Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) i bobl sy’n:

  • methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, a
  • ddim yn cael Tâl Salwch Statudol.

Mae yna ddau fath o LCC:

LCC Cyfrannol, yr ydych yn medru ei gael os ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol

LCC yn seiliedig ar incwm sy’n cael ei dalu os yw’ch incwm a’ch cyfalaf yn ddigon isel.

Efallai y byddwch yn medru cael LCC Cyfrannol a LCC yn seiliedig ar incwm, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Ar gyfer y ddau fath o LCC, fel arfer bydd yn rhaid i chi gael profion amrywiol, i gadarnhau bod eich gallu i weithio yn gyfyngedig.

Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau newydd, mae LCC yn cymryd lle Budd-dal Analluogrwydd a hefyd Cymhorthdal Incwm i bobl sy’n eu cael oherwydd nad ydynt yn medru gweithio oherwydd salwch neu anabledd. Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm oherwydd salwch neu anabledd, fe fyddwch yn medru parhau i’w gael, ond fe fydd eich hawliad yn newid i LCC ar ryw gam.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Analluogrwydd, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) sy’n talu LCC ac, yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol sy’n ei dalu.

Nôl i’r brig


Pwy sy’n medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Er mwyn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC), rhaid eich bod chi’n 16 neu’n hŷn, ac yn iau nag oed pensiwn y wladwriaeth ar gyfer eich categori chi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwe deg.

Rhaid eich bod chi ddim yn medru gweithio oherwydd salwch neu anabledd a rhaid eich bod chi ddim â hawl i Dâl Salwch Statudol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Tâl Salwch Statudol, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n sâl neu’n anabl.

I weld pryd fyddwch chi’n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, gweler y cyfrifydd oed pensiwn ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Er mwyn cael LCC, fe fydd angen i’r rhan fwyaf o bobl gael archwiliad meddygol, i weld os oes ganddynt allu cyfyngedig i weithio.

Nid ydych yn medru cael LCC os ydych chi neu’ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn. Rhaid eich bod chi’n byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer. Ar gyfer LCC yn seiliedig ar incwm, ni ddylai fod unrhyw reolaeth fewnfudo ar eich cyfnod yma a fyddai’n eich atal rhag cael y budd-dal.

Am fwy o wybodaeth ynghylch rheolaeth fewnfudo, gweler Help gyda phroblemau yn ymwneud â mewnfudiad.

Byddwch yn medru parhau i gael LCC os ydych yn mynd i’r ysbyty.

Pwy sy’n medru cael LCC cyfrannol

Er mwyn bod yn gymwys i gael LCC Cyfrannol, fel arfer fe fydd yn rhaid eich bod wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol. Ond, mae yna rai eithriadau. Rydych yn medru cael LCC Cyfrannol heb dalu unrhyw gyfraniadau yn yr achosion canlynol:

  • mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich Budd-dal Analluogrwydd neu’ch Lwfans Anabledd Difrifol i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol
  • maen nhw’n dweud nad ydych yn ddigon iach i weithio mwyach cyn i chi gyrraedd 20 oed ac rydych wedi gadael yr ysgol. Mae angen eich bod yn 16 oed, o leiaf, cyn i chi fedru cyflwyno cais
  • maen nhw’n dweud nad ydych yn ddigon iach i weithio mwyach cyn i chi gyrraedd 20 oed ac rydych yn dal i fod yn yr ysgol, ar yr amod eich bod yn cael addysg arbennig am eich bod yn anabl. Mae angen eich bod yn 16 oed, o leiaf, cyn i chi fedru cyflwyno cais
  • maen nhw’n dweud nad ydych yn ddigon iach i weithio mwyach a chithau rhwng 20 a 25 oed, ar yr amod eich bod mewn addysg neu hyfforddiant uwch neu uwchradd cyn i chi gyrraedd 20 oed.

Os oes hawl gennych i LCC yn seiliedig ar gyfraniadau oherwydd nad oeddech yn ddigon iach i weithio ers pan yn ifanc, efallai hefyd, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, y bydd hawl gennych i LCC yn seiliedig ar incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfraniadau yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

LCC yn seiliedig ar incwm

Er mwyn cael LCC yn seiliedig ar incwm, fe fydd eich incwm yn cael ei gymharu gyda’r swm sy’n ddigon i chi fyw arno ym marn y llywodraeth.

Os yw’ch incwm yn llai na’r swm yma, fe fyddwch yn cael y gwahaniaeth rhwng eich incwm a’r swm sy’n ddigon i chi fyw arno ym marn y llywodraeth, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Os yw’ch incwm yn hafal i’r swm yma neu’n fwy, ni fyddwch yn cael LCC yn seiliedig ar incwm. Nid ydych yn medru cael unrhyw LCC yn seiliedig ar incwm os oes cynilion o fwy na £16,000 gennych.

Os oes morgais gennych, ac rydych yn gymwys i gael LCC yn seiliedig ar incwm, efallai y cewch help gyda rhai o’ch costau tai, er enghraifft, y llog sy’n ddyledus ar fenthyciad eich morgais. Os ydych yn talu rhent, dylech holi i weld os ydych yn medru cael Budd-dal Tai. Os ydych yn cael LCC yn seiliedig ar incwm, fe fyddwch yn cael uchafswm y Budd-dal Tai a ganiateir ar gyfer eich amgylchiadau chi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Nôl i’r brig


Dangos bod eich gallu i weithio yn gyfyngedig

Er mwyn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC), fel arfer mae’n rhaid i chi brofi nad ydych yn medru gweithio trwy anfon tystysgrifau meddygol at yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP).

Yn 13 wythnos gyntaf eich hawliad, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi gael dau brawf sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud yr hyn a elwir yn asesiad o’ch gallu i weithio. Dyma’r profion:

Mae gwybodaeth bellach ynghylch yr asesiad o’ch gallu i weithio ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, gweler gwefan nidirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk.

Asesiad o allu cyfyngedig i weithio.

Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael asesiad meddygol wyneb-yn-wyneb i benderfynu os ydyn nhw’n bodloni’r asesiad o allu cyfyngedig i weithio. Fe fydd yr archwiliad meddygol yn edrych ar eich gallu i wneud amrywiaeth o weithgareddau penodol. Mae’n edrych ar unrhyw ffactorau corfforol a phroblemau iechyd meddwl sydd gennych sy’n golygu nad ydych yn ddigon iach i weithio. Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl mewn asesiad meddygol ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, gweler gwefan nidirect yn (New window) www.nidirect.gov.uk.

Os nad ydych yn bodloni’r asesiad o allu cyfyngedig i weithio, ni fyddwch yn gymwys i gael LCC. Fe allech ystyried ceisio am Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Efallai y byddwch chi hefyd am apelio yn erbyn y penderfyniad eich bod yn medru gweithio.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith.

Nid oes angen archwiliad meddygol ar rai pobl. Os oes cyflyrau penodol gennych, os ydych yn cael triniaethau penodol neu os oes anabledd difrifol gennych, ystyrir yn awtomatig bod eich gallu i weithio yn gyfyngedig. Er enghraifft, nid oes angen archwiliad meddygol ar bobl sydd â salwch marwol a menywod sy’n feichiog ble mae yna berygl difrifol iddyn nhw neu’r plentyn os ydynt yn gweithio.

Asesiad o allu cyfyngedig ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith

Fel arfer, mae asesiad o allu cyfyngedig ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn cael ei wneud ar yr un pryd â’r asesiad o allu cyfyngedig i weithio er bod y prawf ychydig yn wahanol. Diben y prawf yma yw penderfynu faint o arian fyddwch chi’n ei gael a pha weithgareddau pellach fydd angen i chi eu gwneud i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith.

Ar ôl y prawf yma, os oes anabledd difrifol gennych, fwy na thebyg y cewch eich rhoi mewn grŵp a elwir yn grŵp cefnogi. Ar ôl 13 wythnos gyntaf eich hawliad, fe fyddwch yn cael swm ychwanegol yn eich LCC o’r enw’r gydran cefnogaeth.

Os nad ydych yn y grŵp cefnogaeth, fe fyddwch yn cael eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Ar ôl y 13 wythnos gyntaf, fe fyddwch yn cael swm ychwanegol yn eich LCC a elwir yn gydran gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Os ydych yn cael gwybod bod eich budd-dal yn mynd i newid i LCC

Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Gymhorthdal Incwm ar hyn o bryd, ar sail anabledd, gofynnir i chi gael asesiad o’ch gallu i weithio cyn unrhyw benderfyniad i newid eich budd-dal presennol i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os bydd eich budd-dal yn newid i LCC, ni fydd yn rhaid i chi gael asesiad arall o’ch gallu i weithio yn ystod 13 wythnos cyntaf eich cais.

Fe fyddwch yn cael yr elfen gymorth neu’r elfen sy’n gysylltiedig â gwaith o ddechrau’ch cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, yn hytrach nag ar ôl 13 wythnos.

Os nad ydych yn bodloni’r asesiad gallu cyfyngedig i weithio, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer LCC. Fe allwch ystyried ceisio am Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn lle.

Efallai y byddwch chi hefyd am apelio yn erbyn y penderfyniad eich bod yn gallu gweithio.

Nôl i’r brig


Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) ar eich gallu i weithio, efallai y bydd hawl gennych i apelio yn ei erbyn. Mae yna derfynau amser llym ar gyfer apelio, ac felly fe fydd angen i chi weithredu’n gyflym os ydych chi am wneud hyn.

Fe fyddwch yn medru:

  • ceisio cael mwy o wybodaeth ynghylch pam y gwrthodwyd eich achos. Efallai bod yna reswm da dros wrthod eich cais
  • gofyn iddyn nhw edrych ar y penderfyniad eto. Efallai y bydd hyn yn arwain at newid y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad, naill ai ar unwaith neu ar ôl ailystyried y penderfyniad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-daliadau, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Os ydych chi’n aros i’ch apêl gael gwrandawiad, fe fyddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu barhau i gael cyfradd sylfaenol LCC, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych chi am gael LCC, dylech ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rhaid i chi hefyd barhau i ddarparu tystysgrifau meddygol.

Fe gewch yr un faint o arian, waeth os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu’n aros ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wrth aros am benderfyniad ynghylch apêl. Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ni ddylai hyn effeithio ar eich apêl. Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod ar gael i weithio, ac yn ceisio gwaith yr ydych yn medru ei wneud yn weithgar.

Os ydych chi am apelio, fe fyddwch yn medru cael help gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith

Ar ôl yr asesiad o’ch gallu i weithio, fel arfer bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn cyfweliad cychwynnol sy’n canolbwyntio ar waith. Ond, nid yw hyn yn berthnasol yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn cael eich gosod yn y grŵp cefnogi yn dilyn eich asesiad o allu cyfyngedig ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, neu
  • rydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth, os ydych yn fenyw, neu
  • rydych wedi cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth menyw gyda’r un dyddiad geni â chi, os ydych yn ddyn, neu
  • rydych yn rhiant sengl, rydych yn gyfrifol am blentyn dan un oed ac mae’r plentyn yn byw gyda chi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch oed pensiwn y wladwriaeth, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwe deg.

Fel arfer, fe fydd y cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith yn cymryd lle tua wyth wythnos ar ôl eich cais cychwynnol.

Os gwelir bod eich gallu i weithio’n gyfyngedig ond mae gennych hawl i gydran gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, fe fydd disgwyl i chi gael pum cyfweliad pellach sy’n canolbwyntio ar waith. Fel arfer, fe fydd y rhain yn cymryd lle bob mis. Fe fydd ymgynghorydd personol yn trafod eich rhagolygon gwaith, y camau yr ydych yn barod i’w cymryd i symud i mewn i swydd, a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Weithiau, ni fydd yn rhaid cael cyfweliad, neu gellir gohirio’r cyfweliad.

