithau wedi cytuno ar ddyddiad i orffen gwethio gyda’ch cyflogwr, fe fydd yn dal i fedru gwneud i chi ymddeol yn 65. Mae hyn am fod eich cyflogwr yn cael dilyn y Weithdrefn Ymddeol Ddiofyn, a oedd yn gorfodi pobl i ymddeol yn 65. Nid yw’r weithdrefn hon yn berthnasol mwyach i unrhyw un sy’n gwneud cynlluniau i ymddeol ar 6 Ebrill 2011 neu ar ôl y dyddiad yma.

Os ydych chi’n credu y gallech gael eich gorfodi i ymddeol a chithau’n aelod o undeb llafur, siaradwch â’ch undeb llafur ynghylch sut i drafod gyda’ch cyflogwr neu siaradwch â chynghorydd profiadol.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich oed, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar (New window) CAB agosaf. Neu cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Comisiwn Cydraddoldeb yn: (New window) www.equalityni.org.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth: