Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban
Mae’r rhan fwyaf o driniaeth y GIG am ddim, ond mae yna nifer o bethau y codir tâl amdanynt. Mae’r wybodaeth hon yn dweud wrthych pa bethau y gallech chi gael cymorth ar eu cyfer, ac os ydych chi’n gymwys i hynny.
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda’r canlynol:
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu yn yr Alban, mae pob presgripsiwn am ddim beth bynnag yw’ch oedran ac os ydych chi’n derbyn budd-daliadau ai peidio. Mae gan wefan Galw Iechyd Cymru www.nhsdirect.wales.nhs.uk ynglŷn â sut mae’r rheolau yn berthnasol i bresgripsiynau a roddwyd yng Nghymru ond gafodd eu gwneud y tu allan i Gymru, ac i’r gwrthwyneb.
Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda thaliadau presgripsiwn, gweler Canllawiau Llywodraeth yr Alban ar help gyda chostau iechyd.
Yn Lloegr, rydych yn gymwys i gael presgripsiwn am ddim os:
Yn Lloegr, er mwyn gweld rhestr lawn o bobol sy’n gallu helpu gyda chostau presgripsiynau, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Er mwyn gwneud cais am dystysgrif eithrio gofynnwch i’ch Meddyg Teulu, yr ysbyty neu fferyllydd am ffurflen FP92A.
Er mwyn gwneud cais am dystysgrif eithrio adeg mamolaeth, gofynnwch i’ch Meddyg Teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd am ffurflen FW8.
Os nad oes un o’r categorïau a nodwyd yn y rhestr yn berthnasol i chi, efallai y byddwch chi o hyd yn gallu cael presgripsiynau am ddim ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Yn Lloegr, os oes angen presgripsiynau aml arnoch ond nad ydych yn gymwys i’w cael am ddim, fe allwch chi brynu tystysgrif talu ymlaen llaw fydd yn arbed arian i chi.
Fe allwch chi gael tystysgrif talu ymlaen llaw sy’n parhau am naill ai dri neu ddeuddeg mis. Fe allwch chi dalu am y dystysgrif deuddeg mis trwy ddebyd uniongyrchol, mewn deg rhandaliad misol cyfartal.
Cyn prynu tystysgrif talu ymlaen llaw, gwiriwch nad ydych yn gymwys i dderbyn presgripsiynau am ddim, gan y gall fod yn anodd cael ad-daliad unwaith y byddwch chi wedi talu am eich tystysgrif.
Mae yna sawl ffordd i brynu tystysgrif talu ymlaen llaw:
Y manylion cyswllt ar gyfer Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yw:
NHS Business Services Authority
PCC Issue Office
PO Box 854
Newcastle Upon Tyne
NE99 2DE
Tel: 0845 850 0030
Ebost: ppc1@ppa.nhs.uk
Gwefan: www.nhsba.nhs.uk
Yng Nghymru a Lloegr, mae presgripsiynau am ddim ac felly does dim angen i chi gael tystysgrif talu ymlaen llaw.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chostau tystysgrifau talu ymlaen llaw, yn Lloegr gweler 10.6.4.4. Taliadau’r NHS a gwerth talebau optegol.
Yr ydych yn gymwys i dderbyn triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim, yn cynnwys archwiliadau, os:
Yn Lloegr er mwyn gweld rhestr lawn o’r bobol sy’n gallu cael cymorth gyda chostau triniaeth ddeintyddol, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Yn Yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau deintyddol, gweler canllaw Llywodraeth yr Alban ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos prawf i’r deintydd eich bod yn gymwys i dderbyn triniaeth am ddim. Os ydyw’ch amgylchiadau’n newid cyn i’r driniaeth ddod i ben, fe fyddwch o hyd yn gallu derbyn triniaeth am ddim.
Os nad ydych yn perthyn i un o’r categoriau a restrir uchod, efallai y byddwch chi o hyd yn gallu cael triniaeth ddeintyddol am ddim ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Fe fyddwch yn gymwys i dderbyn profion golwg y GIG am ddim, os:
Os nad ydych yn perthyn i un o’r categorïau a restrir uchod, efallai y byddwch chi o hyd yn gallu cael cymorth tuag at gostau prawf golwg preifat ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Yn Lloegr er mwyn gweld rhestr lawn o’r bobol sy’n gallu cael cymorth gyda chostau profion golwg yr NHS, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Yn Yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau profion golwg, gweler canllaw Llywodraeth yr Alban ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd.
Fe fyddwch yn gymwys i gael cymorth tuag at gostau sbectol ar bresgripsiwn neu lensys cyffwrdd os:
Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth tuag at gostau sbectol ar bresgripsiwn neu lensys cyffwrdd, fe gewch chi daleb optegol y GIG.
Yng Nghymru, os ydych chi o dan 16 oed neu o dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn ac yn dioddef o afiechyd penodol, efallai y gallwch gael taleb tuag at gost pâr sbectol ychwanegol neu lensys cyffwrdd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwerth talebau optegol, yn Lloegr gweler Taliadau’r NHS a gwerth talebau optegol, yng Nghymru gweler Taliadau’r GIG a gwerth talebau optegol, ac yn yr Alban gweler canllaw Llywodraeth yr Alban ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd.
Os nad ydych yn perthyn i un o’r categoriau a restrir uchod, efallai y byddwch chi’n dal yn gallu cael cymorth tuag at gostau sbectol ar bresgripsiwn neu lensys cyffwrdd ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Yn Lloegr er mwyn gweld rhestr lawn o’r bobol sy’n gallu cael cymorth gyda chostau sbectol a lensys cyffwrdd, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Yn Yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau sbectol a lensys cyffwrdd, gweler canllaw Llywodraeth yr Alban ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd.
Fe allwch chi gael costau teithio hanfodol i’r man yr ydych yn derbyn mathau arbennig o driniaethau'r GIG ac oddi yno wedi’u talu, os:
Yn Lloegr er mwyn gweld rhestr lawn o’r bobol sy’n gallu cael cymorth gyda chostau teithio am driniaeth yr NHS, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Yn Yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau teithio am driniaeth y GIG, gweler canllaw Llywodraeth yr Alban ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd.
Os oes angen i rywun deithio gyda chi am resymau meddygol, fe allwch chi gael eu costau teithio hwy wedi’u talu hefyd.
Fe allwch chi hawlio ad-daliad o’ch costau teithio trwy lenwi ffurflen HC5 a’i rhoi i’r man y byddwch yn mynd am driniaeth y GIG. Os na allwch chi fforddio talu eich costau teithio ymlaen llaw, fe allwch chi ofyn am daliad ymlaen llaw. Ar y llaw arall, efallai y gallwch chi gael benthyciad argyfwng o gronfa gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth am fenthyciadau argyfwng, gweler Cymorth i bobol ar incwm isel - y Gronfa Gymdeithasol.
Os nad ydych yn perthyn i un o’r categoriau a restrir uchod, efallai y byddwch chi’n dal yn gallu cael cymorth tuag at gostau sbectol ar bresgripsiwn neu lensys cyffwrdd ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Os ydych chi wedi derbyn presgripsiwn am wig neu wregys ffabrig y GIG gan yr ysbyty, fe allwch chi eu cael am ddim os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm a’r elfen credyd gwarant o’r Credyd Pensiwn. Bydd eich partner a’ch plant hefyd yn gymwys i gael wigiau a gwregysau ffabrig am ddim os ydynt wedi eu cynnwys yn nyfarniad eich budd-dal. Os ydych chi’n derbyn credydau treth, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth, yn dibynnu ar eich incwm.
Os nad ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau neu gredydau treth hyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael wigiau neu wregysau ffabrig am ddim os:
Os nad ydych yn perthyn i un o’r categoriau a restrir uchod, efallai y byddwch chi’n dal yn gallu cael cymorth tuag at gostau wigiau a gwregysau ffabrig ar sail incwm isel - gweler o dan y pennawd Cymorth gyda chostau iechyd os ydych chi ar incwm isel.
Er mwyn gweld rhestr lawn o’r bobol sy’n gallu cael cymorth gyda chostau wigiau a gwregysau ffabrig, gweler taflen HC11 yr Adran Iechyd, sef, Cymorth gyda chostau iechyd, yn www.nhsba.nhs.uk.
Yng Nghymru a’r Alban, fe allwch chi gael wig y GIG neu wregys ffabrig am ddim, os ydych chi wedi eu cael ar bresgripsiwn, beth bynnag yw’ch oedran, eich incwm neu amgylchiadau personol.
Os ydych chi’n cael trafferth cwrdd â’ch costau iechyd a heb fod yn gymwys i dderbyn unrhyw fath o gymorth, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth trwy gynllun incwm isel y GIG.
Bydd faint o gymorth cewch chi yn dibynnu ar faint o incwm yr ydych yn ei dderbyn. Efallai na fyddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw gymorth os oes gennych ormod o gyfalaf. Mae dau fath o dystysgrif: tystysgrif cymorth llawn (HC2), a thystysgrif cymorth rhannol (HC3), sy’n dweud wrthych faint sy’n rhaid i chi ei dalu.
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn tystysgrif cymorth llawn, fe gewch chi:
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn tystysgrif iechyd rhannol, efallai y cewch chi gymorth gyda chostau’r canlynol:
Fyddwch chi ddim yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau presgripsiynau.
Er mwyn gwneud cais am naill ai tystysgrif cymorth llawn (HC2) neu’r dystysgrif cymorth rhannol (HC3), cwblhewch y ffurflen HC1, sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol, ysbytai’r GIG, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr. Gellir archebu ffurflen HC1 hefyd ar-lein yn www.nhsbsa.nhs.uk. Nid oes rhaid i chi aros hyd nes y bydd angen triniaeth arnoch cyn gwneud cais am dystysgrif. Anfonwch y ffurflen HC1 wedi’i chwblhau at:
Awdurdod Gwasanaethau Busnes NHS
Sandyford House
Archibald Terrace
Newcastle Upon Tyne
NE2 1DB
Tel: 0845 850 1166
Ebost: lis1@ppa.nhs.uk
Gwefan: www.nhsbsa.nhs.uk
Os nad oes gennych dystysgrif trwy gyfrwng y cynllun incwm isel pan fyddwch chi’n talu taliad iechyd, ond yn credu eich bod efallai yn gymwys i gael un, fe allwch chi hawlio ad-daliad.
Er mwyn hawlio ad-daliad costau presgripsiwn, rhaid i chi ofyn i’r fferyllydd am ffurflen FP57 (neu HCS(R) yn yr Alban) pan fyddwch chi’n talu’r costau. Ar gyfer pob cost iechyd arall, bydd angen ffurflen HC5 arnoch i hawlio’ch ad-daliad. Mae’r rhain ar gael oddi wrth swyddfeydd budd-daliadau lleol, ysbytai’r GIG a rhai meddygon. Dylid anfon y ffurflenni at Awdurdod Gwasanaethau Busnes NHS - gweler uchod.
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth trwy gyfrwng y cynllun incwm isel, telir unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus pan gewch chi eich tystysgrif.
Os ydych chi’n hawlio cymorth gyda chostau iechyd ac yn methu profi eich bod yn gymwys, caiff eich cais ei wirio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliad cosb os gwelir nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth.
Bydd y tâl cosb yn bum gwaith y swm y dylech fod wedi’i dalu, i fyny at uchafswm o £100. Os methwch chi dalu’r tâl cosb, gall y GIG gymryd camau i adennill y ddyled yn y llys. Cynyddir y tâl cosb pum deg y cant os nad ydych yn talu o fewn 28 diwrnod i’r diwrnod yr anfonwyd y rhybudd cosb.