Nôl i’r brig


Gweithgarwch cysylltiedig â gwaith

Os ydych mewn grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn ogystal â chyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith. Ond, nid yw hyn yn berthnasol yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn riant unigol â phlentyn dan 5 (mae’n rhaid i rieni unigol â phlentyn dan 13 wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn ystod oriau ysgol arferol yn unig)
  • rydych yn gynhaliwr sy’n derbyn Lwfans Cynhaliwr neu bremiwm cynhaliwr fel rhan o’ch cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Mae gweithgarwch cysylltiedig â gwaith yn medru bod yn bethau fel gwaith gwirfoddol, treialon gwaith, neu raglen hyfforddiant, ond ni fydd yn rhaid i chi geisio am swydd na chael triniaeth feddygol.

Nôl i’r brig


Sut i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Cewch eich annog i hawlio am y tro cyntaf am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) drwy ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith ar: 0800 055 6688 neu ffôn testun: 0800 023 4888. Mae yna rif ffôn ar gyfer gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg hefyd, sef: 0800 012 1888. Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch: 0800 085 6318 neu os oes problemau clyw neu lefaru gennych ffoniwch: 0800 328 3419.

Fe fyddwch yn cael datganiad ynghylch eich cais ac mae’n rhaid i chi ei wirio, ond nid oes rhaid i chi ei lofnodi na’i ddychwelyd. Fe fydd yn rhaid i chi gasglu unrhyw dystiolaeth bellach sydd ei hangen, gan gynnwys tystysgrif feddygol ddilys.

Mae hefyd yn bosib hawlio’n ysgrifenedig. Gallwch lawrlwytho ffurflen gais oddi ar (New window) www.direct.go.uk, neu yn Gogledd Iwerddon ar (New window) nidirect.gov.uk

Rhaid i chi ddarparu eich rhif yswiriant gwladol pan fyddwch chi’n hawlio, a phrofi mae eich rhif chi ydyw. Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu rhif yswiriant gwladol eich partner sy’n byw gyda chi hefyd os ydych yn hawlio LCC yn seiliedig ar incwm. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, dylech gael un pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch cais.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol – cyfraniadau a budd-daliadau.

Weithiau, yn ystod 13 wythnos gyntaf ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, gofynnir i chi lenwi holiadur meddygol o’r enw ESA50. Rhaid i chi ei ddychwelyd i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o fewn pedair wythnos.

Yn ystod y 13 wythnos gyntaf ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, fel arfer, gelwir amdanoch i gael archwiliad meddygol gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r archwiliad hwn oherwydd efallai na fydd hawl gennych i gael LCC os nad ydych yn mynd. Fe fydd y person sy’n gwneud yr asesiad yn rhoi pwyntiau i chi os ydych yn cwrdd ag amodau amrywiol a elwir yn ddisgrifwyr. Os ydych yn sgorio 15 pwynt neu fwy ym mhob asesiad, ystyrir bod eich gallu i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith yn gyfyngedig, ac fel arfer cewch eich gosod yng ngrŵp cefnogi hawlwyr. Weithiau, cewch eich gosod yn y grŵp yma’n awtomatig, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, er enghraifft os ydych yn cael cemotherapi.

Os cewch eich gosod yn y grŵp cefnogi, ni fydd yn rhaid i chi gael cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith na gwneud gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Ond, fe fyddwch yn medru dewis cael y rhain os ydych yn dymuno gwneud hynny.

Os penderfynir bod gennych allu cyfyngedig i weithio ac rydych yn y grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith, fe fydd amodau llym yn cael eu rhoi i chi mewn perthynas â gwaith, a rhaid i chi gadw atynt er mwyn i chi barhau i gael cyfradd lawn LCC. Os nad ydych yn gwneud hyn, efallai y cewch eich sancsiynu. Mae sancsiwn yn golygu y gallech golli peth o’r arian y byddech wedi ei gael fel arall.

Os yw’ch budd-dal yn cael ei newid i LCC

Nid oes angen i chi gyflwyno cais os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Gymhorthdal Incwm a delir ar sail anabledd yn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Yn hytrach, fe fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich budd-dal yn awtomatig i LCC ac fe fydd eich budd-dal presennol yn dod i ben.

