Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Er bod llawer o weithwyr yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith ar wyl y banc a gwyliau cyhoeddus, nid oes rhaid i'ch cyflogwr eich caniatáu chi i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar y diwrnodau yma, yn ôl y gyfraith. Ac os ydyw'n rhoi'r amser i ffwrdd i chi, nid oes rhaid iddo eich talu chi amdano. Fodd bynnag, mae'n bosib bod eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi'r hawl i chi i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar wyl y banc a gwyliau cyhoeddus. Os yw hyn yn wir, fe fydd hefyd yn nodi a fyddwch chi'n cael cyflog am yr amser i ffwrdd.
Er bod yna rai eithriadau, mae gan y mwyafrif o weithwyr yr hawl i gymryd 5.6 wythnos o wyliau gyda chyflog i ffwrdd o'r gwaith. Gelwir hyn yn wyliau statudol.
Er mwyn cyfrifo sawl diwrnod o wyliau statudol gyda chyflog fedrwch chi eu cymryd mewn blwyddyn, mae angen i chi luosi 5.6 wrth y nifer o ddiwrnodau yr ydych yn eu gweithio mewn wythnos.
Er enghraifft:
Uchafswm y gwyliau statudol gyda chyflog y mae hawl gennych iddynt yw 28 diwrnod mewn un blwyddyn wyliau. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn gweithio fwy na phum diwrnod yr wythnos.
Os yw’ch cyflogwr yn rhoi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi, fe fyddan nhw’n cyfrif tuag at eich gwyliau statudol, onid yw’ch cytundeb cyflogaeth yn nodi’n benodol eich bod yn cael gwyliau banc neu gyhoeddus ar ben eich gwyliau statudol.
Yng Nghymru a Lloegr, mae yna wyth gŵyl banc a chyhoeddus. Yn yr Alban, mae yna naw gwyl banc a chyhoeddus. Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna ddeg gŵyl banc a chyhoeddus.
Efallai bod eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi gwyliau banc a chyhoeddus i ffwrdd i chi ar ben eich gwyliau statudol. Er enghraifft, os ydych yn gweithio bum diwrnod yr wythnos ac yn cael 28 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, fe fyddech yn cael 28 diwrnod ac, yng Nghymru a Lloegr, wyth gŵyl banc a chyhoeddus. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 36 diwrnod. Dylai’ch cytundeb nodi p’un ai eich bod yn cael eich talu am y gwyliau banc/cyhoeddus ai peidio.
Enghraifft 1: Rydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos. Mae eich cytundeb yn dweud bod hawl gennych i 28 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn. Mae hefyd yn dweud bod hawl gennych i gymryd wyth gwyl banc a chyhoeddus, a chael eich talu amdanynt, ar ben y diwrnodau hyn. Mae hyn yn golygu, yng Nghymru a Lloegr, y byddwch yn cael 36 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn (sy'n fwy na'ch gwyliau statudol).
Enghraifft 2: Rydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos. Mae eich cytundeb yn dweud bod hawl gennych i gyfanswm o 28 diwrnod o wyliau gyda chyflog bob blwyddyn. Felly, nid oes hawl gennych i gymryd gwyliau banc a chyhoeddus ar ben y 28 diwrnod yma, Os ydych am eu cymryd i ffwrdd, fe fydd yn rhaid i chi eu cymryd allan o'ch 28 diwrnod i ffwrdd. Felly, mae gennych 20 diwrnod o wyliau ar ôl ac fe fyddwch yn medru dewis pryd i'w cymryd.
Enghraifft 3: Rydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos. Nid yw eich cytundeb yn dweud unrhyw beth am wyliau o gwbl. Mae gennych yr hawl i 28 diwrnod o wyliau statudol gyda chyflog bob blwyddyn ond nid oes hawl gennych i gymryd gwyliau banc a chyhoeddus nac i gael eich talu amdanynt,. Os yw'ch cyflogwr yn gadael i chi eu cymryd i ffwrdd, maen nhw'n dod allan o'ch 28 ddiwrnod o wyliau statudol gyda chyflog, onid ydych chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar drefniadau gwahanol.
Hyd yn oes od nad yw'ch cytundeb yn dweud unrhyw beth am wyliau banc a chyhoeddus, efallai y bydd gennych yr hawl i'w cymryd i ffwrdd o hyd, yn ychwanegol at eich gwyliau statudol, os ydyw'n arferol i weithwyr eraill yn eich gweithle chi i gael y diwrnodau hyn i ffwrdd yn ychwanegol at eu gwyliau statudol. Os ydych yn credu eich bod yn y sefyllfa yma, mynnwch gyngor arbenigol ynghylch yr hyn ddylech chi ei wneud.
Mae yna reolau arbennig i weithwyr siop yng Nghymru a Lloegr sy’n gweithio mewn siopau mawr (dros 280 metr sgwâr). Os ydych yn gweithio yn un o’r siopau hyn, yna mae’n rhaid iddyn nhw roi Dydd Nadolig i ffwrdd i chi, waeth pa ddiwrnod ydyw. Ond, fe fydd p’un ai eich bod yn cael eich talu ai peidio yn dibynnu ar eich cytundeb cyflogaeth.
Am fwy o wybodaeth am eich hawl i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith gyda chyflog, gweler Faint o wyliau â chyflog fedrai eu cymryd yn Gwyliau a chyflog yn ystod gwyliau.
Os nad ydych yn siwr a oes gennych yr hawl i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith ar wyl y banc a gwyliau cyhoeddus, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae'r dyddiadau disgwyliedig ar gyfer gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2011 a 2012 wedi'u nodi yn y tablau isod. Pan fydd gŵyl banc neu gyhoeddus ar Ddydd Sadwrn neu Ddydd Sul, rhoddir diwrnod yn ei lle, fel arfer y Dydd Llun canlynol. Er enghraifft, yn 2011, mae Dydd Nadolig ar Ddydd Sul, 25 Rhagfyr, ac felly mae gŵyl banc yn ei le ar Ddydd Llun, 26 Rhagfyr.
| 2011 | 2012 | |
| Dydd Calan | 3 Ionawr* | 2 Ionawr* |
| ener y Groglith | 22 Ebrill | 6 Ebrill |
| Dydd Llun y Pasg | 25 Ebrill | 9 Ebrill |
| Priodas Frenhinol | 29 Ebrill | - |
| Gwyl Banc Dechrau Mai | 2 Mai | 7 Mai |
| Gwyl Banc y Gwanwyn | 30 Mai | 4 Mehefin* |
| Jiwbili Diemwnt y Frenhines | 5 Mehefin | |
| Gwyl Banc yr Haf | 29 Awst | 27 Awst |
| Dydd Nadolig | 26 Rhagfyr* | 25 Rhagfyr |
| Gwyl San Steffan | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr |
* diwrnod yn lle
| 2011 | 2012 | |
| Dydd Calan (neu yn lle Ionawr 1) | 3 Ionawr* | 2 Ionawr* |
| Dydd San Padrig | 17 Mawrth | 19 Mawrth* |
| Dydd Gwener y Groglith | 22 Ebrill | 6 Ebrill |
| Dydd Llun y Pasg | 25 Ebrill | 9 Ebrill |
| Priodas Frenhinol | 29 Ebrill | - |
| Gwyl y Banc Dechrau Mai | 2 Mai | 7 Mai |
| Gwyl Banc y Gwanwyn | 30 Mai | 4 Mehefin* |
| Jiwbili Diemwnt y Frenhines | 5 Mehefin | |
| Brwydr y Boyne (Diwrnod y Gwyr Oren) | 12 Gorffennaf | 12 Gorffennaf |
| Gwyl Banc yr Haf | 29 Awst | 27 Awst |
| Dydd Nadolig | 26 Rhagfyr* | 25 Rhagfyr |
| Gwyl San Steffan | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr |
* diwrnod yn lle
Mae'r dyddiadau disgwyliedig ar gyfer gwyl y banc yn yr Alban ar gyfer 2011 a 2012 wedi eu nodi isod. Maen nhw'n cynnwys Ionawr 1 a 2. Yn ychwanegol at y rhain, mae yna nifer o wyliau cyhoeddus hefyd yn yr Alban sy'n amrywio yn ôl ble rydych yn byw ac yn gweithio.
Pan fydd gŵyl banc neu gyhoeddus ar Ddydd Sadwrn neu Ddydd Sul, rhoddir diwrnod yn lle, fel arfer y Dydd Llun canlynol. Er enghraifft, yn 2011, mae Dydd Nadolig ar Ddydd Sul, 25 Rhagfyr, ac felly mae gŵyl banc yn lle ar Ddydd Llun, 26 Rhagfyr.
Nid yw busnesau ac ysgolion, o angenrheidrwydd, ar gau ar wyliau banc yr Alban, ac mae banciau’r Alban yn dilyn gwyliau banc Cymru a Lloegr am resymau busnes. Mae mwy o wybodaeth ynghylch gwyliau banc yr Alban ar wefan llywodraeth yr Alban yn: www.scotland.gov.uk.
| 2011 | 2012 | |
| Dydd Calan (neu yn lle Ion 1) | 3 Ionawr* | 2 Ionawr* |
| Y Flwyddyn Newydd (neu yn lle Ion 2) | 4 Ionawr* | 3 Ionawr |
| Dydd Gwener y Groglith | 22 Ebrill | 6 Ebrill |
| Priodas Frenhinol | 29 Ebrill | - |
| Gwyl y Banc Dechrau Mai | 2 Mai | 7 Mai |
| Gwyl Banc y Gwanwyn | 30 Mai | 4 Mehefin* |
| Jiwbili Diemwnt y Frenhines | 5 Mehefin | |
| Gwyl Banc yr Haf | 1 Awst | 6 Awst |
| Gŵyl Banc Dydd Sant Andrew | 30 Tachwedd | 30 Tachwedd |
| Dydd Nadolig | 26 Rhagfyr* | 25 Rhagfyr |
| Gwyl San Steffan | 27 Rhagfyr* | 26 Rhagfyr |
* diwrnod yn lle
Weithiau, mae'r llywodraeth yn rhoi gwyl y banc neu wyl gyhoeddus ychwanegol er mwyn coffau achlysur arbennig.