Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

  • England
  • Y Teulu
  • Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys

Pwy sy'n medru etifeddu os nad oes ewyllys – y rheolau pan nad oes ewyllys

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr



Beth yw'r rheolau pan nad oes ewyllys

Pan fydd person yn marw heb adael ewyllys dilys, yna mae'n rhaid rhannu eu heiddo (yr ystâd) yn ôl rheolau penodol. Gelwir y rhain yn rheolau diffyg ewyllys. Gelwir person sy'n marw heb adael ewyllys yn berson diewyllys.

Dim ond partneriaid priod neu sifil a rhai perthnasau agos eraill sy'n medru etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys.

Os yw rhywun yn gwneud ewyllys, ond nid yw'n ddilys yn gyfreithiol, yna'r rheolau diffyg ewyllys sy'n penderfynu sut fydd yr ystad yn cael ei rhannu, ac nid y dymuniadau a fynegwyd yn yr ewyllys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ewyllys dilys, gweler Ewyllys.

Nôl i’r brig


Partneriaid priod a phartneriaid sifil

Mae partneriaid priod neu bartneriaid sifil yn etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys dim ond os ydynt yn briod neu mewn partneriaeth sifil adeg y farwolaeth. Felly, os ydych wedi ysgaru neu wedi diweddu'ch partneriaeth sifil yn gyfreithiol, nid ydych yn medru etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys. Ond mae partneriaid sydd wedi gwahanu'n anffurfiol yn dal i fedru etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys.

Os oes plant, ŵyr/wyrion neu or-wyrion/gor-wyresau byw gan y person a fu farw, ac mae'r ystâd yn werth mwy na £250,000, fe fydd y partner yn etifeddu:

  • holl eiddo personol y person a fu farw, a
  • £250,000 cyntaf yr ystâd, a
  • buddiant am oes yn hanner gweddill yr ystâd. Mae hyn yn golygu, os oes hawl gennych i'r buddiant am oes, nad ydych yn medru cael gwared ar y rhan yna o'r ystâd na'i wario. Ond, rydych yn medru cael budd ohono yn ystod eich hoes.
(Example box starts)
Er enghraifft: roedd Susan mewn partneriaeth sifil gyda Fang ac roedden nhw wedi mabwysiadu merch o'r enw Jia. Fe fu farw Susan heb adael ewyllys. Mae ei hystâd yn werth £450,000. Wedi i Fang etifeddu ei chyfran hi o £250,000, mae gweddill yr ystâd werth £200,000. Mae Fang yn medru cael budd o hanner hyn (buddiant am oes) - £100,000. Nid ydyw'n medru gwario’r £100,000 o gyfalaf. Dylai'r £100,000 gael ei fuddsoddi, ac mae gan Fang yr hawl i'r llog o'r swm yma yn ystod ei hoes. Wedi iddi farw, mae'r £100,000 yn mynd i Jia.
(Example box ends)

Os yw’r ystâd yn werth mwy na £450,000, nid oes unrhyw blant, wyrion na gor-wyrion, ond mae yna rieni sydd dal yn fyw, fe fydd y partner yn etifeddu:

  • ·holl eiddo personol y person sydd wedi marw a
  • ·£450,000 cyntaf yr ystad, gyda llog, o ddyddiad y farwolaeth a
  • ·hanner yr ystad sy’n weddill.

Os yw’r ystad yn werth mwy na £450,000, nid oes unrhyw blant, wyrion, gor-wyrion na rhieni, ond mae yna frodyr, chwiorydd, neiaint neu nithoedd, fe fydd y partner yn etifeddu:

·holl eiddo personol y person sydd wedi marw a

  • £450,000 cyntaf yr ystad, gyda llog, o ddyddiad y farwolaeth a
  • ·hanner yr ystad sy’n weddill.

Eiddo sy'n eiddo ar y cyd

Mae parau'n medru bod yn berchen ar eu cartref ar y cyd. Mae yna ddau wahanol ffordd o fod yn berchen ar gartref ar y cyd, sef cyd-denantiaeth buddiannol a thenantiaeth gydradd.

Os oedd y partneriaid yn gyd-dentantiaid buddiannol adeg y farwolaeth, pan fydd y partner cyntaf yn marw, fe fydd y partner sydd ar ôl yn etifeddu cyfran y partner arall yn yr eiddo yn awtomatig. Ond, os yw'r partneriaid yn denantiaid cydradd, nid yw'r partner sydd ar ôl yn etifeddu cyfran y person arall yna awtomatig.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyd-denantiaethau buddiannol a thenantiaethau cydradd, gweler Prynu gyda rhywun arall yn Prynu cartref.

Efallai y bydd gan barau gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd hefyd. Os oes un yn marw, fe fydd y partner arall yn etifeddu'r holl arian yn awtomatig.

Nid yw eiddo ac arian y mae'r partner sy'n fyw yn ei etifeddu yn cyfrif fel rhan o ystad y person a fu farw pan fydd yn cael ei brisio ar gyfer y rheolau diffyg ewyllys.

(Example box starts)

Enghraifft: Mae Tom a Heather yn briod ac maent yn berchen ar eu fflat fel cyd-dentantiaid buddiannol. Mae ganddynt blentyn o'r enw Selma. Mae Tom yn marw heb ewyllys ac mae'n gadael y fflat sy'n eiddo ar y cyd ac yn werth £300,000, a £50,000 mewn cyfranddaliadau yn ei enw ei hun. Mae'r fflat yn mynd at Heather yn awtomatig. Mae hyn yn gadael ystad o £50,000 sydd hefyd yn mynd i Heather, gan ei fod yn werth llai na £250,000. Nid yw Selma'n etifeddu ceiniog.

Petai Tom wedi bod yn berchen ar y fflat yn ei enw ef ei hun yn unig, fe fyddai ei ystad werth £350,000. Fe fyddai'n cael ei rhannu yn ôl rheolau diffyg ewyllys, hynny yw, fe fyddai Heather yn cael y £250,000 cyntaf a’r incwm neu’r llog ar hanner y gweddill yn ystod ei hoes. Fe fyddai Selma’n etifeddu hanner yr ystad sydd dros £250,000 a’r hanner arall ar farwolaeth Heather.

(Example box ends)

Nôl i’r brig


Perthnasau agos

Plant

Fe fydd plant y person sydd heb ewyllys yn etifeddu os nad oes partner priod neu sifil sy'n fyw. Os oes partner byw, fe fyddan nhw'n etifeddu dim ond os fydd yr ystad yn werth mwy na swm penodol.

Plant – os nad oes partner priod neu sifil sy'n fyw

Os nad oes partner byw, fe fydd plant y person a fu farw heb adael ewyllys yn etifeddu'r holl ystad. Mae hyn yn berthnasol, waeth faint yw gwerth yr ystad. Os oes dau blentyn neu fwy, fe fydd yr ystad yn cael ei rhannu'n gyfartal rhyngddynt.

Plant – os oes partner byw

Os oes partner byw, fe fydd plentyn ond yn etifeddu o'r ystad os yw gwerth yr ystad dros £250,000. Os oes dau blentyn neu fwy, fe fydd y plant yn etifeddu cyfran gyfartal:

  • un hanner o werth yr ystad dros £250,000 a
  • hanner arall gwerth yr ystad dros £250,000 pan fydd y partner sy'n fyw'n marw.

Mae holl blant y rhiant a fu farw heb ewyllys yn etifeddu rhan gyfartal o'r ystad. Mae hyn hefyd yn berthnasol ble mae gan y rhiant blant o berthnasau gwahanol.

(Example box starts)
Er enghraifft: Mae Alan a Grace yn briod ac mae ganddynt ddau blentyn, Tim ac Annie. Mae Alan a Grace yn ysgaru. Yna, mae Alan yn cael plentyn, Mark, gyda'i bartner newydd, Beata. Nid yw Alan a Beata yn priodi. Mae Alan yn marw. Nid yw Grace yn etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys, oherwydd mae wedi ysgaru ag Alan ac nid yw Beata chwaith, oherwydd nid ydyw wedi priodi Alan. Mae Tim, Annie a Mark yn etifeddu cyfran gyfartal o holl ystad Alan.
(Example box ends)

Mae plentyn nad yw ei rhieni'n briod neu nad ydynt wedi cofrestru partneriaeth sifil, yn medru etifeddu o ystad rhiant sy'n marw heb ewyllys. Mae'r plant hyn hefyd yn medru etifeddu gan fam-gu/tad-cu neu hen fam-gu/tad-cu sydd wedi marw heb ewyllys.

Mae gan blant a fabwysiadwyd (gan gynnwys llysblant sydd wedi cael eu mabwysiadu gan eu llys-riant) hawliau i etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys. Ond fel arall, rhaid eich bod yn blentyn biolegol cyn y medrwch etifeddu.

Nid yw plant dan 18 yn cael eu hetifeddiaeth ar unwaith. Caiff yr etifeddiaeth ei reoli gan ymddiriedolwyr ar ran y plentyn, hyd nes i'r plentyn gyrraedd 18 oed.

Wyrion/wyresau a gor-wyrion/gor-wyresau

Nid yw ŵyr/wyres neu or-ŵyr/gor-wyres yn medru etifeddu gan ystad person heb ewyllys onid yw eu rhiant neu fam-gu/tad-cu wedi marw cyn y person heb ewyllys. Fe fydd yr wyrion/wyresau a gor-wyrion/gor-wyresau yn etifeddu rhan gyfartal o'r gyfran y byddai eu rhiant neu fam-gu/tad-cu wedi bod â hawl iddo.

(Example box starts)
Enghraifft: Mae gan Abdul ddau fab, Iqbal ac Ismail. Mae gan Ismail un ferch, Habiba. Mae Ismail yn marw pan mae Habiba yn ddwy flwydd oed. Mae Abdul yn marw heb ewyllys pan mae'n 20. Mae Habiba'n etifeddu cyfran Ismail o ystad Abdul.
(Example box ends)

Perthnasau agos eraill

Efallai y bydd rhiant, brawd a chwaer, nith a nai'r person heb ewyllys yn etifeddu dan reolau diffyg ewyllys. Fe fydd hyn yn dibynnu ar nifer o amgylchiadau:

  • a oes partner priod neu sifil ar ôl
  • a oes plant, ŵyr/wyrion neu or-ŵyr/gor-wyresau ar ôl
  • yn achos nai a nith, a yw'r rhiant sy'n perthyn i'r person a fu farw hefyd wedi marw
  • swm yr ystad.

Efallai y bydd gan berthnasau eraill yr hawl i etifeddu os nad oes gan y person a fu farw heb ewyllys bartner priod neu sifil sy'n dal i fod yn fyw, neu blant, wyrion/wyresau, gor-wyrion/gor-wyresau, rhieni, brodyr, chwiorydd, nai a nith. Dyma'r drefn flaenoriaeth ymhlith perthnasau eraill:-

  • mamgu a thad-cu
  • ewyrth a modrybedd. Mae cefnder yn medru etifeddu yn lle os yw’r ewythr neu’r fodryb a fyddai wedi etifeddu yn marw cyn y person diewyllys
  • hanner ewyrth a hanner modrybedd. Mae hanner cefnder yn medru etifeddu yn lle os yw’r hanner ewythr neu’r hanner modryb a fyddai wedi etifeddu yn marw cyn y person diewyllys.

Nôl i’r brig


Pwy sydd ddim yn medru etifeddu

Nid oes gan y bobl ganlynol hawl i etifeddu pan fydd person yn marw heb adael ewyllys:

  • partneriaid dibriod
  • partneriaid lesbiaid neu hoyw sydd ddim mewn partneriaeth sifil
  • perthnasau trwy briodas
  • ffrindiau agos
  • cynhalwyr.

Fodd bynnag, hyd yn oed os nad ydych yn medru etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys, efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i'r llys am ddarpariaeth ariannol gan yr ystad.

Nôl i’r brig


Os nad oes unrhyw berthnasau'n fyw

Os nad oes unrhyw berthnasau'n fyw sy'n medru etifeddu o dan reolau diffyg ewyllys, mae'r ystad yn mynd i ddwylo'r Goron. Gelwir hyn yn bona vacantia. Yna, mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn gyfrifol am ddelio gyda'r ystad. Mae'r Goron yn medru rhoi grantiau o'r ystad ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.

Os nad ydych yn berthynas, ond rydych yn credu bod rheswm da gennych dros gyflwyno cais am grant, fe fydd angen cyngor cyfreithiol arnoch. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch bona vacantia ewch at wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Aildrefnu'r ffordd y mae'r ystad yn cael ei rhannu allan

Mae'n bosib ad-drefnu'r ffordd y mae eiddo'n cael ei rhannu pan fydd person yn marw heb adael ewyllys, tra bod hyn yn cael ei wneud o fewn dwy flynedd i'r farwolaeth. Gelwir hyn yn wneud gweithred trefniant teuluol neu amrywiad. Rhaid i'r holl bobl a fyddai'n etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys gytuno.

Os ydynt yn cytuno, gellir rhannu’r eiddo mewn ffordd wahanol fel bod y bobl nad ydynt yn etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys, yn dal i gael peth o'r ystad. Neu maen nhw'n medru cytuno bod y swm y mae pobl yn ei gael yn wahanol i'r swm y byddent yn ei gael o dan y rheolau diffyg ewyllys.

Os ydych yn teimlo y dylid ad-drefnu'r ffordd y mae'r ystad yn cael ei rhannu, fe fydd angen cyngor cyfreithiol arnoch. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Ceisio am help ariannol

Efallai y byddwch yn medru cyflwyno cais i'r llys am help ariannol rhesymol gan ystad y person a fu farw heb ewyllys. Er enghraifft, os oeddech yn byw gyda'r person a fu farw ond nid oeddech yn briod ag ef, ni fyddech yn etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys. Ond, fe fyddech yn medru cyflwyno cais i'r llys am help ariannol. Rhaid eich bod wedi byw gydag ef am o leiaf dwy flynedd yn syth cyn ei farwolaeth. Enghraifft arall yw os oedd y person a fu farw wastad wedi eich trin fel plentyn i'r teulu. Ni fyddech yn etifeddu o dan y rheolau diffyg ewyllys ond fe fyddech yn medru gofyn i'r llys am help ariannol.

Rhaid i chi gyflwyno cais o fewn terfyn amser penodol, er, mewn rhai amgylchiadau, mae modd ei ymestyn.

Mae'r llys yn medru gorchymyn:

  • taliadau rheolaidd gan yr ystad
  • swm un taliad gan yr ystad
  • trosglwyddo eiddo o'r ystad.

Os ydych am gyflwyno cais i'r llys am help ariannol, fe fyddwch angen cyngor cyfreithiol. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor cyfreithiol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Help pellach

Mae Gofal Galar Cruse yn helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth ac yn cynhyrchu gwybodaeth a chyngor defnyddiol. Ewch at eu gwefan yn: (New window) www.crusebereavementcare.org.uk.

Dyma'u llinell gymorth: 0844 477 9400.

Mae gwefan Directgov yn cynnwys mwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy'n digwydd os oes rhywun yn marw heb adael ewyllys. Ewch at (New window) www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig