Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Help i bobl ar incwm isel

Os ydych chi ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael budd-dâl i'ch helpu gyda’ch costau byw, eich rhent a’ch Treth Gyngor, neu’ch Trethi yng Ngogledd Iwerddon. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i help gyda chostau eraill fel presgripsiynau.

Mae'r wybodaeth hon yn sôn am gymorth i bobl ar incwm isel. Nid yw'n cynnwys cymorth ar gyfer plant ac nid yw'n cynnwys Credyd Treth Gwaith, sy'n benodol ar gyfer pobl sy'n gweithio.

Am fwy o wybodaeth ar help i bobl sy'n gweithio, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio. Am wybodaeth ar gymorth ar gyfer pant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

Efallai y gallwch gael help gyda'ch costau byw bob dydd trwy Gymhorthdal Incwm. Os oes morgais gennych neu fathau eraill o gostau tai, efallai hefyd y bydd Cymhorthdal Incwm yn medru helpu gyda'r rhain. Ond, os ydych yn hŷn nag oed pensiwn, ni allwch gael Cymhorthdal Incwm, ond efallai y gallwch hawlio Credyd Pensiwn yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os ydych yn fenyw, oed pensiwn y wladwriaeth yw eich oed pensiwn, ac os ydych yn ddyn, oed pensiwn y wladwriaeth yw oed pensiwn y wladwriaeth menyw a anwyd ar yr un diwrnod â chi.

Mae yna gyfrifydd i’ch helpu i gyfrifo eich oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gyda chostau sy'n codi unwaith-yn-unig gan y Gronfa Gymdeithasol, a help gyda chostau iechyd, addysg a chyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y Gronfa Gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol. Am wybodaeth ynghylch costau eraill os ydych ar incwm isel, gweler Help gyda chostau iechyd ac addysg a chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Help gyda chostau byw gan Gymhorthdal Incwm

Budd-dâl yw Cymhorthdal Incwm a delir i rhai grwpiau penodol o bobl sydd heb ddigon o arian i fyw. Mae yna brawf moddion ar gyfer y budd-dâl sy'n golygu y caiff unrhyw arian sydd gennych ei ystyried wrth benderfynu faint o Gymhorthdal Incwm i'w roi i chi. Ni fyddwch yn ei gael am eich bod chi ar incwm isel yn unig - rhaid bod eich incwm wythnosol yn is na lefel penodol, a rhaid eich bod yn un o grwp o bobl sy'n medru cael budd-dâl heb orfod chwilio am waith.

Mae Cymhorthdal Incwm yn fudd-dâl anghyfrannol. Ystyr hyn yw nad ydyw'n dibynnu ar gyfraniadau yswiriant gwladol. Fe allwch gael Cymhorthdal Incwm hyd yn oed os nad ydych wedi talu yswiriant gwladol o gwbl, ond fe fydd angen rhif yswiriant gwladol arnoch i wneud cais.

Mae Cymhorthdal Incwm yn fudd-dâl pwysig, oherwydd unwaith yr ydych yn ei gael, fe allwch hefyd gael uchafswm Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor yn awtomatig, a chymorth o fath arall, er enghraifft, gyda chostau iechyd.

Nôl i’r brig


Pwy sy'n medru cael Cymhorthdal Incwm

Eich oed

I hawlio Cymhorthdal Incwm rhaid eich bod chi'n iau nag oed pensiwn y wladwriaeth, a, fel arfer, rhaid eich bod yn 18 neu'n hyn. Os ydych yn hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth, ni allwch gael Cymhorthdal Incwm ond fe allwch hawlio Credyd Pensiwn yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os ydych yn fenyw, oed pensiwn y wladwriaeth yw eich oed pensiwn, ac os ydych yn ddyn, oed pensiwn y wladwriaeth yw oed pensiwn y wladwriaeth menyw a anwyd ar yr un diwrnod â chi.

Mae yna gyfrifydd i’ch helpu i gyfrifo eich oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Ni all y rhan fwyaf o bobl ifanc 16 ac 17 oed hawlio Cymhorthdal Incwm. Os ydych yn 16 neu'n 17 oed, efallai y byddwch yn medru cael Cymhorthdal Incwm os ydych:-

  • â phlentyn neu'n feichiog
  • ar fathau penodol o gyrsiau hyfforddiant.

Fe fydd eich hawl i Gymhorthdal Incwm i chi hefyd yn dibynnu a ydych chi'n dal i fod yn yr ysgol neu'n byw gyda'ch rhieni. Fel arfer, ni fydd pobl ifanc 16 neu 17 oed sydd wedi bod mewn gofal yn medru cael Cymhorthdal Incwm, ond mae yna eithriadau. Fe all rhieni unigol sydd wedi bod mewn gofal gael y budd-dâl.

Os ydych yn 16 neu'n 17 ac eisiau cyngor am hawlio budd-daliadau, neu os ydych yn 16 neu'n 17 ac wedi bod mewn gofal, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Rydych chi'n byw yn y Deyrnas Gyfunol

Rhaid eich bod chi'n byw yn y DG i hawlio Cymhorthdal Incwm. Os ydych yn dod o dramor neu wedi dod i fyw yn y DG yn ddiweddar, efallai y cewch anhawster wrth geisio hawlio Cymhorthdal Incwm, gan ddibynnu ar eich statws mewnfudo.

Os nad ydych yn siwr am eich hawl i hawlio budd-daliadau, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ddim yn gweithio neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos

I gael Cymhorthdal Incwm, rhaid eich bod chi naill ai ddim yn gweithio o gwbl neu'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos. Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid bod eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos. Os ydyw'n gweithio 24 awr neu fwy, ni fyddwch yn medru cael Cymhorthdal Incwm. Os yw'ch partner yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm,, fe fydd hyn hefyd yn eich atal rhag cael Cymhorthdal Incwm.

I ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch

Efallai y byddwch yn medru cael peth Cymhorthdal Incwm os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ac yn cael Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr.

Eich incwm a'ch cyfalaf

Rhaid bod eich incwm a'ch cyfalaf yn llai na swm penodol (gweler y pennawd Faint o Gymhorthdal Incwm fedrwch chi ei gael).

Ddim yn gorfod chwilio am waith

Fe allwch gael Cymhorthdal Incwm os ydych mewn grwp o bobl sydd ddim yn gorfod bod ‘ar gael i weithio’. (Gweler y pennawd Pwy sydd ddim yn gorfod bod ar gael i weithio)

Cyfweliadau gorfodol

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad gorfodol fel rhan o'ch cais am fudd-dâl, ac mewn rhai achosion, os oes gennych bartner sydd ddim yn gweithio, fe fydd yn gorfod cael cyfweliad hefyd (gweler y pennawd Sut mae'ch cais yn cael ei drafod).

Nôl i’r brig


Pwy sydd ddim yn gorfod bod ar gael i weithio

I gael Cymhorthdal Incwm, rhaid eich bod chi'n berson sydd ddim yn gorfod chwilio am waith er mwyn cael budd-dâl. Mae hyn yn golygu y gallwch hawlio Cymhorthdal Incwm yn lle Lwfans Ceisio Gwaith a fyddai'n gofyn i chi gofrestru a chwilio am waith. (Efallai y gallwch ddewis rhwng hawlio Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith os fyddai'n well gennych chwilio am waith.)

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Nid oes rhaid i chi fod ar gael i weithio os ydych yn:

  • rhiant unigol sy’n magu plentyn o dan 7 ar eich pen eich hun. Mewn rhai achosion, nid oes rhaid i chi fod ar gael i weithio ac fe fyddwch yn medru parhau i gael cymhorthdal incwm, am gyfnod penodol, os yw’ch plentyn yn hŷn ha hyn
  • cael Lwfans Cynhaliwr
  • gofalu am eich partner, sy’n dâl dros dro
  • gofalu am blentyn dan 20 yr ydych yn gyfrifol amdano/i ac sy’n sâl dros dro
  • ddim yn medru gweithio am eich bod yn feichiog. Efallai y bydd rhai menywod beichiog yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Mae yna gategorïau eraill o bobl sydd ddim yn gorfod bod ar gael i weithio. Os nad ydych yn dod o dan un o’r categorïau a restrir yma, ond nid oes unrhyw incwm gennych neu rydych chi ar incwm isel, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Y rheiny a allai gael problemau wrth geisio hawlio Cymhorthdal Incwm

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y cewch drafferth wrth geisio am Gymhorthdal Incwm. Fe allai hyn fod am eich bod chi mewn grwp sydd fel arfer wedi’i eithrio rhag y budd-dâl, am nad ydych yn medru cwrdd ag amodau’r budd-dâl neu rydych chi’n cael trafferth profi pwy ydych chi. Dylech ofyn am gyngor os ydych:

  • yn 16 neu’n 17 mlwydd oed
  • ar streic
  • yn dod o dramor
  • dan amheuaeth o fyw gyda phartner. Mae hyn yn berthnasol i bartneriaid lesbiaidd a hoyw yn ogystal â phartneriaid gwahanrywiol
  • yn byw mewn cartref gofal neu hostel
  • yn ddigartref.

Os ydych yn un o’r categorïau hyn, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Ar gyfer pwy fedrwch chi gael Cymhorthdal Incwm

Fe allwch hawlio Cymhorthdal Incwm i chi’ch hun ac i bartner sy’n byw gyda chi. Os ydych yn cyflwyno cais am Gymhorthdal Incwm ac mae gennych blant, dylech hawlio Credyd Treth Plant hefyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

Hawlio fel un o bâr

Os ydych yn byw gyda'ch partner, dim ond un ohonoch sy’n medru hawlio Cymhorthdal Incwm. Mae hyn yn berthnasol i barau gwahanrywiol a pharau o'r un rhyw, waeth a ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae pwy bynnag sy’n hawlio yn hawlio ar gyfer y ddau ohonoch ac mae hyn yn golygu y bydd incwm a chyfalaf eich partner yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch rhai chi. Fe allwch newid y cais fel bod eich partner yn hawlio yn eich lle chi, ond fe fydd hyn ond yn bosib os nad ydyw’n gorfod bod ar gael i weithio (gweler y pennawd Pwy sydd ddim yn gorfod bod ar gael i weithio). Os yw hyn yn wir efallai y bydd yn rhaid iddynt hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os mai nhw sy’n cyflwyno’r cais. Mewn rhai achosion, hyd yn oed os nad eich partner sy’n hawlio budd-dâl fe fydd yn rhaid iddo/iddi fynychu cyfweliad fel rhan o’ch cais chi.

Nôl i’r brig


Faint o Gymhorthdal Incwm fedrwch chi ei gael

Eich cyfalaf

Os oes gennych fwy nag £16,000 mewn cyfalaf, ni fedrwch gael Cymhorthdal Incwm.

Mae cyfalaf yn golygu unrhyw beth a allai fod yn ffynhonnell incwm i chi. Mae’n cynnwys cynilion, eiddo a thir. Ond, mae rhai mathau o gyfalaf yn cael eu hanwybyddu, er enghraifft, eich eiddo personol a’r cartref yr ydych yn berchen arno ac yn byw ynddo. Mae rhai mathau penodol eraill o eiddo hefyd yn cael eu hanwybyddu. Am fanylion llawn y mathau eraill o eiddo sy’n cael eu hanwybyddu, dylech gael cyngor.

Fe fydd cyfalaf o dros £6,000 yn effeithio ar faint o Gymhorthdal Incwm yr ydych yn ei gael. Fe fyddwch yn cael eich trin fel eich bod yn cael £1 yr wythnos am bob £250 o gyfalaf (neu ran o £250) uwchben y terfyn o £6,000. Mae hyn yn berthnasol waeth faint o arian yr ydych yn ei gael mewn gwirionedd o’ch cyfalaf, os o gwbl.

Os ydych chi neu’ch partner yn byw mewn cartref gofal, ni ddylai fod gennych fwy na £16,000 mewn cyfalaf. Cymerir bod gennych incwm o unrhyw gyfalaf dros £10,000. Os ydych yn berchen ar eiddo lle roeddech yn arfer byw neu lle rydych yn byw fel arfer, fe allai hyn gael ei gynnwys yn eich cyfalaf.

Os ydych yn byw cartref gofal ac yn poeni am y ffordd y mae eich eiddo yn cael ei ystyried at ddibenion Cymhorthdal Incwm, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Eich incwm a’r swm sydd angen arnoch i fyw

Eich incwm yw’r arian sy’n dod i mewn bob wythnos. Fe allai hyn fod o fudd-daliadau eraill, enillion o waith rhan amser, incwm o gyfalaf (gweler y pennawd Eich cyfalaf) neu unrhyw arian arall sy’n dod i mewn gennych. Fe fydd eich incwm yn effeithio ar eich Cymhorthdal Incwm er mae rhai mathau o incwm yn cael eu diystyru. Mae hyn yn golygu nad ydyw rhai mathau o incwm yn cael eu hystyried, er enghraifft cynhaliaeth plant. Caiff mathau eraill o incwm eu diystyru’n rhannol fel mai dim ond rhan ohono sy’n effeithio ar eich budd-dâl.

Caiff eich incwm wythnosol ei gymharu at lefel wythnosol sefydlog, sef y swm sydd ei angen arnoch i fyw at ddibenion Cymhorthdal Incwm, yn ôl y Llywodraeth. Gelwir hyn yn ‘swm perthnasol’ (applicable amount) ac mae’n llai nag y mae angen ar y rhan fwyaf o bobl mewn gwirionedd ar gyfer eu costau byw bob dydd. Y gwahaniaeth rhwng y swm perthnasol a’ch incwm yw swm y Cymhorthdal Incwm sy’n daladwy. Fe fydd y swm perthnasol yn amrywio ar gyfer pob person oherwydd mae’n cynnwys elfennau gwahanol sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau chi. Caiff cyfraddau’r elfennau gwahanol eu gosod bob blwyddyn ac, fel arfer, maen nhw’n codi bob mis Ebrill.

Fe fyddwch chi ond yn gallu hawlio Cymhorthdal Incwm os yw’ch incwm yn llai na’ch swm perthnasol chi. Os nad oes incwm gennych, neu os caiff eich holl incwm ei ddiystyru, fe fyddwch yn cael Cymhorthdal Incwm ar lefel eich swm perthnasol chi. Fel arall, fe fydd lefel eich Cymhorthdal Incwm yr un peth â’ch swm perthnasol chi tynnu eich incwm. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw incwm ychwanegol sy’n dod i mewn bob wythnos, os caiff ei ystyried at ddibenion Cymhorthdal Incwm, yn gostwng swm eich budd-dâl.

Mae’r swm perthnasol yn cynnwys lwfans personol, sef swm sylfaenol ar eich cyfer chi a’ch partner os oes un gennych, premiymau sy’n dibynnu ar eich amgylchiadau ac, mewn rhai achosion, costau tai a morgais neu log benthyciad cartref.

Fe fyddwch yn medru darganfod faint o Gymhorthdal Incwm fedrech chi ei gael ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, fe fyddwch yn medru darganfod faint o Gymhorthdal Incwm fedrech chi ei gael ar wefan NIDirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk

Lwfans personol

Fe fydd eich lwfans personol yn dibynnu ar eich oed, a ydych yn byw gyda phartner, ac a ydych yn rhiant unigol.

Premiymau

Ychwanegir premiymau at eich swm perthnasol os ydych mewn amgylchiadau penodol lle ystyrir bod gennych gostau byw uwch. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn premiwm oherwydd, er enghraifft, mae'ch partner yn hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth, rydych chi neu eich partner yn anabl, neu rydych chi’n gofalu am berson sâl neu anabl.

