Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr
Os ydyw eich tenantiaeth yn denantiaeth breifat neu'n denantiaeth gyda chymdeithas dai a gychwynnodd ar neu ar ôl Ionawr 15 1989 efallai eich bod yn un o'r canlynol:-
Fel arfer, ni fydd gan denant aswiriedig landlord preswyl ac ni fydd y landlord yn darparu bwyd na gwasanaethau. Fel tenant aswiriedig, byddwch yn talu rhent ar gyfer llety yr ydych yn ei ddefnyddio fel eich prif gartref neu eich hunig gartref.
Ni fyddwch yn denant aswiriedig os yw eich llety yn:-
Fel tenant aswiriedig, mae gennych yr hawl i aros yn eich llety oni all eich landlord berswadio'r llys fod yna resymau da dros eich troi allan, er enghraifft bod rhent yn ddyledus neu ddifrod i'r eiddo, neu bod un arall o delerau'r cytundeb wedi'i dorri.
Fel tenant aswiriedig, gallwch roi'ch hawliau mewn grym, er enghraifft, i sicrhau bod atgyweiriadau yn cael eu gwneud, heb boeni ynglyn â chael eich troi allan.
Yn ogystal â'r hawl i aros yn eich cartref, tra'ch bod yn cadw at delerau'r denantiaeth, fe fydd hawliau eraill gennych yn ôl y gyfraith hefyd, gan gynnwys:-
Fe fyddwch yn denant deiliadaeth fer aswiriedig os ydyw'ch tenantiaeth ar gyfer cyfnod sefydlog sydd heb fod yn llai na chwech mis.
Mae hon yn fath llai sicr o denantiaeth na thenantiaeth aswiriedig. Caiff ei ddyfarnu am gyfnod sefydlog heb fod yn llai na chwech mis. Wedi i hyn ddod i ben, fe all eich landlord wneud cais i'r llys ar gyfer perchnogaeth os ydyw wedi rhoi rhybudd o ddau fis i chi yn ysgrifenedig. Os nad ydyw'ch landlord yn adnewyddu'r cytundeb, gallwch aros yn y llety tan i'ch landlord roi rhybudd i chi ei fod am ailfeddiannu'r eiddo.
Os na gawsoch Hysbysiad o Denantiaeth Deiliadaeth Fer Aswiriedig neu os cawsoch yr Hysbysiad wedi i'r denantiaeth ddechrau, byddwch yn denant aswiriedig. Os nad ydych yn sicr o'ch sefyllfa, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni fyddwch yn denant deiliadaeth fer aswiriedig os ydyw'r llety yn un o'r canlynol:-
Fel tenant deiliadaeth fer aswiriedig, mae gennych yr hawl i aros yn y llety tan i'r cyfnod sefydlog ddod i ben oni all eich landlord berswadio'r llys fod yna resymau dros eich troi allan, er enghraifft, rhent yn ddyledus, difrod i eiddo, neu fod un arall o dermau'r cytundeb wedi'i dorri. Gallwch aros yn y llety wedi i'r tymor sefydlog ddod i ben, hyd yn oed os nad yw'r cytundeb wedi'i adnewyddu, tan i'ch landlord roi rhybudd i chi.
Fel tenant deiliadaeth fer aswiriedig, gallwch roi'ch hawliau mewn grym, er enghraifft, i sicrhau bod atgyweiriadau yn cael eu gwneud ond os ydych yn gwneud hyn, mae'n bosib y bydd eich landlord yn penderfynu peidio ag adnewyddu'r denantiaeth ar ddiwedd y tymor sefydlog.
Yn ogystal â'r hawl i aros yn eich cartref am y cyfnod sefydlog, cyhyd â'ch bod yn cadw at delerau'r denantiaeth, bydd gennych hawliau cyfreithiol eraill hefyd, gan gynnwys:-
Os ydych yn styried gwneud hyn, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai bod gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig a allai roi mwy o hawliau i chi na'r lleiafrif a ddarperir gan y gyfraith. Mae mwy o wybodaeth ar denantiaethau deiliadaeth fer aswiriedig ar wefan Cymunedau a Llywodraeth Leol yn www.communities.gov.uk.
Fe fydd unrhyw denantiaeth newydd a grëwyd ar neu ar ôl y dyddiad yma yn denantiaeth deiliadaeth fer aswiriedig yn awtomatig, heblaw:-
Nid yw'r rhestr o eithriadau yn un gyflawn. Dim ond yr eithriadau mwyaf pwysig sydd wedi eu nodi.
Os nad yw'r denantiaeth yn denantiaeth deiliadaeth fer aswiriedig am un o'r rhesymau a geir uchod, bydd yn denantiaeth aswiriedig. Fe fydd gennych yr un hawliau â thenantiaid asiwiriedig eraill y cychwynnodd eu tenantiaeth cyn Chwefror 28 1997 ond ar ôl Ionawr 15 1989.
Nid oes yn rhaid i denantiaeth deiliadaeth fer aswiriedig a grewyd ar neu ar ôl Chwefror 28 1997 gael cyfnod sefydlog ar ddechrau'r denantiaeth, er y gallai eich landlord roi cyfnod sefydlog i chi os ydyw'n dymuno gwneud hynny. Os na chytunir ar unrhyw gyfnod sefydlog, bydd y denantiaeth yn dod yn rywbeth a elwir yn denantiaeth cyfnodol. Nid oes angen unrhyw rybudd na chytundeb ysgrifenedig i greu tenantiaeth deiliadaeth fer aswiriedig ar neu ar ôl Chwefror 28 1997. Mae cytundeb llafar yn ddigonol.
Mae'r hawliau yr un peth ag ar gyfer tenantiaethau deiliadaeth fer aswiriedig eraill. Ond, mae yna un hawl ychwanegol arall i ddatganiad o amodau'r cytundeb gan eich landlord. Mae'n rhaid i'ch landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o amodau sylfaenol y denantiaeth nad ydynt yn cael eu darparu yn ysgrifenedig yn barod. Mae'n drosedd i beidio â darparu'r datganiad.
Os cychwynnodd eich tenantiaeth cyn Ionawr 15 1989 gallech fod yn un o'r canlynol:-
Os ydych yn denant sydd wedi'ch hamddiffyn, byddwch yn:-
Ni fyddwch yn denant sydd wedi'ch hamddiffyn os ydyw'ch llety yn un o'r canlynol:-
Mae gan denantiaid sydd wedi'u hamddiffyn yr hawliau cryfaf o'u cymharu ag unrhyw denantiaid preifat. Os ydych yn credu eich bod yn denant sydd wedi eich hamddiffyn ac os yw'ch landlord yn gofyn i chi symud neu arwyddo cytundeb newydd, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sydd yn rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel tenant sydd wedi eich hamddiffyn, mae gennych yr hawliau canlynol:-
Os nad ydych yn denant aswiriedig, tenant daliadaeth fer aswiriedig, neu denant sydd wedi'i (h)amddiffyn, mae'n bosib eich bod yn breswylydd ag amddiffyniad sylfaenol. Fe fyddwch yn breswylydd sydd ag amddiffyniad sylfaenol os oes gennych:-
Nid yw'r rhestr uchod yn un gyflawn ac os ydych yn credu ei bod yn bosib fod gennych amddiffyniad sylfaenol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol oherwydd mae gan bobl sydd ag amddiffyniad sylfaenol hawliau cyfyng. Gall person sydd yn y sefyllfa yma ofyn am farn cynghorydd profiadol mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad ydych yn medru fforddio talu eich rhent, mae'n bosib y byddwch yn medru gwneud cais am fudd-dal tai. Efallai y bydd hawl gennych i fudd-daliadau eraill hefyd os ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel.
Am wybodaeth ar fudd-dal tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dyledion rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.
Yn gyntaf, fodd bynnag, dylech edrych isod i weld a yw'r rhent wedi'i osod yn gywir.
Os nad ydych yn siŵr os yw'ch rhent wedi'i osod yn gywir, neu os ydych chi eisiau mwy o gyngor ynghylch hawlio budd-daliadau neu ddyledion rhent, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel tenant aswiriedig, mae'n rhaid i chi dalu'r rhent y cytunwyd arno gyda'ch landlord ar ddechrau'r denantiaeth. Fel arfer, ni all eich landlord godi'r rhent nes i chi gytuno i hyn neu nes i'r cytundeb tenantiaeth ganiatau hyn. Os ydyw'r cytundeb tenantiaeth yn caniatau i'ch landlord i godi'r rhent, dylai gynnwys gwybodaeth ynglyn â phryd a sut y gellir codi'r rhent.
Os nad ydych wedi cytuno ar gynnydd yn eich rhent gyda'ch landlord neu os nad yw'r cytundeb tenantiaeth yn caniatáu cynnydd, mae'n bosib y bydd gennych yr hawl i apelio i'r Pwyllgor Asesu Rhent lleol os ydych yn credu bod y cynnydd yn y rhent a gynigiwyd gan eich landlord yn rhy uchel. Gallwch ond wneud hyn os nad ydyw'ch tenantiaeth yn un tymor sefydlog (hynny yw, nid yw'n rhedeg am gyfnod penodol yn unig er enghraifft chwech mis neu flwyddyn) ac os yw'ch landlord yn defnyddio gweithdrefn arbennig i godi'r rhent. Hefyd, gall Pwyllgor Asesu Rhent osod rhent sy'n uwch na'r un a gynigir gan eich landlord.
Mae'r sefyllfa yn un cymhleth ac os ydych am gyflwyno cynnig i godi rhent o flaen Pwyllgor Asesu Rhent, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu cynnig cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel tenant deiliadaeth fer aswiriedig, mae'n rhaid i chi dalu'r rhent y cytunwyd arno gyda'r landlord ar ddechrau'r denantiaeth.
Fel arfer, ni ellir codi eich rhent nes i chi gytuno iddo, neu nes i'r cytundeb tenantiaeth ganiatáu hyn.
Mewn rhai achosion, gall eich landlord ddefnyddio trefniadau arbennig i godi'r rhent, sy'n golygu rhoi rhybudd ffurfiol, y mae ei manylion wedi eu penni gan ddeddfwriaeth. Mewn egwyddor, mae'n bosib i fathau penodol o denantiaid deiliadaeth fer aswiriedig apelio i Bwyllgor Asesu Rhent fel y gall tenantiaid aswiriedig (gweler isod), ond ychydig iawn o amddiffyniad sydd gan denantiaid deiliadaeth fer aswiriedig rhag cael eu troi allan, a gall cythruddo eich landlord eich gosod mewn perygl o golli eich cartref.
Os ydych am herio cynnydd yn eich rhent, mae'n rhaid i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel tenant sydd wedi'i (h)amddiffyn, mae'n rhaid i chi dalu'r rhent y cytunwyd arno gyda'ch landlord ar gychwyn y denantiaeth. Fodd bynnag, gallwch chi neu'n landlord ofyn i'r Swyddog Rhent sefydlu 'rent teg'.
Os ydych yn bwriadu cymryd camau ynglyn â'ch rhent, dylech wneud yn siwr eich bod yn denant sydd wedi'i (h)amddiffyn. Yn gyntaf, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni all eich landlord godi'r rhent os ydyw wedi'i gofrestru fel rhent teg gan y Swyddog Rhent. Os nad oes rhent teg wedi'i gofrestru, ni all eich landlord godi'r rhent os nad ydych wedi cytuno'n ffurfiol yn ysgrifenedig, neu eich bod chi neu'ch landlord wedi gwneud cais i'r Swyddog Rhent a bod y Swyddog Rhent yn gosod rhent teg.
Fel preswylydd sydd ag amddiffyniad sylfaenol, mae'n rhaid i chi dalu'r rhent a gytunwyd gyda'ch landlord pan ddaethoch i fyw i'r llety. Ni allwch wneud cais i'r Swyddog Rhent na'r Pwyllgor Asesu Rhent i gael y rhent wedi'i ostwng. Os ydyw eich landlord am godi'r rhent, gallwch geisio trafod gydag ef/hi. Os ydych yn gwrthod talu'r cynnydd, gallai eich landlord eich troi allan.
Os ydych chi angen help i dalu’ch rhent, efallai y byddwch yn medru ceisio am fudd-dal tai. Efallai y byddwch â hawl i fudd-daliadau eraill hefyd os ydych allan o waith neu ar incwm isel.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-dal tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai
Yn ôl y gyfraith, mae gan eich landlord nifer o gyfrifoldebau atgyweirio, gan gynnwys atgyweirio'r canlynol a sicrhau eu bod yn gweithio:-
Mae gan eich landlord y dyletswyddau yma yn ôl y gyfraith, waeth beth sydd wedi'i ysgrifennu yn y cytundeb tenantiaeth. Fodd bynnag, os ydych yn gofyn i'ch landlord wneud yr atgyweiriadau yma, mae'n bosib y bydd yn ceisio ailgydio ym meddiant yr eiddo neu beidio ag adnewyddu'r cytundeb pan fydd yn dod i ben. Cyn ceisio defnyddio'r hawl cyffredinol yma i atgyweiriadau, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol.
Efallai bod y cytundeb tenantiaeth yn nodi rhwymedigaethau atgyweirio eraill.
Nid yw eich landlord yn cael gwrthod gwneud atgyweiriadau i'ch cartref oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Mae hyn yn wahaniaethu ac mae’n anghyfreithlon.
Efallai na fydd y rheolau hyn yn berthnasol mewn rhai achosion – er enghraifft, os yw'ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Os ydych yn credu bod eich landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriadau oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, mae eich landlord hefyd yn gyfrifol am atgyweiriadau i rannau cyffredin o'r adeilad, er enghraifft, grisiau, lifftiau, cynteddau neu lwybrau'r ardd sy'n cael eu rhannu â thenantiaid eraill neu'ch landlord.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â sut i gael atgyweiriadau wedi'u gwneud, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.
Mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod unrhyw gyfarpar nwy mewn adeiladau preswyl yn ddiogel. Mae'n rhaid iddo/i drefnu gwiriadau diogelwch ar offer a gosodiadau o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'n rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru gyda’r Gofrestr Diogelwch Nwy wneud y gwiriadau yma. Dyma gyfeiriad eu gwefan: www.gassaferegister.co.uk. Mae'n rhaid i’r landlord hefyd gadw cofnod o ddyddiad y gwiriad, unrhyw broblemau a nodwyd ac unrhyw gamau a gymerwyd. Fel tenant, mae gennych yr hawl i weld y cofnod hwn cyhyd a'ch bod yn rhoi rhybudd rhesymol.
Os nad yw'ch landlord yn trefnu gwiriadau neu'n gwrthod gadael i chi weld cofnod o'r gwiriad, gallech gysylltu â swyddfa 'r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch leol. Fodd bynnag, os oes gennych sicrwydd cyfyngedig, mae'n bosib eich troi allan os byddwch yn cymryd camau yn erbyn eich landlord.
Am fwy o fanylion ar ffyrdd o gael eich hatgyweiriadau wedi'u gwneud, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.
Fel tenant preifat anabl, mae'n bosib y byddech yn gallu cael addasiadau i'ch cartref. Yn gyntaf, bydd angen i adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol asesu'r angen am yr addasiadau. Gallai addasiadau gynnwys gosod lifft grisiau neu hoist, neu addasiadau i ystafell ymolchi neu doilet.
