Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon
Pan ddaw eich priodas i ben, fwy na thebyg y bydd gennych nifer o bethau i'w sortio gyda'ch partner, a fedrai gynnwys gofal plant, arian, tai ac eiddo o fath arall.
Dyma rai pethau y medrech chi a'ch partner eu penderfynu:
Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu, dylech ddweud wrth:
Os ydych chi a’ch partner yn briod, rydych yn medru gwahanu trwy drefniant anffurfiol. Fe fydd angen i chi ddweud wrth rai o'r bobl a restrir o dan y pennawd Wrth bwy i ddweud pan ddaw eich priodas i ben, neu bob un ohonynt. Efallai y bydd gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i ddweud wrth:
Os ydych chi a'ch partner yn cytuno, fe allwch wneud trefniadau ynghylch plant, arian, tai ac eiddo o fath arall heb fynd i'r llys. Ond, mae'n bosib y bydd unrhyw drefniadau anffurfiol a wneir pan fyddwch yn gwahanu yn effeithio ar benderfyniadau yn y dyfodol os ydych yn mynd i'r llys.
Efallai y bydd llys yn newid y trefniant a wneir gan bâr y mae'n ei ystyried yn afresymol neu, yn achos plentyn, os nad ydyw er budd y plentyn.
Mae cytundeb gwahanu yn gytundeb ysgrifenedig rhwng pâr sy'n bwriadu peidio byw gyda'i gilydd mwyach. Mae'n nodi sut maen nhw am sortio trefniadau ariannol, eiddo a threfniadau ar gyfer plant. Dyma enghreifftiau o'r hyn y medrech ei gynnwys mewn cytundeb:
Mantais cytundeb ysgrifenedig yw ei bod yn haws sicrhau bod y ddau ohonoch yn deall yr hyn a gytunwyd. Mae hefyd yn golygu y gall y naill neu’r llall ohonoch fynd i'r llys i newid y gorchymyn yn nes ymlaen. Fe'ch cynghorir i ymgynghori â chyfreithiwr wrth lunio cytundeb gwahanu, ond dylech weithio allan ymlaen llaw'r meysydd cyffredinol yr ydych am eu cynnwys. Fe fydd hyn yn gostwng y costau cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda'ch costau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol neu, yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda chostau cyfreithiol.
Mae gwahanu'n gyfreithiol yn orchymyn a wneir gan lys sirol ysgariad sy'n atal partneriaid priodas rhag gorfod byw gyda'i gilydd yn yr un ffordd ag ysgariad. Mae'n eithaf prin i gael gorchymyn gwahanu'n gyfreithiol, ond mae parau sydd â gwrthwynebiad moesol neu grefyddol i ysgariad yn ei ddefnyddio. Nid yw'r gorchymyn yn diweddu'r briodas ac felly nid oes un o'r partneriaid yn rhydd i briodi eto (na chofrestru partneriaeth sifil).
Nid ydych yn medru cyflwyno cais am ysgariad hyd nes eich bod wedi bod yn briod am o leiaf un flwyddyn (neu ddwy flynedd yng Ngogledd Iwerddon). Nid oes unrhyw eithriadau i'r rheol hon. I gael ysgariad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rhaid i gyfraith y Deyrnas Unedig gydnabod y briodas fel un ddilys a rhaid i chi gwrdd â'r rheolau ynghylch faint o amser yr ydych wedi bod yn byw yn y wlad.
Os ydych chi a'ch partner yn cytuno i'r ysgariad, gelwir hyn yn ysgariad diamddiffyn. Os oes un ohonoch ddim yn cytuno i'r ysgariad, gelwir hyn yn ysgariad amddiffynedig.
Caiff ysgariad diamddiffyn ei drafod:
Fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i unrhyw lys sirol ysgariad. Mae cyfeiriadau'r llysoedd yn y llyfr ffôn lleol neu ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Mewn ysgariad diamddiffyn, nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr ar gyfer y weithdrefn ysgaru ei hun fel arfer. Ond, efallai y byddai'n ddoeth mynd at gyfreithiwr i gael cyngor cyffredinol cyn i chi geisio am ysgariad. Mae cyfreithiwr yn medru bod yn ddefnyddiol i gael cyngor ynghylch p'un ai fod digon o sail i'r ysgariad, pa sail sy'n addas a pha dystiolaeth sydd ei angen. Os oes yna ddadlau ynghylch plant, eiddo neu arian nad ydych chi a'ch partner yn medru eu datrys, fe arfer fe'ch cynghorir i siarad â chyfreithiwr.
Fel arfer, mae ysgariad amddiffynedig yn cael gwrandawiad ynyr Uchel Lys, er y gellir trosglwyddo'r achos i'r llys sirol ysgariad.
Mewn ysgariad amddiffynedig, dylai'r ddau bartner siarad â chyfreithiwr bob tro. Mewn gwrandawiad, fel arfer fe fydd angen i chi ddefnyddio bargyfreithiwr hefyd. Mae'r ffioedd cyfreithiol yn medru bod yn uchel iawn os oes yna ddadleuon hir. Cynghorir, ble'n bosib, i'r ddau bartner geisio dod i gytundeb cyn mynd i'r llys.
Fe fydd y llys yn rhoi ysgariad os ydych chi neu'n partner yn medru dangos nad yw'r briodas yn bodoli bellach ar sail barhaol. Yn gyfreithiol, gelwir hyn yn chwalu anadferadwy yn y briodas. Er mwyn i briodas fod wedi chwalu'n anadferadwy, mae'n rhaid profi un o'r canlynol:
Efallai y bydd llys yn rhoi ysgariad os oes un ohonoch wedi cael perthynas rywiol gyda rhywun arall (godinebu) ac nid yw'r partner arall yn medru dioddef parhau i gydfyw. Rhaid i chi benderfynu nad ydych yn medru parhau i gydfyw o fewn chwe mis i'r godineb. Nid yw menyw a dreisiwyd wedi godinebu ond mae dyn sy'n treisio wedi.
Fe fydd y llys angen manylion y godineb, er enghraifft, dyddiadau a lleoliadau pan ddigwyddodd. Fe fydd y llys ond yn rhoi'r ysgariad os ydyw'n fodlon bod y godineb wedi digwydd ac na fedrai'r partner arall fyw gyda'r partner sydd wedi godinebu mwyach.
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno i'r ysgariad, fe fydd y llys fel arfer ond angen datganiadau a manylion y berthynas rywiol. Os oes un ohonoch ddim yn cytuno i'r ysgariad, fe fydd angen prawf ac mae hyn yn medru bod yn anodd ac yn ddrud.
Efallai y bydd llys yn rhoi ysgariad os ydych chi neu eich partner wedi ymddwyn mor wael fel nad ydyw'r llall yn medru dioddef cydfyw. Mae ymddygiad afresymol yn medru cynnwys creulondeb meddyliol neu gorfforol, gan gynnwys trais neu gamdriniaeth a phethau llai amlwg fel dominyddu partner, peidio â gadael i bartner adael y ty neu siarad â chymdogion a ffrindiau neu wrthod talu costau cadw'r ty.
Os oes un ohonoch ddim yn cytuno i'r ysgariad, fe fydd angen tystiolaeth a manylion, er enghraifft, tystiolaeth gan dystion fel ffrindiau neu dystiolaeth feddygol.
Os yw eich partner wedi bod yn dreisgar tuag atoch, fe fyddwch yn medru cael help arbenigol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help y medrwch ei gael os yw eich partner wedi bod yn dreisgar, gweler Trais yn y cartref.
Mae enciliad yn golygu bod eich partner wedi gadael eich cartref yn erbyn eich dymuniadau heb reswm da. Os oedd eich partner i ffwrdd yn barhaus am ddwy allan o'r ddwy flynedd a hanner diwethaf, fe fyddwch yn medru gofyn am ysgariad heb gytundeb eich partner. Os ydych yn cydfyw am gyfanswm o chwe mis yn ystod y cyfnod hwn, nid yw hyn yn atal yr enciliad rhag bod yn barhaus. Fe fydd llys am brawf o'r enciliad ac os oes un ohonoch ddim yn cytuno i'r ysgariad, efallai y bydd anghytundeb ynghylch pwy sydd wedi gadael pwy.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae enciliad yn digwydd ble mae un partner yn gadael y partner arall heb esgus rhesymol am gyfnod di-dor o ddwy flynedd. Rhaid hefyd bod bwriad i adael y partner.
Os ydych wedi byw ar wahân (wedi gwahanu) ers dwy flynedd yn barhaus ac mae'r ddau ohonoch yn cytuno i ysgariad, fe fydd y llys yn derbyn hyn fel prawf o chwalu anadferadwy yn y briodas. Fe fydd y ddwy flynedd ar wahân yn dal i fod yn barhaus hyd yn oed os ydych wedi cydfyw am hyd at chwe mis rhyngddynt.
Os ydych wedi byw ar wahân (wedi gwahanu) am bum mlynedd yn barhaus, fe fyddwch yn medru gofyn am ysgariad heb gytundeb eich partner. Mae eich partner yn medru gwrthwynebu'r ysgariad ar y sail y byddai'n achos caledi afresymol. Ond, fel arfer fe fydd y llys yn cytuno i ysgariad cyhyd â'ch bod wedi gwahanu ers pum mlynedd.
Gelwir y partner sy'n gofyn am yr ysgariad yn ddeisebwr. Y partner arall yw'r atebwr.
Os ydych am ddechrau trefniadau ysgariad fe fydd angen i chi gael y ffurflenni gan y llys. Rydych hefyd yn medru eu cael ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.
Fe fydd swyddfa'r llys yn dweud wrthych pa ffurflenni sydd eu hangen arnoch, ond ni chaiff staff y llys roi cyngor cyfreithiol i'r naill bartner neu'r llall na'ch helpu i lenwi'r ffurflenni.
Os ydych yn ceisio am ysgariad, mae help cyffredinol ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Os ydych chi angen help mwy arbenigol ynglŷn ag ysgariad, efallai y bydd angen i chi gael cyngor arbenigol, gan gyfreithiwr er enghraifft. Fe fydd eich canolfan CAB leol yn medru eich helpu i ddod o hyd i’r cyngor arbeigol iawn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno i'r ysgariad, fe fydd y llys yn edrych ar y ddeiseb ac yn caniatáu gorchymyn o'r enw decree nisi. Nid oes angen gwrandawiad llys.
Os oes plant gennych, fe fydd angen bod y llys yn fodlon eich bod wedi gwneud trefniadau boddhaol ar eu cyfer. Efallai y bydd y llys am drafod y trefniadau ac, o bosib, cwrdd â'r plant os ydynt yn ddigon hen (naw oed neu'n hyn). Mae ysgariad y mae'r ddau ohonoch yn cytuno iddo yn medru cymryd hyd at chwe mis os nad oes plant neu arian yn gysylltiedig. Mae'n medru cymryd mwy na hyn os oes plant yn gysylltiedig ac nid yw'r llys yn fodlon gyda'r trefniadau ar eu cyfer. Am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ar gyfer y plant, gweler y pennawd Plant ar ddiwedd priodas.
Chwe wythnos wedi i'r llys roi'r decree nisi, mae'r partner a ofynnodd am yr ysgariad yn medru gofyn i'r llys am orchymyn terfynol o'r enw decree absolute. Mae hyn yn cadarnhau'r ysgariad. Fe fydd decree absolute yn cael ei rhoi tra bod y llys wedi cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer unrhyw blant. Ar ôl gwneud decree absolute, fe fydd y naill bartner neu'r llall yn medru priodi eto neu gofrestru partneriaeth sifil.
Os ydych yn dechrau trefniadau ysgariad ac nid yw’ch partner yn cytuno, fe fydd yn rhaid iddynt lenwi papurau llys o’r enw Ateb. Mae'n rhaid iddynt ddweud pam nad ydynt yn cytuno bod y briodas wedi chwalu. Efallai y bydd gwrandawiad llys er mwyn i farnwr benderfynu a yw’r briodas wedi chwalu. Mae’r gwrandawiadau hyn yn brin iawn, oherwydd yn y mwyafrif o achosion fe fydd ysgariad sydd wedi'i amddiffyn yn cael ei ddatrys cyn gwrandawiad llys.
Hyd yn oed os yw'r llys yn cytuno bod y briodas wedi chwalu, rhaid eu bod yn fodlon eich bod wedi gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer unrhyw blant. Efallai eu bod nhw am drafod trefniadau ynghylch y plant ac, o bosib cwrdd â nhw os ydynt yn ddigon hen (naw oed neu'n hyn). Am fwy o wybodaeth ynghylch trefniadau ar gyfer y plant, gweler y pennawd Plant ar ddiwedd priodas.
Os yw'r llys yn cytuno rhoi'r ysgariad, fe fyddan nhw'n rhoi decree nisi. Chwe wythnos wedi i'r llys roi'r decree nisi, mae'r partner a ofynnodd am yr ysgariad yn medru gofyn i'r llys am orchymyn terfynol o'r enw decree absolute. Mae hyn yn cadarnhau'r ysgariad. Fe fydd decree absolute yn cael ei rhoi tra bod y llys wedi cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer unrhyw blant. Ar ôl gwneud decree absolute, fe fydd y naill bartner neu'r llall yn medru priodi eto neu gofrestru partneriaeth sifil.
Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru ac yn Lloegr, ynglyn â chael ysgariad, gweler Ysgariad – cit tŵls goroesi ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.
Os yw’r ddau bartner yn cytuno i ysgariad, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol yr ysgariad trwy’r Cynllun Help Cyfreithiol.
Os yw’ch partner yn anghytuno gyda’r ysgariad, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau cyfreithiol yr ysgariad o dan y Cynllun Cynrychiolaeth Gyfreithiol.
Mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynlluniau hyn, ond mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau gan gynnwys, er enghraifft, eich incwm. Os ydych yn cael help, mewn rhai achosion efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai o’r costau cyfreithiol yn ôl, allan o arian neu eiddo a gewch pan fydd yr ysgariad yn dod drwyddo. Gelwir hyn yn dal statudol. Gwnewch yn siŵr fod eich cyfreithiwr yn esbonio’r tâl statudol i chi cyn i chi ddechrau’r achos.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr gweler Help gyda chostau cyfreithiol and yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Unwaith y bydd priodas yn dod ben, fe fydd yn rhaid i chi benderfynu pwy fydd yn gofalu am y plant.
Efallai y byddwch yn medru gwneud trefniadau rhyngoch chi'ch hun ynghylch ble y bydd y plant yn byw a chysylltiad gyda'r rhiant arall. Ond, os nad yw hyn yn bosib, mae'r llys yn medru penderfynu drosoch.
Mae llawer o barau yn gwahanu ond byth yn cael ysgariad. Os ydych yn gwahanu'n anffurfiol, efallai na fydd byth angen i chi fynd i'r llys. Rydych yn medru gwneud trefniadau ar gyfer y plant ac efallai y byddant yn para am byth. Ond os nad yw'n bosib sortio'r trefniadau, mae'r llys yn medru gwneud penderfyniadau.
Os ydych yn cael ysgariad, ni fydd y llys yn rhoi'r ysgariad hyd nes y bydd wedi edrych ar y trefniadau ar gyfer y plant. Fe fydd yn rhaid i chi roi enwau pob plentyn dibynnol yn y teulu. Mae plentyn dibynnol yn un sy'n iau na 16 neu'n iau na 19 os ydyw mewn addysg llawn amser. Mae'n cynnwys plant sy'n blant i'r ddau bartner gyda'i gilydd, plan a fabwysiadwyd, llysblant ac unrhyw blant sydd wedi cael eu trin fel rhan o'r teulu. Nid yw'n cynnwys plant maeth.
Mae'n rhaid i chi roi manylion ynghylch sut fydd y plant yn cael gofal. Fe fydd angen i chi ddweud ble bydd y plant yn byw, a gyda phwy, a hefyd y trefniadau ariannol ar gyfer eu cynnal. Prif bryder y llys fydd penderfynu beth sydd er budd y plant. Os yw'r trefniadau'n dderbyniol i'r ddau riant, ni fydd y llys yn penderfynu ynghylch y plant. Fe fydd ond yn penderfynu ble mae angen gwneud hynny i sortio anghytundebau ynghylch y trefniadau. Gelwir penderfyniadau a wneir gan y llys yn orchmynion.
Mae'n bosib i chi gael help gan gyfryngwr i wneud trefniadau ar gyfer y plant. Os nad ydych yn medru cytuno ynglŷn â’r plant ac mae angen i chi geisio am orchymyn llys, yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol cyn y bydd yn ystyried eich cais.
Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch trefniadau ar gyfer eich plant, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu ewch at ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agoaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe fydd llys ond yn gwneud penderfyniadau ynghylch plant os ydyw'n teimlo bod hyn er budd y plant. Mae llys yn medru penderfynu ynghylch:
Mae'r llys yn medru gwneud gorchymyn preswylio o blaid:
Fel arfer, fe fydd y llys yn disgwyl i chi a'ch partner wneud eich trefniadau eich hun ynghylch cadw cysylltiad gyda'ch plant. Fe fydd y llys ond yn gwneud gorchymyn llys os nad ydych yn medru cytuno.
Efallai y bydd y gorchymyn cyswllt yn cynnwys amodau. Efallai y bydd hefyd yn dweud pa fath o gyswllt y medrwch ei gael, er enghraifft, ymweld, ffonio neu ysgrifennu llythyron. Gellir hefyd gwneud gorchmynion i ganiatáu cysylltiad rhwng y plentyn a pherthnasau neu ffrindiau eraill.
Am fwy o wybodaeth, yng Nghymru ac yn Lloegr, ar sut i wneud trefniadau dros eich plant pan fyddwch yn gwahanu o’ch partner,gweler Rhieni ar wahan ar wefan Advicenow yn: www.advicenow.org.uk.
I ddarllen taflenni ffeithiau defnyddiol ynglŷn â chysylltiad gyda phlant yng Nghymru a Lloegr, gweler gwefan Canolfan Gyfreithiol y Plant Coram a gwefan Rights of Women.
Ar ddiwedd priodas, mae'r ddau riant yn gyfrifol am gynnal eu plant yn ariannol, waeth ble bydd y plant yn byw.
Rydych hefyd yn medru ceisio am gymorth ariannol (cynhaliaeth) gan eich partner. Rydych yn medru gwneud hyn waeth a oes plant gennych ai peidio. Mae yna dair ffordd o drefnu trefniadau ariannol:
Rydych yn medru cael help i gytuno ar drefniadau ariannol- gweler y pennawd Cyfryngu teuluol.
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno ar gymorth ariannol, gelwir hyn yn gytundeb gwirfoddol. Gellir ei ysgrifennu i lawr neu mae'n bosib mai cytundeb llafar ydyw.
Rydych yn medru cytuno, er enghraifft, y bydd un ohonoch yn gwneud taliadau wythnosol i'r llall i gynnal plant, neu'n talu'r taliadau rhent neu forgais neu filiau'r cartref, neu'n talu am ddillad a gwyliau'r plant.
Yng Nghymru a Lloegr, os fyddwch chi angen cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael i drefnu cynhaliaeth plant a chyngor ar sut i sefydlu cytundeb cynhaliaeth plant gwirfoddol, rydych yn medru cysylltu â gwasanaeth o’r enw Child Maintenance Options Service. Rhif ffôn eu llinell gymorth nhw yw: 0800 988 0988. Rydych hefyd yn medru mynd at wefan y Gwasanaeth yn: www.cmoptions.org.
Mae Child Maintenance Options Service yn medru eich helpu i:
Yng Ngogledd Iwerddon, os fyddwch chi angen cyngor ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant, fe allwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth yr Isadran Cynhaliaeth Plant a Gorfodi. Rhif ffôn eu llinell gymorth yw 0800 028 7439. Rydych hefyd yn medru clicio ar wefan y Gwasanaeth yn: www.dsdni.gov.uk.
Cyn i chi gytuno ar becyn o gymorth ariannol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael cyngor cyfreithiol ynghylch p'un ai ei fod yn drefniant addas ai peidio. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol cael cyfreithiwr i lunio'r cytundeb rhag ofn bod dadlau yn y dyfodol. Efallai y cewch gymorth gyda chostau gwneud cytundeb gwirfoddol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yw gwasanaeth cynhaliaeth plant y llywodraeth sy’n asesu ac yn casglu taliadau cynhaliaeth ar gyfer plant sy'n iau nag 16 (iau na 19 os ydynt mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg ddatblygedig). Os yw'ch priodas wedi dod i ben ac mae'r plant yn byw gyda chi, rydych yn medru defnyddio'r CSA i gael cynhaliaeth ariannol i'ch plant. Ond, nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r CSA os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Mae’r CSA yn defnyddio proses safonol i gyfrifo faint o gynhaliaeth plant ddylid ei dalu a phryd ddylai’r taliadau gael eu gwneud. Rydych hefyd yn medru gofyn i’r CSA gasglu taliadau a chymryd camau gorfodi os nad yw’r taliadau’n cael eu gwneud.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cymorth ariannol i'ch plant trwy'r CSA, gweler Cynhaliaeth plant i rieni sy'n byw ar wahân.
Rydych yn medru gofyn am orchymyn llys am gynhaliaeth ariannol ar ddiwedd priodas. Os ydych yn gwneud hyn, yna yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol yn gyntaf, cyn y bydd yn ystyried eich cais. Fe fydd y llys yn ystyried holl amgylchiadau ariannol y ddau bartner, gan gynnwys trefniadau pensiwn. Mewn rhai amgylchiadau, mae’r llys hefyd yn medru gwneud gorchymyn am gynhaliaeth ariannol i’r plant.
Mae llys yn medru gwneud gorchymyn i wneud taliadau rheolaidd i'r plentyn neu un swm mawr un taliad. Mae hefyd yn medru gwneud gorchymyn ynghylch trefniadau pensiwn.
Efallai y cewch help gyda chostau cyfreithiol pan fyddwch yn gofyn i'r llys am gynhaliaeth ariannol. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at y costau hyn allan o arian neu eiddo a gewch o ganlyniad i'r camau yn y llys. Gelwir hyn yn dâl statudol. Gwnewch yn siwr fod eich cyfreithiwr yn esbonio'r tâl statudol yn iawn cyn i chi ddechrau camau yn y llys. Ble mae trefniadau pensiwn yn gysylltiedig, dylech hefyd ystyried cael cyngor ariannol arbenigol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr gweler Help gyda chostau cyfreithiol and yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Ar ddiwedd eich priodas, mae llys yn medru rhoi hawliau tymor byr i chi neu'ch partner i'r cartref, er enghraifft:
Os yw eich partner wedi bod yn dreisgar atoch, efallai y byddwch angen help i sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref, neu fod gennych le diogel i aros.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help y medrwch ei gael os yw eich partner wedi bod yn dreisgar atoch, gweler Trais yn y cartref.
Mae llys hefyd yn medru gwneud trefniadau tymor hir ynghylch tai. Os oes anghytundeb ynghylch tai, fe fydd y llys yn delio gyda'r anghytundeb fel rhan o'r ysgariad. Yn y rhan fwyaf o achosion, os nad ydych yn medru cytuno ac mae angen i chi geisio am orchymyn llys ynghylch materion tai, fe fydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teuluol yn gyntaf, cyn y bydd yn ystyried eich cais.
Os ydych yn ystyried mynd i'r llys ynghylch eich hawliau tai ar ôl i briodas chwalu, dylech holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi a'ch partner yn berchen-breswylwyr, mae'n bosib mai dim ond un ohonoch yw perchennog gwirioneddol yr eiddo. Os yw hyn yn wir, fe fydd angen i'r partner sydd ddim yn berchennog i warchod ei hawl i aros yn yr eiddo a sicrhau na fydd y perchennog yn ei werthu heb yn wybod iddynt. Hyd yn oed os ydych yn symud allan pan ddaw'r briodas i ben, efallai y byddwch am ddychwelyd yn nes ymlaen.
I warchod eich hawliau i aros yn yr eiddo, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen a'i hanfon naill ai at y Gofrestr Tir Rhanbarthol neu'r Adran Pridiannau Tir yn Plymouth. Yng Ngogledd Iwerddon, naill ai'r Gofrestr Tir neu'r Gofrestr Gweithredoedd. Mae'n dibynnu ble mae'r eiddo wedi'i gofrestru.
Nid yw'r weithdrefn hon yn gymhleth ac nid oes angen siarad â chyfreithiwr. Ond dylai unrhyw un sydd am warchod eu hawliau fel hyn holi ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agoaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw’r morgais yn enw’r ddau bartner priod, mae’r ddau yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, am y taliadau morgais. Gelwir hyn yn atebolrwydd cyd ac unigol.
Os oes un ohonoch yn penderfynu gadael a pheidio â chyfrannu at y taliadau morgais mwyach, mae’r benthyciwr yn medru gofyn i’r llall dalu’r swm llawn.
Os yw morgais yn enw un unigolyn, dim ond yr unigolyn yna sy’n gyfrifol am y taliadau morgais.
Ond, os nad yw’ch enw ar y morgais, ac rydych am barhau i fyw yn eich cartref, fe fydd yn rhaid i chi barhau i dalu’r taliadau morgais. Os nad yw’ch cyn-bartner yn talu unrhyw daliadau mwyach, fe fydd angen i chi dalu’r swm llawn, neu fe fydd y benthyciwr yn medru dechrau camau i’ch troi chi allan o’ch cartref. Os ydych yn briod, mae gennych yr hawl i dalu taliadau tuag at y morgais, er nad ydych yn gyfrifol am eu talu. Mae’n rhaid i’r benthyciwr dderbyn y taliadau.
Gyda chyd-denantiaeth, mae pob un o’r tenantiaid sydd wedi eu henwi ar gytundeb y denantiaeth yn gyfrifol ar y cyd ac yn unigol am y rhent. Gelwir hyn yn atebolrwydd cyd ac unigol.
Os yw’r cyd-denant arall yn penderfynu gadael a pheidio â thalu tuag at y rhent mwyach, mae’r landlord yn medru gofyn i chi dalu’r swm llawn. Dyna pam mae’n bwysig parhau i dalu’r swm llawn, neu fe allech gael eich troi allan o’ch cartref.
Mewn rhai achosion, mae cyd-denant yn medru terfynu’r cyd-denantiaeth trwy roi rhybudd i’r landlord. Os ydych am barhau i aros yn yr eiddo, fe fydd yn rhaid i chi sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Efallai y bydd eich landlord yn medru rhoi tenantiaeth newydd i chi, yn eich enw chi yn unig. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech ofyn am gyngor.
Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os yw tenantiaeth yn enw eich priod, fe fydd eich priod yn gyfrifol am dalu’r rhent cyhyd ag y bydd y denantiaeth yn bodoli. Os nad yw’r rhent yn cael ei dalu ac mae’r ôl-ddyledion yn crynhoi, efallai y bydd y landlord yn cymryd camau i’ch troi chi allan o’ch cartref.
Os nad yw’ch cyn-bartner yn talu’r rhent mwyach, mae gennych yr hawl i dalu’r rhent ac, yn gyfreithiol, nid yw’r landlord yn medru gwrthod ei dderbyn. Os nad yw’r landlord yn derbyn y rhent, dylech gael cyngor ar unwaith.
Mae cyngor ar gael o’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn aros yn eich cartref ar ôl i’ch partner adael, efallai y byddwch yn medru cael Budd-dal Tai i’ch helpu i dalu’ch rhent, ond mae hyn yn dibynnu ar eich incwm. Os oes morgais gennych, efallai y byddwch yn medru cael help gyda’r llog ar y morgais.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â Budd-dal Tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal Tai.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â help gyda’r llog ar eich morgais, gweler Help gyda chostau morgais os ydych chi allan o waith.
Mae cyfryngu teuluol yn ffordd o'ch helpu chi a'ch partner i ddatrys anghytundebau pan fyddwch yn gwahanu neu'n ysgaru - i sortio anghytundebau a phenderfyniadau am bethau fel arian, eiddo a gofalu am y plant. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid bod y ddau ohonoch yn fodlon mynd yn wirfoddol. Ni fydd unrhyw benderfyniadau a wneir yno'n rhwymo'n gyfreithiol.
Mae yna ddau brif fath o gyfryngu teuluol ar gael:-
Mae pâr yn medru defnyddio gwasanaethau cyfryngu teuluol cyn gynted ag y byddant wedi penderfynu bod eu perthynas yn dod i ben a’u bod yn teimlo eu bod yn medru trafod unrhyw ddadleuon.
Mae cyfryngu’n medru bod yn ddefnyddiol cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol i annog cydweithrediad rhwng y pâr, i atal dadleuon rhag gwaethygu ac i sicrhau na fydd yn mynd yn fwy anodd i gytuno yn y dyfodol. Rydych hefyd yn medru defnyddio cyfryngu teuluol ar ôl i chi wahanu neu ysgaru os oes anghytundebau newydd yn dod i'r amlwg neu os oes rhai sydd heb eu datrys.
Os ydych chi am gyflwyno cais i’r llys am orchymyn i setlo anghytundeb ynghylch y plant, arian neu eiddo, yn y rhan fwyaf o achosion rhaid i chi gysylltu â chyfryngwr a threfnu Cyfarfod Gwybodaeth ac Asesiad gyda Chyfryngwr i weld os ydych yn medru datrys yr anghydfod heb fynd i’r llys. Gellir cynnal y cyfarfod ar y cyd neu ar wahân. Fe fydd rhai sefyllfaoedd ble nad oes angen i chi fynychu cyfarfod, er enghraifft ble mae’r heddlu’n ymchwilio i drais yn y cartref.
Efallai y byddwch yn medru cael help ariannol gyda'r costau.
Am fwy o wybodaeth ar help ariannol gyda chostau cyfryngu teuluol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion cyfryngwyr teuluol lleol ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn: www.familymediationhelpline.co.uk neu ar wefan National Family Mediation yn: [www.nfm.org.uk/home]. Mae National Family Mediation yn gymdeithas o wasanaethau cyfryngu teuluol nid-am-elw, ond nid yw’n cynrychioli pob cyfryngwr teuluol.
Rydych hefyd yn medru cael gwybodaeth ynghylch cyfryngu teuluol ar wefan ADR Now yn: www.adrnow.org.uk.
Mediation Northern Ireland
83 University Street
Belfast
BT7 1HP
Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
E-bost: info@mediationnorthernireland.org
Gwefan: www.mediationnorthernireland.org
Os ydych yn gofyn i'r llys i wneud penderfyniad ynghylch trefniadau ar gyfer eich plant ar ddiwedd eich partneriaeth sifil, fel arfer fe fyddan nhw'n gofyn i Adroddwr Plant a Theuluoedd fod yn gysylltiedig.
Mae Adroddwyr Plant a Theuluoedd yn gweithio ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass). Maen nhw'n annibynnol i'r Llysoedd ac asiantaethau eraill fel gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg ac iechyd. Maen nhw â chymhwyster mewn gwaith cymdeithasol ac a phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd.
Fe fydd yr Adroddwr Plant a Theuluoedd yn ceisio eich helpu chi a'ch partner i ddod i'r trefniadau gorau posib ar gyfer eich plant.
Weithiau, fe fydd y llys yn gofyn i chi a'ch partner ac unrhyw rieni eraill sy'n gysylltiedig i gwrdd â'r Adroddwr Plant a Theuluoedd i weld os ydych yn medru sortio pethau heb orfod parhau gyda'r achos llys. Os ydych yn medru dod i ryw drefniant ar y cam yma, fe fydd y barnwr yn medru gwneud gorchymyn i gadarnhau'r hyn a gytunwyd.
Os nad ydych yn medru dod i gytundeb, fe fydd y barnwr yn medru gorchymyn ymhellach y cynhyrchir adroddiad cyn i'r achos fynd ymhellach.
Mae cynlluniau datrys dadleuon yn y llys yn rhad ac am ddim.
Am fwy o wybodaeth ynghylch datrys dadleuon yn y llys a'r Adroddwr Plant a Theuluoedd, yn Lloegr cliciwch ar wefan Cafcass yn: www.cafcass.gov.uk, ac yng Nghymru cliciwch ar www.cafcass.gov.uk/cafcassCymru.htm.
‘Divorce – a survival toolkit’ yn: www.advicenow.org.uk
‘Parents Apart’ yn: www.advicenow.org.uk
Mae gwybodaeth ynglyn â gwahanu, ysgaru a chyfryngu teuluol ar gael ar wefan National Family Mediation yn: www.nfm.org.uk
Mae gwybodaeth am gyfryngu teuluol ar gael ar wefan ADR Now: www.adrnow.org.uk
Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
E-bost: info@mediationnorthernireland.org
Gwefan: www.mediationnorthernireland.org
www.cafcass.gov.uk/cafcassCymru.htm (yng Nghymru)
www.cafcass.gov.uk (yn Lloegr)