Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i:
Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gyn-filwr, mae’n bosib eich bod yn meddwl am wneud cwrs i gael mwy o gymwysterau a sgiliau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.
Mae yna lawer o wybodaeth a chyngor ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir. Mae’n bosib y gallwch gael arian i’ch helpu i dalu am y cwrs.
Cewch gyngor ac arian ar gyfer cymwysterau a sgiliau i’ch helpu i gael swydd o’r Lleng Brydeinig Frenhinol (RBL).
Mae gan yr RBL gyngor ar-lein ac ar y ffôn i’ch helpu i gael y cymwysterau a’r sgiliau cywir. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Civvy Street: www.civvystreet.org.
Cewch hefyd gyngor gan Civvy Street drwy gysylltu â nhw:
Llinell gymorth: 0800 169 4073
E-bost: info@civvystreet.org.
Mae gan yr RBL Gynllun Grant Cymorth Cyflogaeth. I fanteisio ar y cynllun hwn, mae’n rhaid eich bod:
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y cynllun hwn ar wefan Civvy Street yn www.civvystreet.org.
Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gyn-filwr, mae’n bosib y gallwch gael help i gynllunio ac ariannu eich busnes bach ei hun oddi wrth yr RBL.
Mae’r gwasanaeth ‘Be the Boss’ yn cynnig:
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y wasanaeth hwn drwy gysylltu â nhw:
Llinell gymorth ‘Be the Boss’: 0800 678 5787
E-bost: betheboss@civvystreet.org.uk
Gwefan: www.civvystreet.org
Os ydych yn gadael y Lluoedd Arfog, neu’n gynfilwr, mae’n bosib y gallwch gael cymwysterau dysgu lefel tri yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, cymhwyster cyfwerth yn yr Alban, neu radd, heb orfod talu ffioedd hyfforddiant.
Cymhwyster lefel tri yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, yw dau lefel A, neu gwrs galwedigaethol cyfwerth.
Mae’n rhaid i chi ateb rhai amodau er mwyn cymryd rhan yn y cynllun. Mae’n rhaid eich bod:
Cewch fwy o wybodaeth am y cynllun hwn a’r cyrsiau y gallwch eu gwneud ar wefan Courses4Forces: www.courses4forces.co.uk.
Os hoffech fwy o wybodaeth am arian, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am iechyd, gweler Gofal iechyd ar gyfer pobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.
Os hoffech fwy o wybodaeth am dai, gweler Opsiynau tai ar gyfer pobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ddysgu i oedolion, gweler Addysg i Oedolion: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr help sydd ar gael i dalu costau dysgu yn yr Alban, gweler Addysg yn Yr Alban: yn eich helpu chi i dalu costau dysgu.
Os hoffech fwy o wybodaeth am addysg bellach yn Yr Alban, gweler Addysg yn Yr Alban: Addysg bellach ac uwch – cyrsiau sydd ar gael yng ngholegau a phrifysgolion Yr Alban.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am ddysgu, cyflogaeth a chymorth cyffredinol ar fywyd sifil ar wefan Civvy Street y Lleng Brydeinig Frenhinol: www.civvystreet.org.
Cewch gyngor gan Civvy Street drwy gysylltu â nhw:
Llinell gymorth: 0800 169 4073
E-bost: info@civvystreet.org.
Mae’r Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (SPVA) wedi cynhyrchu Map Gwybodaeth. Gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion cymdeithasau allai eich helpu yn eich ardal.
Gallwch chwilio am gymdeithasau sy’n rhoi cyngor ar:
Cewch hyd i’r Map Gwybodaeth ar-lein: www.veterans-uk.info.
Cewch hefyd gyngor gan yr SPVA drwy gysylltu â nhw:
Llinell gymorth: 0800 169 22 77.