Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, y Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd (ELB) yw’r enw ar yr awdurdod addysg leol.
Mae’n rhaid i awdurdodau addysg lleol ddod o hyd i le am ddim mewn ysgol i bob plentyn sydd ‘o oed ysgol gorfodol’ - gweler o dan y pennawd Oed ysgol gorfodol. Mae’n rhaid iddynt hefyd ddod o hyd i le mewn ysgol neu goleg chweched dosbarth i bobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed sy’n ei ddymuno. Os na all blentyn o oed ysgol gorfodol dderbyn addysg mewn ysgol, mae’n ddyletswydd ar bob awdurdod addysg lleol i ddarparu addysg briodol mewn ffordd arall, er enghraifft, hyfforddiant cartref.
Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol i ddarparu addysg lawn amser sy’n berthnasol i bob disgybl gan gynnwys y rheiny sydd:
Os yw awdurdod addysg lleol yn gwrthod darparu addysg lawn amser i’ch plentyn oherwydd un o’r rhesymau hyn, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cyrff cyhoeddus yw awdurdodau addysg lleol a chanddynt gyfrifoldeb cyfreithiol dros beidio â gwahaniaethu. Mae’n rhaid iddynt ddarparu cyfleoedd cyfartal. Os ydych yn meddwl bod yr awdurdod addysg lleol yn gwahaniaethu yn erbyn eich plentyn oherwydd ei hil, rhyw, rhywioldeb neu grefydd, mae’n bosib y gallwch gymryd camau pellach. Yn Lloegr a Chymru, mae hyn hefyd yn berthnasol i wahaniaethu ar sail anabledd, ailbennu rhyw a beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth.
Rydyn ni’n Deithwyr a fydd yn byw yn yr ardal am y chwe mis nesaf. Rydyn ni am i’n merch fynychu’r ysgol leol ond nid yw’r ysgol yn ei chaniatáu oherwydd ni fyddwn yn byw yn yr ardal yn barhaol. A oes unrhyw beth allwn ni ei wneud er mwyn newid meddwl yr ysgol?
Mae’n rhaid i’r awdurdod addysg lleol ddarparu lle mewn ysgol i’ch merch. Os yw’n gwrthod oherwydd eich bod yn Deithwyr, gallai hyn fod yn wahaniaethu ar sail hil ac mae hyn yn erbyn y gyfraith. Os oes gan yr ysgol ormod o ddisgyblion yn barod, dylai eich merch gael lle mewn ysgol arall. Mynnwch gyngor ynglŷn â’ch camau nesaf, er enghraifft, gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Am fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau gwahaniaethu.
Yn ogystal â’r ddyletswydd gyfreithiol dros beidio â gwahaniaethu, mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau addysg lleol bolisïau cydraddoldeb sy’n ymdrin ag agweddau eraill ar wahaniaethu. Er enghraifft, dywed llawer na fyddant yn gwahaniaethu yn erbyn disgyblion sydd o dan ofal yr awdurdod lleol neu sydd â HIV. Gallai copi o bolisi cydraddoldeb yr awdurdod addysg lleol fod yn defnyddiol os oes gennych y mathau hyn o broblemau. Mae’n bosib y gallwch gymryd camau er mwyn eu gorfodi i lynu at eu polisi penodedig.
Os ydych yn rhiant, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg yn ystod y blynyddoedd oed ysgol gorfodol - gweler o dan y pennawd Oed Ysgol Gorfodol. Mae rhiant yn golygu naill ai: y ddau riant, neu warcheidwad y disgybl neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mewn rhai amgylchiadau, mae hyn yn golygu bod gan blentyn un, dau neu fwy o rieni sydd â dweud yn ei addysg. O 18 oed ymlaen, cyfrifoldeb y disgybl yw ei addysg.
Am fwy o wybodaeth am gyfrifoldeb rhieniol, gweler o dan y pennawd Plant yn Cydfyw a phriodas: gwahaniaethau cyfreithiol.
Os nad ydych yn cyflawni eich dyletswydd mewn perthynas ag addysg eich plentyn, mae yna nifer o fesurau i’w cymryd er mwyn sicrhau eich bod yn eu gwneud. Gallai hyn gynnwys cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Os yw’r awdurdod addysg lleol neu’r llys yn cymryd camau yn eich erbyn oherwydd presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol, cysylltwch ag ymgynghorydd profiadol mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn Lloegr a Chymru, mae gan y mwyafrif o awdurdodau lleol bolisi o dderbyn plant i’r ysgol ar ddechrau’r tymor y mae’r plentyn yn bump oed. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i’r plentyn fynychu’r ysgol tan ddechrau’r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump oed.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n rhaid i blentyn sy’n bedair oed ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ddechrau yn yr ysgol gynradd ar 1 Medi o’r flwyddyn honno.
Yn Lloegr, o’r flwyddyn ysgol sy’n dechrau ar Fedi 2011, mae’n rhaid i awdurdodau lleol dderbyn plant i’r ysgol gynradd yn y mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. Fodd bynnag, gallai’r rhieni ofyn i’w plentyn ddechrau yn hwyrach yn y flwyddyn neu pan yw’n cyrraedd yr oed ysgol gorfodol. Bydd rhiant hefyd yn gallu gofyn bod plentyn yn mynychu’r ysgol ar sail rhan amser tan ei fod yn cyrraedd yr oed ysgol gorfodol.
Gall pob disgybl adael yr ysgol ar ddydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn 16 oed cyn diwrnod cyntaf y tymor (Medi) canlynol.
Mae disgybl o oed ysgol gorfodol sydd wedi’i gofrestru mewn ysgol yn aros ar gofrestr yr ysgol tan ei ddyddiad gadael. Os yw disgybl yn gadael yr ysgol cyn y dyddiad hwnnw, gellir ystyried hyn fel absenoldeb heb awdurdod neu driwantiaeth. Gallai’r ysgol ddewis peidio â chymryd camau cyfreithiol ond bydd hyn yn ymddangos ar gofnod ysgol y disgybl a gallai effeithio ar ei ddewis o yrfa yn y dyfodol.
Yn Lloegr a Chymru, mae gan bob plentyn tair a phedair oed yr hawl i le addysg gynnar am ddim dim ond os ydych yn ei ddymuno.
Yn Lloegr, dylid darparu lle ar gyfer 12 awr a hanner yr wythnos. O Fedi 2010, dylid ei ddarparu ar gyfer 15 awr yr wythnos. Gallwch ddefnyddio’r oriau hyn yn hyblyg dros o leiaf tri diwrnod yr wythnos yn ystod yr amserau tymor arferol.
Yng Nghymru, dylid darparu lle am o leiaf deg awr yr wythnos. Nid oes isafswm i’r nifer o wythnosau mewn blwyddyn y dylid darparu’r sesiynau.
Nid yw pob meithrinfa, ysgol neu gylch chwarae yn cymryd rhan yn y cynllun i ddarparu lleoedd addysg gynnar am ddim. Mae gan eich awdurdod addysg lleol restri o leoedd sy’n darparu addysg gynnar. Gallai’r lleoedd hyn fod mewn meithrinfeydd, dosbarthiadau meithrin ysgolion cynradd neu ddosbarthiadau derbyn mewn ysgolion cynradd. Gallai lleoedd eraill fod mewn cylchoedd chwarae, meithrinfeydd diwrnod preifat, ysgolion annibynnol, neu gyda gwarchodwyr sy’n perthyn i rwydwaith cymeradwy. Hyd yn oed os yw’r lle fel arfer yn codi tâl, ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr oriau y mae hawl gennych iddynt. Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn mynychu’r ysgol am fwy o oriau, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am yr oriau ychwanegol hyn.
Cewch hyd i wybodaeth am ysgolion a sefydliadau eraill sy’n darparu lleoedd addysg gynnar am ddim yn: www.childcarelink.gov.uk, neu drwy ffonio 0800 234 6346.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan lawer o blant tair neu bedair oed yr hawl i le addysg cyn-ysgol. Mae argaeledd lleoedd yn amrywio o ardal i ardal a chewch eich annog i geisio am le ar gyfer eich plentyn. Os nad oes lleoedd ar gael, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu am le, ond, os oes gan ganolfan ddigon o leoedd am ddim, bydd plentyn pob rhiant sydd wedi cyflwyno cais yn derbyn lle. Bydd yr ysgolion a’r grwpiau sy’n rhan o’r cynllun yn darparu gwybodaeth am sut i geisio am le ac am yr addysg a ddarparant.
Os na allwch ddod o hyd i le addas sy’n cynnig addysg gynnar am ddim, cysylltwch â’ch awdurdod addysg lleol. Am bob math o broblem arall sy’n ymwneud ag addysg gynnar am ddim, dylech gysylltu â’r sefydliadau perthnasol.
Am fwy o wybodaeth am broblemau gydag addysg gynnar, gweler dan y pennawd Delio gyda phroblemau yn yr ysgol, yn Problemau yn yr ysgol.
Mae disgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA):
Yn Lloegr a Chymru, mae gan ddisgybl sydd ag AAA yr hawl i dderbyn addysg lawn amser sy’n ateb ei anghenion. Mae hyn yn gymwys i blant a phobl ifanc rhwng dwy a phedair ar bymtheg oed. Gallai hyn fod mewn ysgol arbennig neu ysgol brif ffrwd, neu rywle arall. Mae gennych yr hawl i addysgu eich plentyn adref cyn belled â’i fod yn ateb anghenion eich plentyn - gweler o dan y pennawd Addysg Gartref.
Yn Lloegr a Chymru, gallai fod yn erbyn y gyfraith i awdurdod addysg leol wahaniaethu yn erbyn disgybl sydd ag AAA. Mae hyn oherwydd fel arfer caiff plentyn sydd ag AAA ei ystyried fel disgybl anabl ac mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn erbyn y gyfraith. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r ysgol wneud addasiadau rhesymol er mwyn ateb anghenion y disgybl. Fodd bynnag, ni ystyrir pob disgybl sydd ag AAA fel disgyblion anabl.
Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd yn Lloegr a Chymru, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth am AAA yn Lloegr a Chymru, gweler Anghenion addysgol arbennig.
Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes yn rhaid i’r awdurdod addysg lleol ddarparu addysg lawn amser i blant sydd ag AAA tan eu bod yn bump oed. Os yw’r awdurdod addysg lleol yn meddwl ei fod yn addas a’i fod yn cwrdd â’u hanghenion, mae’n gallu darparu addysg cyn-ysgol i ddisgyblion sydd â datganiadau AAA. Fodd bynnag, ni fydd pob plentyn sydd â datganiad yn derbyn lle am ddim mewn ysgol. Mae’n ddyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i hyrwyddo addysg plant dros bump oed sydd ag AAA mewn ysgolion prif ffrwd ochr yn ochr â phlant eraill.
Mae mwy o wybodaeth ynghylch addysg i blant ag AAA yng Ngogledd Iwerddon, ar nidirect yn www.nidirect.gov.uk.
Os na all plentyn o oed ysgol gorfodol fynychu’r ysgol oherwydd salwch neu anaf, mae’n rhaid i’r awdurdod addysg lleol drefnu addysg addas ar ei gyfer. Bydd rhai plant yn derbyn addysg mewn ysbytai ysgolion neu unedau addysgu mewn ysbytai, a bydd rhai yn derbyn hyfforddiant gartref.
Dylid asesu anghenion addysgol plentyn sy’n cael ei dderbyn i’r ysbyty cyn gynted â’i fod yn rhesymol. Dylid rhoi hyfforddiant iddo cyn gynted â’i fod yn ddigon iach i’w dderbyn.
Ni ddylai plant fod yn absennol o’r ysgol oherwydd salwch am fwy na thair wythnos (pedair wythnos yng Nghymru) heb hyfforddiant gartref. Os yw eich plentyn yn absennol am lai o amser, mae disgwyl i’r ysgol ddarparu gwaith i’ch plentyn i’w wneud adref.
Yn Lloegr, mae gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF) ganllaw sy’n ymdrin ag addysg plant sâl o’r enw Mynediad at Addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion meddygol a chewch hyd iddo ar y wefan: www.dcsf.gov.uk.
Yng Nghymru, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ganllaw ar addysg plant sâl. Gelwir y canllaw hwn yn 'Mynediad at Addysg i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Meddygol'. Cewch hyd iddo ar-lein: wales.gov.uk.
Mewn rhai achosion, gall disgybl sydd ag anghenion meddygol gael ei ystyried fel disgybl anabl. Yn Lloegr a Chymru, mae yn erbyn y gyfraith i awdurdod addysg lleol neu ysgol wahaniaethau yn erbyn disgyblion anabl.
Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd yn Lloegr a Chymru, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Ni ddylai ysgolion drin disgyblion anabl yn llai ffafriol na phlant heb anableddau. Mae’n rhaid iddynt hefyd wneud addasiadau rhesymol er mwyn ateb anghenion y disgybl. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion cyfredol a darpar ddisgyblion.
Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Os yw disgybl wedi’u heithrio’n barhaol (gwahardd) o’r ysgol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu math arall o addysg addas. Gallai hyn fod mewn ysgol arall neu mewn uned addysgol arbennig lleol. Neu, gall y disgybl dderbyn hyfforddiant gartref neu’n unigol. Os hoffech i’ch plentyn ddychwelyd i’r un ysgol, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn gwaharddiad eich plentyn.
Yn Lloegr, nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu addysg addas arall ar gyfer disgybl os yw:
Yn Lloegr, fe fydd yr awdurdod lleol yn darparu addysg ran amser ar gyfer disgybl, ond dim ond os oes gan y disgybl anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sy’n golygu nad addysg lawn amser yw’r opsiwn orau i’r disgybl.
Os hoffech fwy o wybodaeth am waharddiadau, gan gynnwys apelio yn erbyn gwaharddiad o’r ysgol, gweler Problemau yn yr ysgol.
Gallwch drefnu addysg tu allan i’r ysgol ar gyfer eich plentyn os dymunwch, gan gynnwys addysg gartref.
Er nad oes yn rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod addysg lleol eich bod yn addysgu eich plentyn adref, os nad ydych yn gwneud fe all wneud ymholiadau er mwyn darganfod pa addysg yr ydych yn ei darparu. Mae’n ddyletswydd arno i gymryd camau os ydyw’n ymwybodol nad yw plentyn yn ei ardal yn derbyn yr addysg briodol.
Os ydych yn addysgu eich plentyn adref, nid oes yn rhaid i chi gydymffurfio ag oriau ysgol na dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi ddangos bod addysg eich plentyn yn ‘effeithlon’. Mae’n rhaid i addysg eich plentyn ystyried oed, gallu, ac unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddo. Os yw’r awdurdod addysg lleol yn credu nad ydych yn darparu addysg briodol, gallai gymryd camau yn eich erbyn, er enghraifft, gallai gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sefydliadau all roi cybgor i chi ynglŷn ag addysg gartref, Addysg: cymdeithasau sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor.
Mae’r hawl gennych i fynegi pa ysgol yr hoffech eich plentyn i’w mynychu. O ran ysgolion uwchradd, gallwch nodi o leiaf tri opsiwn yn ôl trefn dewis, gan roi rhesymau drostynt. Nid oes yn rhaid i chi ddewis ysgolion yn ardal eich awdurdod addysg lleol, ond os oes gan ysgol fwy o geisiadau na lleoedd, gallai roi blaenoriaeth i ddisgyblion sy’n ei dalgylch.
Mae gan bob ysgol bolisi derbyniadau ac mae’n rhaid iddynt ystyried eich cais yn unol â’r polisi hwn. Yn ôl canllawiau’r llywodraeth, mae’n rhaid i’r broses derbyniadau ysgol fod yn glir, teg a diduedd, a dylai ystyried dewisiadau’r rhieni gymaint â phosibl. Mae’r canllawiau hyn yn gyfreithiol-rwym, hynny yw, os nad yw eich ysgol wedi gweithredu yn unol â nhw, gallwch eu riportio i’r awdurdodau canlynol:
Yn Lloegr, gelwir canllaw’r llywodraeth yn y Cod Derbyniadau Ysgol. Cewch hyd iddo ar wefan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd: www.dcsf.gov.uk.
Yng Nghymru, gelwir y canllaw yn y Cod Derbyniadau Ysgol. Cewch hyd iddo ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru: wales.gov.uk.
Yn Lloegr, mae’n rhaid i’r awdurdodau addysg lleol gydlynu cynlluniau derbyniadau ar gyfer pob ysgol yn eu hardal. Mae hyn yn golygu y dylech dderbyn un cynnig, ac un cynnig yn unig, ar gyfer eich plentyn ar yr un diwrnod bob blwyddyn neu fis Mawrth mewn achos ysgolion uwchradd.
Yng Nghymru, nid oes yn rhaid i awdurdodau addysg lleol gael cynlluniau derbyniadau wedi’u cydlynu, ond yn ymarferol mae’n bosib bod ganddynt rai.
Yn Lloegr, os oes angen help arnoch gyda gweithdrefn derbyniadau ysgolion uwchradd, dylai eich awdurdod lleol ddarparu Gwasanaeth Choice Advice sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth. Dylai ysgol gynradd eich plentyn eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgynghorydd.
Os oes gan ysgol ormod o geisiadau, gallai ystyried nifer o bethau pan yw’n penderfynu sut i glustnodi lleoedd, gan gynnwys:
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ysgolion babanod gyfyngu ar feintiau eu dosbarthiadau i 30 disgybl i bob athro.
Ni ddylai ysgol wahaniaethu yn erbyn eich plentyn ar sail hil, lliw, crefydd, rhywioldeb, rhyw, anabledd, ailbennu rhyw neu feichiogrwydd neu famolaeth.
Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
Ni ddylai ysgolion ystyried swyddi rhieni’r plentyn, eu sefyllfa ariannol na ph’un ai eu bod yn briod. Ni ddylent ofyn i chi am eich manylion personol megis eich cefndir addysgol, eich cymwysterau, eich cofnod troseddol neu eich anabledd os oes gennych un. Ni ddylent hefyd, fel arfer, ystyried ymddygiad eich plentyn, ei frodyr a’i chwiorydd neu unrhyw aelod arall o’i deulu.
Caniateir ysgolion ffydd i roi blaenoriaeth i ddisgyblion o’r un ffydd ym mholisi derbyniadau’r ysgol.
Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig (AAA), mae’n rhaid i’r ysgol sydd wedi’i nodi ar ei ddatganiad AAA ei dderbyn. Fodd bynnag, os nad oes gan eich plentyn ddatganiad AAA, nid oes gawl ganddo gael ei dderbyn gan unrhyw ysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am AAA yn Lloegr a Chymru, gweler Anghenion addysgol arbennig.
Ni all ysgol gynradd sy’n cael ei rheoli gan yr awdurdod addysg lleol ddewis plant ar sail gallu academaidd.
Mae rhai ysgolion uwchradd yn dewis yn rhannol neu’n gyfan gwbl ar sail gallu academaidd, neu allu mewn pwnc arbennig, er enghraifft, cerddoriaeth. Ni all ysgol sy’n rhannol ddetholus gadw lleoedd yn wag os nad oes ganddi ddigon o ddisgyblion o’r safon ofynnol.
Gall ysgol wrthod derbyn disgybl sydd wedi’i eithrio’n barhaol o ddwy ysgol neu fwy. Mae’r rheol hon yn gymwys am o leiaf dwy flynedd ar ôl yr ail waharddiad. Ni ellir apelio yn erbyn hyn os gwrthodwyd rhoi lle i ddisgybl o dan y rheol hon.
Yng Ngogledd Iwerddon, ni ddefnyddir y prawf trosglwyddo swyddogol (neu 11 plus) ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion ôl-gynradd sy’n cael eu derbyn cyn Medi 2009. Mae ysgolion gramadeg, ac ysgolion eraill sydd â ffrwd ramadeg, yn dal yn gallu defnyddio profion derbyn eu hun. Dim ond os yw’n debygol y bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael yn yr ysgol y gellir defnyddio’r profion hyn. Gallant ddefnyddio canlyniadau’r profion derbyn pan ydynt yn penderfynu pwy i’w dderbyn i’r ysgol.
Gall pob ysgol ramadeg ac uwchradd ddewis pwy i’w blaenoriaethu. Er enghraifft, gallant flaenoriaethu disgyblion sydd yn byw yn agosach i’r ysgol neu’r rheiny sydd â brodyr neu chwiorydd sydd eisoes yn mynychu’r ysgol. Mae’r Adran Addysg hefyd yn argymell bod ysgolion yn rhoi prydau ysgol am ddim i nifer teg o blant sy’n gallu eu hawlio.
Os oes gan eich plentyn ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ni fydd yn rhaid iddo sefyll prawf derbyn yr ysgol. Yn hytrach, bydd y bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol yn trafod lle addas gyda rhieni neu warcheidwaid y plentyn.
Nid oes hawl gan ysgol i wahaniaethu yn erbyn eich plentyn ar sail ei hil, lliw, crefydd, rhywioldeb neu ryw.
Os hoffech fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth am ddewis addysg ôl-gynradd yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan yr Adran Addysg: www.deni.gov.uk.
Gall awdurdod addysg lleol wrthod rhoi lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis. Mae’n rhaid iddo roi rhesymau am hyn. Os yw hyn yn digwydd, gallech ystyried dewis ysgol arall.
Fel arall, gallwch apelio i banel apêl annibynnol. Mae yna derfyn amser ar gyfer gwneud apêl felly byddwch yn ofalus.
Os ydych yn credu bod gwahaniaethu yn rhan o’r penderfyniad dros beidio â derbyn eich plentyn, sicrhewch eich bod yn nodi hyn yn eich cwyn.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod addysg lleol neu’r ysgol yn Lloegr, ewch at wefan Directgov: www.direct.gov.uk.
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol neu’r ysgol yng Nghymru, gweler Cod ar gyfer Apeliadau Derbyn i Ysgolion ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru: wales.gov.uk.
Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad ysgol neu awdurdod addysg lleol, mae’n bosib yr hoffech siarad ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib yr hoffech riportio’r ysgol i Swyddfa’r Dyfarnwr Ysgolion. Nid ydynt yn gallu delio â chwynion unigol sy’n ymwneud â’r ffaith nad yw’ch plentyn wedi cael ei dderbyn yn yr ysgol o’ch dewis ond gallant ddelio â chwynion yn erbyn meini prawf derbyniadau nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith neu ganllawiau’r llywodraeth. Os hoffech fwy o wybodaeth am y Dyfarnwr Ysgolion, ewch i’w wefan: www.schooladjudicator.gov.uk.
Os gwrthodir lle i’ch plentyn mewn ysgol, gallwch apelio i dribiwnlys apêl annibynnol. Dim ond os ydych yn credu nad oedd y polisi derbyniadau ysgol wedi’i gymhwyso, neu os nad oedd wedi ei gymhwyso’n gywir y gallwch wneud hyn. Mae’n bosib y gallwch drafod y mater gyda swyddog yr awdurdod addysg lleol yn gyntaf.
Mae yna gyfyngiadau amser llym ar gyfer gwneud apêl. Cewch wybod mwy gan eich awdurdod addysg lleol.
Os credwch chi fod gwahaniaethu ynghlwm wrth y penderfyniad dros beidio â derbyn eich plentyn, sicrhewch eich bod yn ei nodi yn eich cwyn.
Os gwrthodir lle i’ch plentyn mewn ysgol annibynnol breifat, ni allwch apelio.
Am fwy o wybodaeth am yr hyn allwch ei wneud os gwrthodir lle i chi yn yr ysgol o’ch dewis, ewch at wefan nidirect yn www.nidirect.co.uk.
Mae’n bosib yr hoffech anfon eich plentyn i ysgol benodol ond rydych yn poeni am y costau ariannol. Gallai cymorth fod ar gael ar gyfer rhai o’r costau, er enghraifft, trafnidiaeth ysgol neu brydau ysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth am ba gymorth sydd ar gael, gweler Help gyda chostau ysgol.
Mae rhai ysgolion annibynnol yn cynnig ysgoloriaethau i helpu rhieni dalu ffioedd ysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ceisio am ysgoloriaeth, dylech gysylltu â’r ysgol dan sylw.