Os ydych chi neu’ch partner yn fenyw, oed pensiwn y wladwriaeth yw eich oed pensiwn. Os ydych chi neu’ch partner yn ddyn, oed pensiwn y wladwriaeth yw oed pensiwn y wladwriaeth menyw a anwyd ar yr un diwrnod â chi.

Mae yna gyfrifydd i’ch helpu i gyfrifo eich oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Costau tai

Efallai y gallwch gael help tuag at rhai o’ch costau tai sydd wedi eu cynnwys yn eich swm perthnasol. Fe allai hyn gynnwys help gyda llog eich morgais. Nid oes unrhyw help ar gael gyda thalu rhan cyfalaf morgais nac unrhyw daliadau eraill, er enghraifft, premiymau gwaddol, ac mae yna gyfyngiadau ar y swm o log y gellir ei dalu. Fel arfer, fe fydd yn rhaid i chi aros am ychydig o wythnosau ar ôl i chi ddechrau cael Cymhorthdal Incwm cyn y gallwch gael unrhyw help gyda llog, onid yw’ch partner yn hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth. Os yw’ch partner yn fenyw, oed pensiwn y wladwriaeth yw ei hoed pensiwn. Os yw’ch partner yn ddyn, oed pensiwn y wladwriaeth yw oed pensiwn y wladwriaeth menyw a anwyd ar yr un diwrnod ag ef.

Mae yna gyfrifydd i’ch helpu i gyfrifo eich oed pensiwn y wladwriaeth ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Fel arfer, fe fydd y rhan yma o’ch Cymhorthdal Incwm yn cael ei dalu’n syth i’r sawl sydd wedi benthyg y morgais i chi.

Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help tuag at rai costau tai eraill, er enghraifft, rhent safle ar gyfer cyfnodau hir o les a rhai taliadau gwasanaeth. Ond, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, os ydych yn rhentu eich cartref ni allwch gael unrhyw Gymhorthdal Incwm ar gyfer costau tai a dylech hawlio Budd-dâl Tai yn lle.

Os oes oedolion eraill yn byw yn eich cartref heblaw am eich partner, eich landlord, neu gydberchennog, tenant neu letywr, gellir tynnu swm oddi ar y costau tai y mae’r Cymhorthdal Incwm yn medru eu cynnwys. Fe allai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, os oes gennych berthynas oedrannus neu fab neu ferch sy’n oedolyn yn byw gyda chi. Fe fydd y swm sy’n cael ei dynnu yn dibynnu ar eu hincwm a’u hamgylchiadau.

Mae’r rheolau ynghylch costau tai a Chymhorthdal Incwm yn gymhleth iawn. Os ydych chi eisiau cyngor ynghylch help gyda chostau tai a Chymhorthdal Incwm, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sut i hawlio Cymhorthdal Incwm

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban rydych yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm dros y ffôn neu ffôn testun, ar-lein neu drwy lenwi ffurflen.

Mae yna rif ffôn rhad ac am ddim i hawlio dros y ffôn neu drwy ffôn testun:

Rhif ffôn: 0800 055 6688
Ffôn testun: 0800 023 4888
Llinell iaith Gymraeg: 0800 012 1888.

Mae’r llinellau ffôn ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener o 8yb tan 6yh.

Neu fe allwch ddarganfod sut i hawlio ar-lein ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Neu fe allwch lawrlwytho ffurflen i’w llenwi i hawlio Cymhorthdal Incwm. Fe allwch lawrlwytho’r ffurflen oddi ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn hawlio Cymhorthdal Incwm o'ch swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol neu'r Swyddfa Nawdd Cymdeithasol. Rydych yn medru lawrlwytho ffurflen hawlio oddi ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn: (New window) www.dsdni.gov.uk.

Os ydych yn ail-hawlio Cymhorthdal Incwm o fewn 26 wythnos i’w gael ac nid oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, fe allwch lenwi ffurflen symlach a byrrach o’r enw ‘Rapid Reclaim’ yn lle pan ewch i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Fe allai hyn fod yn berthnasol os ydych wedi dechrau gweithio neu wedi dechrau gweithio mwy o oriau ond nid ydyw pethau wedi gweithio allan ac mae angen i chi fynd yn ôl ar fudd-daliadau.

Pan fyddwch chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol. Os ydych yn hawlio fel pâr, fe fydd yn rhaid i chi roi rhif yswiriant gwladol eich partner hefyd, fel arfer. Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych chi’n credu bod un gennych, ceisiwch roi gwybodaeth a fydd yn helpu’r swyddfa i ddod o hyd i’ch rhif.  Os nad oes gennych rif yswiriant gwladol, fe fydd yn rhaid i chi geisio am un. I ddangos mai chi sydd â’r rhif, neu i geisio am rif, fe fydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o bwy ydych chi hefyd, er enghraifft, tystysgrif geni.

Am wybodaeth ar sut i geisio am rif yswiriant gwladol ac ar broblemau gyda phrofi pwy ydych chi, gweler Yswiriant gwladol cyfraniadau a budd-daliadau.

Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth arall fel rhan o’ch cais am Gymhorthdal Incwm, er enghraifft, tystiolaeth o’ch incwm. Os nad yw hwn ar gael i chi ar unwaith, peidiwch â phoeni, fe allwch ei roi yn nes ymlaen, ond mae’n bwysig gwneud hynny o fewn un mis i’ch cais er mwyn i chi gael yr holl arian sy’n ddyledus i chi.

Os ydych chi’n cael trafferth darparu rhif yswiriant gwladol neu unrhyw dystiolaeth arall y gofynnir i chi amdano, neu os hoffech gael help i wneud eich cais am Gymhorthdal Incwm, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Ôl-ddyddio Cymhorthdal Incwm

Efallai y gallwch gael peth Cymhorthdal Incwm am gyfnod cyn i chi wneud eich cais os oes posibilrwydd y gallech fod wedi hawlio ynghynt ac mae gennych resymau dros hawlio’n hwyr. Rhaid bod y rhain yn rhesymau penodol a osodir o dan y gyfraith ac a dderbynnir gan y swyddfa budd-daliadau, er enghraifft, mae gennych anawsterau iaith, neu cawsoch y cyngor anghywir a wnaeth i chi feddwl na fyddech yn cael unrhyw arian. Gelwir y broses o gael budd-dâl ar gyfer cyfnod cyn eich cais yn ‘ôl-ddyddio’. Ni fyddwch yn cael budd-dâl wedi’i ôl-ddyddio am y rheswm nad oeddech yn gwybod y gallech hawlio yn unig.

Os oes gennych un o’r rhesymau a dderbynnir dros ôl-ddyddio eich cais, gellir ôl-ddyddio eich Cymhorthdal Incwm am hyd at uchafswm o un neu dri mis, gan ddibynnu pam yr ydych wedi methu â hawlio ynghynt. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi cwrdd â’r amodau i fod yn gymwys i hawlio trwy gydol y cyfnod y caiff ei ôl-ddyddio. Dylech esbonio eich bod yn hawlio Cymhorthdal Incwm wedi’i ôl-ddyddio, a nodi pam, ar eich ffurflen gais.

Os ydych am hawlio Cymhorthdal Incwm wedi’i ôl-ddyddio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gwirio Cymhorthdal Incwm a Thwyll

Fe allech fod yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol, neu os nad ydych yn dweud wrthynt am newid yn eich amgylchiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn cyflawni twyll, fe allwch achosi gordaliad sy’n gorfod cael ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod chi’n hawlio ac mae swyddogion twyll hefyd yn gallu cael gwybodaeth amdanoch o asiantaethau eraill y llywodraeth a gan eich cyflogwr, banc neu gwmnïau iwtiliti. Mae twyll budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu gellir gofyn i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun archwiliad am fudd-dâl twyll, fe fydd eich budd-dâl yn cael ei ddal yn ôl. Os ydynt yn eich cael chi’n euog o dwyll budd-dâl fwy nag unwaith, gellir gostwng neu atal eich budd-dâl yn y dyfodol.

Os ydych yn poeni eich bod dan amheuaeth o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu rydych wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth Gyngor a Budd-dâl Tai ar gyfer Ardrethi

Pan fyddwch yn hawlio Cymhorthdal Incwm yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, dylai'r person y byddwch yn siarad ag ef/hi hefyd eich helpu i hawlio Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Yng Ngogledd Iwerddon, dylai eich helpu i hawlio Budd-dâl Tai ar gyfer Ardrethi (Housing Benefit for Rates).

Fe fyddan nhw'n anfon eich manylion at yr awdurdod lleol fel y gallant asesu i weld a ydych chi’n gymwys i gael unrhyw rai o'r budd-daliadau hyn. Ond, os ydych am hawlio’r budd-daliadau hyn, efallai y byddai'n well cael gafael ar ffurflenni cais yr awdurdod lleol ei hun ar gyfer Budd-dâl Tai, Budd-dâl Treth Gyngor neu Fudd-dâl Tai ar gyfer Ardrethi a’u dychwelyd yn syth at yr awdurdod lleol. Mae hyn yn helpu osgoi unrhyw oedi a sicrhau y caiff y cais ei gofrestru cyn gynted â phosib.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dâl Tai. Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.. Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai ar gyfer Trethi yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda’ch Trethi.

Nôl i’r brig


Sut mae'ch cais yn cael ei drafod

Efallai y bydd yn rhaid i chi gael cyfweliad pan fyddwch chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm. Fe allai hyn fod yn gyfweliad gorfodol sy’n un o amodau derbyn budd-dâl, neu am fod y swyddfa budd-daliadau am wirio eich amgylchiadau, er enghraifft, pwy sy’n byw gyda chi. Fe allwch chi gael help gyda chostau teithio i’r cyfweliad. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn medru cael ymweliad cartref.

Os ydych yn rhiant unigol gyda phlant, fe fydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad gydag ymgynghorydd. Os nad ydych yn mynychu heb reswm da, gellir gostwng eich budd-dâl. Fe fydd angen cyfweliadau gorfodol pellach yn ystod y cais ac os nad ydych yn cytuno i gyfweliad fe allwch golli peth o’ch budd-dâl. Nid yw mynd i gyfweliad swydd yn golygu bod yn rhaid i chi ddechrau chwilio am waith ond os ydych yn penderfynu gwneud hynny efallai y gallwch gael help ychwanegol gyda chostau chwilio am waith a dechrau gweithio.

Os ydych yn hawlio fel un o bâr, efallai y bydd yn rhaid i’ch partner gael cyfweliad gydag ymgynghorydd personol hefyd.

Os ydych chi am wybod mwy am fynychu cyfweliad fel rhan o’ch cais am Gymhorthdal Incwm neu rydych yn poeni am yr effaith ar eich budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

(Example box starts)

Yn ddiweddar, rydw i wedi cael cyfweliad am fy mod yn hawlio Cymhorthdal Incwm. Roeddwn i'n teimlo bod y person a oedd yn gwneud y cyfweliad yn anghwrtais ac yn anghyfeillgar iawn. Nid yw fy Saesneg yn dda iawn, ac rwy'n credu bod yna broblem gyda hiliaeth yn y swyddfa yna. Mae rhai o fy ffrindiau hefyd wedi cwyno am y person yma. A oes unrhyw beth fedrwn ni ei wneud?

Mae'n bosib i chi ofyn am gyfieithydd ar y pryd os nad yw'ch Saesneg yn ddigon da i chi gael cyfweliad iawn. Mae'n bosib i chi hefyd gwyno am driniaeth hiliol. Mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil neu'ch cenedligrwydd. Mae gan bob un sy'n gweithio i'r Adran Gwaith a Phensiynau gyfrifoldeb personol i hybu cydraddoldeb yn eu cysylltiadau bob dydd gyda'u cwsmeriaid ac nid yw ymddygiad anaddas yn dderbyniol. Mynnwch help i gwyno gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

(Example box ends)

Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd wrth i chi gael cyfweliad. Mae gan y DWP bolisi sy'n nodi na ddylent wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, er enghraifft os oes gennych ddyletswyddau gofal. Dylid cynnal cyfweliadau mewn lleoliad sy'n hygyrch i chi ac os fyddwch chi angen cyfieithydd ar y pryd, dylid darparu un ar eich cyfer.

Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef gwahaniaethu yn y cyfweliad, fe fyddwch yn medru cwyno am hyn.

Nôl i’r brig


Penderfyniadau ynghylch eich cais am Gymhorthdal Incwm

Wedi i chi hawlio Cymhorthdal Incwm, cael cyfweliad ble'n berthnasol a darparu'r dystiolaeth berthnasol i gefnogi eich cais, fe fyddwch yn cael llythyr yn dweud a ydych yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm, ac os felly, sut cyfrifwyd eich budd-dâl.

Fe all y swyddfa budd-daliadau wneud un o nifer o benderfyniadau:-

  • fe all benderfynu talu’r Cymhorthdal Incwm i chi
  • fe all benderfynu rhoi taliadau dros dro tra ei bod yn ymchwilio ymhellach i’ch amgylchiadau, er enghraifft, ymweliad cartref
  • fe all benderfynu nad ydych yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm.

Os oes oedi hir cyn i chi gael penderfyniad ynghylch eich Cymhorthdal Incwm, dylech ystyried cwyno. Fe allwch ofyn am daliadau dros dro tra eich bod yn aros am y penderfyniad, neu fe allwch ofyn am fenthyciad argyfwng.

Am fwy o wybodaeth ar fenthyciadau argyfwng, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol. Am wybodaeth ar gwyno ynghylch talu budd-dâl, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm, efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i dderbyn Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor, neu Gredyd Treth Plant os oes plant gennych. Efallai y gallwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydyw’r swyddfa budd-daliadau wedi penderfynu na allwch chi gael Cymhorthdal Incwm oherwydd mae’n rhaid eich bod chi ar gael i weithio. Efallai y byddwch hefyd yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes salwch neu anabledd gennych.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dâl Tai, ac am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor. Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith. Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

Nôl i’r brig


Sut caiff Cymhorthdal Incwm ei dalu

Fel arfer, telir eich Cymhorthdal Incwm yn syth i mewn i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa Bost. Nid oes dewis gennych ynghylch sut y cewch eich talu. Ond, os fyddai agor neu reoli cyfrif yn creu trafferth i chi, er enghraifft am eich bod yn ddigartref neu ag anabledd mae gennych yr hawl i gael eich budd-dâl. Dylech ddweud wrth y swyddfa budd-daliadau a gellir talu eich Cymhorthdal Incwm trwy siec yn yr achos yma.

Am fwy o wybodaeth ar sut y caiff budd-daliadau eu talu, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.

Nôl i’r brig


Problemau gyda phenderfyniad am Gymhorthdal Incwm

Os gwrthodwyd rhoi Cymhorthdal Incwm i chi ac rydych yn credu y dylech ei gael, neu os ydych yn credu bod y swm a roddwyd i chi yn anghywir, fe allwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad, neu fe allwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau am Gymhorthdal Incwm, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Mae yn erbyn y gyfraith i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd wrth i'r Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) ddod i benderfyniad ynghylch eich cais am Gymhorthdal Incwm. Hefyd, mae gan y DWP bolisi sy'n dweud na fydd yn gwahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill, er enghraifft, os oes HIV arnoch neu os oes dyletswyddau gofal gennych. Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef gwahaniaethu yn y cyfweliad, fe fyddwch yn medru cwyno am hyn.

Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Cymhorthdal Incwm, gallwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Os ydych chi angen gwybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm mewn ieithoedd eraill, fe allwch fynd at eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Maen nhw’n medru darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. I ddod o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith agosaf, ewch at wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych chi angen gwybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm mewn ieithoedd eraill, fe allwch fynd at eich swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol. Maen nhw’n medru darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd. I ddod o hyd i’ch swyddfa Swyddi a Budd-daliadau agosaf, ewch at wefan NIDirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk

Nôl i’r brig