Mae’ r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, mae dyn a dynes yn medru priodi os ydy’r ddau yn 16 oed a throsodd ac yn rhydd i briodi, hynny yw, os ydynt yn sengl, yn weddw neu wedi ysgaru, neu os oeddent mewn partneriaeth sifil a ddiddymwyd.
Yn y Deyrnas Unedig nid yw pobl yn medru priodi os ydynt:-
Fe all person trawsrywiol sydd wedi cael tystysgrif cydnabod rhyw llawn gan y Panel Cydnabod Rhyw, ar ôl ceisio amdani, gael tystysgrif geni newydd sy'n adlewyrchu ei rhyw newydd. Yna, fe fydd yn medru priodi rhywun o'r rhyw arall i’w rhyw newydd. Ond, os nad oes gan berson trawsrywiol dystysgrif cydnabod rhyw, caiff ei ystyried yn llygaid y gyfraith fel y rhyw sydd ar y dystysgrif geni wreiddiol. Ni fydd yn cael priodi â rhywun o'r rhyw arall i’w rhyw newydd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sy’n medru rhoi caniatâd rhiant, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe all person trawsrywiol sydd wedi cael tystysgrif cydnabod rhyw llawn gan y Panel Cydnabod Rhyw, ar ôl ceisio amdani, gael tystysgrif geni newydd sy'n adlewyrchu ei rhyw newydd. Yna, fe fydd yn medru priodi rhywun o'r rhyw arall i’r rhyw a gaffaelwyd. Ond, os nad oes gan berson trawsrywiol dystysgrif cydnabod rhyw, caiff ei ystyried yn llygaid y gyfraith fel y rhyw sydd ar y dystysgrif geni wreiddiol. Ni fydd yn cael priodi â rhywun o'r rhyw arall i’w rhyw newydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael tystysgrif cydnabod rhyw, gweler Cwestiynau cyson ynghylch materion teuluol.
Nid yw’r bobl canlynol yn medru priodi, o dan unrhyw amgylchiadau, oherwydd eu perthynas waed.
| Nid yw dynion yn medru priodi:- | Nid yw menywod yn medru priodi:- |
| Mamgu | Tadcu |
| Mam | Tad |
| Chwaer y fam | Brawd y tad |
| Llys-chwaer y fam | Llys-frawd y tad |
| Chwear y tad | Brawd y fam |
| Llys-chwaer y tad | Llys-frawd y fam |
| Mam fabwysiadol - gweler isod | Tad mabwysiadol - gweler isod |
| Chwaer | Brawd |
| Llys-chwaer | Llys-frawd |
| Merch | Mab |
| Merch fabwysiedig - gweler isod | Mab mabwysiedig - gweler isod |
| Merch ei chwaer | Mab ei chwaer |
| Merch ei llys-chwaer | Mab ei llys-chwaer |
| Merch ei frawd | Mab ei brawd |
| Merch ei lys-frawd | Mab ei llys-frawd |
| wyres | wyr |
Ni chaniateir i blant mabwysiedig a’u rhieni genetig briodi. Os ydynt yn priodi, bydd y briodas yn ddirym yn awtomatig (gweler y pennawd Priodasau sydd ddim yn ddilys) hyd yn oed os nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn perthyn. Ni chaniateir i blant sydd wedi'u mabwysiadu briodi y rhieni sydd wedi eu mabwysiadu ond maent yn medru priodi gweddill y teulu sydd wedi eu mabwysiadu, gan gynnwys brawd neu chwaer sydd wedi'i mabwysiadu i mewn i'r un teulu.
Mae pobl sy’n llys-berthnasau neu’n berthnasau-yng-nghyfraith yn medru priodi mewn rhai amgylchiadau penodol.
Am wybodaeth ynglŷn â phryd mae llys-berthnasau a pherthnasau-yng-nghyfraith yn medru priodi, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys yn rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer mae pobl yn dyweddïo yn bennaf am resymau diwylliannol a bod ganddynt statws cyfyngedig. Fodd bynnag, gellir ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn cyfraith mewnfudo fel tystiolaeth o’r bwriad i briodi.
Mae un person yn medru terfynu dyweddiad gan na ellir yn gyfreithiol gorfodi cytundeb i briodi. Os yw dyweddiad yn dod i ben, gall y ferch gadw’r fodrwy ddyweddio oni bai, ar yr adeg y rhoddwyd y fodrwy iddi, bod y dyn wedi dweud yn benodol y dylid ei dychwelyd petai’r dyweddiad yn dod i ben. Dylid rhannu unrhyw eiddo arall sy’n perthyn i’r pâr yn yr un modd y byddai eiddo yn cael ei rannu petai’r pâr yn ysgaru. Os nad yw’r pâr yn medru dod i gytundeb ynglŷn â’u hawl i eiddo, gall unrhyw un ohonynt wneud cais i’r llys wneud penderfyniad ynglŷn â’r mater, ar yr amod y gwneir hyn o fewn tair blynedd i ddiwedd y dyweddiad. Bydd angen cyngor cyfreithiol yn yr amgylchiadau yma.
Mae'n bosib cynnal priodas mewn:-
Mae’n bosib i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gymeradwyo adeiladau ar wahân i Swyddfeydd Cofrestru lle mae priodasau sifil yn medru digwydd. Rhaid i geisiadau am gymeradwyaeth gael eu cyflwyno gan berchennog neu ymddiriedolwr yr adeilad, ac nid gan y pâr.
Mae'n rhaid i’r adeilad fod yn agored i’r cyhoedd yn rheolaidd, felly mae cartrefi preifat yn anhebygol o gael eu cymeradwyo, gan nad ydyn nhw'n agored i’r cyhoedd fel arfer. Fel arfer mae plastai, gwestai ac adeiladau dinesig yn cael eu hystyried yn addas. Ni rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer lleoliadau awyr agored, megis traethau yng ngolau’r lleuad neu gyrsiau golff. Yn gyffredinol, bydd angen i’r adeiladau fod yn strwythurau adeiledig parhaol, er mae’n bosib y rhoddir cymeradwyaeth i gwch wedi'i angori sy’n agored i’r cyhoedd. Ni chymeradwyir balwnau aer poeth nac awyrennau.
Os ydych yn dymuno priodi mewn adeilad sydd wedi ei chymeradwyo gan yr awdurdod lleol, dylech gael rhestr o adeiladau o’ch neuadd y dref leol. Neu mae modd chwilio am safleoedd sydd wedi eu cymeradwyo ar wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn: www.gro.gov.uk.
Gallwch briodi mewn seremoni sifil neu seremoni crefyddol.
Yn y ddau achos, mae'n rhaid cwrdd â’r gofynion cyfreithiol canlynol:-
Mae'n rhaid i chi a’ch cymar roi rhybudd o’r briodas i'ch Swyddfa Gofrestru lleol, p'un ai eich bod yn bwriadu priodi yn y rhanbarth ai peidio. Yna, bydd y Cofrestrydd Adolygu neu’r Cofrestrydd yng Ngogledd Iwerddon yn roi awdurdod ar gyfer y briodas a chewch briodi yn unrhyw Swyddfa Gofrestru neu Adeilad sydd wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn unrhyw ranbarth.
Os ydych chi neu eich partner yn dod o dramor, fe allai fod rheolau arbennig yn berthnasol wrth roi hysbysiad o briodas. Os felly, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn y cyfnod rhwng y rhybudd o’r bwriad i briodi a’r seremoni, gall unrhyw un sydd â sail gadarn i wrthwynebu’r briodas wneud hynny. Mae gwneud datganiad ffug yn drosedd.
Yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i’r ddau gymar fod yn breswylwyr yn Lloegr neu yng Nghymru saith diwrnod cyn rhoi’r rhybudd (ar yr wythfed diwrnod). Mae'n rhaid i’r rhybudd nodi ym mle bydd y briodas yn cael ei chynnal. Gall y briodas gael ei chynnal wedi 15 diwrnod o’r dyddiad y gosodwyd rhybudd o’r briodas yn y Llyfr Rhybudd Priodas. Codir tâl o £33.50 y person am roi rhybudd o briodas. Nid oes angen y cyfnod rhybudd o 15 diwrnod os oes un o’r partneriaid wedi cael tystysgrif cydnabod rhyw ac roedd yn bartner sifil i’r person y mae am ei b/phriodi cyn hynny. Yn yr achos hwn, fe all y rhybudd ynghylch y briodas a’r briodas ei hun, ddigwydd ar yr un diwrnod.
Yng Ngogledd Iwerddon, gelwir trwydded briodas yn drefnlen briodas (marriage schedule). Nid oes angen i barau fod wedi byw yn y wlad cyn priodi, tra'u bod nhw'n gwneud cais am rybudd gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.
Os ydych chi a'ch partner yn ymweld â Gogledd Iwerddon i briodi ac yn ddinasyddion gwlad sydd ddim yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, efallai y bydd angen i chi anfon dogfennau arbennig.
Mae'n rhaid i barau anfon eu ffurflenni rhybudd o briodas, wedi eu llenwi, ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, at y Cofrestrydd Priodasau yn yr ardal ble mae'r briodas yn cymryd lle.
Fel arfer, rhaid rhoi wyth wythnos o rybudd. Ond, rydych yn medru rhoi o leiaf 14 diwrnod o rybudd, er, mae hyn yn medru golygu y bydd yn rhaid gohirio'r seremoni briodas. Fe fydd y cofrestrydd yn cyhoeddi trefnlen briodas. Ni fyddwch yn medru priodi heb y drefnlen hon. Os ydych yn cael seremoni grefyddol, rhaid iddi gymryd lle o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y derbyniwyd y drefnlen. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i'r person a briododd y pâr arwyddo'r drefnlen yn ystod y seremoni grefyddol.
Rhaid cynnal y briodas o fewn 12 mis i’r dyddiad y cyflwynwyd y rhybudd (tri mis os yw un ohonoch yn gaeth i’r tŷ, o dan orchymyn neu yn breswylydd yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon). Os nad yw’r briodas yn cael ei chynnal o fewn y cyfnod yma, mae'n rhaid ail-adrodd y broses.
Gofynnir am wybodaeth benodol gennych chi a’ch cymar pan yn rhoi rhybudd o’ch bwriad i briodi. Mae rhoi gwybodaeth camarweiniol yn drosedd. Dyma'r wybodaeth y mae'n bosib y bydd ei hangen:-
Gellir defnyddio amrywiaeth o ddogfennau fel tystiolaeth o'r wybodaeth sydd ei hangen, ond fel arfer mae pasport, dogfen deithio neu dystysgrif geni yn ddigon. Dylech gysylltu â'r swyddfa gofrestru ble rydych yn priodi am gyngor mwy penodol ar yr hyn y maen nhw'n ei dderbyn.
Mae’n bosib y gofynnir i bobl dramor ddangos eu pasportau. Nid oes gofyn cyfreithiol i ddangos pasport cyn priodi ac, yn hytrach, gallant ddangos tystysgrif geni ( ynghyd a chyfieithiad tystiedig os oes angen), affidafid neu ddogfen arall fel prawf o'ch hunaniaeth.
Os ydych yn teithio i’r Deyrnas Unedig i briodi dinesydd Prydeinig neu berson o wlad sy’n aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, fe fyddwch chi angen fisa. Gelwir hyn yn glirio mynediad. Fe fydd hyn naill ai’n fisa dyweddi os nad ydych o wlad yn yr AEE neu’n Drwydded Teulu os ydych o wlad yn yr AEE.
Rhaid i bobl sydd am briodi yn y Deyrnas Unedig mewn Swyddfa Gofrestru yng Nghymru a Lloegr roi rhybudd mewn Swyddfa Gofrestru. Os ydych yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo, fe fyddwch chi ond yn medru rhoi rhybudd mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rhaid rhoi rhybudd trwy’r post. Rhaid i bawb sy’n dymuno priodi mewn Swyddfa Gofrestru ddarparu prawf o’u cenedligrwydd.
Fe fyddwch yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo os nad ydych:
Am fwy o wybodaeth ar ddod i’r Deyrnas Unedig i briodi, rhowch glic ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU yn www.ukba.homeoffice.gov.uk.
Os yw’r Cofrestrydd yn credu bod y person yn mynd i mewn i briodas at ddibenion mewnfudo, mae gan y Cofrestrydd ddyletswydd i riportio hyn i Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo y Swyddfa Gartref. Mae'n rhaid i’r Cofrestrydd ddarparu gwybodaeth benodol ar gyfer Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo y Swyddfa Gartref, gan gynnwys statws priodasol a chenedligrwydd y person.
Bydd seremoni priodas yn y Swyddfa Gofrestru leol neu adeilad sydd wedi ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn cymryd tua 10-15 munud. Bydd y Cofrestrydd Arolygu neu’r Cofrestrydd yng Ngogledd Iwerddon yn cynnig datganiad byr am briodas; gallwch ofyn i’r Cofrestrydd o flaen llaw i ddynodi pa eirfa y bydd yn ei ddefnyddio. Nid oes modd defnyddio geiriau crefyddol mewn seremoni sifil. Ond, mae’r seremoni’n medru cynnwys darlleniadau, caneuon neu gerddoriaeth sy’n cynnwys cyfeiriad at dduw tra’u bod mewn ‘cyd-destun sy’n anghrefyddol yn eu hanfod’
Mae’n ofynnol i’r ddau gymar ail-adrodd cyfres safonol o addewidion. Nid oes modd eu newid, ond gellir ychwanegu atynt, ar yr amod nad yw’r ychwanegiadau’n grefyddol. Nid yw modrwyon yn ofynnol ond gellir eu cyfnewid os yw’r pâr yn dymuno gwneud hynny.
Wedi’r seremoni, mae'r ddau gymar yn arwyddo'r gofrestr priodas. Mae'n rhaid i ddau lygad-dyst, sydd dros 16 oed, arwyddo adeg y briodas hefyd. Rhaid bod y llygad-dysytion yn deall iaith y seremoni a bod ganddynt y cymhwyster meddyliol i ddeall natur y seremoni. Ni chaniateir i staff y Swyddfa Gofrestru weithredu fel llygad-dystion.
Cyn arwyddo’r gofrestr, dylech sicrhau bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn gywir. Mae’n bosib newid gwybodaeth anghywir yn y gofrestr ar dystysgrifau priodas os gellir profi eich bod wedi eu hysbysu o’r camgymeriadau adeg y briodas. Pan yn ceisio cywiro’r wybodaeth yn nes ymlaen, bydd yn rhaid i chi egluro yn ysgrifenedig pam y cofnodwyd y wybodaeth anghywir adeg y briodas ac mae’n bosib y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i brofi unrhyw ddatganiadau. Mae’n bosib bydd y broses yma’n cymryd tipyn o amser.
Mae'n rhaid talu ffi am y seremoni. Gellir cael copi tystiedig o’r gosodiad yn y gofrestr adeg y briodas am ffi. Gellir cael copiau ychwanegol am ffi pellach.
Yn hytrach na mynd at y Cofrestrydd Arolygu cyn y seremoni, gellir darllen gostegion (rhybudd o’r briodas sydd wedi ei chynnig) yn eglwys y plwyf y ddau gymar neu yn yr eglwys ble cytunwyd y gellir cynnal y briodas. Rhaid darllen gostegion ar dri Dydd Sul cyn y seremoni.
Caniateir i Eglwys Lloegr a’r Eglwys yng Nghymru gofrestru priodas ar yr un adeg a pherfformio seremoni crefyddol.
Gellir awdurdodi gweinidogion ac offeiriaid o’r holl grefyddau eraill i gofrestru priodasau ac mae'n rhaid bod ganddynt dystysgrif neu drwydded i wneud hynny gan y Cofrestrydd Arolygu lleol. Mae Awdurdodi yn digwydd yn awtomatig ar gyfer priodasau Iddewig neu Grynwyr. Ar gyfer yr holl grefyddau eraill, os na chaiff perfformiad swyddogol y seremoni ei awdurdodi, yna un ai mae’n rhaid i Gofrestrydd fynychu’r seremoni crefyddol neu bydd angen i’r partneriaid gael seremonïau crefyddol a dinesig ar wahân.
Yn hytrach na mynd at y Cofrestrydd Arolygu cyn y seremoni, gellir darllen gostegion (rhybudd o’r briodas sydd wedi ei chynnig) yn eglwys y plwyf y naill gymar a’r llall ac yn yr eglwys ble cytunwyd y gellir cynnal y briodas. Rhaid darllen gostegion ar dri Dydd Sul cyn y seremoni.
Yn Lloegr, mewn rhai achosion, efallai y bydd y ficer yn dweud bod angen i chi gyflwyno cais i Eglwys Lloegr am drwydded yn hytrach na dilyn gweithdrefn gostegion. I ddarganfod mwy am briodi yn Eglwys Lloegr, rhowch glic ar wefan Eglwys Lloegr yn www.yourchurchwedding.org.
Gellir eich priodi yn Eglwys Iwerddon drwy un o dri dull, sef:-
Trwydded – Os ydych chi neu'ch cymar yn aelod o Eglwys Iwerddon (neu unrhyw Eglwys Esgobol Brotestanaidd arall h.y. Anglicanaidd), gallwch roi rhybudd i Weinidog Trwyddedu Eglwys Iwerddon yn dweud eich bod yn dymuno priodi yn un o Eglwysi Eglwys Iwerddon o fewn eich rhanbarth chi. Rhaid eich bod chi neu'ch cymar wedi bod yn byw yn y rhanbarth am saith diwrnod cyn rhoi'r rhybudd. Bydd y Trwyddedydd yn hysbysu clerigwyr yr eglwysi yr ydych chi a’ch cymar yn eu mynychu. Bydd llw yn cael ei weinyddu i chi neu eich cymar, saith diwrnod wedi i chi hysbysu’r trwyddedydd, i brofi bod un ohonoch wedi bod yn byw o fewn y rhanbarth sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yr ydych yn bwriadu priodi ynddi yn ystod y 14 diwrnod diwethaf , ac yn rhoi'r drwydded. Bydd unrhyw Glerigwr o Eglwys Iwerddon yn medru rhoi cyfeiriad Gweinidog Trwyddedu i chi.
Trwydded Arbennig – Os ydych chi neu eich cymar yn aelod o Eglwys Iwerddon (neu unrhyw Eglwys Esgobol Brotestanaidd arall), mae’n bosib i Esgob Eglwys Iwerddon roi trwydded arbennig. Bydd hyn yn caniatau i’r briodas gael ei chynnal ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le o fewn ei esgobaeth. Mae trwydded arbennig yn ddefnyddiol pan eich bod chi a’ch cymar wedi anghofio rhoi rhybudd i drwyddedydd, neu eich bod yn dymuno priodi yn rhywle arall ar wahân i Eglwys.
Gostegion – Os ydych chi a’ch cymar yn aelodau o Eglwys Iwerddon, gellir darllen gostegion am dri dydd Sul yn olynnol yn yr eglwysi lle rydych yn aelodau, yn hytrach na gwneud cais am drwydded. Mae’n bosib y bydd angen rhoi saith diwrnod o rybudd i’r Gweinidog(ion). Mae'n rhaid cynnal y seremoni yn yr Eglwys (neu yn un o’r Eglwysi) lle y cyhoeddwyd y gostegion.
Gellir eich priodi drwy’r un o dri dull yn yr Eglwysi Presbyteraidd amrywiol (ac eithrio Presbyteriaid Rhydd):-
Trwydded –Os ydych chi a’ch cymar yn Bresbyteriaid, gall gweinidog trwyddedu roi trwydded. Mae'n rhaid i chi a’ch cymar roi tystysgrif i’r gweinidog trwyddedu gan weinidog eich cynulleidfa, yn datgan eich bod wedi bod yn aelod o’r gynulleidfa ers o leiaf un mis. Yn union cyn y rhoodir y drwydded, mae'n rhaid i chi dynnu llw eich bod wedi bod yn byw o fewn yr henaduriaeth yn ystod y 15 diwrnod diwethaf. Bydd gweinidog cynulleidfaol yn medru cysylltu cleiantiaid gyda gweinidog trwyddedu.
Trwydded Arbennig – Gall Llywydd yr Eglwys roi trwydded arbennig yn awdurdodi priodas ar unrhyw adeg neu yn unrhyw le o fewn Iwerddon, cyhyd a’ch bod chi a’ch cymar yn Bresbyteraidd. Mae’r dull yma’n ddefnyddiol os ydych wedi anghofio rhoi’r rhybudd priodol neu eich bod yn byw tu allan i Ogledd Iwerddon fel arfer.
Gostegion – Os ydych chi a’ch cymar yn Bresbyteriaid, gellir cyhoeddi gostegion ym mhob un o’ch cynulleidfaoedd ar y tri dydd Sul cyn y briodas, yn hytrach na chael trwydded. Mae chwe diwrnod o rybudd yn ofynnol gan y gweinidog cyn bod angen darllen y gostegion am y tro cyntaf. Mae'n rhaid i’r briodas gael ei chynnal mewn Eglwys ( neu yn un o’r eglwysi) lle y cyhoeddwyd y gostegion.
Gwneir trefniadau ar gyfer priodas mewn Eglwys Babyddol drwy Offeiriad y Plwyf lle rydych yn byw. Mae'n rhaid rhoi tri mis o rybudd i’r Offeiriad.
Mae Accord, Cyngor Ymgynghorol Priodas Babyddol (CMAC) yn flaenorol, yn cynnal cyrsiau paratoi cyn y briodas ac mae'n rhaid i chi a’ch cymar eu mynychu. Mae yna ganolfannau ym Melfast, Ballymena a Downpatrick. Bydd manylion y cyrsiau ar gael ar gyfer yr Offeiriad.
Os yw’r ddau ohonoch yn Babyddion, dylech fynd at Offeiriad Plwyf y Briodferch i drefnu dyddiad. Os ydy’r ddau ohonoch yn dod o’r un plwyf, bydd Offeiriad y plwyf yna yn gwneud y paratoadau ar eich cyfer, gan gynnwys ymholiadau cynbriodasol, sy’n orfodol.
Mae'n rhaid bod gennych ddogfennau penodol:-
Os ydych yn Babydd a’ch bod chi’n priodi rhywun sydd ddim yn Babyddol, bydd Offeiriad eich plwyf yn gwneud trefniadau. Bydd yn gwneud cais i'r Esgob am ganiatâd (os yw eich cymar wedi cael ei fedyddio), neu am drwydded (os nad yw eich cymar wedi ei fedyddio).
Os nad yw eich cymar yn Babydd, dylai gyflwyno tystysgrif bedydd (os ydyw wedi cael ei b/fedyddio) a dylid cyflwyno prawf o’i rhyddid i briodi. Gall hyn fod ar ffurf llythyr oddi wrth, er enghraifft, rhieni neu weinidog, neu affidafid oddi wrth gyfreithiwr.
Ym mhob achos, mae’r Offeiriad yn gweithredu fel Cofrestrydd sifil ac mae’n cofrestru’r briodas gyda’r Cofrestrydd Priodasau.
Mae'n rhaid i aelodau o enwadau eraill, gan gynnwys Bedyddwyr, y Cymrodyr, Annibynwyr, Presbyteriaid Rhydd, Methodistiaid, Byddin yr Iachawdwriaeth, gael tystysgrif neu drwydded Cofrestrydd fel sy’n rhaid gwneud ar gyfer priodas sifil, gan nad yw swyddogion yr eglwys wedi eu hawdurdodi gan y Wlad i roi tystysgrifau neu drwyddedau.
Os ydych chi neu'ch cymar yn Fedyddiwr, Annibynnwr neu yn Fethodist, gallwch fwrw ymlaen drwy ddod i feddiant trwydded arbennig oddi wrth gorff llywodraethol eich Heglwys. Dylai’r parau ofyn i weinidog yr enwad priodol am fanylion. Fel arfer mae ffi yn daladwy i’r corff llywodraethol, a'r corff a fydd yn penderfynu ar y swm. Gellir dathlu priodasau trwy drwydded arbennig ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le yn Iwerddon.
Ar ôl rhoi rhybudd i’r Cofrestrydd Arolygu neu’r Cofrestrydd yng Ngogledd Iwerddon, gellir cynnal priodas yn unrhyw synagog, ty preifat neu unrhyw le arall cyhyd a’ch bod chi a’ch cymar yn Iddewig a bod y seremoni yn cael ei chynnal o dan argoelion y synagog, sydd ag ysgrifennydd ar gyfer priodasau, a Prif Gofrestrydd. Rhaid cofrestru’r briodas gydag Ysgrifennydd synagog y gwr. Bydd y briodas ond yn medru mynd yn ei blaen o dan dystysgrif Cofrestrydd yng Ngogledd Iwerddon.
Mae priodas yn Nghymdeithas y Cyfeillion (crynwyr) yn gofyn am gymeradwyaeth Swyddog Cofrestru Cymdeithas y Cyfeillion sy'n gweithredu ar gyfer y cyfarfod cydsylltiedig. Mae'n rhaid iddo ddigwydd yn y ty cyfarfod neu yn unrhyw le arall a ddefnyddir i addoli yn rheolaidd.
Yn yr holl grefyddau eraill, mae seremonïau priodas crefyddol yn medru cael eu cynnal ond mae'n rhaid i’r pâr hysbysu’r Cofrestrydd Arolygu neu’r Cofrestrydd yng Ngogledd Iwerddon yn gyntaf. Bydd y Cofrestrydd Arolygu neu’r Cofrestrydd yn gwybod os yw’r adeilad y bydd y briodas yn cael ei chynnal ynddo wedi ei gofrestru. Os nad yw’r adeilad wedi cael ei gofrestru, mae’n bosib i’r pâr gael gwasanaeth crefyddol, ond bydd angen cynnal seremoni sifil ar wahân er mwyn i’r briodas fod yn ddilys o dan gyfraith y Deyrnas Unedig.
Os yw’r adeilad wedi cael ei gofrestru, mae'n rhaid i rywun sydd wedi'i awdurdodi fod yn bresennol yn y seremoni i gofrestru’r briodas. Byddant yn rhoi tystysgrif briodas i’r pâr wedi iddynt dderbyn ffi. Os nad oes rhywun sydd wedi'i awdurdodi'n bresennol, mae presenoldeb Cofrestrydd yn ofynnol a dylid trefnu hyn gyda’r Cofrestrydd Arolygu neu Gofrestrydd y rhanbarth yng Ngogledd Iwerddon.
Os yw’r pâr wedi priodi mewn Swyddfa Gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gall y partneriaid gael seremoni priodas crefyddol wedyn. Mae’n debygol y gofynnir i’r pâr am eu tystysgrif briodas. Nid yw seremoni crefyddol sydd ddim yn cydymffurfio â’r amodau a nodwyd uchod ac sy’n cael ei chynnal cyn y briodas sifil yn briodas ddilys o dan gyfraith y Deyrnas Unedig a statws y pâr fydd cydbreswylwyr.
Os ydych yn dymuno priodi tu allan i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae'n rhaid i chi ddilyn gweithdrefn y gyfraith yn y wlad honno. Bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiwr.
Mae'r Ganolfan Cynghori yn medru cynnig gwybodaeth fras ynglyn â phriodi yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai hynny sy’n medru cynnig cyngor drwy gyfrwng e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw un cymar yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, gellir cynnal y briodas yn Lloegr neu yng Nghymru ond mae'n rhaid dilyn gweithdrefnau penodol. Os yw un cymar yn byw tu allan i’r Deyrnas Unedig, ni ellir cynnal y briodas nes bod y cymar yna wedi cyrraedd Cymru neu Loegr a’i b/fod wedi bodloni y gofynion preswylio gofynnol.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â phriodi yng Nghymru neu Loegr os yw un cymar yn byw yn rhywle arall, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Caiff priodas a gynhaliwyd yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon sy'n ddilys yn ôl y gyfraith ei chydnabod mewn nifer o wledydd eraill. Fodd bynnag, dylid cael cadarnhâd oddi wrth llysgenhadaeth y wlad berthnasol.
Priodas trwy ddirprwy yw priodas lle nad yw un neu’r ddau gymar yn gorfforol bresennol yn y seremoni. Nid yw priodasau sy’n digwydd o dan gyfraith y Deyrnas Unedig yn ddilys os cant eu cynnal trwy ddirprwy. Fodd bynnag, mewn rhai achosion mae’n bosib y bydd cyfraith y Deyrnas Unedig yn ystyried bod priodas trwy ddirprwy yn ddilys os yw’r ddau gymar yn ‘preswylio’ mewn gwlad sy’n cydnabod priodasau trwy ddirprwy. Mae’r cysyniad o ‘breswylio’ yn un cymhleth iawn. Os ydych am wybod mwy am ddilysrwydd priodas trwy ddirprwy bydd angen i chi geisio cyngor cyfreithiol arbenigol.
Mewn priodas amlwreiciol, mae dyn yn medru priodi mwy nag un gwraig. Nid yw priodasau amlwreiciol rhwng partneriaid, os yw un neu’r ddau ohonynt yn preswylio yng Nghymru, Lloegr neu Gogledd Iwerddon yn ddilys. Mae’r cysyniad o ‘breswylio' yn un cymhleth iawn ac nid yw o angenrheidrwydd yn golygu ‘byw’ mewn gwlad.
Os ydych am wybod mwy am ddilysrwydd priodasau amlwreiciol, dylech geisio cyngor cyfreithiol arbenigol. Mae’n bosib y bydd cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori, yn medru bod o gymorth i chi o ran dod o hyd i gyngor cyfreithiol arbenigol. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai hynny sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Caiff rhai priodasau eu trîn fel pet na baent wedi digwydd. Gelwir y rhain yn briodasau di-rym. Priodasau yw'r rhain sydd ddim yn cwrdd â gofynion cyfraith y Deyrnas Unedig. Enghraifft o briodas ddi-rym yw lle nad yw’r ddau yn medru priodi oherwydd eu bod nhw’n perthyn.
Mae’n bosib bod rhai priodasau yn cwrdd â gofynion cyfraith y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod y briodas ond yna gellir eu diddymu ar ôl hynny. Gelwir y rhain yn briodasau y mae modd eu gwneud yn ddi-rym. Mae yna sawl sefyllfa lle mae modd gwneud priodas yn ddi-rym, er enghraifft os oes un partner wedi cael tystysgrif cydnabod rhyw llawn (gweler y pennawd Pobl trawsrywiol), neu os nad yw un cymar wedi rhoi caniatâd dilys i’r briodas oherwydd y rhoddwyd caniatâd o dan orfodaeth. Gall y ddau gymar wneud cais i ddirymu’r briodas ond os na bydd y naill gymar yn gwneud hyn, yna bydd y briodas yn ddilys.
Os oes arnoch angen gwybod mwy am briodasau y mae modd eu gwneud yn ddirym, bydd angen i chi geisio cyngor arbenigol. Mae’n bosib y bydd cynghorydd profiadol, er enghraifft Canolfan Cynghori, yn medru eich helpu i ddod o hyd i gyngor arbenigol. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych wedi priodi mewn modd sydd ddim yn cael ei gydnabod yn ddilys yn y Deyrnas Unedig, gellir cynnal y briodas unwaith eto yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig ar yr amod eich bod chi a’ch cymar yn cwrdd â’r gofynion a ddisgrifiwyd eisioes.
Os ydych yn priodi yn y Deyrnas Unedig a’ch bod eisoes yn gyfreithiol briod, bydd y briodas yn ddwywreigiog ac felly’n ddi-rym. Er ei bod hi’n drosedd i briodi rhywun os ydych eisoes yn briod, nid yw erlyniad yn awtomatig.
Os ydych yn credu eich bod ar fin mynd i mewn i briodas ddwywreigiog, dylech geisio cyngor cyfreithiwr arbenigol. Mae’n bosib y bydd cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori, yn medru eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr arbenigol. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Tra bod y gofynion cyfreithiol a ddisgrifiwyd yn gynharach yn cael eu bodloni, nid oes unrhyw beth i’ch atal chi rhag priodi eto mewn seremoni sifil yn y Deyrnas Unedig os ydych yn weddw neu wedi ysgaru neu os oeddech mewn partneriaeth sifil a ddiddymwyd.
Mae gan wahanol grefyddau reolau gwahanol ynglyn â ph'un ai bod rhywun yn medru ail-briodi mewn seremoni crefyddol. Os ydych chi neu'ch cymar wedi bod yn briod o’r blaen, neu wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd wedi’i diddymu erbyn hyn, a’ch bod yn dymuno cael seremoni crefyddol, bydd angen i chi sicrhau y caniateir hyn gyda swyddog o’r crefydd perthnasol.
Hyd yn oed os na ganiateir i chi briodi mewn seremoni crefyddol, er enghraifft, oherwydd eich bod yn perthyn i grefydd sydd ddim yn caniatau priodi pobl sydd wedi ysgaru, mae’n bosib y cewch drefnu i gael bendith ar eich perthynas mewn seremoni crefyddol. Bydd hyn yn ôl doethineb y swyddog crefyddol cysylltiedig.
Mae’n drosedd i orfodi person i briodi. Os oes arnoch ofn y byddwch yn cael eich gorfodi i briodi yn y wlad hon, dylech gysylltu â’r heddlu. Mae hyn hefyd yn wir os ydych yn poeni y gallai fod person arall yn cael ei (g)orfodi i briodi.
Mae yna weithdrefn sifil hefyd i atal priodasau sydd wedi eu gorfodi, ac i helpu pobl sydd eisoes wedi cael eu gorfodi i briodi.
Os ydych chi’n cael eich gorfodi i briodi neu’n ffrind i rywun sy’n cael ei (g)orfodi i briodi, fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i’r llys am Orchymyn Amddiffyn rhag Priodasau wedi eu Gorfodi. Mae’r gorchymyn hwn yn atal teuluoedd rhag:
Mae hefyd yn medru gofyn i aelodau’r teulu ddatgelu ble rydych chi. Mae’r heddlu hefyd yn medru ceisio am Orchymyn Amddiffyn rhag Priodasau wedi eu Gorfodi. Os yw rhywun yn torri’r gorchymyn, gellir eu hanfon i’r carchar am hyd at ddwy flynedd.
Os ydych yn cael eich gorfodi i briodi, neu’n ‘nabod rhywun sy’n cael ei (g)orfodi i briodi, mynnwch gyngor cyfreithiol cyn gynted â phosib. Efallai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i chi.
Hefyd, os ydych yn ofni y cewch eich gorfodi i briodi dramor, dylech gysylltu â’r cyfeiriad isod, cyn teithio, am gyngor. Os ydych yn poeni ynghylch rhywun arall sydd wedi teithio dramor, dylech gysylltu â’r cyfeiriad isod.
Forced Marriage Unit
Foreign and Commonwealth Office
Old Admiralty Building
London SW1A 2PA
Rhif ffôn: 020 7008 0151
E-bost: fmu@fco.gov.uk
Gwefan: www.fco.gov.uk (dilynwch y dolenni cyswllt at Cyngor ar Deithio, Beth allwn ni ei wneud i helpu Priodasau sydd wedi eu gorfodi)
Rydych hefyd yn medru cysylltu â Honour Network, sef llinell gymorth i ddioddefwyr priodasau a orfodwyd a throseddau anrhydedd. Dyma rif ffôn y llinell gymorth: 0800 5999 247.
Mae copïau o dystysgrif priodas ar gael o’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae ei manylion cyswllt ar wefan DirectGov.