Ond, fe fydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth o hyd er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyfrifo os oes hawl gennych i LCC. Er enghraifft, fe fydd yn rhaid i chi lenwi holiadur gallu cyfyngedig i weithio.

Nôl i’r brig


Faint yw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) y byddwch yn medru ei gael yn dibynnu a oes hawl gennych i LCC Cyfrannol neu LCC yn seiliedig ar incwm, neu’r ddau. Mae hefyd yn dibynnu a ydych yn 13 wythnos gyntaf eich hawliad ai peidio. Y rheswm dros hyn yw bod hawl gennych i’r gydran cefnogaeth neu’r gydran gysylltiedig â gwaith os ydych yn parhau i gael LCC ar ôl 13 wythnos.

Faint yw LCC Cyfrannol

Os oes hawl gennych i LCC Cyfrannol yn unig, fel arfer fe fyddwch ond yn cael lwfans sylfaenol yn y 13 wythnos gyntaf. Mae’r swm yn llai os ydych yn iau na 25. Ar ôl y 13 wythnos gyntaf, fe fyddwch hefyd yn cael cydran cefnogaeth neu gydran gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Hefyd, os oedd eich lwfans sylfaenol yn llai am eich bod dan 25, fe fydd nawr yr un peth â phawb arall. Efallai y bydd eich LCC Cyfrannol yn gostwng os ydych yn cael pensiwn galwedigaethol neu bersonol.

Os yw'ch budd-dal yn cael ei newid i LCC cyfrannol

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol yn LCC Cyfrannol, fe fyddwch yn cael lwfans sylfaenol. Os ydych dan 25, telir y swm ar y gyfradd uwch.

Os yw’ch budd-dal yn newid i LCC, fe fyddwch hefyd yn cael cydran cymorth neu gydran gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith o ddechrau eich cais, yn hytrach nag ar ôl 13 wythnos.

Efallai y byddwch hefyd â hawl i swm a elwir yn ychwanegiad pontio. Telir yr elfen hon i sicrhau nad ydych yn cael llai o arian nag yr oeddech yn ei gael o’r blaen. Ond, fe fydd yr arian hwn yn gostwng gydag amser ac yn dod i ben yn y pendraw.

Faint yw LCC yn seiliedig ar incwm

Fe fydd hawl gennych i LCC yn seiliedig ar incwm os yw’ch incwm yn llai na’r swm sydd ei angen arnoch i fyw ym marn y Llywodraeth. Fe fyddwch yn cael lwfans sylfaenol sy’n ychwanegu at eich incwm hyd at y swm sydd ei angen arnoch ym marn y Llywodraeth. Mae’r lwfans sylfaenol hwn yn llai os ydych yn iau na 25.

Defnyddir rheolau penodol i gyfrifo faint o incwm sydd gennych. Mae’r rhain yn cynnwys y rheol fod rhai mathau o incwm, er enghraifft cynhaliaeth plant, yn cael eu hanwybyddu wrth gyfrifo eich incwm a faint o LCC yn gysylltiedig ag incwm ddylech chi ei chael.

Ar ben eich lwfans sylfaenol, efallai y bydd hawl gennych i rai premiymau, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol anabl neu os ydych yn gynhaliwr. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael peth arian tuag at eich costau tai os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.

Ar ôl y 13 wythnos gyntaf:

  • fe fydd hawl gennych i gydran cefnogaeth neu gydran gweithgarwch cysylltiedig â gwaith
  • os oedd eich lwfans sylfaenol yn llai am eich bod dan 25, fe fydd nawr yn codi.

I weld beth yw’r cyfraddau LCC ar hyn o bryd, rhowch glic ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Mae cyfrifo’ch incwm a faint o LCC yn seiliedig ar incwm ddylech chi ei chael yn medru bod yn gymhleth. Os nad ydych yn credu eich bod yn cael y swm cywir, fe fyddwch yn medru cael help cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os yw'ch budd-dal yn cael ei newid i LCC sy'n gysylltiedig ag incwm

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eich Cymhorthdal Incwm ar sail anabledd yn LCC sy’n gysylltiedig ag incwm, fe fyddwch yn cael lwfans sylfaenol. Os ydych dan 25, telir y swm ar y gyfradd uwch.

Fe fyddwch yn cael cydran cymorth neu gydran gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith o ddechrau eich cais, yn hytrach nag ar ôl 13 wythnos.

Efallai y byddwch hefyd â hawl i swm a elwir yn ychwanegiad pontio. Telir yr elfen hon i sicrhau nad ydych yn cael llai o arian nag yr oeddech yn ei gael o’r blaen. Ond, fe fydd yr arian hwn yn gostwng gydag amser ac yn dod i ben yn y pendraw.

Nôl i’r brig


Gweithio tra’n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Er bod Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) fel arfer yn cael ei dalu i bobl sy’n rhy sâl neu anabl i weithio, efallai y byddwch yn medru ei gael hyd yn oed os ydych yn gwneud rhai mathau o waith. Mae enghreifftiau’n cynnwys gweithio fel cynghorydd, bod yn gynhaliwr a gwneud gwaith a elwir yn waith a ganiateir. Mae gwaith a ganiateir yn waith y gellir ei wneud heb effeithio ar eich hawl i LCC. Mae’r rheolau ynghylch gweithio a ganiateir yn gymhleth ond fel arfer mae’n waith o lai na 16 awr yr wythnos ble nad yw’ch enillion yn fwy na swm penodol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwaith a ganiateir yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Os ydych am ddarganfod mwy am waith a ganiateir, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi ei ôl-ddyddio

Os oedd hawl gennych i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) cyn i chi hawlio, efallai y byddwch yn medru ei gael am gyfnod cynharach. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. Mae modd ôl-ddyddio LCC am hyd at dri mis cyn dyddiad eich cais, ac nid oes rhaid i chi roi’r rheswm dros anfon eich cais yn hwyr. Pan fyddwch yn ceisio, dylech esbonio eich bod am hawlio budd-dal wedi’i ôl-ddyddio a nodi’r dyddiad cyntaf yr oedd hawl gennych i LCC.

Nôl i’r brig


Diwrnodau aros cyn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Fel arfer, ni fyddwch yn medru cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth am dri diwrnod cyntaf eich cais. Gelwir y diwrnodau hyn yn ddiwrnodau aros. Mewn rhai achosion, fe fyddwch yn medru ei gael am y tri diwrnod, er enghraifft, os ydych wedi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o’r blaen mewn rhai amgylchiadau.

Nôl i’r brig


Sut mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael ei dalu

Fel arfer, mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) yn cael ei dalu yn syth i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os nad ydych yn medru agor cyfrif, neu os ydych yn cael trafferth gyda’r math yma o daliad, dylech ddweud wrth y swyddfa. Mae’n bosib talu’r budd-dal trwy siec mewn rhai amgylchiadau.

Am fwy o wybodaeth ynghylch talu budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.

Nôl i’r brig


Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - newid mewn amgylchiadau a thwyll

Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-daliadau os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol, neu os nad ydych yn dweud am newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC). Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe fyddwch yn medru achosi gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn ôl. Gellir gwirio’ch amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod yn hawlio. Mae twyll budd-daliadau yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Os ydych yn destun ymchwiliad oherwydd twyll budd-daliadau, fe fydd eich budd-dal yn cael ei atal. Os ydyn nhw’n eich cael yn euog o dwyll budd-dal fwy nag unwaith, gellir gostwng eich budd-dal neu ei atal yn y dyfodol.

Os ydych yn poeni bod yna amheuaeth o dwyll yn eich erbyn, os ydych yn destun ymchwiliad neu os ydyn nhw wedi eich cael yn euog, neu os gofynnir i chi ad-dalu gordaliad budd-daliadau, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu pan yn gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb neu grefydd pan fydd y Ganolfan Waith neu’r swyddfa budd-daliadau yn delio â’ch cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC). Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, fe fyddwch yn medru cwyno.

Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniadau ynghylch budd-dal, neu gwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig