Mae’r wybodaeth yma yn berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae gadael cerbyd yn drosedd. Fe allwch gael dirywiad a/neu gael eich carcharu am adael cerbyd.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i awdurdod lleol symud cerbyd sydd wedi cael ei adael ar briffordd, neu ar unrhyw dir agored arall yn ei ardal. Ond, nid yw hyn yn berthnasol i gerbydau sydd wedi eu gadael ar dir preifat a lle byddai’r gost o symud y cerbyd at y briffordd agosaf yn eithriadol o uchel.
Os ydych am ddweud bod cerbyd wedi cael ei adael, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol. Mae’n bosib y bydd y cerbyd wedi bod yn rhan o drosedd, ac fe fydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â’r Heddlu lleol.
Rhaid i’r awdurdod lleol roi rhybudd o 24 awr (7 diwrnod yng Nghymru) cyn symud unrhyw gerbyd sydd mewn cyflwr mor wael fel y bydd yn rhaid ei ddistrywio. Rhaid i’r rhybudd fod ynghlwm wrth y cerbyd.
Os ydyw’r awdurdod lleol neu’r Heddlu yn credu bod gan y cerbyd beth gwerth, rhaid iddynt geisio cael hyd i geidwad cofrestredig diwethaf y cerbyd, ac anfon hysbysiad ysgrifenedig atynt saith niwrnod (21 diwrnod yng Nghymru) cyn symud y cerbyd.
Mae gan yr Heddlu bwerau hefyd i symud cerbyd sy’n edrych fel petai wedi cael ei adael. Os ydyw’r cerbyd yn debygol o fod yn berygl i’r cyhoedd, fe all yr awdurdod lleol ofyn i’r Heddlu symud y cerbyd ar unwaith.
Fe all awdurdod lleol adennill arian gan y person sydd wedi gadael y cerbyd am unrhyw gostau symud, storio a gwaredu. Ni chaiff godi tâl ar berchennog tir preifat am gostau symud cerbyd sydd wedi’i adael oddi ar ei dir (os nad perchennog y tir yw perchennog y cerbyd).
I gael mwy o wybodaeth ar symud cerbydau sydd wedi eu gadael, ewch at wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn www.defra.gov.uk.
Mae effeithiau llygredd aer yn gallu cynnwys mwg, arogleuon ac allyriannau cemegol. Fe allai llygredd aer effeithio ar eich iechyd neu ddifrodi eich eiddo, er enghraifft, fe all mwg effeithio ar waith paent. Fe allai effeithiau’r llygredd fod wedi’u gohirio ac efallai y byddant yn dod yn amlwg beth amser wedi’r llygredd. Gellir creu llygredd aer naill ai trwy broses cemegol diwydiannol, neu unigolyn preifat, er enghraifft trwy gynnau coelcerth neu losgi plastig gwastraff neu deiars car.
Os ydych am gwyno am lygredd aer sydd wedi ei greu gan, er enghraifft, cymydog, dylech geisio datrys y broblem trwy siarad â’ch cymydog yn gyntaf. Os nad ydyw hyn yn gweithio, fe allwch gwyno at adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol. Fe fydd eich awdurdod lleol hefyd yn delio gyda chwynion am brosesau diwydiannol llai, er enghraifft, peiriant llosgi neu ffowndri. Os ydych am gwyno am lygredd aer sy’n deillio o broses ddiwydiannol mwy o faint, er enghraifft, gorsaf bŵer neu burfa olew, dylech gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd - gweler y pennawd Help pellach.
Rhaid i’ch awdurdod lleol glirio baw cwn o’r strydoedd, heolydd a pharciau, ac eithrio mannau lle mae yna weundir neu goetir, neu lle mae anifeiliaid yn pori. Os nad ydyw’ch awdurdod lleol yn gwneud hyn, efallai y byddwch yn medru gofyn am orchymyn diddymiad sbwriel (gweler y pennawd Sbwriel).
Fe all awdurdod lleol hefyd orfodi perchnogion i glirio ar ôl eu cŵn mewn mannau penodol, er enghraifft parciau, strydoedd a thraethau. Maen nhw'n medru gwneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys.
Os yw'ch ci yn baeddu yn un o'r ardaloedd hyn, mae'n rhaid i chi glirio'r budreddi onid oes rheswm rhesymol gennych dros beidio. Os nad ydych yn ei glirio, fe allech gael hysbysiad cosb benodedig.
Os ydych yn cael hysbysiad cosb benodedig, rhaid i chi dalu’r dirwy erbyn y dyddiad ar yr hysbysiad. Os ydych yn anghytuno gyda’r dirwy, fe allech fynd i’r llys a dadlau eich achos. Ond os nad ydych yn gwneud unrhyw beth, efallai y cymerir camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
Os ydych yn cael hysbysiad cosb benodedig ac rydych yn anghytuno ag ef ac eisiau dadlau yn ei erbyn, fe allech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae cŵn yn gallu bod yn beryglus pan fyddan nhw’n afreolus. Os ydych yn poeni am gi peryglus, dylech gysylltu â’r Heddlu. Os oes ardal lle mae cŵn yn niwsans yn aml, fe allwch ddweud wrth yr awdurdod lleol. Maen nhw'n medru cyflwyno deddfau lleol neu, yn Lloegr, gorchymyn rheoli cwn, i wneud i’r perchnogion gadw eu cŵn ar dennyn mewn ardaloedd penodol neu wahardd y cŵn o leoliadau fel mannau chwarae i blant.
Mae gwybodaeth bellach ar reoli cŵn ar gael ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk.
Os ydych yn credu bod eich eiddo mewn ardal su’n dueddol o gael llifogydd, dylech gysylltu â llinell gymorth arbennig Asiantaeth yr Amgylchedd, Llinell Llifogydd. Fe allwch ffonio’r llinell i:
Nid yw Llinell Llifogydd yn gallu rhoi gwybodaeth fanwl am amodau’r tywydd neu deithio. Fe allwch gysylltu â Llinell Llifogydd ar: 0845 988 1188. Minicom: 0845 602 6340.
Fe allwch hefyd gysylltu â’ch awdurdod lleol i weld eu bod nhw’n darparu digon o amddiffyniad rhag llifogydd yn eich ardal chi. Mewn rhai ardaloedd, fe allai Asiantaeth yr Amgylchedd (gweler y pennawd Help pellach) ddadlau ei fod yn rhy ddrud i wneud y gwaith sydd ei angen i amddiffyn eich eiddo.
Os nad chaiff amddiffynfeydd digonol eu darparu, neu os ydyw Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud y byddent yn rhy ddrud, fe allwch gwyno, gan ddilyn gweithdrefn gwynion Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae gwybodaeth ynglŷn â’r weithdrefn gwynion ar adran ‘Cysylltu â ni’ gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd - gweler y pennawd Help pellach am gyfeiriad y wefan.
Os caiff eich eiddo a’ch adeiladau eu niweidio oherwydd llifogydd, neu os ydych yn gorfod mynd i gostau ychwanegol, dylech hawlio ar eich yswiriant. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael benthyciad argyfwng gan y Llywodraeth.
Am wybodaeth ynghylch sut i hawlio ar eich yswiriant o ganlyniad i lifogydd yn eich eiddo, gweler Yswiriant adeiladau ac Yswiriant cynnwys y cartref yn y Taflenni ffeithiau i ddefnyddwyr. I gael mwy o wybodaeth ar fenthyciadau argyfwng, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Os ydych yn ddigartref oherwydd llifogydd yn eich eiddo ac rydych yn denant, dylech ofyn i’ch landlord os ydyw’n gallu rhoi llety arall i chi nes i chi allu symud yn ôl i’ch cartref eich hun. Os nad ydyw hyn yn bosib, neu os ydych yn berchen ar eich cartref, efallai y gallwch gyflwyno cais i adran dai eich awdurdod lleol fel person digartref.
I gael mwy o wybodaeth ar gyflwyno cais fel person digartref i’ch awdurdod lleol, gweler Dod o hyd i lety.
Mae yn erbyn y gyfraith i ollwng sbwriel. Os ydych yn gwneud hyn, fe allech gael hysbysiad cosb benodedig. Os ydych yn cael hysbysiad cosb benodedig, rhaid i chi dalu’r dirwy erbyn y dyddiad ar yr hysbysiad. Os ydych yn anghytuno gyda’r dirwy, fe allech fynd i’r llys a dadlau eich achos. Ond os nad ydych yn gwneud unrhyw beth, efallai y cymerir camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn.
Os ydych yn cael hysbysiad cosb benodedig ac rydych yn anghytuno ag ef ac eisiau dadlau yn ei erbyn, fe allech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Dylai eich awdurdod lleol sicrhau bod y strydoedd, y parciau ac unrhyw fannau agored yn cael eu cadw’n lân. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill fel adrannau’r llywodraeth a gweithredwyr trafnidiaeth hefyd gadw eu tir cyhoeddus eu hunain yn rhydd o sbwriel a gwastraff.
Os ydych am ddweud am sbwriel ar dir sy’n eiddo i gorff cyhoeddus, dylech gysylltu â’r mudiad dan sylw. Os na chymerir unrhyw gamau, fe allwch fynd at adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.
Hefyd, mae eich awdurdod lleol yn medru cymryd camau i orfodi mudiadau preifat i reoli sbwriel ar eu tir. Fe all wneud hyn, er enghraifft, trwy:-
Os nad ydyw’ch awdurdod lleol yn cymryd camau i ddelio gyda phroblem sbwriel, fe allwch wneid cais i’r llys ynadon am orchymyn diddymu sbwriel, er emyn clirio’r ardal.
Os ydych am gwyno ynghylch lleoliad mast ffôn symudol arfaethedig yn eich ardal, fe allwch fynegi eich gwrthwynebiad i adran cynllunio eich awdurdod lleol. Efallai hefyd y byddwch yn dymuno cysylltu â’r cwmni ffôn symudol yn uniongyrchol.
Yn Lloegr mae menter Campaign to Protect Rural England (gweler y pennawd Help pellach) yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch herio ceisiadau cynllunio ar gyfer mastiau ffôn symudol. Fe allai’r wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol yng Nghymru hefyd.
Os ydych yn poeni am y posibilrwydd o risg i iechyd o ganlyniad i fast ffôn symudol, fe allwch gysylltu â’r Asiantaeth Diogelu Iechyd (gweler y pennawd Help pellach) am wybodaeth.
Os ydych yn dioddef oherwydd sŵn sy’n achosi niwsans i chi, er enghraifft sŵn sy’n dod o gyfeiriad cymydog, safle adeiladu neu fusnes lleol, gellir trin yr achos fel trosedd. Yn gyntaf, dylech geisio datrys y broblem trwy siarad â’ch cymydog. Os nad ydyw hyn yn datrys y broblem, fe allwch gwyno i adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol, sy’n gorfod ymchwilio i’r gwyn.
Os ydyw’ch awdurdod lleol yn derbyn y gellir cyfiawnhau’r gwyn, fe all gyflwyno gorchymyn diddymu, a fydd yn gorchymyn bod yn rhaid atal y swn sy’n achosi niwsans ac na ddylid ei ailadrodd. Fe all rhywun sy’n destun rhybudd diddymu apelio. Os nad ydyw’n apelio, neu os ydyw’r llys yn cynnal y rhybudd, rhaid i’r person yna gydymffurfio â’r rhybudd. Os nad ydyw’n cydymffurfio, fe allai fod yn troseddu.
Mae gan bob awdurdod lleol y pwer i ddelio â niwsans sain o larymau cerbyd a seiniau stryd eraill, er enghraifft, cerddoriaeth. Mae hyn yn cynnwys y pwer i dorri i mewn i’r cerbyd a distewi’r larwm os yw’n creu niwsans.
Mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i ddelio ar unwaith â swn sy’n dod o adeiladau trwyddedig yn ystod y nos (rhwng 11 yh a 7 yb). Yn gyntaf, byddant yn rhoi rhybudd ffurfiol i’r person sy’n gyfrifol am wneud y swn, ac yn a os na fydd y swn yn stopio o fewn yr amser a rhoddwyd yn y rhybudd (deg munud fel arfer), gall yr awdurdod lleol rhoi dirwy cosb benodedig iddynt neu eu herlid. Yn ogystal, gall yr awdurdod lleol fynd â’r offer sy’n achosi’r swn.
Mae Environmental Protection UK yn gallu cynnig cyngor cyffredinol ynglyn â sŵn. Mae nhw hefyd yn cynhyrchu cyfres dda iawn ar lygredd sŵn. Dyma eu cyfeiriad:
44 Grand Parade
Brighton
BN2 9QA
Ffôn: 01273 878770
Ffacs: 01273 606626
E-bost: admin@environmental-protection.org.uk
Gwefan: www.environmental-protection.org.uk
Rydych yn gyfrifol am ddelio gydag unrhyw bla sydd yn eich eiddo eich hun. Mae pla yn cynnwys llygod, llygod mawr, colomennod, chwilod du, chwain, llau chwilod gwely. Efallai y bydd gan eich awdurdod lleol wasanaeth rheoli pla ond fe allai godi tâl arnoch am y gwasanaeth. Os ydych yn denant, dylech ddeud wrth eich landlord am unrhyw bla.
Os ydych yn amau bod pla mewn eiddo cyfagos, dylech drafod y mater gyda’r perchennog i ddechrau. Os ydyw’ch cymydog yn gwrthod datrys y broblem, fe allwch gwyno i’ch awdurdod lleol. Fe all yr awdurdod lleol archwilio’r eiddo a’i glirio ei hun, ac yna gellir codi tâl ar y perchennog am wneud hyn.
Os ydych yn credu bod pla yn dod o waith diwydiannol neu fusnes, er enghraifft tip sbwirel neu waith carthffosiaeth, rydych yn medru cwyno i'r awdurdod lleol. Fe fydd yr awdurdod lleol yn medru cymryd camau i ddelio â'r broblem.
Mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol reoli unrhyw bla o’r fath ar eu tir a’u hadeiladau eu hunain. Os ydych yn poeni am bla, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol, a ddylai gymryd camau i ddatrys y broblem.
Mae’n rhaid i unrhyw un sydd am gynnal digwyddiad awyr agored gyflwyno cais am drwydded adloniant. Os na roddir trwydded, ac mae’r digwyddiad yn cymryd lle, fe allent fod yn euog o gymryd rhan mewn rêf. Yn llygaid y gyfraith, caiff rêf ei ddiffinio fel cynulliad o 20 neu fwy o bobl sy’n chwarae cerddoriaeth uchel sy’n debygol o darfu ar bobl.
Fe all yr Heddlu gymryd camau i stopio rêf neu ei atal rhag cymryd lle.
Os oes cwyn gennych ynghylch cyflwr stryd neu balmant, dylech gysylltu ag adran priffyrdd eich awdurdod lleol. Dylech ddweud wrth eich awdurdod lleol os ydych yn credu y gallai palmentydd neu heolydd diffygiol neu rhewllyd achosi damwain. Os ydych wedi dioddef anaf personol oherwydd cyflwr stryd neu balmant, er enghraifft, rydych wedi baglu ar garreg palmant, neu wedi llithro ar stryd neu balmant sy’n llawn ia, mae’n bosib y medrwch chi hawlio iawndal.
I gael mwy o wybodaeth ar sut i hawlio iawndal am anaf personol, gweler Anafiadau personol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i hawlio iawndal am ddifrod i’ch cerbyd, gweler Damweiniau traffig.
Dylech hefyd gwyno i’ch awdurdod lleol am broblemau sy’n ganlyniad i waith cwmnïau iwtiliti ar strydoedd (er enghraifft cwmnïau nwy, dwr neu drydan) neu gwmnïau cebl. Dylech ofyn am help gan eich awdurdod lleol yn yr achosion canlynol:
Mae’r adran priffyrdd hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw gwrthrychau stryd fel arfer, er enghraifft goleuadau traffig, lampau stryd, croesfannau a biniau sbwriel. Ond, mewn rhai achosion, mae’n bosib mai corff arall sy’n gyfrifol, er enghraifft mae’n bosib mai cwmni preifat sy’n gyfrifol am arosfan bws neu gysgodfan bws, neu efallai mai cyfrifoldeb cyngor y plwyf yw ambell lamp stryd. Fe ddylai’r adran priffyrdd fod yn gallu dweud pwy sy’n gyfrifol.
Adran priffyrdd eich awdurdod lleol sy’n gyfrifol am reoli traffig a pharcio. Mae ei phwerau’n gynnwys:-
Cyn iddynt gyflwyno mesurau rheoli parcio neu draffig newydd, mae’n rhaid i’ch awdurdod lleol gyhoeddi manylion eu cynigion yn y papurau lleol. Mae’n bosib hefyd y byddant yn rhoi hysbysiadau yn y strydoedd o dan sylw. Mae gennych yr hawl i gynnig sylwadau ar y cynigion hyn neu eu gwrthwynebu. Os ydych yn credu y dylai fod mesurau rheoli parcio neu draffig newydd mewn stryd benodol, fe allwch ofyn i’ch awdurdod lleol ystyried eu cyflwyno.
Mae'n anghyfreithlon parcio dau gerbyd neu fwy yn y stryd er mwyn eu gwerthu. Mae hefyd yn anghyfreithlon atgyweirio neu wasanaethu cerbyd yn y stryd. Yn bennaf, mae'r gyfraith hon yn berthnasol i fusnesau sy'n gweithio am elw ac sy'n achosi niwsans. Nid yw'n berthnasol i unigolion preifat sy'n gwerthu eu ceir neu'n gwneud atgyweiriadau bach wrth ochr yr heol. Ond, mewn rhai amgylchiadau neilltuol, gellid defnyddio'r gyfraith hon gydag unigolion preifat os yw eu cerbydau yn achosi niwsans.
Os ydych yn poeni am gerbydau sydd wedi'u parcio ar y stryd i'w gwerthu, eu gwasanaethu neu eu hatgyweirio, dylech ddweud wrth adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol.
Mae casglu ac ailgylchu y rhan fwyaf o fathau o wastraff yn gyfrifoldeb ar eich awdurdod lleol. Dyma fydd yr achos hyd yn oed os ydyw’r awdurdod wedi contractio ei wasanaethau casglu sbwriel at gontractwr preifat. Fe all awdurdod godi tâl am gasglu eitemau mawr.
Rhaid i’ch awdurdod lleol feddu ar reolau am beth y disgwylir i chi i wneud gyda gwastraff sydd i’w gasglu. Mae’n rhaid eich hysbysebu o’r rheolau hyn.
Dylai’r reolau gynnwys:
Os fyddwch yn torri unrhyw rheol sydd gan eich awdurdod lleol sy’n ymwneud â gwastraff tŷ, mae’n bosib y cewch ddirwy.
Os nad ydych yn hapus am y ffordd y mae eich awdurdod lleol yn casglu ac yn gwaredu gwastraff, dylech ddefnyddio’r weithdrefn gwyno fewnol. Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, fe allwch gwyno i’r Ombwdsman Llywodraeth Leol.
I gael mwy o wybodaeth am sut i gwyno i Ombwdsman Llywodraeth Leol, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr neu yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru.
Os ydych yn prynu offer trydanol newydd, fe fydd yn rhaid i’r siop ble prynoch chi’r offer gynnig gwasanaeth gwaredu rhad ac am ddim ar gyfer eich hen eitem. Mae hyn yn cynnwys pob offer mawr a bach ar gyfer y cartref, offer TG a llawer o nwyddau trydanol eraill fel offer gwaith ac offer chwaraeon.
Mae’n rhaid i siopau gynnig o leiaf un o dri opsiwn i chi ar gyfer gwaredu eich hen offer, sef:
Dim ond un o’r opsiynau hyn sy’n rhaid i’r siop ei gynnig i chi. Nid oes rhaid iddynt gynnig casglu eich eitem yn rhad ac am ddim o’ch cartref na gadael i chi ddychwelyd eich offer i’r siop.
Os ydych chi am gael gwared ar hen oergell neu rewgell, ac nid ydych yn prynu un newydd, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwneud hyn yn ddiogel er mwyn atal damweiniau neu ddifrod i’r amgylchedd. Mae’n rhaid i adran sbwriel eich awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth casglu eitemau swmpus, ond maen nhw’n gallu codi tâl arnoch am y gwasanaeth hwn. Neu, fe allwch fynd â’r gwrthrych at eich safle amwynderau dinesig lleol i’w gwaredu yn rhad ac am ddim. Fe fyddan nhw’n sicrhau bod y gwrthrych yn cael ei waredu’n ddiogel.
Fe allwch gael mwy o wybodaeth am gael gwared ar oergelloedd a rhewgelloedd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru – gweler y pennawd Help pellach - am gyfeiriadau’r gwefannau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael gwared ar offer trydanol, cliciwch ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd: www.environment-agency.gov.uk.
Dylech gysylltu â DEFRA i gychwyn trwy Llinell Gymorth DEFRA. Dyma fanylion cyswllt y Llinell Gymorth:-
Customer Contact Unit
Eastbury House
30 - 34 Albert Embankment
London
SE1 7TL
Llinell Gymorth: 0845 933 5577
Minicom: 0845 300 1998
Ffacs: 020 7238 2188
E-bost: helpline@defra.gsi.gov.uk
Gwefan: www.defra.gov.uk
Yn Lloegr, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLlL) sy’n gyfrifol am bolisïau cynllunio. Yng Nghymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio (gweler isod). Dylech gysylltu â’r ACLlL trwy’r Gwasanaeth Ymholiadau i gychwyn. Dyma’r manylion cyswllt:-
Enquiry Service
Department for Communities and Local Government
Eland House
Bressenden Place
London
SW1E 5DU
Ffôn: 0303 444 0000
Gwefan: www.communities.gov.uk
Yng Nghymru, Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o bolisïau’r llywodraeth mewn perthynas â’r amgylchedd. Dyma’r manylion cyswllt:-
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 0845 010 3300 (Saesneg) neu 0845 010 4400 (Cymraeg)
Gwefan: http://new.wales.gov.uk/
Asiantaeth yr Amgylchedd yw prif asiantaeth y llywodraeth yng Nghymru a Lloegr sy’n gyfrifol am warchod a gwella’r amgylchedd. Mae’n gwneud hyn, er enghraifft, trwy reoleiddio diwydiannau, cynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ac adnoddau dwr, a gwella cynefinoedd bywyd gwyllt. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu trwy nifer o swyddfeydd rhanbarthol, a gellir cysylltu â nhw trwy’r pencadlys. Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer y pencadlys:-
Asiantaeth yr Amgylchedd
National Customer Contact Centre
PO Box 544
Rotherham
S60 1BY
Ffôn: 0370 850 6506 (Llinell Ymholiadau Cyffredinol)
0370 242 2549 (Minicom Ymholiadau Cyffredinol)
0800 807060 (Poeth Linell Frys)
0845 988 1188 (Llinell Llifogydd)
0845 602 6340 (Llinell Llifogydd ‘Type talk’)
E-bost: enquiries@environment-agency.gov.uk
Gwefan: www.environment-agency.gov.uk
Cyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch (HSE) sy’n gyfrifol am amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, gan gynnwys delio gyda rhai materion amgylcheddol. Dyma’r manylion cyswllt:-
Health and Safety Executive
Rose Court
2 Southwark Bridge
London
SE1 9HS
Ffôn: 0845 300 9923 (Llinell digwyddiadau)
0870 154 5500 (Gwybodaeth gyffredinol)
Ffacs: 029 2085 9260
E-bost: hseinformationservices@natbrit.com
Gwefan: www.hse.gov.uk
Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r llywodraeth, ac i aelodau o’r cyhoedd mewn perthynas â gwarchod rhai peryglon ymbelydredd, gan gynnwys mastiau ffôn symudol. Dyma’r manylion cyswllt:-
Health Protection Agency
Centre for Radiation, Chemical and Environmental Hazards
Chilton
Didcot
Oxfordshire
OX11 0RQ
Ffôn: 01235 831600
Ffacs: 01235 833891
E-bost: rpd@hpa.org.uk
Gwefan: www.hpa.org.uk/radiation
Mae Keep Britain Tidy yn gallu rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch sbwriel a gwella a chynnal yr amgylchedd lleol. Mae hefyd yn gyfrifol am Ymgyrch Cadw Prydain yn Daclus. Dyma’r manylion cyswllt:-
Keep Britain Tidy
Elizabeth House
The Pier
Wigan
WN3 4EX
Ffôn: 01942 612621
Ffacs: 01942 824778
E-bost: enquiries@keepbritaintidy.org
Gwefan: www.keepbritaintidy.org
Mae Cyfeillion y Ddaear yn ymgyrchu ar faterion amgylcheddol. Mae'n cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer cefnogwyr yr ymgyrchoedd y mae'n gweithio arnynt. Mae ganddo linell cyngor cyfreithiol rad ac am ddim hefyd ar gyfer materion amgylcheddol. Dyma’r manylion cyswllt:-
Friends of the Earth
26-28 Underwood Street
London
N1 7JQ
Llinell cyngor cyfreithiol: 0808 801 0405
Ffôn: 020 7490 1555 (prif switsfwrdd)
E-bost: legal@foe.co.uk
Gwefan: www.foe.co.uk
Mae’r CPRE ac YDCW yn ymgyrchu tros warchod cefn gwlad. Maen nhe hefyd yn cynhyrchu taflenni ffeithiau defnyddio l a dogfennau gwybodaeth eraill, ar amrywiaeth o faterion gwledig. Dyma’r manylion cyswllt:-
Campaign to Protect Rural England (CPRE)
128 Southwark Street
London
SE1 0SW
Ffôn: 020 7981 2800
Ffacs: 020 7981 2899
E-bost: info@cpre.org.uk
Gwefan: www.cpre.org.uk
Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)
Ty Gwyn
31 Stryd Fawr
Y Trallwng
Powys
SY21 7YD
Ffôn: 01938 552525 neu 01938 556212
Ffacs: 01938 552741
E-bost: info@cprwmail.org.uk
Gwefan: www.cprw.org.uk
Mae FixMyStreet yn wefan ddefnyddiol ble mae pobl yn medru dweud am broblemau lleol, er enghraifft, cerbydau wedi cael eu gadael, goleuadau ddim wedi eu cynnau, graffiti, gollwng sbwriel yn anghyfreithlon, goleuadau stryd a slabiau palmant wedi torri. Rydych yn medru rhoi manylion y broblem ar fap ac mae’n cael ei chyfeirio at y cyngor lleol ar eich rhan. Rhowch glic ar www.fixmystreet.com.