Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon



Ynglyn â'r wybodaeth hon

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol os ydych am wahanu wrth rywun yr ydych yn byw gyda nhw. Mae'n berthnasol waeth a ydych chi'n hoyw, yn lesbiad neu'n wahanrywiol. Nid yw ar gyfer pobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os ydych yn byw gyda'ch partner ac mae eich perthynas yn dod i ben, nid oes rhaid i chi gymryd unrhyw gamau cyfreithiol i wahanu. Ond, efallai y bydd yna faterion yn ymwneud â phlant, tai, eiddo ac arian i'w sortio. Gellir gwneud hyn naill ai trwy gytundeb anffurfiol neu trwy lunio cytundeb gwahanu ysgrifenedig.

Os oes plant gennych, mae llys yn medru gwneud gorchmynion ynghylch gyda phwy y dylai'r plant fyw a chael cysylltiad.

Mae llys hefyd yn medru gwneud gorchymyn ynghylch hawliau i aros yn eich cartref a gwerthu unrhyw eiddo sy'n eiddo ar y cyd.

OS ydych yn ystyried mynd i'r llys i sortio anghytundebau ynghylch y plant, arian neu dai, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu. Gellir cael rhestrau o gyfreithwyr gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth lleol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Wrth bwy i ddweud pan ddaw eich perthynas i ben

Os ydych chi a'ch partner yn gwahanu, efallai y bydd angen i chi ddweud wrth:

  • eich landlord neu swyddfa dai
  • eich swyddfa budd-dâl tai
  • eich swyddfa treth y cyngor (Cymru a Lloegr)
  • eich swyddfa Asiantaeth Casglu Treth (Rates Collection Agency) leol (Gogledd Iwerddon)
  • eich benthycwr morgais
  • cwmnïau dwr, nwy, trydan a ffôn
  • eich swyddfa budd-daliadau
  • eich swyddfa dreth, yn enwedig os ydych yn cael credydau treth
  • yr ysgol bresennol a'r ysgol newydd os oes plant gennych ac maen nhw'n symud
  • eich banc neu unrhyw sefydliad ariannol arall os oes gennych gyfrif ar y cyd. Efallai y bydd yn ddoeth i chi rewi'r cyfrif i atal eich partner rhag tynnu peth o'r arian, neu'r cyfan ohono
  • cwmnïau hur-bwrcas neu gredyd
  • cwmnïau yswiriant, yn enwedig os oes polisïau ar y cyd gennych
  • y swyddfa bost, os ydych am ailgyfeirio'ch post
  • eich meddyg, deintydd a chlinig iechyd plant.

Nôl i’r brig


Gwahanu gyda chytundeb gwahanu

Mae cytundeb gwahanu yn gytundeb ysgrifenedig rhwng pâr sy'n bwriadu peidio â byw gyda'i gilydd mwyach. Mae'n nodi sut yr ydych chi am sortio'r materion ynghylch arian, eiddo a threfniadau ar gyfer y plant. Dyma enghreifftiau o bethau y mae'n bosib y byddwch am eu cynnwys mewn cytundeb:

  • i beidio ag aflonyddu, poeni neu darfu ar eich partner
  • i ddarparu cymorth ariannol (cynhaliaeth) ar gyfer eich partner. Fel arfer, fe fyddai cytundeb gwahanu yn nodi y bydd cynhaliaeth yn dod i ben os yw eich partner yn dechrau byw gyda phartner gwahanol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i un ohonoch gynnal y llall yn ariannol os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • i ddarparu cymorth ariannol (cynhaliaeth) ar gyfer unrhyw blant o'r berthynas. Nid yw unrhyw gytundeb i beidio â cheisio i'r llys neu'r Asiantaeth Cynnal Plant yn y dyfodol yn cyfrif yn gyfreithiol
  • gyda phwy y dylai'r plant fyw a chael cysylltiad.

Mantais cytundeb ysgrifenedig yw ei bod yn haws sicrhau bod y ddau ohonoch yn deall yr hyn a gytunwyd. Mae hefyd yn golygu y gall y naill neu'r llall ohonoch fynd i'r llys i newid y gorchymyn yn nes ymlaen. Fe'ch cynghorir i ymgynghori â chyfreithiwr wrth lunio cytundeb gwahanu, ond dylech weithio allan ymlaen llaw'r meysydd cyffredinol yr ydych am eu cynnwys. Fe fydd hyn yn gostwng y costau cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda'r costau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Plant ar ddiwedd eich perthynas

Ar ddiwedd perthynas, mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal eu plant yn ariannol, waeth ble y bydd y plant yn byw. Mae'r ddau riant yr un mor gyfrifol hyd yn oed os nad ydynt wedi eu henwi ar dystysgrif geni'r plentyn. Nid oes gwahaniaeth a oes cyfrifoldeb rhiant ganddynt ai peidio. Fe all yr Asiantaeth Cynnal Plant gysylltu â’r naill riant neu’r llall am gymorth ariannol.

Os mai chi yw tad y plentyn, ni fyddwch yn cael hawl awtomatig i gael llais am eu dyfodol, er efallai y byddwch yn eu cynnal yn ariannol. Fe fydd hyn yn dibynnu a oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn.

Mae cael cyfrifoldeb rhiant yn golygu eich bod yn rhannu'r cyfrifoldeb dros iechyd, addysg a lles eich plentyn, gyda'ch partner.

Os nad oedd y fam a'r tad yn briod adeg geni'r plentyn, fe fydd gan y tad gyfrifoldeb rhiant os:

  • mae wedi cofrestru neu ailgofrestru'r enedigaeth gyda mam y plentyn ar ôl 1 Rhagfyr 2003, neu
  • mae ef a'r fam wedi gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant ffurfiol, neu
  • mae'r llys wedi rhoi cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol i'r tad, neu
  • mae wedi'i benodi fel gwarcheidwad.

Os ydych yn bartner lesbiaidd neu hoyw i riant plentyn, mae yna sawl ffordd i chi gael cyfrifoldeb rhiant dros blentyn eich partner.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyfrifoldeb rhiant, gweler Cyfrifoldeb dros blant yn Partneriaethau sifil a chydfyw – gwahaniaethau cyfreithiol.

Y peth gorau yw eich bod chi a'ch partner yn gallu dod i drefniant cyfeillgar ynghylch gofal eich plant. Dylai'r trefniant hwn gynnwys gyda phwy y bydd eich plant yn byw fel arfer a sut fyddan nhw'n cadw cysylltiad gyda'r rhiant arall.

Os ydych chi a'ch partner yn ei chael yn anodd cytuno rhwng eich gilydd, fe allwch ofyn am help gan wasanaeth cyfryngu teuluol lleol. Mae cyfryngwyr yn bobl sydd wedi eu hyfforddi i wrando ar y ddwy ochr, ac i'ch helpu chi a'ch partner i gytuno ar yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi a'r plant. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, mae'n rhaid bod y ddau ohonoch yn fodlon mynd yn wirfoddol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wnewch yno yn rhwymo'n gyfreithiol.

Os nad ydych chi a'ch partner yn medru dod i gytundeb ar eich pen eich hun, fe allwch ofyn i'r llysoedd benderfynu drosoch chi. Ond, fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol yn gyntaf, cyn y bydd yn ystyried eich cais.

Pa benderfyniadau y mae'r llys yn medru eu gwneud

Fe fydd llys ond yn gwneud penderfyniadau ynghylch plant os ydyw'n teimlo bod hyn er budd y plentyn. Mae llys yn medru penderfynu ynghylch:

  • gyda phwy ddylai'r plentyn fyw (gelwir hyn yn orchymyn preswylio)
  • gyda phwy ddylai'r plentyn gael cysylltiad a pha fath o gyswllt ddylai fod (gelwir hyn yn orchymyn cyswllt)
  • a ddylai'r tad gael cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, os nad ydyw ganddo yn barod (gelwir hyn yn orchymyn cyfrifoldeb rhiant).

Gorchymyn preswylio

Mae'r llys yn medru gwneud gorchymyn preswylio o blaid:

  • un rhiant neu bartner. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r plentyn fyw gyda'r rhiant neu bartner yna
  • y ddau riant. Gellir gwneud un gorchymyn preswylio ar gyfer y ddau riant, hyd yn oed os nad ydynt yn cydfyw. Fe fydd y gorchymyn yn nodi faint o amser y bydd y plentyn yn byw gyda phob rhiant
  • y naill riant neu bartner. Fe fydd gan y naill riant neu bartner neu'r llall orchymyn ar wahân yn nodi am faint o amser y bydd y plentyn yn byw gyda nhw.

Gorchymyn cyswllt

Fel arfer, fe fydd y llys yn disgwyl i chi a'ch partner wneud eich trefniadau eich hun ynghylch cadw cysylltiad gyda'ch plant. Fe fydd y llys ond yn gwneud gorchymyn llys os nad ydych yn medru cytuno.

Efallai y bydd y gorchymyn cyswllt yn cynnwys amodau. Efallai y bydd hefyd yn dweud pa fath o gyswllt y medrwch ei gael, er enghraifft, ymweld, ffonio neu ysgrifennu llythyron. Gellir hefyd gwneud gorchmynion i ganiatáu cysylltiad rhwng y plentyn a pherthnasau neu ffrindiau eraill.

Os mai chi yw'r tad, mae gennych hawl i ofyn i'r llys am orchymyn cyswllt ac fe fyddwch yn ei gael fel arfer, ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol.

I ddarllen taflenni ffeithiau defnyddiol ynglŷn â chysylltiad gyda phlant yng Nghymru a Lloegr, gweler gwefan (New window) Canolfan Gyfreithiol y Plant Coram a gwefan (New window) Rights of Women.

Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant

Os mai chi yw'r tad ac nid oes cyfrifoldeb rhiant gennych yn barod, fe fyddwch yn medru gofyn i'r llys roi gorchymyn cyfrifoldeb rhiant i chi. Mae gorchymyn cyfrifoldeb rhiant yn rhoi'r hawl i chi gadw cysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda'ch plentyn. Mae'n medru bod yn syniad da gofyn i'r llys am orchymyn cyswllt a gorchymyn cyfrifoldeb rhiant ar yr un pryd. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda chostau cyfreithiol.

Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch trefniadau ar gyfer plant, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru ac yn Lloegr, ynglyn â sut i wneud trefniadau dros eich plant pan fyddwch yn gwahanu oddiwrth eich partner, gweler Rhiant ar wahan ar wefan Advicenow yn: (New window) www.advicenow.org.uk.

Nôl i’r brig


Trefniadau ariannol ar ddiwedd perthynas

Ar ddiwedd perthynas, mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal eu plant yn ariannol, waeth ble bydd y plant yn byw. Mae'r ddau riant yr un mor gyfrifol hyd yn oed os nad ydynt wedi eu henwi ar dystysgrif geni'r plentyn. Nid oes gwahaniaeth a oes cyfrifoldeb rhiant ganddynt ai peidio. Fe all yr Asiantaeth Cynnal Plant gysylltu â’r naill riant neu’r llall am gymorth ariannol.

Nid yw'n ddyletswydd arnoch chi na'ch partner i gynnal y llall ar ddiwedd perthynas os nad oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Gellir trefnu trefniadau ariannol:

  • trwy gytundeb
  • trwy'r Asiantaeth Cynnal Plant
  • trwy'r llysoedd.

Cytuno ar gymorth ariannol

Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno ar gymorth ariannol, gelwir hyn yn gytundeb gwirfoddol. Gellir ei ysgrifennu i lawr neu mae'n bosib mai cytundeb llafar ydyw.

Rydych yn medru cytuno, er enghraifft, y bydd un ohonoch yn gwneud taliadau wythnosol i'r llall i gynnal plant, neu'n talu'r taliadau rhent neu forgais neu biliau'r cartref, neu'n talu am ddillad a gwyliau'r plant.

Os fyddwch chi angen cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael i drefnu cynhaliaeth plant a chyngor ar sut i sefydlu cytundeb cynhaliaeth plant gwirfoddol, rydych yn medru cysylltu â gwasanaeth o’r enw Child Maintenance Options Service. Rhif ffôn eu llinell gymorth nhw yw: 0800 988 0988. Rydych hefyd yn medru mynd at wefan y Gwasanaeth yn: (New window) www.cmoptions.org.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA)

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn asesu ac yn casglu taliadau cynhaliaeth ar gyfer plant sy'n iau nag 16 (iau na 19 os ydynt mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg ddatblygedig). Os yw'ch perthynas wedi dod i ben ac mae'r plant yn byw gyda chi, rydych yn medru defnyddio'r CSA i gael cynhaliaeth ariannol i'ch plant.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cymorth ariannol i'ch plant trwy'r CSA, gweler Cynhaliaeth plant i rieni sy'n byw ar wahân.

Gorchmynion llys

Mewn rhai amgylchiadau, mae'r llys yn medru gwneud gorchymyn am gynhaliaeth ariannol i'r plant. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol yn gyntaf, cyn y bydd yn ystyried cais am orchymyn llys. Nid yw’r llys yn medru gwneud gorchymyn am gynhaliaeth ariannol i chi neu eich partner.

Mae llys yn medru gwneud gorchymyn i wneud taliadau rheolaidd i'r plentyn neu un swm mawr un taliad.

Os ydych yn gofyn i'r llys am gynhaliaeth ariannol i'r plant, efallai y byddwch yn medru cael help gyda'r costau cyfreithiol. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at y costau hyn allan o arian neu eiddo a gewch o ganlyniad i'r camau yn y llys. Gelwir hyn yn dâl statudol. Gwnewch yn siwr fod eich cyfreithiwr yn esbonio'r tâl statudol yn iawn cyn i chi ddechrau camau yn y llys.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig


Yr hawl i'r ty ar ddiwedd perthynas

Ar ddiwedd eich perthynas, mae llys yn medru rhoi hawliau tymor byr i chi neu'ch partner i'r cartref, er enghraifft:

  • yr hawl i aros yn eich cartref
  • yr hawl i ddychwelyd adref i gasglu eich pethau
  • yr hawl i atal eich partner rhag dod i'r cartref.

Os yw eich partner wedi bod yn dreisgar i chi, efallai y byddwch angen help i sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref, neu fod gennych le diogel i aros.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help y medrwch ei gael os yw eich partner wedi bod yn dreisgar i chi, gweler Trais yn y cartref.

Mae llys hefyd yn medru gwneud trefniadau tymor hir ynghylch tai mewn rhai achosion ble mae yna blant.

Yn y rhan fwyaf o achosion, os oes angen i chi geisio am orchymyn llys ynghylch materion tai, fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol yn gyntaf, cyn y bydd yn ystyried eich cais.

Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch eich hawliau tai ar ôl i berthynas chwalu, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Hawl perchen-breswylwyr i'r ty

Os ydych chi a'ch partner yn berchen-breswylwyr, mae'n bosib mai dim ond un ohonoch yw perchennog gwirioneddol yr eiddo. Os mai eich partner yw'r unig berchennog, nid oes hawl gennych i aros yn eich cartref os yw'ch partner yn gofyn i chi adael.

Ond, os oes plant gennych, rydych yn medru gofyn i'r llys drosglwyddo'r eiddo i'ch enw chi. Bydd y llys ond yn gwneud hyn os yw'n penderfynu ei fod er budd eich plant.

Os nad oes plant gennych, efallai y byddwch yn medru hawlio budd ariannol yn eich cartref os medrwch ddangos eich bod wedi cyfrannu’n ariannol trwy, er enghraifft, dalu tuag at welliannau neu at ad-dalu'r morgais. Os oes budd ariannol gennych yn eich cartref, efallai y byddwch yn medru atal eich partner rhag ei werthu. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch hyn. Mae'n bosib y medrwch gael get help gyda chostau cyfreithiol.

Os ydych yn berchen ar eich cartref ar y cyd gyda'ch partner ac yn penderfynu gadael, dylech gymryd camau i amddiffyn eich hawl i ddychwelyd yno os ydych yn dymuno gwneud hynny. Fe fydd angen i chi hefyd amddiffyn eich rhan yng ngwerth y cartref trwy sicrhau nad yw'ch partner yn ei werthu heb yn wybod i chi. Fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch hyn. Mae'n bosib y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Talu’r morgais pan fydd perthynas yn chwalu

Os yw’r morgais yn enw’r ddau bartner, mae’r ddau yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, am y taliadau morgais. Gelwir hyn yn atebolrwydd cyd ac unigol.

Os oes un ohonoch yn penderfynu gadael a pheidio â chyfrannu at y taliadau morgais mwyach, mae’r benthyciwr yn medru gofyn i’r llall dalu’r swm llawn.

Os yw morgais yn enw un unigolyn, dim ond yr unigolyn yna sy’n gyfrifol am y taliadau morgais.

Os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, ac nid yw’ch enw ar y morgais, efallai y bydd y benthyciwr yn ceisio eich troi chi allan o’ch cartref. Fe allech gynnig talu’r taliadau morgais wedi i’ch partner adael ac efallai y bydd y benthyciwr yn cytuno i hyn. Ond, nid oes rhaid i’r benthyciwr gytuno. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech ofyn am gyngor.

Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Talu’r rhent pan fydd perthynas yn chwalu

Cyd-denantiaeth

Gyda chyd-denantiaeth, mae pob un o’r tenantiaid sydd wedi eu henwi ar gytundeb y denantiaeth yn gyfrifol ar y cyd ac yn unigol am y rhent. Gelwir hyn yn atebolrwydd cyd ac unigol.

Os yw’r cyd-denant arall yn penderfynu gadael a pheidio â thalu tuag at y rhent mwyach, mae’r landlord yn medru gofyn i’r llall dalu’r swm llawn. Dyna pam mae’n bwysig parhau i dalu’r swm llawn, neu fe allech gael eich troi allan o’ch cartref.

Mewn rhai achosion, mae cyd-denant yn medru terfynu’r cyd-denantiaeth trwy roi rhybudd i’r landlord. Os ydych am barhau i aros yn yr eiddo, fe fydd yn rhaid i chi sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Efallai y bydd eich landlord yn medru rhoi tenantiaeth newydd i chi, yn eich enw chi yn unig. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech ofyn am gyngor.

Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Tenantiaeth unigol nad ydyw yn eich enw chi

Os yw tenantiaeth yn enw eich partner, fe fydd eich partner yn gyfrifol am dalu’r rhent cyhyd ag y bydd y denantiaeth yn bodoli. Os nad yw’r rhent yn cael ei dalu ac mae’r ôl-ddyledion yn crynhoi, efallai y bydd y landlord yn cymryd camau i’ch troi chi allan o’ch cartref.

Os nad ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil ac nid yw’ch enw ar gytundeb y denantiaeth, efallai y bydd y landlord yn ceisio eich troi chi allan. Fe allech gynnig talu’r rhent wedi i’ch partner adael ac efallai y bydd y landlord yn cytuno. Ond, nid oes rhaid i’r landlord gytuno. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech ofyn am gyngor.

Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Budd-daliadau a chostau tai

Os ydych yn aros yn eich cartref ar ôl i’ch partner adael, efallai y byddwch yn medru cael Budd-dal Tai i’ch helpu i dalu’ch rhent, ond mae hyn yn dibynnu ar eich incwm. Os oes morgais, efallai y byddwch yn medru cael help gyda’r llog ar y morgais.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â help gyda’r llog ar eich morgais, gweler Help gyda chostau morgais os ydych chi allan o waith.

Nôl i’r brig


Cyfryngu teuluol

Mae cyfryngu teuluol yn ffordd o'ch helpu chi a'ch partner i ddatrys anghytundebau pan fydd eich perthynas yn chwalu. Mae cyfryngwyr yn bobl sydd wedi eu hyfforddi i wrando ar y ddwy ochr, a'ch helpu chi a'ch partner i gytuno ar yr hyn sydd orau ar eich cyfer chi a'r plant. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir yno'n rhwymo'n gyfreithiol.

Mae yna ddau brif fath o gyfryngu teuluol ar gael:-

  • cyfryngu tu allan i'r llys, ble mae pobl yn medru eu cyfeirio eu hunain neu gael eu cyfeirio gan, er enghraifft, cyfreithiwr neu ymgynghorydd
  • datrys dadl yn y llys, ble caiff pobl eu cyfeirio gan y llys pam mae plant yn gysylltiedig ac yn cael eu gweld yn y llys.

Cyfryngu teuluol tu allan i'r llys

Fe allwch ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu teuluol cyn gynted â phosib ar ôl penderfynu gwahanu. Mae cyfryngu'n medru bod yn ddefnyddiol cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol i annog cydweithrediad rhyngoch chi a'ch partner ac i atal dadleuon rhag gwaethygu. Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfryngu teuluol ar ôl i chi wahanu os oes anghytundebau newydd yn dod i'r golwg neu os oes rhai sydd heb eu datrys.

Os ydych chi am gyflwyno cais i’r llys am orchymyn i setlo anghytundeb ynghylch y plant, arian neu eiddo, yn y rhan fwyaf o achosion rhaid i chi gysylltu â chyfryngwr a threfnu Cyfarfod Gwybodaeth ac Asesiad gyda Chyfryngwr i weld os ydych yn medru datrys yr anghydfod heb fynd i’r llys. Gellir cynnal y cyfarfod ar y cyd neu ar wahân. Fe fydd rhai sefyllfaoedd ble nad oes angen i chi fynychu cyfarfod, er enghraifft ble mae’r heddlu’n ymchwilio i drais yn y cartref.

Efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gyda'r costau.

Am fwy o wybodaeth ar help ariannol gyda chostau cyfryngu teuluol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion cyfryngwyr teuluol ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: (New window) www.familymediationhelpline.co.uk neu ar wefan National Family Mediation yn: [(New window) www.nfm.org.uk/home]. Mae National Family Mediation yn gymdeithas o wasanaethau cyfryngu teuluol nid-am-elw, ond nid yw’n cynrychioli pob cyfryngwr teuluol.

Rydych hefyd yn medru cael gwybodaeth ynghylch cyfryngu teuluol ar wefan ADR Now yn: (New window) www.adrnow.org.uk.

Gogledd Iwerddon

Mediation Northern Ireland
83 University Street
Belfast
BT7 1HP

Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
E-bost: info@mediationnorthernireland.org
Gwefan: (New window) www.mediationnorthernireland.org

Datrys dadleuon yn y llys

Os ydych yn gofyn i'r llys i wneud penderfyniad ynghylch trefniadau ar gyfer eich plant ar ddiwedd eich perthynas, fel arfer fe fyddan nhw'n gofyn i Adroddwr Plant a Theuluoedd fod yn gysylltiedig.

Mae Adroddwyr Plant a Theuluoedd yn gweithio ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass). Maen nhw'n annibynnol i'r Llysoedd ac asiantaethau eraill fel gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg ac iechyd. Maen nhw â chymhwyster mewn gwaith cymdeithasol ac a phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd.

Fe fydd yr Adroddwr Plant a Theuluoedd yn ceisio eich helpu chi a'ch partner i ddod i'r trefniadau gorau posib ar gyfer eich plant.

Weithiau, fe fydd y llys yn gofyn i chi a'ch partner ac unrhyw rieni eraill sy'n gysylltiedig i gwrdd â'r Adroddwr Plant a Theuluoedd i weld os ydych yn medru sortio pethau heb orfod parhau gyda'r achos llys. Os ydych yn medru dod i ryw drefniant ar y cam yma, fe fydd y barnwr yn medru gwneud gorchymyn i gadarnhau'r hyn a gytunwyd.

Os nad ydych yn medru dod i gytundeb, fe fydd y barnwr yn medru gorchymyn ymhellach y cynhyrchir adroddiad cyn i'r achos fynd ymhellach.

Mae cynlluniau datrys dadleuon yn y llys yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth ynghylch datrys dadleuon yn y llys a'r Adroddwr Plant a Theuluoedd, yn Lloegr cliciwch ar wefan Cafcass yn: (New window) www.cafcass.gov.uk, ac yng Nghymru cliciwch ar (New window) www.cafcass.gov.uk/cafcassCymru.htm.

Nôl i’r brig


Help pellach

Gwefan Ysgariad a Gwahanu Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

(New window) www.moneyadviceservice.org.uk

Gwefan Advicenow

‘Parents Apart’ yn: (New window) www.advicenow.org.uk

Gwefan National Family Mediation

Mae gwybodaeth ynglyn â gwahanu, ysgaru a chyfryngu teuluol ar gael ar wefan National Family Mediation yn: (New window) www.nfm.org.uk.

Gwefan ADR Now

Mae gwybodaeth am gyfryngu teuluol ar gael ar wefan ADR Now: (New window) www.adrnow.org.uk

Mediation Northern Ireland

Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
E-bost: info@mediationnorthernireland.org
Gwefan: (New window) www.mediationnorthernireland.org

Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass)

(New window) www.cafcass.gov.uk/cafcassCymru.htm (yng Nghymru)

(New window) www.cafcass.gov.uk (yn Lloegr)

Gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant

Llinell Gymorth: 0800 988 0988.
Gwefan: (New window) www.cmoptions.org

Adviceguide

Nôl i’r brig