Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr a Chymru
Os oes gan eich plentyn chi anhawster neu anabledd dysgu sy’n eu dal yn ôl yn yr ysgol, efallai bod ganddyn nhw anghenion addysgol arbennig (AAA).
Mae gan ddisgybl ag AAA:
Mae gan ddisgybl ag AAA yr hawl i dderbyn addysg amser llawn sy’n briodol i’w anghenion. Mae hyn yn berthnasol i blant a phobol ifanc rhwng 2 ac 19 mlwydd oed. Gall yr addysg hon fod mewn ysgol arbennig, ysgol prif ffrwd (Gweler Dewis ysgol, o dan y pennawd Datganiad o anghenion), neu yn rhywle arall. Mae gennych yr hawl i addysgu’ch plentyn gartref cyhyd â bod yr awdurdod lleol yn fodlon fod hyn yn diwallu anghenion y plentyn.
Mae yna reolau gwahanol i bobol ifanc sy’n mynd ymhellach, chweched dosbarth neu golegau addysg uwch.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag addysg i ddisgyblion ag AAA sy’n aros ymlaen yn yr ysgol ar ôl 16 yn Lloegr, gweler Addysg i rai 14-19 oed yn Lloegr a Chymru, gweler Dewisiadau Addysg yng Nghymru yn 16 oed.
Os ydych chi’n credu fod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, fe ddylech chi ofyn am gyfarfod gydag athro eich plentyn neu bennaeth yr ysgol. Mae gan yr ysgol, ddyletswydd i wrando ar unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â’ch plentyn. Os ydyn nhw’n gwrthod cyfarfod â chi neu os ydych chi’n anhapus gyda chanlyniad y cyfarfod, fe allwch chi gwyno neu apelio yn erbyn penderfyniad yr ysgol - gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau.
Fe allwch chi, athrawon eich plentyn, neu rywun arall, er enghraifft, meddyg neu weithiwr cymdeithasol, adnabod fod gan eich plentyn AAA. Unwaith y digwydd hyn, rhaid i’r ysgol a’r awdurdod addysg lleol ddilyn Cod Ymarfer ar Anghenion Addysgol Arbennig y Llywodraeth, ac yn Lloegr fe allwch chi weld hwn yn: www.teachernet.gov.uk. Yng Nghymru fe allwch chi ei weld ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: http://new.wales.gov.uk.
Rhaid i’ch awdurdod addysg lleol gael gwasanaeth partneriaeth â rhieni (PPS) i rieni pob plentyn sydd ag AAA. Gall y gwasanaeth hwn ddarparu cyngor a gwybodaeth i chi ynglŷn â phob agwedd o AAA eich plentyn.
Mae’r Cod Ymarfer yn dweud fod yn rhaid cynhyrchu cynllun addysg unigol (CAU/IEP) i’ch plentyn. Rhaid i hwn gynnwys manylion yr help a roddir i’ch plentyn sy’n wahanol neu sy’n ychwanegol i’r plant sydd heb AAA.
Efallai y bydd hi’n bosibl i’r ysgol i ddiwallu anghenion arbennig eich plentyn trwy ddarparu cefnogaeth ychwanegol. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn ddarparu deunyddiau dysgu gwahanol neu offer arbennig, gan ddefnyddio dulliau dysgu gwahanol, cynnig cyngor i athrawon neu ddysgu arbenigol i’ch plentyn.
Os ydyw’r ysgol yn cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol, rhaid iddi gael cyd-gysylltydd anghenion addysgol arbennig (SENCO) fydd yn gyfrifol am gyd-gysylltu’r gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen.
Os oes angen mwy o gefnogaeth ar eich plentyn na’r hyn y gall yr ysgol ei gynnig fel arfer, efallai y bydd angen mwy o ymchwilio i benderfynu os ydyn nhw angen cymorth ychwanegol neu wahanol. Gallai hyn olygu y bydd asesiad ffurfiol o anghenion eich plentyn yn digwydd.
Mae yn erbyn y gyfraith i ddarparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn eich plentyn ar sail anabledd.
Mae rhai plant ag anghenion addysgol arbennig hefyd yn cael eu gwarchod gan gyfraith gwahaniaethu ar sail anabledd a gall rhai plant fod yn anabl o dan y gyfraith gwahaniaethu ar sail anabledd ond heb fod ag anghenion addysgol arbennig. Nid oes rhaid i ysgolion yn ôl y gyfraith ddarparu cynorthwyon a gwasanaethau megis dehonglwyr iaith arwyddion o dan y ddeddf gwahaniaethu ar sail anabledd, ond rhaid darparu’r rhain os aseswyd eich plentyn fel un oedd eu hangen o dan ddeddf anghenion addysgol arbennig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Gwneir y penderfyniad o asesu’n ffurfiol anghenion eich plentyn gan yr awdurdod addysg lleol.
Asesiad ffurfiol ydyw’r ffordd y mae eich awdurdod addysg lleol yn penderfynu:
Rhaid cyflawni’r asesiad yn unol â gweithdrefnau penodol a bennwyd gan y gyfraith. Mae yn erbyn y gyfraith i’r asesiad wahaniaethu yn erbyn eich plentyn ar sail hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd.
Mae gennych yr hawl i ofyn i’r awdurdod addysg lleol i wneud asesiad ffurfiol o’ch plentyn. Mae gan ysgol eich plentyn yr hawl i hyn hefyd. Gall asiantaethau eraill megis gwasanaethau cymdeithasol neu awdurdodau iechyd hefyd ofyn i’r awdurdod addysg lleol i ystyried gwneud asesiad.
Os ydych chi am ofyn am asesiad, fe ddylech chi ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl i’r awdurdod addysg lleol ynglŷn â pham yr ydych yn credu ei fod yn angenrheidiol. Fe ddylech chi hefyd gynnwys manylion am unrhyw sgyrsiau gawsoch chi gyda’r ysgol. Gall gymryd amser hir i’r asesiad fynd trwodd ac felly fel arfer mae’n well i chi ddechrau siarad â’r ysgol ynglŷn ag asesiad cyn gynted ag y mae gennych bryderon ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Mae gennych yr hawl i ofyn am asesiad cyn i’ch plentyn gyrraedd dwyflwydd oed.
Os ydyw’ch plentyn yn ddwyflwydd oed neu drosodd, rhaid i’r awdurdod addysg lleol gytuno i’ch cais am asesiad oni bai:
Os bydd yr ysgol yn penderfynu gofyn am asesiad, fe ddylen nhw ymgynghori â chi’n gyntaf.
Pan fydd ysgol neu asiantaeth arall yn gofyn am asesiad, rhaid i’r awdurdod addysg lleol ysgrifennu atoch i’ch hysbysu eu bod yn ystyried cyflawni asesiad o’ch plentyn. Rhaid iddynt hefyd roi gwybodaeth arbennig arall i chi yn cynnwys:
Rhaid i’r awdurdod addysg lleol benderfynu pa un ai i gyflawni asesiad o fewn chwe wythnos i’r cais gennych chi neu’r ysgol.
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu gwneud asesiad o’ch plentyn. Mae gennych yr hawl hefyd i apelio os bydd yr awdurdod addysg lleol yn gwrthod gwneud asesiad - gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau.
Os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod addysg lleol ynglŷn âg asesiad ffurfiol o anghenion eich plentyn, efallai y byddwch am ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraiift, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnys y rheiny all roi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Yn ystod yr asesiad, bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu pa un ai i roi datganiad o anghenion eich plentyn am gefnogaeth ychwanegol ai peidio. Os byddan nhw’n penderfynu nad oes angen datganiad mae gennych yr hawl i apelio – gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau.
Os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod addysg lleol i roi datganiad o anghenion eich plentyn, efallai y byddwch am ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraiift, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnys y rheiny all roi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Os bydd yr AALl yn penderfynu rhoi datganiad i’ch plentyn, fe fyddan nhw yn y lle cyntaf yn anfon datganiad arfaethedig atoch.
Bydd y datganiad arfaethedig yn cynnwys:
Fe ddylech chi wirio'r datganiad arfaethedig yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cytuno ag ef. Os oes unrhyw beth nad ydych yn hapus yn ei gylch, mae gennych 15 diwrnod o’r dyddiad y bydd yn cyrraedd i adael i’r awdurdod addysg lleol wybod am eich pryderon.
Fe allwch chi ofyn am gyfarfod gyda swyddog awdurdod addysg lleol i drafod eich pryderon. Os ydych chi’n credu fod y datganiad arfaethedig yn gwahaniaethu yn erbyn eich plentyn ar sail hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd, gwnewch yn siŵr eich yn sôn am eich pryderon yn y fan hon. Os ydych chi’n dal yn anhapus gyda’r datganiad ar ôl y cyfarfod, fe allwch chi ofyn am gyfarfodydd pellach.
Rhaid i’r awdurdod addysg lleol roi datganiad terfynol o fewn wyth wythnos o roi’r datganiad arfaethedig (yn hirach os ydych chi wedi trefnu cyfarfodydd gyda swyddogion yr awdurdod addysg lleol) a dechrau darparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Os ydych chi wedi cytuno i newidiadau i’r datganiad arfaethedig, dylid cynnwys y rhain yn y datganiad terfynol. Mae gennych yr hawl i apelio os ydych chi’n anhapus ynglŷn ag unrhyw beth yn y datganiad terfynol - gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau.
Os ydych chi am apelio yn erbyn y datganiad terfynol oddi wrth yr awdurdod addysg lleol, efallai y byddwch am ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraiift, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnys y rheiny all roi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn anfon y datganiad arfaethedig atoch fe fyddan nhw hefyd yn anfon rhestr o ysgolion yn eich ardal, a gofyn a oes yna ysgol sy’n cael ei chynnal gan yr awdurdod addysg lleol yr hoffech chi i’ch plentyn fynd iddi. Oni bai eich bod am wrthwynebu’r datganiad arfaethedig, fe fydd gennych 15 diwrnod o’r diwrnod y bydd yn cyrraedd i ateb.
Mae gan awdurdodau addysg lleol ddyletswydd i addysgu’ch plentyn mewn ysgol prif ffrwd - hynny yw, ysgol sy’n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol ac sy ddim yn ysgol arbennig. Os ydych chi’n dewis anfon eich plentyn i ysgol prif ffrwd arbennig, rhaid i’r awdurdod addysg lleol gytuno â’ch dewis oni bai:
Os bydd yr awdurdod addysg lleol yn penderfynu, am un o’r rhesymau hyn, i beidio â chytuno â’ch dewis o ysgol, fe fydd yn dewis ysgol arall a gynhelir yn lle.
Fe allwch chi hefyd ofyn am i’ch plentyn gael ei osod mewn:
Sut bynnag, os ydych chi’n gofyn am ysgol arbennig sydd ddim yn cael ei chynnal neu ysgol annibynnol gymeradwy, nid oes rhaid i’r awdurdod addysg lleol gytuno â’ch cais, ac fe fyddan nhw’n gwneud hynny dim ond os allwch chi ddangos nad oes un ysgol awdurdod addysg lleol yn gallu diwallu anghenion eich plentyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â mathau gwahanol o ysgolion, gweler Mathau o ysgolion.
Bydd yr awdurdod addysg lleol yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â pha ysgol, neu’r math o ysgol, y dylai’ch plentyn fynd iddi. Bydd y datganiad terfynol, pan gewch chi fe, yn cynnwys manylion yr ysgol hon (oni bai ei bod yn ysgol annibynnol) fydd naill ai yr ysgol y gofynnoch chi amdani, neu’r un yr ystyria’r awdurdod addysg lleol yn fwyaf addas i anghenion eich plentyn.
Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn dewis yr awdurdod addysg lleol o ysgol i’ch plentyn. Os ydych chi am apelio, efallai y byddwch am ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, yn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnys y rheiny all roi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Dylai fod gan yr awdurdod addysg lleol bolisi ynglŷn â chludiant i’r ysgol ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Dylai’r polisi gynnwys manylion ynglŷn â sut yr asesir ac y penderfynir ar yr hawl i gael cludiant.
Gall awdurdodau addysg lleol ddarparu cludiant ysgol am ddim i blant â datganiadau a’u rhieni heb wneud trefniadau addas. Darperir cludiant dim ond os oes gan eich plentyn anghenion sy’n ei wneud yn angenrheidiol.
Yn Lloegr, os nad ystyrir cludiant yn angenrheidiol oherwydd anghenion eich plentyn, bydd yr awdurdod addysg lleol yn darparu cludiant am ddim dim ond os:
Yng Nghymru, os nad ystyrir cludiant yn angenrheidiol oherwydd anghenion eich plentyn, bydd yr awdurdod addysg lleol yn darparu cludiant am ddim dim ond os:
Bydd awdurdodau addysg lleol hefyd fel arfer yn talu tuag at gostau teithio er mwyn i chi ymweld â’ch plentyn os ydyn nhw’n cael eu lleoli mewn ysgol breswyl bellter o ble yr ydych yn byw. Fe allai fod yna gyfyngiad ar y nifer o ymweliadau y bydd yr awdurdod addysg lleol yn talu amdanynt, ac efallai y bydd rhaid i chi gael llythyr o gefnogaeth oddi wrth feddyg, gweithiwr cymdeithasol neu athro.
Dylid adolygu datganiad eich plentyn yn rheolaidd, ac o leiaf unwaith bob deuddeg mis. Fe ddylech chi fod yn rhan o’r adolygiad a rhaid eich gwahodd i gyfarfod a drefnir gan eich ysgol.
Os penderfynir newid datganiad eich plentyn mewn unrhyw ffordd, fe ddylid anfon manylion am newidiadau arfaethedig atoch chi a dylid dweud wrthych am eich hawl i apelio os ydych chi’n anghytuno â’r newidiadau hyn.
Mae gennych yr hawl hefyd i apelio os oes newidiadau yr ydych yn teimlo y dylid eu gwneud i’r datganiad y mae’r awdurdod addysg lleol heb gytuno i’w gwneud - gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau.
Mae gan fy mab anghenion addysgol arbennig ac mae ei ddatganiad yn dweud fod angen gweithiwr cynnal arno yn ei ddosbarth am ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae ei ymddygiad wedi gwaethygu dros y misoedd diwethaf ac rydw i’n credu fod angen mwy o gefnogaeth arno. Mae’r ysgol wedi gwrthod edrych eto ar ei ddatganiad, er bod yr un diwethaf wedi’i adolygu dros ddwy flynedd yn ôl. Dydw i ddim yn credu eu bod yn cymryd ein pryderon o ddifri gan ein bod yn ffoaduriaid Cwrdiaidd a dydy fy Saesneg i ddim yn dda iawn.
Dylid adolygu datganiad eich mab yn rheolaidd, o leiaf un waith y flwyddyn. Nid oes hawl gan yr ysgol i wahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich diffyg Saesneg nac ar sail eich cenedligrwydd. Mynnwch gyngor oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol ynglŷn â chymryd camau ynglŷn â’r broblem hon.
Gall yr awdurdod addysg lleol benderfynu peidio â chynnal datganiad eich plentyn os ydyn nhw’n credu nad ydyw’n angenrheidiol mwyach. Fe allan nhw benderfynu hyn dim ond ar ôl ymgynghori’n agos â chi.
Os ydyw’r awdurdod addysg lleol yn penderfynu nad yw datganiad eich plentyn mwyach yn angenrheidiol, rhaid iddynt ysgrifennu atoch i ddweud hynny, gan roi eu rhesymau, a darparu copïau o unrhyw dystiolaeth a ddefnyddiwyd ganddynt i gefnogi eu penderfyniad.
Mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod addysg lleol i beidio cynnal datganiad eich plentyn - gweler o dan y pennawd Cwynion ac apeliadau. Os ydych chi am apelio, rhaid i’r awdurdod addysg lleol gynnal y datganiad hyd nes y clywir yr apêl a phenderfyniad wedi’i wneud, neu hyd nes y tynnir yr apêl yn ol.
Os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod addysg lleol i beidio â chynnal datganiad eich plentyn, neu yn erbyn newidiadau a wnaed i’r datganiad, fe ddylech chi ymgynghori ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am fanylion eich swyddfa CAB agosaf, yn cynnys y rheiny all roi cyngor trwy e-bost, cliciwch ar y CAB agosaf.
Mae ‘Dawnus’ a ‘talentog’ yn disgrifio plant a phobol ifanc sydd â’r gallu i ddatblygu i lefel sy’n sylweddol uwch na’u grŵp blwyddyn (neu sydd â’r potensial i ddatblygu'r galluoedd hynny):
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i ddiwallu anghenion addysgol eu disgyblion i gyd, yn cynnwys myfyrwyr dawnus a thalentog. Gall ysgolion ac awdurdodau lleol ddarparu hefyd weithgareddau ychwanegol y tu hwnt i’r Amserlen o ddydd i ddydd i ddiwallu anghenion myfyrwyr dawnus a thalentog. Gall myfyrwyr dawnus neu dalentog ddangos problemau emosiynol neu ymddygiadol os na ddiwellir eu hanghenion addysgol ac yn y modd hwn yn cael eu gwarchod gan AAA yn ôl y gyfraith.
Os ydyw’ch plentyn chi’n ddawnus neu’n dalentog, siaradwch â’u hathro, neu’r athro yn yr ysgol sy’n arwain Addysg y Dawnus a’r Talentog neu’r Pennaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael. Fe allwch hefyd ei weld yn fuddiol i siarad ag arweinydd Addysg y Dawnus a Thalentog eich awdurdod os oes ganddynt un.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobol ifanc ddawnus a thalentog ewch i: www.direct.gov.uk. Mae yna gymdeithas arbenigol ar gael hefyd o’r enw NAGC sy’n cynnal Gwasanaeth gwybodaeth a Chyngor. Eu rhif ffôn yw: 0845 450 0295 neu 01908 646433.
Mae mwy galluog a thalentog yn disgrifio plant a phobol ifanc sydd a’r gallu i ddatblygu i lefel sy’n sylweddol uwch na’u grŵp blwyddyn (neu sydd â’r potensial i ddatblygu'r galluoedd hynny).
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i ddiwallu anghenion addysgol eu disgyblion i gyd, yn cynnwys myfyrwyr dawnus a thalentog. Gall ysgolion ac awdurdodau lleol ddarparu hefyd weithgareddau ychwanegol y tu hwnt i’r Amserlen o ddydd i ddydd i ddiwallu anghenion myfyrwyr dawnus a thalentog. Gall myfyrwyr mwy galluog neu dalentog ddangos problemau emosiynol neu ymddygiadol os na ddiwellir eu hanghenion addysgol ac yn y modd hwn yn cael eu gwarchod gan AAA yn ol y gyfraith.
Os ydyw’ch plentyn chi’n fwy galluog neu dalentog, siaradwch â’u hathro neu Bennaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael.
Mae yna gymdeithas arbenigol ar gael hefyd o’r enw NAGC sy’n cynnal Gwasanaeth gwybodaeth a Chyngor. Eu rhif ffôn yw: 0845 450 0295 neu 01908 646433.
Os oes gennych gwyn ynglŷn â sut mae ysgol eich plentyn yn darparu ar gyfer anghenion arbennig eich plentyn, fe ddylech chi yn gyntaf gysylltu’n anffurfiol â’r staff i geisio datrys y broblem. Os nad yw hyn yn gweithio, fe ddylech chi ofyn am gael gweld copi o weithdrefn gwyno’r ysgol.
Os ydych chi wedi defnyddio gweithdrefn gwyno’r ysgol a heb ddatrys y broblem o hyd, efallai y byddwch am ystyried defnyddio gweithdrefn datrys anghydfod.
Mae datrys anghydfod yn defnyddio trydydd parti annibynnol i helpu i geisio datrys anghydfodau rhyngoch chi a’r ysgol, neu rhyngoch chi a’r awdurdod addysg lleol. Rhaid i awdurdodau addysg lleol ddweud wrthych am y weithdrefn hon wrth iddynt roi datganiad arfaethedig neu ddiwygiedig, neu os penderfynant beidio â rhoi datganiad. Gellir cychwyn datrys anghydfod gennych chi, yr ysgol, neu’r awdurdod addysg lleol.
Nid yw cymryd rhan mewn datrys anghydfod yn effeithio ar eich hawl i wneud apêl ffurfiol yn erbyn penderfyniad yr awdurdod addysg lleol. Fe allwch chi gymryd rhan mewn datrys anghydfod ac apelio ar yr un pryd. Sut bynnag, os ydych chi am apelio rhaid i chi gofio peidio â cholli'r terfyn amser o ddau fis - gweler o dan y pennawd Apeliadau. Nis effeithir ar ganlyniad yr apêl gan yr hyn fydd yn digwydd yn ystod datrys anghydfod, oni bai eich bod chi am iddo wneud hynny. Yn yr un modd, os ydych chi’n gwrthod cymryd rhan mewn datrys anghydfod, fydd hyn ddim yn cyfrif yn eich erbyn os fyddwch chi’n apelio.
Os ydych chi wedi bod drwy weithdrefn gwyno’r ysgol a/neu ddatrys anghydfod ac yn dal yn anfodlon ynglŷn â’r canlyniadau, efallai y byddwch am apelio. Yn Lloegr, fe ddylech chi apelio i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (ac Anabledd). Yng Nghymru, fe ddylech chi apelio wrth Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig i Gymru. Mae’r rhain yn dribiwnlysoedd annibynnol sy’n gwrando ar apeliadau rhieni yn erbyn penderfyniadau arbennig yr awdurdod addysg lleol ynglŷn ag anghenion addysgol arbennig plentyn. Mae penderfyniad y Tribiwnlys yn derfynol.
Gall gymryd amser hir iawn, fel arfer pedwar i bum mis, i apêl gael ei glywed, ac fe allai hyn oedi cael yr help sydd ei angen ar eich plentyn. Sut bynnag, fe allwch chi barhau i siarad â’r awdurdod addysg lleol wrth i chi aros am yr apêl, ac efallai y gwelwch chi eich bod yn gallu datrys eich anghydfod a thynnu nôl yr apêl cyn iddo ddigwydd.
Er mwyn apelio, mae angen i chi lenwi’r ffurflen sydd yng nghefn y llyfryn Sut i apelio, a gyhoeddir gan y Tribiwnlys, a dychwelyd hon heb fod yn hwyrach na dau fis o’r dyddiad y bydd y llythyr yn cyrraedd oddi wrth yr awdurdod addysg lleol yn eich hysbysu o’i benderfyniad. Er mwyn cael copi o’r llyfryn ar gyfer Lloegr, ffoniwch:01325 392 555, ar gyfer Cymru, ffoniwch 01597 829 800.
Efallai y bydd gennych gwyn ynglŷn â’r ffordd y mae’r awdurdod addysg lleol wedi delio ag anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Fe allai hyn fod, er enghraifft, ynglŷn â’r oedi mewn cyflawni asesiad o’ch plentyn, rhoi datganiad neu roi gwasanaethau y cytunwyd arnynt yn eu lle. Ar gyfer y math hwn o gŵyn, fe allwch chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich awdurdod lleol. Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r canlyniad, fe allwch chi gwyno wrth Ombwdsmon Llywodraeth Leol ( neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru). Ni fydd yr Ombwdsmon yn gallu edrych ar gŵyn ynglŷn â rhywbeth y gallech chi fynd ag ef at dribiwnlys apêl yn lle.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol yn Lloegr, gweler Sut mae defnyddio Ombwdsmon yn Lloegr. Am wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru, gweler Sut mae defnyddio Ombwdsmon yng Nghymru.
Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig oherwydd anabledd neu amgylchiadau personol eraill, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth arall, er enghraifft, oddi wrth adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu cael taliadau uniongyrchol i helpu i dalu am help ychwanegol i’ch plentyn.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth oddi wrth yr awdurdod lleol, gweler Gofal cymunedol.
Efallai bod gennych yr hawl i gael budd-daliadau i warchod unrhyw gostau ychwanegol sydd ynghlwm os yw’ch plentyn yn anabl.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau, gweler Budd-daliadau i bobol sy’n sal neu’n anabl.
Mae nifer o gymdeithasau sy’n gallu cefnogi os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig. Gall rhai ohonynt roi gwybodaeth mewn ystod o ieithoedd cymunedol.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymdeithasau sy’n gallu cefnogi rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig, gweler Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.