Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae'n bwysig i chi wneud ewyllys p'un ai eich bod chi'n teimlo bod gennych lawer o eiddo neu arian ai peidio. Mae'n bwysig gwneud ewyllys oherwydd:-
Os oes gennych unrhyw amheuon ynglyn â gwneud ewyllys,dylech gysylltu â chyfreithiwr neu Ganolfan Cynghori a fydd yn gallu rhoi rhestr o gyfreithwyr i chi. I chwiIio am fanylion ynglyn â'r Ganolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb wneud ewyllys yng Nghymru a Lloegr, gweler Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys.
Does dim rhaid i’ch hewyllys gael ei llunio a’i thystio gan gyfreithiwr. Os dymunwch wneud ewyllys eich hun, gallwch wneud hynny. Er hyn, yr unig bryd y dylech ystyried gwneud hyn yw pan fo’r ewyllys yn un syml.
Yn gyffredinol, fe'ch cynghorir i ddefnyddio cyfreithiwr neu gael cyfreithiwr i wirio ewyllys a luniwyd gennych, er mwyn sicrhau y bydd yr ewyllys yn cael yr effaith a oedd wedi'i fwriadu gennych. Y rheswm dros hyn yw ei bod yn hawdd gwneud camgymeriadau ac os oes problemau gyda'r ewyllys, gallai hyn olygu cryn broblemau yn dilyn eich marwolaeth. Gall datrys camddealltwriaethau ac anghytundebau ar ôl eich marwolaeth fod yn gostus iawn, a bydd hyn yn lleihau cyfanswm yr arian sydd yn yr ystad.
Dylech gofio y bydd cyfreithiwr yn codi tâl am ei wasanaethau, wrth lunio ewyllys neu ei wirio. Dylai roi’r wybodaeth orau posib i chi ynglŷn â chost y gwasanaethau. Dylai roi’r wybodaeth hon i chi ar ddechrau ei waith gyda chi.
Dyma rai camgymeriadau cyffredin sy'n cael eu gwneud wrth lunio ewyllys:-
Mae yna rai amgylchiadau ble caiff pobl eu cynghori yn arbennig i ddefnyddio cyfreithiwr wrth lunio ewyllys, sef:
Os ydych yn aelod o undeb llafur, mae’n bosib y bydd yr undeb yn cynnig gwasanaeth llunio ewyllys yn rhad ac am ddim. Bydd yr undebau yn aml yn defnyddio eu cyfreithwyr eu hunain i ymgymryd â’r gwaith yma.
Mae yna rai llyfrau sy’n darparu canllawiau ar sut i lunio ewyllys. Gall y rhain eich helpu i benderfynu a ddylech chi lunio eich hewyllys eich hun ac maen nhw hefyd yn help i chi benderfynu os bydd unrhyw un o’r ffurflenni ewyllys argraffiedig sydd ar gael oddi wrth elusennau ac eraill o ddefnydd ai peidio. Gellir cael help ar y rhyngrwyd hefyd.
Mae gwasanaethau llunio ewyllys ar gael. Er hyn, nid yw’r cwmnïau llunio ewyllys yn cael eu rheoli gan Gymdeithas y Gyfraith, felly nid oes llawer i'ch diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. Os ydych yn penderfynu defnyddio cwmni llunio ewyllys, dylech ystyried defnyddio un sy’n perthyn i gymdeithas fasnach sydd â chod ymarfer a gymeradwywyd gan y llywodraeth. Fe allwch ddod o hyd i gymdeithasau masnach ar gyfer cwmnïau llunio ewyllys, sydd â chodau ymarfer a gymeradwywyd, ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg yn: www.oft.gov.uk.