Os ydych am gael unrhyw addasiadau i'ch cartref, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant cyfleusterau anabl i wneud y cartref yn fwy addas.
Am wybodaeth ynglyn â grantiau cyfleusterau anabl, gweler Help gyda Gwelliannau i'r Cartref.
Bydd eich hawl i aros yn y llety yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.
Os yw'ch landlord yn gofyn i chi adael eich cartref, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sydd yn gallu rhoi cyngor trwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gall eich landlord ond ailfeddiannu'r eiddo os all berswadio'r llys fod yna resymau dros eich troi allan, er enghraifft, rhent yn ddyledus, difrod i'r eiddo neu dorri un o delerau'r cytundeb.
Fel tenant deiliadaeth fer aswiriedig, mae gennych yr hawl i aros yn y llety tros gyfnod y cyfnod sefydlog cychwynnol os nad ydych wedi torri amod yn y cytundeb tenantiaeth, er enghraifft, bod rhent yn ddyledus, neu eich bod wedi gwneud difrod i'r eiddo.
Os ydych yn aros yn y llety wedi i'r cyfnod sefydlog cychwynnol ddod i ben ac nad ydyw eich landlord yn bwriadu adnewyddu'r cytundeb ac eisiau meddiant, bydd rhaid iddo/i roi o leiaf dau fis o rybudd ysgrifenedig i chi i adael yr eiddo, a bydd yn rhaid iddo/i fynd i'r llys i feddiannau'r eidd os os na fyddwch yn gadael. Os nad ydyw'ch landlord yn cymryd unrhyw gamau, byddwch yn dod yn denant deiliadaeth fer aswiriedig cyfnodol statudol ac ni fydd eich landlord yn gallu ailgydio ym meddiant yr eiddo heb fynd drwy'r broses hon.
Ni all eich landlord eich troi allan yn ystod chwech mis cyntaf y denantiaeth, neu yn ystod y cyfnod sefydlog cychwynnol, pa un bynnag yw'r hiraf, onid oes ganddo/i resymau dros wneud hynny, fel ar gyfer tenantiaeth a grewyd cyn Chwefror 28 1997.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gall eich landlord gael gorchymyn llys yn awtomatig i'ch troi allan, fel gyda tenantiaeth a grewyd cyn Chwefror 28 1997.
Os ydych yn denant sydd ag amddiffyniad sylfaenol, ac nid ydych yn symud allan pan fydd eich landlord wedi rhoi rhybudd i chi i adael a'r cyfnod rhybudd wedi dod i ben, mae'n rhaid i'ch landlord fynd i'r llys ar gyfer gorchymyn meddiant. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei ddyfarnu. Os ydyw'r denantiaeth ar gyfer tymor sefydlog penodol (er enghraifft, cytunir ei fod yn parhau am 6 mis neu flwyddyn), nid oes rhaid i'ch landlord roi rhybudd i chi adael ar ddiwedd y cyfnod yna. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'ch landlord wneud cais am orchymyn meddiant er mwyn eich troi allan. Gall ond wneud cais pan fydd y tymor sefydlog wedi dod i ben.
Os ydych yn byw mewn math penodol o lety wedi'i rhannu yn Lloegr, efallai y bydd angen bod gan eich landlord drwydded. Gelwir y math hwn o lety wedi'i rhannu yn Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO).
Rydych yn debygol o fod yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO) os ydych yn rhannu toiled, ystafell ymolchi neu gegin gyda phobl sydd ddim yn aelodau o'ch teulu. Fe fydd eich landlord angen trwydded os ydych yn byw mewn HMO sy'n dri llawr o uchder neu'n fwy, rydych yn ei rhannu gyda phedwar person arall neu fwy ac nid yw pob un ohonoch yn aelodau o'r un teulu. Efallai hefyd y bydd eich landlord angen trwydded os yw eich awdurdod lleol wedi penderfynu y dylai adeiladau HMO llai a/neu landlordiaid preifat eraill fod â thrwydded yn yr ardal ble'r ydych yn byw. Fe allwch ddarganfod os yw hyn yn wir trwy gysylltu ag adran eich awdurdod lleol sy'n delio gyda thai a rentir yn breifat.
Os ydych yn byw mewn eiddo trwyddedig, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r eiddo gwrdd â safonau penodol ac mae'n rhaid i'r landlord gadw at amodau penodol. Cyn y bydd yn rhoi trwydded, fe fydd yr awdurdod lleol yn ystyried a yw'r landlord yn ffit i reoli'r eiddo. Fe fydd hefyd yn dweud faint o bobl sy'n cael byw yn yr adeilad. Mae'r awdurdod lleol yn medru erlyn landlordiaid sy'n gosod eiddo heb y drwydded angenrheidiol neu sy'n torri amodau eu trwydded.
Mae rheolau'r system drwyddedu yn gymhleth ac nid yw rhai mathau o eiddo wedi eu cynnwys.
Yn Lloegr, os ydych yn byw mewn Llety Amlfeddiannaeth, mae'n rhaid i chi gydweithredu gyda'ch landlord i'w helpu i gyflawni ei gyfrifoldebau cyfreithiol. Er enghraifft, mae'n rhaid i chi:
Nid yw landlordiaid sy’n rhentu llety allan mewn Amlfeddiannaeth yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb – gweler y pennawd Gwahaniaethu gan landlordiaid preifat. Os yw landlord sy’n rhentu llety allan mewn Amlfeddiannaeth yn gwahaniaethu yn eich erbyn, byddwch yn medru dweud wrth eich awdurdod lleol amdano. Mae eich awdurdod lleol yn medru ystyried yr wybodaeth hon wrth benderfynu a fydd yn rhoi trwydded i’r landlord.
I ddarganfod mwy am dai amlfeddiannaeth (HMO) a'r system drwyddedu, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ni ddylai landlord preifat wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd ei anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb. Mae hyn yn golygu eu bod fwy na thebyg yn ymddwyn yn anghyfreithlon os ydynt yn:
Efallai na fydd y rheolau hyn yn berthnasol mewn rhai achosion – er enghraifft, os yw’ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi.
Rydw i wedi dod o hyd i fflat yr ydw i am ei rhentu oherwydd mae’n agos i’r gwaith. Rwy’n ddifrifol fyddar ac mae gennyf gi clywed ond mae’r landlord yn dweud nad ydyw’n caniatáu anifeiliaid anwes. A yw hyn yn golygu nad ydw i’n medru cymryd y fflat?
Os ydych yn anabl, rydych yn medru gofyn i’r landlord wneud newidiadau i’w bolisïau a fyddai’n eich caniatáu chi i fyw mewn eiddo. Byddai hyn yn cynnwys newid amod yn y cytundeb tenantiaeth sy’n gwahardd anifeiliaid anwes fel eich bod yn medru cael ci cymorth. Yn ôl y gyfraith, maen rhaid i’ch landlord gytuno i wneud hyn onid oes ganddo reswm da dros beidio, er enghraifft, ar sail iechyd a diogelwch. Os nad yw’ch landlord yn cytuno i wneud newid o’r fath, efallai bod hyn yn wahaniaethu ar sail anabledd, ac mae’n bosib ei fod yn ymddwyn yn anghyfreithlon. Ceisiwch esbonio hyn i’r landlord. Os yw’n dal i wrthod newid ei bolisi, dylech gael cyngor.
Os ydych yn credu bod eich cytundeb tenantiaeth yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor trwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn Lloegr, mae mwy o wybodaeth am eich hawliau fel tenant preifat ar wefan Shelter yn: www.shelter.org.uk.
Os ydych yn ystyried rhentu gan landlord preifat, mae yna daflen i’ch helpu rhag cael eich dal wrth rhentu. Mae gwybodaeth ynglyn â hyn, a chyfle i lawrlwytho copi, ar-lein yn: www.lacors.gov.uk.