Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy ngwraig wedi marw'n ddiweddar. Mae gen i dri o blant ac rydw i wedi gorfod rhoi'r gorau i 'ngwaith. Oes unrhyw fudd-daliadau ar gael?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’n bosib y byddwch yn medru cael Taliad Profedigaeth. Fe fydd hyn yn dibynnu ar y cyfanswm o gyfraniadau yswiriant gwladol a dalodd eich gwraig, a oedd hi'n gymwys i dderbyn Pensiwn Ymddeol pan fu farw ac a ydych chi’n iau na 65 mlwydd oed. Taliad unigol di-dreth o £2,000 yw Taliad Profedigaeth.

Mae’n bosib hefyd y gallwch hawlio Lwfans Rhiant Gweddw. Fe fydd hyn yn dibynnu ar gyfanswm cyfraniadau yswiriant gwladol eich diweddar wraig, a ydych chi'n iau na 65 ac a oes gennych blentyn neu blant sy’n gymwys i dderbyn Budd-dâl Plant.

Os oeddech yn 45 oed neu'n hyn, ond yn iau na 65, pan fu farw eich gwraig (ac roedd hi’n cwrdd ag amodau cyfraniad yswiriant gwladol), ond nid ydych yn derbyn Lwfans Rhiant Gweddw, ac rydych yn dal i fod yn iau na 65, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Lwfans Profedigaeth. Budd-dâl wythnosol ydyw a delir am 52 wythnos wedi marwolaeth eich priod.

Nid yw budd-daliadau profedigaeth yn ddarostyngedig i brawf moddion. Mae hyn yn golygu na ystyrir eich cynilion na’ch incwm pan fyddwch yn cyflwyno cais.

Os ydych yn rhentu eich cartref, mae’n bosib y byddwch hefyd yn medru hawlio Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor.

Fe fyddwch hefyd yn gymwys i dderbyn Budd-dâl Plant i'ch plant ac efallai y byddwch hefyd yn gymwys i Gredyd Treth Plant. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Budd-daliadau Profedigaeth, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal Incwm fel rhiant sengl, neu efallai y gallwch gael hyn ar ben eich budd-daliadau profedigaeth.

Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, ac rydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm efallai y byddwch yn medru cael help gyda'ch costau tai. Ond, efallai na fydd yr help yma ar gael ar unwaith.

Os oedd eich gwraig yn gweithio ac yn cael cyflog, efallai y bydd ad-daliad treth yn ddyledus i chi hefyd.

Mae yna gymdeithasau sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau profedigaeth, gweler Budd-daliadau a phrofedigaeth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Plant a Budd-dâl Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch ad-daliadau treth, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cwnsela a chymorth mewn profedigaeth, gweler Beth i wneud ar ôl marwolaeth.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: