Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Plant a gofal awdurdod lleol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Beth yw gorchymyn gofal

Pan fydd plentyn yn destun gorchymyn gofal, mae'n golygu bod gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn. Cyfeirir at hyn fel cyfrifoldeb rhiant. Fel rhieni, rydych yn parhau i gael cyfrifoldeb rhiant. Ond, mae’r awdurdod lleol yn medru cyfyngu ar eich cyfrifoldeb rhiant os oes angen gwneud hynny er lles y plentyn.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ble dylai eich plentyn fyw, ond fel arfer bydd yn byw i ffwrdd o'r cartref.

Pryd fydd awdurdod lleol yn gofyn am orchymyn gofal

Bydd awdurdod lleol yn gofyn am orchymyn gofal os nad yw eich plentyn yn derbyn y math o ofal y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl gan riant, ac mae'r diffyg gofal yma yn achosi niwed sylweddol i'r plentyn. Bydd y llys yn penderfynu a yw'r plentyn yn dioddef unrhyw niwed yn y ffordd yma.

Nôl i’r brig


Ble bydd plentyn sydd mewn gofal yn byw

Sut mae’r awdurdod lleol yng Nghymru’n penderfynu ble i osod plentyn

Pan fydd gan yr awdurdod lleol orchymyn gofal ar gyfer plentyn, maen nhw’n gyfrifol am benderfynu ble ddylai’r plentyn fyw. Rhaid ymgynghori â’r rhiant, a phobl eraill sy’n gysylltiedig â’r plentyn, ond yr awdurdod lleol sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.

Dylai’r awdurdod lleol hefyd ymgynghori â’r plentyn a rhaid ystyried dymuniadau’r plentyn, gan gofio oed a dealltwriaeth y plentyn.

Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i annog cyswllt rhwng plant mewn gofal a’u rhieni, perthnasau a ffrindiau. Dylent felly osod plentyn yn agos at ei g/chartref, os mai dyna sydd orau i’r plentyn. Rhaid iddynt hefyd geisio:

  • ·gosod y plentyn gyda rhiant, aelod o’r teulu neu ffrind neu os nad yw hyn yn bosib, gosod plant mewn gofal maeth
  • ·ystyried crefydd, hil, cefndir diwylliannol a iaith gyntaf plentyn
  • ·gosod brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd os yw pob un mewn gofal
  • ·sicrhau bod y llety’n cwrdd ag anghenion plentyn anabl.

Dylai’r gweithiwr cymdeithasol, y rhieni a’r plentyn gytuno ar y math o lety y mae’r awdurdod lleol yn ei ddarparu ar gyfer plentyn, onid yw’r plentyn angen llety wedi’i ddiogelu. Os nad yw’n bosib cytuno, mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i benderfynu heb ganiatâd y rhieni neu’r plentyn.

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn llunio adroddiadau ar arolygiadau o gartrefi plant. Mae adroddiadau arolygiadau ar gael yn: (New window) www.csiw.wales.gov.uk.

Gofalwyr maeth

Mae gofal maeth yn golygu bod adran gwasanaethau cymdeithasol yn trefnu i blentyn fyw gyda gofalwyr maeth. Mae'n galluogi'r plentyn i dderbyn gofal mewn amgylchedd deuluol. Gellir gosod plentyn gyda gofalwyr maeth am dymor hir, er enghraifft, pan fyddwch chi'n methu a gofalu am eich plentyn yn barhaol, neu am dymor byr, er enghraifft pan fyddwch chi'n methu â gofalu am eich plentyn oherwydd salwch yn y teulu, neu bod eich plentyn mewn gofal ond bydd yn dychwelyd atoch chi, eich teulu neu eich ffrindiau.

Mae gofalwyr maeth yn medru bod yn:

  • bâr priod
  • pâr o'r un rhyw, does dim gwahaniaeth a ydyn nhw'n bartneriaid sifil neu'n cydfyw
  • pâr gwahanrywiol dibriod
  • dyn sengl
  • menyw sengl.

Caiff gofalwyr maeth eu recriwtio a'u ddethol gan adran gwasanaethau cymdeithasol. Gall teulu a ffrindiau plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol gael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth i'r plant.

(Example box starts)

Rydw i a fy mrawd wedi bod yn byw gyda gofalwyr maeth ers tair blynedd. Fe ddechreuodd fy mrawd fynd i drwbl yn yr ysgol ac mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi mynd ag ef i ffwrdd at deulu maeth arall. Dw i ddim hyd yn oed yn gwybod ble mae fy mrawd ac rwyf wedi fy ypsetio'n fawr oherwydd dydyn ni ddim yn medru byw gyda'n gilydd mwyach.

Mae yna weithdrefnau y dylai'r awdurdod lleol fod wedi eu dilyn cyn iddyn nhw dy rannu di a dy frawd. Dylent fod wedi esbonio'u penderfyniad yn iawn a dylent fod wedi ystyried yr effaith emosiynol arnat ti wrth fynd â dy frawd i ffwrdd. Dylent geisio gwneud yn siŵr dy fod yn cadw mewn cysylltiad â dy frawd. Mae gennyt yr hawl i gwyno. Mae gennyt yr hawl i gael rhywun i siarad â’r cyngor ar dy ran. Cysyllta â chynghorydd profiadol, er enghraifft, yn dy ganolfan Cyngor ar Bopeth leol. Fe fyddan nhw'n dy helpu i geisio gwella'r sefyllfa yma.

(Example box ends)

Cartrefi i blant

Gall cartrefi i blant gael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol, neu gan gymdeithasau preifat neu elusennol fel Barnados. Cânt eu rhedeg gan staff sy'n cael eu talu. Yn gyffredinol, mae plant mewn cartrefi plant yn dueddol o fod yn hyn. Caiff plant iau eu gosod mewn cartref maeth, pan fydd hyn yn bosib.

Mae trefn y cartref yn amrywio'n sylweddol o un awdurdod i'r nesaf ac yn ôl agwedd pennaeth y cartref. Fodd bynnag, fe fydd plant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd o fewn y gymuned. Fel arfer, byddant yn mynychu ysgolion lleol (er efallai y bydd rhai yn mynychu ysgolion arbennig) ac yn gallu ymuno â chlybiau ieuenctid a chlybiau chwaraeon ayb.

Caiff rhai plant eu gosod mewn cartref i blant lle mae'r addysg yn cael ei ddarparu ar y safle. Mae'n bosib fod hyn yn digwydd am amrywiaeth o resymau, fel absenoldeb o'r ysgol heb ganiatâd yn gyson, ymddygiad anodd yn yr ysgol neu droseddu. Mae'r cartrefi yma yn dueddol o fod yn fwy na chartrefi i blant ac yn darparu amgylchedd sydd wedi'i strwythuro'n fwy a chyda mwy o ddisgyblaeth, tebyg i ysgol breswyl.

Sut caiff y penderfyniad ei wneud

Pan yn penderfynu ble dylai eich plentyn fyw, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried nifer o bwyntiau, gan gynnwys:

  • eich dymuniadau chi fel rhieni
  • dymuniadau eich plentyn
  • yr angen i osod eich plentyn yn agos at eich cartref, fel y gall eich plentyn gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, os bydd hyn er lles eich plentyn
  • p'un ai y dylid cadw brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd.

Nôl i’r brig


Sut mae gwneud gorchymyn gofal

Mae'r awdurdod lleol yn gwneud cais i'r llys am orchymyn gofal. Fodd bynnag, cyn y bydd yr awdurdod lleol, (yng Ngogledd Iwerddon, mae hyn yn cynnwys person sydd wedi'i awdurdodi gan Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, neu'r NSPCC), yn gwneud cais am orchymyn llys, bydd yn ymchwilio i amgylchiadau'r plentyn. Gallai'r awdurdod lleol ddechrau'r archwiliadau yma am unrhyw un o'r resymau canlynol:-

  • ar gyfarwyddyd y llys
  • pan fydd y plentyn wedi methu â chydymffurfio â gorchymyn goruchwyliaeth addysg yn gyson
  • pan ei fod yn amau fod plentyn yn ei ardal yn dioddef, neu yn debygol o ddioddef niwed sylweddol
  • pan fydd plentyn o dan warchodaeth yr heddlu
  • pan mae gorchymyn asesu plentyn wedi'i wneud
  • pan mae gorchymyn amddiffyn brys wedi'i wneud. Mae hwn yn orchymyn i warchod y plentyn rhag niwed drwy ei symud o leoliad neu yr angen i'w g/chadw mewn lleoliad penodol.

Prif ddyletswydd adran gwasanaethau cymdeithasol yw gweithio gyda chi fel rhieni a gyda'ch plentyn i atal y plentyn rhag bod yn destun gorchymyn gofal, neu i ddychwelyd eich plentyn i'w g/chartref cyn gynted ag y bo modd. Pan fydd yr awdurdod lleol wedi ymchwilio i amgylchiadau eich plentyn, bydd yn gweithio gyda'ch plentyn i ddatrys y problemau trwy ddarparu gwasanaethau cynnal i'r plentyn ac i chi fel teulu yn y gymuned. Bydd hefyd yn trafod y posibilrwydd o osod y plentyn am gyfnod cyfyng tan i'r problemau gael eu datrys, gyda chi.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwasanaethau'r awdurdod lleol a lleoli plant, gweler Gwasanaethau awdurdod lleol ar gyfer plant mewn angen.

Os, wedi ceisio datrys y problemau yn y ffyrdd a amlinellwyd uchod, mae'r awdurdod lleol yn credu bod y plentyn mewn perygl o hyd, bydd yn gwneud cais i'r llys am orchymyn gofal.

Gwneir y cais i lys teulu neu i lys ynadon. Bydd y llys yn penodi person i ofalu am les y plantyn yn ystod y trefniadau yn y llys. Cyfeirir at y person yma fel gwarcheidwad y plentyn, neu guardian ad litem yng Ngogledd Iwerddon.

Efallai y bydd y llys am weld adroddiadau ynglyn â chi a'ch plentyn. Bydd yr adroddiadau yma yn cael eu paratoi gan weithiwr cymdeithasol a gwarcheidwad y plentyn neu guardian ad litem yng Ngogledd Iwerddon.

Os bydd y llys yn penderfynu bod y plentyn mewn perygl, mae'n bosib y bydd yn gwneud gorchymyn gofal neu orchymyn goruchwyliaeth. Mae gorchymyn goruchwyliaeth yn gofyn i blentyn gael ei (g)oruchwylio gan weithiwr cymdeithasol am hyd at flwyddyn. Gallai hefyd wneud un o'r gorchmynion llys canlynol yn lle gorchymyn gofal:-

  • gorchymyn preswyliaeth
  • gorchymyn cysylltu

Mae gorchymyn preswyliaeth yn dweud gyda phwy y dylai'r plentyn fyw. Fe allai hyn fod gydag un rhiant yn unig neu gyda'r ddau riant. Os ydyw gyda'r ddau riant, fe fydd y gorchymyn preswyliaeth yn dweud faint o amser y dylai'r plentyn fyw gyda phob un.

Mae gorchymyn cysylltu yn dweud gyda phwy y dylai'r plentyn gael cyswllt a pha fath o gyswllt ddylai fod, er enghraifft, ymweliad, ffonio neu ysgrifennu llythyron. Fe allai gorchymyn cysylltu gynnwys amodau eraill, a gellir eu gwneud i ganiatáu cysywllt rhwng y plentyn a pherthnasau neu ffrindiau eraill.

Ceisio cyngor cyfreithiol

Dylai unrhyw un sydd ynghlwm â threfniadau gofal geisio cyngor cyfreithiol. Gallwch chi a'ch plentyn wneud cais am help gyda chostau cyfreithiol a byddwch yn gymwys i'w gael heb orfod cwrdd â'r amodau arferol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael help gyda chostau cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol, ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Apelio yn erbyn gorchymyn gofal neu ddiweddu'r gorchymyn

Rhaid i chi neu eich plentyn apelio yn erbyn gorchymyn gofal o fewn 21 diwrnod i'w sefydlu. Gallwch chi, eich plentyn neu yr awdurdod lleol wneud cais i ddiweddu'r gorchymyn neu i'w newid i orchymyn goruchwyliaeth ar unrhyw adeg.

Mae unrhyw un sydd am apelio yn erbyn gorchymyn gofal, neu ei ddiweddu, geisio cyngor arbenigol a dylech gysylltu â chyfreithiwr. Mae manylion cyswllt cyfreithwyr ar gael o'ch Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud gorchymyn gofal

Yng Nghymru a Lloegr, mae'n rhaid i'ch plentyn chi (gyda chi lle'n bosib) a'ch awdurdod lleol gytuno gyda chynllun ysgrifenedig i gwrdd ag anghenion eich plentyn. Bydd plentyn neu berson ifanc sydd wedi derbyn gofal awdurdod lleol am gyfnod o o leiaf 13 wythnos, ar ryw adeg rhwng 14 ac 17 mlwydd oed, yn derbyn cynghorydd personol. Bydd y cynghorydd personol yn helpu gyda llunio cynllun o'r enw Cynllun Llwybr Gofal.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gytuno gyda chi ar gynllun ysgrifenedig i gwrdd ag anghenion eich plentyn. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion ynglyn â ble bydd eich plentyn yn byw, pwy fydd eich plentyn yn cysylltu â nhw, gwasanaethau eraill yr awdurdod lleol y byddwch chi a'ch plentyn yn eu derbyn, sut bydd anghytundebau a chwynion yn cael eu trafod a phryd fydd adolygiadau yn cymryd lle.

Am ba hyd fydd y gorchymyn gofal yn weithredol

Gall y gorchymyn gofal fod yn weithredol tan i blentyn gyrraedd 18.

Cyswllt gyda phlentyn mewn gofal

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol annog cysylltiad rhwng plentyn sydd mewn gofal a rhieni, perthnasau a ffrindiau. Mae'n rhaid caniatau cysylltiad rhesymol hefyd rhwng y plentyn a chi fel rhieni.

Fel arfer, bydd yr awdurdod lleol, eich plentyn a chithau yn cytuno ar drefniadau cyswllt. Fodd bynnag, os nad yw'n bosib dod i gytundeb, gall y llys wneud gorchymyn llys yn amlinellu pa gysylltiad y dylai eich plentyn ei gael gyda phobl eraill.

Os yw'r awdurdod lleol am newid y trefniadau cyswllt, mae'n rhaid i'r gweithiwr cymdeithasol drafod y newidiadau gyda'r holl bobl sydd ynghlwm. Ni all yr awdurdod lleol atal cysylltiad rhyngddo chi a'ch plentyn heb orchymyn llys os nad yw'n ystyried bod y sefyllfa yn un brys, ac os felly, gall atal y cysylltiad am hyd at saith diwrnod.

Gall unrhyw un apelio yn erbyn penderfyniad y llys i wrthod neu ganiatau gorchymyn llys, gan gynnwys y plentyn.

Adolygu amgylchiadau'r plentyn

Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i'r awdurdod lleol adolygu amgylchiadau plentyn sydd yn ei ofal o fewn pedair wythnos i'r dyddiad pan ddechreuodd gofal y plentyn. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gynnal ail adolygiad o fewn tri mis i'r adolygiad cyntaf, ac mae'n rhaid i chi gynnal adolygiadau pellach bob chwech mis. Bydd yr adolygiad yn trafod y cynllun a luniwyd ar gyfer y plentyn. Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried pa gynnydd sydd wedi ei wneud wrth weithredu'r cynllun, ac a oes angen unrhyw newidiadau iddo ai peidio.

Plant a phobl ifainc sy'n gadael gofal a llety (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol baratoi person ifanc neu blentyn sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol am gyfnod o o leiaf 13 wythnos, ar ryw adeg rhwng 14 ac 17 mlwydd oed, ar gyfer gadael gofal, ac yna cadw mewn cysylltiad.

Mae dyletswydd yr awdurdod lleol i gadw mewn cysylltiad yn berthnasol hyd yn oed os yw plentyn neu berson ifanc yn symud i ran arall o'r wlad. Mae mwyafrif y rheiny sy'n gadael gofal â hawl i dderbyn help gyda llety, addysg a hyfforddiant, ac, os yn berthnasol, mathau eraill o help y mae gan yr awdurdod lleol y pwer i'w darparu.

Mae awdurdodau lleol yn bennaf gyfrifol am gefnogaeth ariannol ambell berson 16 ac 17 mlwydd oed sy'n gadael gofal neu lety awdurdod lleol.

Os ydych chi'n berson ifanc sydd wedi gadael, neu sydd ar fin gadael, gofal neu lety awdurdod lleol ac am wybod pa gefnogaeth y gallwch chi ei ddisgwyl gan yr awdurdod lleol, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori, gan gynnwys y rheiny sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Cwynion am yr awdurdod lleol

Gweithdrefn gwyno'r awdurdod lleol

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'r awdurdod lleol wedi trin plentyn neu berson ifanc, fe fyddwch yn medru cwyno. Mae plant a phobl ifainc yn medru cwyno yn ogystal ag oedolion. Rydych hefyd yn medru cwyno os nad yw'r awdurdod lleol yn gwneud rhywbeth y dylai wneud. Mae gan bob awdurdod lleol weithdrefn gwyno. Rydych yn medru cael copi ohoni gan eich awdurdod lleol. Mae enghreifftiau o'r pethau yr ydych yn medru cwyno amdanynt yn cynnwys:

  • oedi wrth edrych ar anghenion plentyn
  • ansawdd gwasanaeth y mae'r awdurdod lleol yn ei gynnig, er enghraifft, safonau gofal maeth gwael
  • heb gyflwyno gwasanaeth. Er enghraifft, efallai y bydd awdurdod lleol wedi methu â darparu cyfieithydd ar y pryd os oedd angen un arnoch neu wedi methu ag ystyried eich cefndir diwylliannol
  • agwedd neu ymddygiad staff yr awdurdod lleol.

Hefyd, mae yn erbyn y gyfraith i awdurdod lleol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil neu ryw neu am fod anabledd gennych. Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol bolisïau sy'n nodi na ddylent wahaniaethu yn eich erbyn am resymau eraill, er enghraifft oherwydd eich rhywioldeb neu am fod HIV gennych. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, fe fyddwch yn medru cwyno am hyn.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad cwyn, mae gennych yr hawl i ofyn i banel adolygu adolygu'r canlyniad. Mae yna derfyn amser ar gyfer gwneud hyn.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y weithdrefn gwyno yn Lloegr, gweler Cwynion ynghylch y GIG ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler HPSS complaints in Northern Ireland. Yng Nghymru, mae gwybodaeth ynghylch sut i gwyno am yr awdurdod lleol ar wefan Llywodraeth Cymru yn: (New window) new.wales.gov.uk.

Cwyno i’r Ombwdsman

Os nad ydych yn hapus gyda'r canlyniad ar ôl i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r awdurdod lleol, fe fyddwch yn medru gofyn i Ombwdsman ymchwilio. Yn Lloegr, mae gan swyddfa'r Ombwdsman Llywodraeth Leol dîm o ymchwilwyr wedi eu hyfforddi'n arbennig sy'n ymchwilio i gwynion gan blant a phobl ifainc. Maen nhw'n cyhoeddi canllawiau i bobl ifainc ac rydych yn medru cael copi trwy eu gwefan, (New window) www.lgo.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Llywodraeth Lleol yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru, neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.

Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol

Gan ddibynnu ar natur y gwyn, efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol. Er enghraifft, os cawsoch anaf tra'n cael gofal ac roedd yr awdurdod lleol yn esgeulus, efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfreithiol a chael iawndal. Efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfreithiol os ydych wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eich hil, rhyw neu anabledd. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda'r costau cyfreithiol ar gyfer cymryd camau cyfreithiol. Mae'n rhaid i chi gymryd camau cyfreithiol o fewn cyfnod penodol o amser. Fe fydd angen i chi siarad â chyfreithiwr arbenigol.

Os ydych yn credu eich bod angen cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Sefydliadau

Mae yna nifer os sefydliadau sy'n medru cefnogi pobl ifanc sydd yn y system ofal.

Grŵp Hawliau’r Teulu

Mae Grŵp Hawliau’r Teulu’n medru eich cynghori os ydych yn rhiant, yn ffrind neu’n berthynas, ac mae gweithwyr cymdeithasol ynghlwm â bywyd eich plentyn, neu os ydych angen cymorth ychwanegol gan Wasanaethau Plant. Dyma’u manylion cyswllt:

Grŵp Hawliau’r Teulu / Family Rights Group (Cymru a Lloegr)
Second Floor
The Print House
18 Ashwin Street
London
E8 3DL
Llinell Gymorth: 0808 801 0366 (Rhadffôn)(dydd Llun i ddydd Gwener o 9.30yb tan 3.30yp)
Ffôn: 020 7923 2628 (gweinyddol yn unig)
Ffacs: 020 7923 2683
E-bost: advice@frg.org.uk
Gwefan: (New window) www.frg.org.uk

Who Cares? Trust

Mae Who Cares? Trust yn anelu at helpu plant a phobl ifanc sydd yn y system ofal neu'n cael gofal gan yr awdurdod lleol, i reoli eu bywydau mewn ffordd fwy adeiladol yn absenoldeb cefnogaeth y teulu. Mae'r Ymddiriedolaeth yn ateb ceisiadau am wybodaeth a chyngor gan bobl ifanc, cynhalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol. Dyma'u manylion cyswllt:

Who Cares? Trust
Kemp House
152-160 City Road
London
EC1V 2NP
Ffôn: 020 7251 3117
Ffacs: 020 7251 3123
E-bost: mailbox@thewhocarestrust.org.uk
Gwefan: (New window) www.thewhocarestrust.org.uk

Voice

Mae Voice yn darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal, sydd angen gofal neu'n gadael gofal. Dyma'u manylion cyswllt:

Voice
Head office (London and South East)
Unit 4
Pride Court
80-82 White Lion Street
London
N1 9PF
Ffôn: 020 7833 5792
Rhadffôn: 0808 800 5792 (i bobl ifanc)
Ffacs: 020 7713 1950
E-bost: info@voiceyp.org
Gwefan: (New window) www.voiceyp.org

Voices from Care (Cymru)

Mae Voices from Care (Cymru) yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sydd yng ngofal yr awdurdod lleol yng Nghymru, neu wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol yng Nghymru. Mae pobl sydd wedi bod mewn gofal eu hunain yn rhedeg y gwasanaeth. Dyma'u manylion cyswllt:

Voices from Care (Cymru)
39 The Parade
Y Rhath
Caerdydd
CF24 3AD
Ffôn: 029 2045 1431
E-bost: info@vfcc.org.uk
Gwefan: (New window) www.voicesfromcarecymru.org.uk

Nôl i’r brig