Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n feichiog ac ar fudd-daliadau. Pa help sydd ar gael i'r babi ac i mi?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Os ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio yn ddiweddar er mwyn cael plentyn, ac nid ydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr, mae’n bosib y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth. Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth wedi i chi fod yn feichiog am 26 wythnos. Fe fydd angen i chi ddarparu tystysgrif mamolaeth a elwir yn MAT B1. Fe fydd eich bydwraig neu eich meddyg yn medru rhoi’r dystysgrif yma i chi. Telir Lwfans Mamolaeth am 39 wythnos. Y cynharaf y gall ddechrau yw 11 wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r babi gael ei eni.

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol na Lwfans Mamolaeth, ac rydych wedi talu cyfraniadau yswiriant gwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am chwe wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i'r babi gael ei eni a hyd at 14 diwrnod wedi’r enedigaeth.

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, efallai hefyd y byddwch yn gymwys i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o 11 wythnos cyn geni'r babi a hyd at 15 wythnos wedi geni'r babi. Rydych hefyd yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os ydych yn feichiog ac mae yna berygl difrifol i'ch iechyd neu iechyd eich plentyn os fyddwch chi'n parhau i weithio.

Os nad oes unrhyw blant eraill gennych dan 16 ac rydych chi neu'ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm, Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant, mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael grant mamolaeth oddi wrth y Gronfa Gymdeithasol. Gallwch wneud cais o’r unfed wythnos ar ddeg cyn y mae disgwyl i’r plentyn gael ei eni a hyd at dri mis wedi geni’r plentyn. Mae’r grant yn £500 ac fe allwch ei wario fel y dymunwch. Nid oes rhaid ei ad-dalu. Fe fydd angen i chi gael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i arwyddo'r ffurflen yn cadarnhau eich bod wedi cael cyngor ar iechyd a lles.

Fe fyddwch hefyd yn medru hawlio Budd-dâl Plant unwaith y caiff y babi ei eni. Nid yw’n ddarostyngedig i brawf moddion ac mae’n cael ei dalu’n ychwanegol at unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn. Mae'n bosib hefyd y byddwch yn medru cael Credyd Treth Plant (neu fwy o Gredyd Treth Plant os ydych yn ei gael yn barod) ar gyfer eich plentyn. Os ydych chi neu'ch partner yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio Credyd Treth Gwaith. Fe fyddwch yn cael eich trin fel eich bod yn gweithio yn ystod 26 wythnos cyntaf eich cyfnod mamolaeth os oeddech yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos cyn hynny. Fe all Credyd Treth Gwaith gynnwys help gyda chostau gofal plant os ydych yn gymwys. Os yw eich plentyn yn anabl mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio Lwfans Byw i’r Anabl hefyd. Mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich anghenion gofal a symudedd chi eich hun.

Os ydych chi neu eich partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Treth Plant, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn fitaminau rhad ac am ddim a thalebau i helpu gyda chostau llaeth, ffrwythau neu lysiau. Gallwch gael presgripsiynau am ddim a chymorth gyda chostau gofal iechyd eraill am flwyddyn wedi i chi eni'r babi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch tâl mamolaeth statudol, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau a chredydau treth ar gyfer mamolaeth ac ar gyfer plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Am fwy o wybodaeth ynghylch grantiau mamolaeth, gweler Help i bobl sydd ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Lwfans Byw i'r Anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: