Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mynd dramor am ofal deintyddol

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Efallai eich bod yn ystyried mynd dramor am rywfaint o ofal deintyddol.

Os felly, mae yna wybodaeth bwysig y dylech chi wybod amdano.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am:

  • rheolaeth deintyddion yn y wlad yr ydych yn dymuno mynd iddi
  • beth sydd angen i chi ei ddarganfod yn yr ymgynghoriad cyntaf
  • pa ôl-ofal a ddarperir gan y tîm deintyddol.

Mae gan Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y DU daflen sy’n esbonio beth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi gytuno i ofal deintyddol dramor.

Fe allwch chi gael y wybodaeth hon ar wefan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn: (New window) www.gdc-uk.org.

Mae’r daflen ar gael yn y Gymraeg hefyd.