Bydd cost llunio ewyllys yn amrywio o gyfreithiwr i gyfreithiwr, gan ddibynnu hefyd ar pa mor gymleth fydd yr ewyllys. Cyn penderfynu ar gyfreithiwr i’w ddefnyddio, mae bob amser yn ddoeth cysylltu â rhai cyfreithwyr lleol i gael syniad o'r gost. Mae’n bosib bod gennych yr hawl i dderbyn cyngor cyfreithiol drwy atodiad i bolisi yswiriant fydd, o bosib, yn talu costau cyfreithiwr a fydd yn paratoi neu’n gwirio’r ewyllys. Os ydych yn aelod o undeb llafur, mae’n bosib y bydd yr undeb yn cynnig gwasanaeth ewyllys rhad ac am ddim i’r aelodau.
Byddai hefyd o fydd i chi ddechrau meddwl beth fyddwch chi am ei ddweud yn yr ewyllys cyn gweld cyfreithiwr. Dylai hyn fod yn help i leihau'r costau.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n bosib y gallwch cael cymorth gyda chostau cyfreithiol llunio ewyllys o dan gynllun y ffurflen werdd. Yng Nghymru a Lloegr, bydd y cynllun cymorth cyfreithiol ond yn talu am lunio ewyllys os ydych yn gymwys ar sail sefyllfa ariannol ac yn:-
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun cymorth cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol. Am fwy o wybodaeth am y cynllun ffurflen werdd yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
I arbed amser a lleihau costau wrth fynd at gyfreithiwr, dylech roi peth ystyriaeth i’r prif bwyntiau y dymunwch eu cynnwys yn eich hewyllys. Dylech ystyried pethau fel:-
Y gweithredwyr yw’r bobl fydd yn gyfrifol am weithredu eich dymuniadau ac am ddatrys unrhyw faterion yn ymwneud â’r ystad. Bydd yn ofynnol eu bod yn casglu holl asedau’r ystad ynghyd, delio â’r holl waith papur a thalu’r holl ddyledion, y trethi, costau'r angladd a chostau gweinyddol yr arian yn yr ystad. Bydd yn ofynnol iddynt ddosbarthu’r rhoddion a’r eiddo i'r etifeddwyr.
Er nad yw’n angenrheidiol apwyntio mwy nag un gweithredwr ar gyfer ewyllys, cynghorir pobl i wneud hynny, rhag ofn, er enghraifft, y bydd un ohonynt yn marw. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn apwyntio dau, ond gall hyd at bedwar gweithredwr gymryd y cyfrifoldeb am weinyddu ewyllys ar ôl marwolaeth. Yn gyffredinol, y bobl canlynol sy'n cael eu dewis i fod yn weithredwyr ewyllys:-
Mae'n bwysig dewis gweithredwyr sydd â chryn ofal gan y bydd eu tasg yn golygu cryn dipyn o waith a chyfrifoldeb. Dylech siarad ag unrhyw un yr ystyriwch ei apwyntio fel gweithredwr bob amser. Os byddwch yn apwyntio rhywun i fod yn weithredwr yn groes i’w d(d)ymuniand, mae ganddynt bob hawl i wrthod gweithredu.
Os bydd gweithredwr yn marw, gall unrhyw un o’r gweithredwyr sydd ar ôl ddelio â’r ystad. Os nad oes gweithredwyr apwyntiedig ar ôl, dylid ofyn am gyngor cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae'n rhaid i weithredwyr ei wneud yng Nghymru a Lloegr, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.
Er mwyn sicrhau bod gwerth gyfreithiol i ewyllys, rhaid i’r ewyllys:-
Er y bydd hi’n parhau i fod â gwerth gyfreithiol, hyd yn oed heb ddyddiad arni, cynghorir pobl i sicrhau bod yr ewyllys yn cynnwys y dyddiad yr arwyddwyd hi.
Bydd yr ewyllys wedi ei chwblhau cyn gynted ag y bydd hi wedi ei harwyddo a’i thystio.
Os yw rhywun yn gwneud ewyllys ond nid yw'n ddilys yn gyfreithiol, yna pan fyddant yn marw, fe fydd eu hystad yn cael ei rannu o dan reolau penodol, ac nid yn unol â'r dymuniadau yn yr ewyllys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb adael ewyllys ddilys yng Nghymru a Lloegr, gweler Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys.
Unwaith y gwneir ewyllys, dylech ei chadw mewn lle diogel yn gwbl ar wahân i unrhyw ddogfennau eraill. Mae yna nifer o lefydd lle y gallech gadw ewyllys:-
Pan fydd rhywun yn marw, fel arfer rhaid i’r person sy’n delio gyda’u hystad (er enghraifft arian ac eiddo) gael awdurdodaeth i wneud hynny gan y Gwasanaeth Profiant. Os oes ewyllys, gelwir yr awdurdodaeth hwn yn Grant Profiant. Pan roddir y profiant, cedwir yr ewyllys gan y Gwasanaeth Profiant ac mae unrhyw aelod o’r cyhoedd yn medru cael copi.
Yng Nghymru a Lloegr
Os ydych chi am chwilio am ewyllys person a fu farw’n ddiweddar, fe allwch gyflwyno cais i’r Gwasanaeth Profiant i gael chwiliad sefydlog. Fe fyddan nhw’n chwilio’u cofnodion i weld os roddwyd grant profiant yn y deuddeg mis cyn eich cais, ac yna fe fyddan nhw’n parhau i chwilio am chwe mis ar ôl hynny. Os rhoddwyd grant fe fyddan nhw’n anfon copi o’r grant atoch a chopi o’r ewyllys, os oes ewyllys. Mae angen talu ffi. Fe allwch adnewyddu eich chwiliad ar ddiwedd y chwe mis am ffi pellach. Efallai y byddai’n ddoeth aros deufis neu dri mis ar ôl y farwolaeth cyn i chi gyflwyno cais am chwiliad.
Fe allwch ddarganfod sut i geisio am chwiliad sefydlog, a faint mae’n ei gostio, ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn www.hmcourts-service.gov.uk.
Os ydych am chwilio ar eich pen eich hun, neu os ydych am chwilio am ewyllys rhywun a fu farw dros ddeuddeg mis yn ôl, fe allwch gael chwiliad cyffredinol. Fe fydd chwiliad cyffredinol gan y Gofrestr Profiant yn cwmpasu cyfnod o bedair mlynedd ac mae angen talu ffi. Os byddwch chi’n mynd at y Gofrestr Profiant i chwilio drosoch chi’ch hun, ni chodir unrhyw dâl, ond mae’n rhaid i chi dalu i gael copi o’r grant profiant a’r ewyllys, os oes ewyllys.
Fe allwch chi ddarganfod sut i geisio am chwiliad cyffredinol, a faint mae’n ei gostio, ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi yn www.hmcourts-service.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon
Fe fydd y Swyddfa Profiant yn anfon copïau o’r ewyllysiau sydd ganddi yn uniongyrchol at yr unigolyn. Dylid talu’r ffioedd trwy siec wedi ei chroesi neu archeb post yn daladwy i Northern Ireland Courts and Tribunals Service. Y ffi am gopi o’r ewyllys yw £5 neu £10 am gopi wedi’i ardystio. Efallai y bydd ffi ychwanegol am chwiliad, gan ddibynnu ar yr wybodaeth sydd gennych ynglyn â’r ewyllys. Yn yr achos hwn, fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Swyddfa Profiant yn y cyfeiriad isod:
The Probate Office
2nd Floor, Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast BT1 3JF
Rhif Ffôn: 028 9072 4678
Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych chi eisiau cynnal chwiliad personol, dylech gysylltu â’r Swyddfa Profiant, a fydd yn medru dweud wrthych i ble y dylech fynd a pha ffioedd sy’n daladwy.
Yng Ngogledd Iwerddon, os mai’r Gofrestrfa Profiant Ranbarthol (District Probate Registry) sydd wedi delio â’r ewyllys (gweler uchod) mae’n bosib archwilio’r dogfennau yno.
Pan fyddwch wedi cwblhau ewyllys, mae’n bwysig ei chadw ‘n gywir ac ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau. Fe'ch cynghorir i ailystyried cynnwys ewyllys yn rheolaidd er mwyn sicrhau y bydd yn parhau i fynegi eich dymuniadau personol. Y newidynnau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ewyllys yw:-
Mae’n bosib y dymunwch newid eich hewyllys oherwydd newid mewn amgylchiadau. Mae'n rhaid i chi wneud hyn drwy newid yr ewyllys wreiddiol wedi iddi gael ei harwyddo a’i thystio. Bydd unrhyw newidiadau a wnaed ar arwyneb yr ewyllys yn cael eu hystyried fel rhai a wnaed yn hwyrach ac felly ni fyddant yn rhan o’r ewyllys sydd â gwerth cyfreithiol iddi.
Yr unig ffordd i newid ewyllys yw drwy:-
Cymal sy’n gwneud rhai newidiadau ond sy’n gadael y rhan fwyaf o’r ewyllys fel ag yr oedd yw atodiad. Gwneir hyn, er enghraifft, i gynyddu etifeddiaeth ariannol, i newid gweithredwyr neu warchodwyr a enwir yn yr ewyllys, neu er mwyn ychwanegu eifeddwyr.
Rhaid i atodiad gael ei arwyddo gan y person a wnaeth yr ewyllys a rhaid tystio i’r newidiadau yn yr un modd. Er hyn, nid yw’n orfodol cael yr un tystion ag a gafwyd ar gyfer yr ewyllys wreiddiol.
Nid oes cyfyngu ar y nifer o atodiadau y gellir eu hychwanegu i ewyllys, ond dim ond ar gyfer newidiadau syml y maent yn addas. Os oes yna newid(iadau) cymhleth, mae’n well llunio ewyllys newydd.
Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau mawr i ewyllys, fe'ch cynghorir i lunio un o’r newydd. Dylai’r un newydd agor gyda chymal sy’n nodi fod yr un newydd yn diddymu unrhyw ewyllys ac atodiadau blaenorol. Dylid dinistrio’r hen ewyllys. Bydd diddymu ewyllys yn golygu nad oes gwerth cyfreithiol i’r ewyllys honno mwyach.
Os ydych am ddinistrio ewyllys, rhaid i chi ei llosgi, ei rhwygo neu ei dinistrio rhywffordd arall gyda’r bwriad clir o’i diddymu. Mae yna berygl, os bydd y copi'n ailymddangos (neu os atgyweirir rhannau o’r ewyllys) yr ystyriwyd bod y dinistriad yn ddamweiniol. Rhaid i chi ddinistrio’r ewyllys drosoch chi eich hun neu rhaid iddi gael ei dinistrio yn eich presenoldeb. Ni fydd rhoi cyfarwyddyd syml i weithredwr yn effeithiol. Os dinistrir yr ewyllys yn ddamweiniol, ni ddiddymwyd hi a gellid ei hystyried o werth cyfreithiol.
Er y gellir diddymu ewyllys drwy ddinistrio, mae bob amser yn werth cynnwys cymal yn yr ewyllys newydd sy’n diddymu unrhyw ewyllys ac atodiadau blaenorol. Bydd diddymu ewyllys yn golygu na fydd hi o werth cyfreithiol mwyach.
Os bydd person a wnaeth ewyllys yn cyflawni hunan-laddiad, bydd yr ewyllys yn parhau i fod o werth cyfreithiol.
Bydd person, o bosib, am herio ewyllys oherwydd:-
Mae cyfyngiadau amser llym ar herio ewyllysion ac os ydych am herio ewyllys, dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosib. Os ydych chi am herio’r ewyllys am nad ydych yn credu ei bod wedi darparu’n ddigonol ar eich cyfer, mae’r terfyn amser yn chwe mis o’r dyddiad y rhoddwyd y profiant. Gall eich Canolfan Cynghori lleol ddarparu rhestr o gyfreithwyr. I chwiIio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi wedi cael eich enwi yn ewyllys rhywun arall fel ysgutor, efallai y bydd yn rhaid i chi geisio am brofiant fel eich bod yn medru delio gydag ystad y person yna.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrofiant, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.